Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1324 (Cy. 292)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Amaethyddiaeth, Cymru

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol a Chynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Gofynion sifftio wedi eu bodloni

16 Tachwedd 2020

Gwnaed

19 Tachwedd 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

23rd Tachwedd 2020

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae gofynion paragraff 4(a) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (sy’n ymwneud â’r gofyniad i ymgynghori mewn amgylchiadau penodol) a pharagraff 4(2) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno (sy’n ymwneud â gweithdrefn graffu briodol Senedd Cymru ar gyfer y Rheoliadau hyn) wedi eu bodloni.

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol a Chynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Diwygio Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

2.—(1Mae Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5(11)(a)(ii), yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.

(3Yn rheoliad 6(16)(a), yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

3.—(1Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 5(2)—

(a)yn is-baragraff (a), yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

(b)yn is-baragraff (b), yn lle “y diwrnod ymadael”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.

(3Yn rheoliad 6—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “y diwrnod ymadael” rhodder “ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”;

(b)ym mharagraff (2), yn lle “y diwrnod ymadael”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

19 Tachwedd 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni a’r Asesiadau Effaith Amgylcheddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019. Maent yn diwygio cyfeiriadau at y diwrnod ymadael fel eu bod yn cyfeirio yn lle hynny at ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Ni luniwyd asesiad effaith ar gyfer yr offeryn hwn gan na ragwelir y bydd unrhyw effaith, neu unrhyw effaith sylweddol, ar y sector preifat na’r sector gwirfoddol.

(1)

2018 p. 16. Gweler adran 20(1) o’r Ddeddf honno am y diffiniad o “devolved authority”.