Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1308 (Cy. 289)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd

Bwyd, Cymru

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Bwyd a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

16 Tachwedd 2020

Gwnaed

17 Tachwedd 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

19 Tachwedd 2020

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 1(1) ac 11M(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae gofynion paragraff 4(2) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â gweithdrefn briodol Senedd Cymru(2) ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol.

Ymgynghorwyd yn agored ac yn dryloyw â’r cyhoedd wrth lunio’r Rheoliadau hyn fel sy’n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw RheoliadauBwyd a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y’u gosodir.

(3Daw rheoliad 2 i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010

2.  Yn rheoliad 11(1) o Reoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010(4), yn lle “yn y Deyrnas Unedig yn unig” rhodder “ym Mhrydain Fawr”.

Diwygio Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

3.—(1Mae Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(5) (diwygio rheoliad 4 o O.S. 2009/1551 (Cy. 151)), yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)ym mharagraff (8), yn lle “i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “i Brydain Fawr”;.

(3Yn rheoliad 4(2) (diwygio rheoliad 4 o O.S. 2011/991 (Cy. 145)), yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

(4) Nid yw paragraff (1)(b)(ii) yn gymwys mewn perthynas â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 2(2)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1825/2000 Senedd Ewrop a’r Cyngor—

(a)os yw’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad cyn diwedd y cyfnod o 21 o fisoedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn digwydd, a

(b)pe na bai’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig wedi ffurfio toriad o’r Rheoliad hwnnw fel yr oedd yn gymwys yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.;.

(4Yn rheoliad 7(5) (diwygio rheoliad 12 o O.S. 2011/1719 (Cy. 195)), yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)ym mharagraff (9)(a), yn lle “yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “Prydain Fawr”;.

(5Yn rheoliad 8(5) (diwygio rheoliad 5 o O.S. 2017/724 (Cy. 174)), yn is-baragraff (a), yn y testun a fewnosodwyd, yn lle “y diwrnod ymadael”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.

Diwygio Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

4.  Hepgorer rheoliad 3(3) (diwygio rheoliad 7(5)(a) o O.S. 2019/732 (Cy. 137)) o Reoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(6).

Diwygio Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019

5.—(1Mae Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (mewnosod rheoliad 23 yn O.S. 2009/1551 (Cy. 151)), yn y testun a fewnosodwyd, yn lle “y mae’r diwrnod ymadael”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “y mae diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”, ac yn lle “y diwrnod ymadael”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.

(3Hepgorer rheoliad 5 (diwygio rheoliad 4(2) o O.S. 2019/732 (Cy. 137)).

(4Hepgorer rheoliad 6 (diwygio rheoliad 2 o O.S. 2019/1418 (Cy. 253)).

Dirymu Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

6.  Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019(8) wedi eu dirymu.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

17 Tachwedd 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 1(1) ac 11M(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd, er mwyn adlewyrchu’r Protocol ar Iwerddon/Gogledd Iwerddon yn y cytundeb ymadael â’r UE, ac er mwyn gwneud darpariaeth drosiannol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i is-ddeddfwriaeth, sy’n gymwys o ran Cymru, sy’n ymwneud â bwyd a materion gwledig. Maent yn diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1671 (Cy. 158)), Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/732 (Cy. 137)), Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/1281) (Cy. 225) a Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019 (O.S. 2019/1376 (Cy. 242)) ac yn dirymu Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/1418 (Cy. 253)). Mae Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 a Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019 yn diwygio nifer o offerynnau statudol ym maes bwyd a materion gwledig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2018 p. 16. Mae diwygiadau i baragraff 1 o Atodlen 2 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Mewnosodwyd paragraff 11M o Atodlen 2 gan adran 22 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) a diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan baragraff 53 o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.

(2)

Mae’r cyfeiriad yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, ac nid oes diwygiadau perthnasol i Erthygl 9.

(4)

O.S. 2010/1671 (Cy. 158), a ddiwygiwyd gan O.S. 2013/3270 (Cy. 320); mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(8)

O.S. 2019/1418 (Cy. 253), a ddiwygiwyd yn rhagolygol gan O.S. 2019/1376 (Cy. 242). Mae rheoliad 6 o O.S. 2019/1418 (Cy. 253) yn cael ei hepgor gan reoliad 5(4) o’r Rheoliadau hyn.