xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 131 (Cy. 24)

Gofal Cymdeithasol, Cymru A Lloegr

Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) a Rheolau Cofrestru Tir (Diwygiadau Amrywiol) 2020

Gwnaed

10 Chwefror 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

12 Chwefror 2020

Yn dod i rym

6 Ebrill 2020

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50, 52, 53(3), 61, 196(2) a 198(1) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) a Rheolau Cofrestru Tir (Diwygiadau Amrywiol) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2020.

Diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015

2.  Mae Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn rheoliad 7 (uchafswm ffi wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl), ym mharagraff (1) yn lle “£90” rhodder “£100”;

(b)yn rheoliad 13 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) yn lle “£29.50” rhodder “£32”;

(c)yn rheoliad 22 (uchafswm cyfraniad neu ad-daliad wythnosol am ofal a chymorth amhreswyl) yn lle “£90” rhodder “£100”;

(d)yn rheoliad 28 (isafswm incwm ar gyfer person y darperir llety iddo mewn cartref gofal) yn lle “£29.50” rhodder “£32”.

Diwygio Rheolau Cofrestru Tir 2003

3.  Mae Rheolau Cofrestru Tir 2003(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)yn Rhan 8, rheol 93(x) (personau yr ystyrir bod ganddynt fuddiant digonol i wneud cais am gyfyngiad) yn lle “under the terms of a deferred payment agreement within the meaning of section 68(2)” rhodder “section 71”;

(b)yn Atodlen 4 (ffurfiau safonol ar gyfyngiad) yn y cofnod sy’n ymwneud â Ffurf MM—

(i)ym mharagraff (2) yn lle “under the terms of a deferred payment within the meaning of section 68(2)” rhodder “section 71(1) or (5)”;

(ii)yn y pennawd yn lle “under the terms of a deferred payment agreement within the meaning of section 68(2)” rhodder “section 71”;

(iii)yn y geiriau o flaen paragraff (1) yn lle “under the terms of a deferred payment agreement within the meaning of section 68(2)” rhodder “section 71”.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

10 Chwefror 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Gosod Ffioedd) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”) a Rheolau Cofrestru Tir 2003 (“y Rheolau”).

Mae Rheoliadau 2015 yn nodi’r gofynion y mae rhaid i awdurdodau lleol eu bodloni wrth ddyfarnu swm y ffioedd sy’n gymwys mewn perthynas â gofal a chymorth, y maent yn eu darparu neu’n eu trefnu neu’n cynnig eu darparu neu eu trefnu wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“y Ddeddf”). Mae Rheoliadau 2015 hefyd yn cynnwys darpariaethau cyfochrog sy’n nodi’r gofynion sy’n gymwys pan fo awdurdod lleol yn gwneud taliadau uniongyrchol i ddiwallu angen person am ofal a chymorth.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 2 o Reoliadau 2015 (codi ffioedd o dan Ran 5 o’r Ddeddf) fel a ganlyn:

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rhan 4 o Reoliadau 2015 (cyfraniadau ac ad-daliadau am daliadau uniongyrchol) fel a ganlyn:

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheolau i gywiro gwall a wnaed yn Rheoliadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2016, ac yn mewnosod darpariaeth gywir y Ddeddf yn Rhan 8 ac Atodlen 4 i’r Rheolau. Mae Rhan 8 ac Atodlen 4 yn ymdrin â chyfyngiadau o fewn ystyr adran 40 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(3)

O.S. 2003/1417; fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2008/1919 ac O.S. 2016/211 (Cy. 84). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.