2020 Rhif 1303 (Cy. 288)

Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19721 mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin2.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Enwi a chychwyn1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a deuant i rym ar 15 Rhagfyr 2020.

Diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 20202

1

Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 20203 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn lle rheoliad 31(3) rhodder—

3

Nid yw paragraff (1) yn gymwys—

a

i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat oni bai bod 24 awr o rybudd wedi ei roi i’r meddiannydd, neu

b

mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a roddir o dan Atodlen 4A.

3

Yn rheoliad 36(1), ar y diwedd mewnosoder “neu Atodlen 4A”.

4

Yn rheoliad 37—

a

ym mharagraff (3), ar ôl “arolygydd iechyd planhigion” mewnosoder “neu’r awdurdod priodol”;

b

ym mharagraff (6), yn y diffiniad o “hysbysiad”, ar ôl “arolygydd iechyd planhigion” mewnosoder “neu’r awdurdod priodol”.

5

Yn rheoliad 39—

a

daw’r paragraff sydd heb ei rifo yn baragraff (1) o’r rheoliad hwnnw;

b

ar ôl paragraff (1) fel y’i hailrifwyd, mewnosoder—

2

Nid yw paragraff (1)(a) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan Atodlen 4A.

6

Yn rheoliad 46(1), ar ôl “y Rhan hon” mewnosoder “neu baragraff 22 o Atodlen 4A (methu â chydymffurfio ag hysbysiad stop)”.

7

Yn rheoliad 47(1), ar ôl “y Rhan hon” mewnosoder “neu baragraff 22 o Atodlen 4A (methu â chydymffurfio ag hysbysiad stop)”.

8

Ar ôl rheoliad 48 mewnosoder—

RHAN 11ASancsiynau Sifil

Sancsiynau sifil48A

Mae Atodlen 4A (sy’n darparu ar gyfer sancsiynau sifil) yn cael effaith.

9

Ar ôl Atodlen 4, mewnosoder yr Atodlen a gynhwysir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Lesley GriffithsGweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENMewnosod Atodlen 4A newydd

Rheoliad 2(9)

ATODLEN4A Sancsiynau sifil

Rheoliad 48A

RHAN 1Y pŵer i osod sancsiynau sifil

Hysbysiad cydymffurfio1

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod priodol wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod person wedi cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn.

2

Caiff yr awdurdod priodol drwy hysbysiad (“hysbysiad cydymffurfio”) osod ar y person hwnnw ofyniad i gymryd unrhyw gamau a bennir gan yr awdurdod priodol, o fewn unrhyw gyfnod a bennir ganddo, i sicrhau na fydd y drosedd yn parhau nac yn ailddigwydd.

3

Ni chaniateir gosod hysbysiad cydymffurfio ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.

Hysbysiad adfer2

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod priodol wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod person wedi cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn.

2

Caiff yr awdurdod priodol drwy hysbysiad (“hysbysiad adfer”) osod ar y person hwnnw ofyniad i gymryd unrhyw gamau a bennir gan yr awdurdod priodol, o fewn unrhyw gyfnod a bennir ganddo, i sicrhau bod y sefyllfa, i’r graddau y bo’n bosibl, yn cael ei hadfer i’r hyn a fyddai wedi bod pe na bai’r drosedd wedi ei chyflawni.

3

Ni chaniateir gosod hysbysiad adfer ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.

Gosod cosb ariannol benodedig3

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod priodol wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod person wedi cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn.

2

Caiff yr awdurdod priodol drwy hysbysiad osod ar y person hwnnw ofyniad i dalu cosb ariannol i’r awdurdod priodol o £250 pan fo’r person yn unigolyn a £2000 pan fo’r person yn gorff corfforedig, partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig (“cosb ariannol benodedig”).

3

Ni chaniateir gosod cosb ariannol benodedig ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.

4

Caiff yr awdurdod priodol adennill unrhyw gosb ariannol benodedig a osodir o dan y paragraff hwn fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn gan y llys.

5

Rhaid i gosb ariannol benodedig a delir i’r awdurdod priodol o dan y paragraff hwn gael ei thalu i’r Gronfa Gyfunol.

Gosod cosb ariannol amrywiadwy4

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod priodol wedi ei fodloni yn ôl pwysau tebygolrwydd bod person wedi cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn.

2

Caiff yr awdurdod priodol drwy hysbysiad osod ar y person hwnnw ofyniad i dalu cosb ariannol i’r awdurdod priodol o unrhyw swm a benderfynir ganddo (“cosb ariannol amrywiadwy”).

3

Ni chaniateir gosod cosb ariannol amrywiadwy ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.

4

Ni chaniateir i swm cosb ariannol amrywiadwy fod yn fwy na £250,000.

5

Cyn cyflwyno hysbysiad mewn perthynas â chosb ariannol amrywiadwy, caiff yr awdurdod priodol ei gwneud yn ofynnol i’r person y mae’r hysbysiad hwnnw i’w gyflwyno iddo ddarparu’r wybodaeth honno sy’n rhesymol i bennu swm unrhyw fudd ariannol sy’n deillio o ganlyniad i’r drosedd.

6

Caiff yr awdurdod priodol adennill unrhyw gosb ariannol amrywiadwy a osodir o dan y paragraff hwn fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn gan y llys.

7

Rhaid i gosb ariannol amrywiadwy a delir i’r awdurdod priodol o dan y paragraff hwn gael ei thalu i’r Gronfa Gyfunol.

Hysbysiad o fwriad5

1

Os yw’r awdurdod priodol yn bwriadu cyflwyno i berson hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad yn gosod cosb ariannol benodedig neu gosb ariannol amrywiadwy o dan y Rhan hon, rhaid iddo gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”).

2

Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—

a

y seiliau dros gyflwyno’r hysbysiad arfaethedig;

b

gofynion yr hysbysiad arfaethedig ac, yn achos cosb, y swm sydd i’w dalu a sut y gellir talu;

c

yn achos cosb ariannol benodedig—

i

datganiad y gellir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad, a

ii

gwybodaeth am effaith rhyddhau’r gosb;

d

gwybodaeth o ran—

i

yr hawl i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o fwriad, a

ii

o dan ba amgylchiadau na chaiff yr awdurdod priodol gyflwyno’r hysbysiad arfaethedig.

Cyfuniad o gosbau6

1

Ni chaiff yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad o fwriad sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig os, mewn perthynas â’r un drosedd—

a

cyflwynwyd hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop i’r person hwnnw (gweler paragraffau 1, 2 a 17),

b

gosodwyd cosb ariannol amrywiadwy ar y person hwnnw (gweler paragraff 4), neu

c

derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti neu ymgymeriad gorfodi oddi wrth y person hwnnw (gweler paragraffau 9 a 23).

2

Ni chaiff yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad o fwriad sy’n ymwneud â hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu gosb ariannol amrywiadwy, na chyflwyno hysbysiad stop os, mewn perthynas â’r un drosedd—

a

gosodwyd cosb ariannol benodedig ar y person hwnnw, neu

b

rhyddhawyd y person hwnnw rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig yn dilyn cyflwyno hysbysiad o fwriad i osod y gosb honno.

Rhyddhau rhag atebolrwydd – cosbau ariannol penodedig7

Caiff cosb ariannol benodedig ei rhyddhau os yw person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.

Gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau8

Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad, wneud sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r awdurdod priodol mewn perthynas â’r bwriad o gyflwyno hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad yn gosod cosb ariannol benodedig neu gosb ariannol amrywiadwy.

Ymgymeriadau trydydd parti9

1

Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo mewn perthynas â hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu gosb ariannol amrywiadwy gynnig ymgymeriad o ran camau sydd i’w cymryd gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw drydydd parti yr effeithir arno gan y drosedd (“ymgymeriad trydydd parti”).

2

Caiff yr awdurdod priodol dderbyn neu wrthod ymgymeriad trydydd parti.

3

Rhaid i’r awdurdod priodol ystyried unrhyw ymgymeriad trydydd parti y mae’n ei dderbyn wrth benderfynu pa un ai i gyflwyno hysbysiad terfynol ai peidio, ac, os yw’n cyflwyno hysbysiad yn gosod cosb ariannol amrywiadwy, wrth benderfynu swm y gosb.

Hysbysiad terfynol10

1

Ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer gwneud sylwadau a gwrthwynebiadau, rhaid i’r awdurdod priodol benderfynu p’un ai i osod y gofynion a ddisgrifir yn yr hysbysiad o fwriad, gyda neu heb addasiadau.

2

Pan fo’r awdurdod priodol yn penderfynu gosod gofyniad, rhaid i’r hysbysiad sy’n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) gydymffurfio â pharagraff 11 (ar gyfer hysbysiadau cydymffurfio neu hysbysiadau adfer) neu 12 (ar gyfer cosbau ariannol penodedig neu amrywiadwy).

3

Ni chaiff yr awdurdod priodol osod hysbysiad terfynol ar berson pan fo’r awdurdod priodol wedi ei fodloni na fyddai’r person hwnnw, oherwydd unrhyw amddiffyniad, hawlen neu drwydded, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.

4

Pan fo’r awdurdod priodol yn cyflwyno hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd, ni chaiff yr awdurdod priodol mewn perthynas â’r drosedd honno gyflwyno—

a

hysbysiad cydymffurfio,

b

hysbysiad adfer,

c

hysbysiad yn gosod cosb ariannol amrywiadwy, neu

d

hysbysiad stop.

5

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys i berson sydd wedi ei ryddhau rhag cosb ariannol benodedig yn unol â pharagraff 7.

Cynnwys hysbysiad terfynol: hysbysiadau cydymffurfio a hysbysiadau adfer11

Rhaid i hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer gynnwys gwybodaeth o ran—

a

y seiliau dros gyflwyno’r hysbysiad,

b

pa gamau cydymffurfio neu adfer sy’n ofynnol ac o fewn pa gyfnod y mae rhaid eu cwblhau,

c

hawliau i apelio, a

d

canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

Cynnwys hysbysiad terfynol: cosbau ariannol penodedig a chosbau ariannol amrywiadwy12

Rhaid i hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig neu gosb ariannol amrywiadwy gynnwys gwybodaeth o ran—

a

y seiliau dros osod y gosb,

b

y swm sydd i’w dalu,

c

sut y gellir talu,

d

o fewn pa gyfnod y mae rhaid talu (y “cyfnod talu”), ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 56 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad,

e

yn achos cosb ariannol benodedig, manylion y disgownt am dalu’n gynnar (gweler paragraff 13) a’r cosbau am dalu’n hwyr (gweler paragraff 15(2) a (3)),

f

hawliau i apelio, ac

g

canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

Cosb ariannol benodedig: disgownt am dalu’n gynnar13

Os yw person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo mewn perthynas â chosb ariannol benodedig arfaethedig yn gwneud sylwadau neu wrthwynebiadau ynglŷn â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser a bennir ym mharagraff 8, caiff y person hwnnw ryddhau’r hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o’r gosb derfynol o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad terfynol.

Apelau yn erbyn hysbysiad terfynol14

1

Caiff y person y cyflwynwyd hysbysiad terfynol iddo apelio yn ei erbyn.

2

Y seiliau dros apelio yw—

a

bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

b

bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

c

yn achos cosb ariannol amrywiadwy, bod swm y gosb yn afresymol;

d

yn achos gofyniad nad yw’n ofyniad ariannol, bod natur y gofyniad yn afresymol;

e

bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall;

f

bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.

Cosb ariannol benodedig: peidio â thalu o fewn y cyfnod talu a nodir15

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys i hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig.

2

Os na thelir y gosb derfynol o fewn y cyfnod talu a nodir, cynyddir y swm sy’n daladwy gan 50%.

3

Yn achos apêl sy’n aflwyddiannus, mae’r gosb yn daladwy o fewn 28 o ddiwrnodau o benderfynu’r apêl, ac os nad yw wedi ei dalu o fewn 28 o ddiwrnodau, cynyddir swm y gosb gan 50%.

Achosion troseddol16

1

Os—

a

cyflwynir hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad adfer i unrhyw berson,

b

derbynnir ymgymeriad trydydd parti gan unrhyw berson,

c

cyflwynir hysbysiad yn gosod cosb ariannol amrywiadwy i unrhyw berson, neu

d

cyflwynir cosb ariannol benodedig i unrhyw berson,

ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o drosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at yr hysbysiad cydymffurfio, yr hysbysiad adfer, yr ymgymeriad trydydd parti, y gosb ariannol amrywiadwy neu’r gosb ariannol benodedig ac eithrio mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (a) neu (b) (ac nad yw hefyd yn dod o fewn paragraff (c)) pan fo’r person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu ymgymeriad trydydd parti (yn ôl y digwydd).

2

Caniateir cychwyn achos troseddol am droseddau y mae hysbysiad neu ymgymeriad trydydd parti yn is-baragraff (1) yn ymwneud â hwy ar unrhyw adeg hyd at 6 mis o’r dyddiad pan fydd yr awdurdod priodol yn hysbysu’r person y mae’r achos i’w gymryd yn ei erbyn fod y person hwnnw wedi methu â chydymffurfio â’r hysbysiad neu’r ymgymeriad hwnnw.

RHAN 2Hysbysiadau stop

Hysbysiadau stop17

1

Caiff yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad stop”) i unrhyw berson yn gwahardd y person hwnnw rhag cynnal gweithgaredd a bennir yn yr hysbysiad hyd nes y bydd y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.

2

Ni chaniateir ond cyflwyno hysbysiad stop—

a

pan fo’r person yn cynnal y gweithgaredd neu pan fo’r awdurdod priodol yn credu’n rhesymol bod y person yn debygol o gynnal y gweithgaredd,

b

pan fo’r awdurdod priodol yn credu’n rhesymol fod y gweithgaredd yn achosi, neu’n debygol o achosi, niwed economaidd neu amgylcheddol, neu effeithiau andwyol ar iechyd planhigion, ac

c

pan fo’r awdurdod priodol yn credu’n rhesymol bod y gweithgaredd sy’n cael ei gynnal, neu sy’n debygol o gael ei gynnal, gan y person hwnnw yn cynnwys neu’n debygol o gynnwys cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn.

3

Rhaid i’r camau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) fod yn gamau i ddileu’r risg y cyflawnir y drosedd.

Cynnwys hysbysiad stop18

Rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth o ran—

a

y seiliau dros gyflwyno’r hysbysiad stop,

b

y gweithgaredd a waherddir,

c

y camau y mae rhaid i’r person eu cymryd i gydymffurfio â’r hysbysiad stop ac o fewn pa gyfnod y mae rhaid iddynt gael eu cwblhau,

d

hawliau i apelio, ac

e

canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.

Apelau19

1

Caiff y person y cyflwynwyd hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gyflwyno.

2

Y seiliau dros apelio yw—

a

bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

b

bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

c

bod y penderfyniad yn afresymol;

d

bod unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol;

e

nad yw’r person wedi cyflawni trosedd ac na fyddai wedi ei chyflawni pe na bai’r hysbysiad wedi ei gyflwyno;

f

na fyddai’r person hwnnw, oherwydd unrhyw amddiffyniad, hawlen neu drwydded wedi bod yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;

g

bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.

Tystysgrifau cwblhau20

1

Rhaid i’r awdurdod priodol ddyroddi tystysgrif (“tystysgrif gwblhau”) os, ar ôl cyflwyno hysbysiad stop, yw’r awdurdod priodol wedi ei fodloni bod y person y’i cyflwynwyd iddo wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.

2

Mae hysbysiad stop yn peidio â chael effaith pan ddyroddir tystysgrif gwblhau.

3

Caiff yr awdurdod priodol ei gwneud yn ofynnol i’r person y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddo ddarparu gwybodaeth sy’n ddigonol i benderfynu y cymerwyd y camau a bennir yn yr hysbysiad.

4

Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad stop iddo ar unrhyw adeg wneud cais am dystysgrif gwblhau.

5

Rhaid i’r awdurdod priodol benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gwblhau, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad i’r ceisydd (gan gynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio), o fewn 14 o ddiwrnodau o gael y cais.

6

Caiff y ceisydd apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau ar y seiliau fod y penderfyniad—

a

yn seiliedig ar wall ffeithiol;

b

yn anghywir mewn cyfraith;

c

yn annheg neu’n afresymol;

d

yn anghywir am unrhyw reswm arall.

Digollediad21

1

Rhaid i’r awdurdod priodol ddigolledu person am golled a ddioddefodd o ganlyniad i gyflwyno’r hysbysiad stop neu wrthod tystysgrif gwblhau os yw’r person hwnnw wedi dioddef colled o ganlyniad i’r hysbysiad neu’r gwrthodiad ac—

a

bod yr hysbysiad stop wedi ei dynnu’n ôl neu wedi ei ddiwygio wedi hynny gan yr awdurdod priodol am fod y penderfyniad i’w gyflwyno yn afresymol neu am fod unrhyw gam a bennwyd yn yr hysbysiad yn afresymol,

b

bod yr awdurdod priodol yn torri ei ymrwymiadau statudol,

c

bod y person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad stop a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod cyflwyno’r hysbysiad yn afresymol, neu

d

bod y person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad i wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod y gwrthodiad hwnnw yn afresymol.

2

Caiff person apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu digollediad neu apelio yn erbyn swm y digollediad ar y seiliau—

a

bod penderfyniad yr awdurdod priodol yn afresymol,

b

bod y swm a gynigiwyd yn seiliedig ar ffeithiau anghywir, neu

c

bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.

Troseddau22

Os nad yw person y cyflwynir hysbysiad stop iddo yn cydymffurfio â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad, mae’r person yn euog o drosedd ac yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

RHAN 3Ymgymeriadau gorfodi

Ymgymeriadau gorfodi23

Pan fo gan yr awdurdod priodol seiliau rhesymol i amau bod person wedi cyflawni trosedd o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn, caiff yr awdurdod priodol dderbyn ymgymeriad ysgrifenedig (“ymgymeriad gorfodi”) a roddir gan y person hwnnw i gymryd unrhyw gamau a bennir yn yr ymgymeriad o fewn unrhyw gyfnod a bennir.

Cynnwys ymgymeriad gorfodi24

1

Rhaid i ymgymeriad gorfodi bennu—

a

camau i’w cymryd gan y person i sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau nac yn ailddigwydd,

a

camau i sicrhau bod y sefyllfa, i’r graddau y bo’n bosibl, yn cael ei hadfer i’r hyn a fyddai wedi bod pe na bai’r drosedd wedi ei chyflawni, neu

c

camau (gan gynnwys talu swm o arian) i’w cymryd gan y person er budd unrhyw berson yr effeithir arno gan y drosedd.

2

Rhaid iddo bennu o fewn pa gyfnod y mae rhaid cwblhau’r camau.

3

Rhaid iddo gynnwys—

a

datganiad y gwneir yr ymgymeriad yn unol â’r Atodlen hon,

b

amodau’r ymgymeriad, ac

c

gwybodaeth o ran sut a phryd yr ystyrir bod y person wedi cyflawni’r ymgymeriad.

4

Caniateir amrywio’r ymgymeriad gorfodi, neu estyn y cyfnod y mae rhaid cwblhau’r camau ynddo, os yw’r awdurdod priodol a’r person a roddodd yr ymgymeriad yn cytuno i hynny yn ysgrifenedig.

Derbyn ymgymeriad gorfodi25

1

Os yw’r awdurdod priodol wedi derbyn ymgymeriad gorfodi gan berson—

a

ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r ymgymeriad yn ymwneud â hi, a

b

ni chaiff yr awdurdod priodol gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer na hysbysiad stop, na gosod cosb ariannol benodedig na chosb ariannol amrywiadwy ar y person hwnnw, mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred honno.

2

Nid yw paragraff (1) yn gymwys os yw person a roddodd yr ymgymeriad wedi methu â chydymffurfio ag ef neu ag unrhyw ran ohono.

Cyflawni ymgymeriad gorfodi26

1

Os yw’r awdurdod priodol wedi ei fodloni y cydymffurfiwyd ag ymgymeriad gorfodi, rhaid iddo ddyroddi tystysgrif (“tystysgrif gyflawni”) i’r perwyl hwnnw.

2

Mae ymgymeriad gorfodi yn peidio â chael effaith pan ddyroddir tystysgrif gyflawni.

3

Caiff yr awdurdod priodol ei gwneud yn ofynnol i’r person sydd wedi rhoi’r ymgymeriad ddarparu gwybodaeth sy’n ddigonol i benderfynu y cydymffurfiwyd â’r ymgymeriad.

4

Caiff y person a roddodd yr ymgymeriad wneud cais ar unrhyw adeg am dystysgrif gyflawni.

5

Rhaid i’r awdurdod priodol benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gyflawni, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad i’r ceisydd (gan gynnwys gwybodaeth am yr hawl i apelio), o fewn 14 o ddiwrnodau o gael cais o’r fath.

6

Caiff y ceisydd apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gyflawni ar y seiliau fod y penderfyniad—

a

yn seiliedig ar wall ffeithiol;

b

yn anghywir mewn cyfraith;

c

yn annheg neu’n afresymol;

d

yn anghywir am unrhyw reswm arall.

Gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol27

1

Mae person sydd wedi rhoi gwybodaeth anghywir, anghyflawn neu gamarweiniol mewn perthynas ag ymgymeriad gorfodi i’w ystyried fel pe na bai wedi cydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.

2

Caiff yr awdurdod priodol drwy hysbysiad ysgrifenedig ddirymu tystysgrif gyflawni a ddyroddwyd o dan baragraff 26 os y’i dyroddwyd ar sail gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn.

Peidio â chydymffurfio ag ymgymeriad gorfodi28

1

Os nad yw person yn cydymffurfio ag ymgymeriad gorfodi, caiff yr awdurdod priodol, yn achos trosedd a gyflawnir o dan Ran 11 o’r Rheoliadau hyn—

a

cyflwyno hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer, cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad stop neu gosb am fethu â chydymffurfio, neu

b

dwyn achos troseddol.

2

Os yw person wedi cydymffurfio yn rhannol ond nid yn llwyr ag ymgymeriad, rhaid ystyried y cydymffurfio rhannol hwnnw wrth osod unrhyw sancsiwn troseddol neu sancsiwn arall ar y person.

3

Caniateir cychwyn achos troseddol am droseddau y mae ymgymeriad gorfodi yn ymwneud â hwy ar unrhyw adeg hyd at 6 mis o’r dyddiad y mae’r awdurdod priodol yn hysbysu’r person fod y person hwnnw wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad.

RHAN 4Cosbau am beidio â chydymffurfio

Cosbau am beidio â chydymffurfio29

1

Caiff yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad i berson yn gosod cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) os yw’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio ag—

a

hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu ymgymeriad trydydd parti, ni waeth a osodwyd cosb ariannol amrywiadwy hefyd ai peidio, neu

b

ymgymeriad gorfodi.

2

Rhaid i’r awdurdod priodol bennu swm y gosb am beidio â chydymffurfio, a rhaid i’r swm hwnnw fod yn ganran o gostau cyflawni gweddill gofynion yr hysbysiad cydymffurfio, yr hysbysiad adfer, yr ymgymeriad trydydd parti neu’r ymgymeriad gorfodi.

3

Rhaid i’r awdurdod priodol bennu’r ganran gan roi sylw i holl amgylchiadau’r achos, a chaiff y ganran honno, os yw’n briodol, fod yn 100%.

4

Rhaid i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth o ran—

a

y seiliau dros osod y gosb am beidio â chydymffurfio,

b

y swm sydd i’w dalu,

c

sut y mae rhaid talu,

d

o fewn pa gyfnod y mae rhaid talu, ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad,

e

hawliau i apelio,

f

canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad, ac

g

o dan ba amgylchiadau y caiff yr awdurdod priodol leihau swm y gosb.

5

Os cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad cydymffurfio, yr hysbysiad adfer, yr ymgymeriad trydydd parti neu’r ymgymeriad gorfodi cyn y terfyn amser a bennir ar gyfer talu’r gosb am beidio â chydymffurfio, nid yw’r gosb yn daladwy.

6

Ar ôl i’r cyfnod talu penodedig ddod i ben, caiff yr awdurdod priodol adennill y gosb am beidio â chydymffurfio fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn gan y llys.

7

Rhaid i gosb am beidio â chydymffurfio a delir i’r awdurdod priodol o dan y paragraff hwn gael ei thalu i’r Gronfa Gyfunol.

Apelau30

1

Caiff y person y cyflwynwyd iddo yr hysbysiad sy’n gosod y gosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei erbyn.

2

Y seiliau dros apelio yw—

a

bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

b

bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

c

bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm;

d

bod swm y gosb yn afresymol;

e

bod y penderfyniad yn anghywir am reswm arall.

RHAN 5Tynnu hysbysiadau yn ôl a diwygio hysbysiadau

Tynnu hysbysiad yn ôl neu ddiwygio hysbysiad31

Caiff yr awdurdod priodol ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig—

a

tynnu yn ôl hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu hysbysiad stop, neu ddiwygio’r camau a bennir yn yr hysbysiad hwnnw, er mwyn lleihau faint o waith sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r hysbysiad,

b

tynnu yn ôl hysbysiad sy’n gosod cosb ariannol benodedig, neu

c

tynnu yn ôl hysbysiad sy’n gosod cosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio, neu leihau swm y gosb a bennir yn yr hysbysiad.

RHAN 6Adennill cost

Adennill costau gorfodaeth32

1

Caiff yr awdurdod priodol gyflwyno hysbysiad adennill cost os yw unrhyw un neu ragor o’r amodau yn is-baragraff (3) wedi eu bodloni.

2

Mae hysbysiad adennill cost yn hysbysiad sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person dalu costau’r awdurdod priodol.

3

Yr amodau yw bod yr awdurdod priodol wedi—

a

cyflwyno i’r person hysbysiad cydymffurfio o dan baragraff 1,

b

cyflwyno i’r person hysbysiad adfer o dan baragraff 2,

c

cyflwyno i’r person gosb ariannol amrywiadwy o dan baragraff 4, neu

d

cyflwyno i’r person hysbysiad stop o dan baragraff 17.

4

Yn is-baragraff (2), mae cyfeiriad at gostau yn gyfeiriad at unrhyw gostau sy’n ymwneud â llunio a rhoi hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer, cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad stop, yn ôl y digwydd, ac mae’n cynnwys cyfeiriad at gostau unrhyw ymchwiliad cysylltiedig neu gyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).

5

Rhaid i’r hysbysiad adennill cost gynnwys gwybodaeth o ran—

a

swm y costau y mae rhaid eu talu,

b

o fewn pa gyfnod y mae rhaid talu, ni chaiff y cyfnod hwnnw fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad,

c

sut y mae rhaid talu,

d

canlyniadau methu â thalu o fewn y cyfnod talu a bennir, ac

e

hawliau i apelio.

6

Ar ôl i’r cyfnod talu penodedig ddod i ben, caiff yr awdurdod priodol adennill y costau y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad adennill cost fel pe baent yn daladwy o dan orchymyn gan y llys.

7

Caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad adennill cost iddo apelio yn ei erbyn.

8

Y seiliau dros apelio yw—

a

bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn seiliedig ar wall ffeithiol;

b

bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;

c

bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol am unrhyw reswm;

d

bod swm y gosb yn afresymol;

e

bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.

RHAN 7Apelau

Apelau33

1

Rhaid i unrhyw apêl o dan yr Atodlen hon gael ei gwneud i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.

2

Mewn unrhyw apêl rhaid i’r Tribiwnlys benderfynu ar y safon profi.

3

Mae apêl yn erbyn hysbysiad a gyflwynir o dan yr Atodlen hon (ac eithrio hysbysiad stop) yn atal dros dro effaith yr hysbysiad yr apelir yn ei erbyn hyd nes y caiff yr apêl ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.

4

Caiff y Tribiwnlys, mewn perthynas â gosod gofyniad neu gyflwyno hysbysiad—

a

tynnu yn ôl y gofyniad neu’r hysbysiad;

b

cadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad;

c

amrywio’r gofyniad neu’r hysbysiad;

d

cymryd unrhyw gamau y gallai’r awdurdod priodol eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gofyniad neu’r hysbysiad;

e

anfon y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad ai peidio, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, at yr awdurdod priodol.

RHAN 8Canllawiau a chyhoeddusrwydd

Canllawiau o ran defnyddio sancsiynau sifil34

1

Rhaid i’r awdurdod priodol gyhoeddi canllawiau ynghylch ei ddefnydd o sancsiynau sifil.

2

Rhaid i’r awdurdod priodol adolygu a diweddaru canllawiau pan fo’n briodol.

3

Rhaid i’r awdurdod priodol roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau a adolygwyd ac a ddiweddarwyd wrth arfer ei swyddogaethau.

4

Yn achos canllawiau ynghylch hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau adfer, cosbau ariannol penodedig, cosbau ariannol amrywiadwy, hysbysiadau stop a chosbau am beidio â chydymffurfio, rhaid i’r canllawiau gynnwys gwybodaeth o ran—

a

o dan ba amgylchiadau y mae sancsiwn sifil yn debygol o gael ei osod,

b

o dan ba amgylchiadau nad yw’n debygol o gael ei osod,

c

pan fo’n berthnasol, hawliau i wneud sylwadau a gwrthwynebiadau,

d

hawliau i apelio, ac

e

yn achos canllawiau ynghylch cosbau ariannol amrywiadwy a chosbau am beidio â chydymffurfio, y materion y mae’r awdurdod priodol yn debygol o’u hystyried wrth bennu swm y gosb (gan gynnwys adrodd yn wirfoddol am beidio â chydymffurfio gan unrhyw berson amdano ei hun).

5

Yn achos canllawiau ynghylch ymgymeriadau gorfodi, rhaid i’r canllawiau gynnwys gwybodaeth o ran—

a

o dan ba amgylchiadau y mae’r awdurdod priodol yn debygol o dderbyn ymgymeriad gorfodi, a

b

o dan ba amgylchiadau nad yw’r awdurdod priodol yn debygol o dderbyn ymgymeriad gorfodi.

Ymgynghori ar ganllawiau35

Rhaid i’r awdurdod priodol ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’r awdurdod priodol yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy cyn cyhoeddi—

a

unrhyw ganllawiau, neu

b

unrhyw ddiwygiadau neu ddiweddariadau sylweddol i ganllawiau sydd eisoes wedi eu cyhoeddi.

Cyhoeddi camau gorfodi36

1

Rhaid i’r awdurdod priodol gyhoeddi yn flynyddol—

a

yr achosion y gosodwyd sancsiynau sifil ynddynt;

b

pan fo sancsiwn sifil yn hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad adfer neu gosb ariannol amrywiadwy, yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti ynddynt;

c

yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad gorfodi ynddynt.

2

Yn is-baragraff (1)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd sancsiynau sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan osodwyd sancsiwn ond a gafodd ei wrthdroi ar apêl.

3

Nid yw’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’r awdurdod priodol o’r farn y byddai cyhoeddi yn amhriodol.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/206) (Cy. 48) (“Rheoliadau 2020”), sy’n rhoi effaith i—

a

Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch mesurau i ddiogelu rhag plâu planhigion (OJ Rhif L 317, 23.11.2016, t. 4), a

b

Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch rheolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion i ddiogelu planhigion, i’r graddau y mae’n gymwys i’r rheolau y cyfeirir atynt yn Erthygl 1(2)(g) (OJ Rhif L 95, 7.4.2017, t. 1).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer sancsiynau sifil mewn cysylltiad â throseddau a nodir yn Rhan 11 o Reoliadau 2020. Mae’r gyfres o sancsiynau sydd ar gael i’r awdurdod priodol (Gweinidogion Cymru yw’r “awdurdod priodol” yng Nghymru) yn cynnwys hysbysiadau cydymffurfio, hysbysiadau adfer a hysbysiadau stop, cosbau ariannol amrywiadwy a chosbau ariannol penodedig, yn ogystal â’r gallu i dderbyn ymgymeriadau trydydd parti ac ymgymeriadau gorfodi.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.