Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
20 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
23 Tachwedd 2020
Yn dod i rym
18 Rhagfyr 2020
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 18 Rhagfyr 2020.
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “mynediad o bell” yw mynediad i gyfarfod i alluogi’r rheini nad ydynt i gyd yn bresennol gyda’i gilydd yn yr un man i fynd i’r cyfarfod a chymryd rhan ynddo ar yr un pryd drwy ddulliau electronig, gan gynnwys drwy gyswllt sain byw a chyswllt fideo byw.
3.—(1) Mae Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 57, ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Caiff y corff llywodraethu benderfynu cynnal cyfarfod drwy fynediad o bell os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
(a)y bydd y cyfranogwyr yn gallu cyflwyno sylwadau neu gyflawni eu swyddogaethau yn llawn (yn ôl y digwydd);
(b)bod y cyfranogwyr yn cytuno i’r cyfarfod gael ei gynnal gan ddefnyddio mynediad o bell;
(c)bod gan bob cyfranogwr fynediad at y dulliau electronig er mwyn caniatáu iddo glywed a chael ei glywed, a gweld a chael ei weld (pan ddefnyddir cyswllt fideo byw), drwy gydol y cyfarfod; a
(d)bod modd cynnal y cyfarfod yn deg ac yn dryloyw.”
(3) Yn rheoliad 59—
(a)ym mharagraff (2), yn lle “ysgrifennu’n union cyn y nodyn sy’n cofnodi cofnodion y cyfarfod hwnnw yn y llyfr neu ar y tudalennau a ddefnyddir at y diben hwnnw” rhodder “ysgrifennu yng nghofnodion y cyfarfod hwnnw”;
(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(4) Caniateir i’r cofnodion a’r agenda a lunnir at ddibenion y rheoliad hwn gael eu cadw ar ffurf electronig a phan fo hynny’n digwydd caniateir i’r cofnodion gael eu llofnodi’n electronig.”
(4) Yn rheoliad 72, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(3A) Caniateir i gyfarfodydd pwyllgor gael eu cynnal drwy fynediad o bell os yw’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
(a)y bydd y cyfranogwyr yn gallu cyflwyno sylwadau neu gyflawni eu swyddogaethau yn llawn (yn ôl y digwydd);
(b)bod y cyfranogwyr yn cytuno i’r cyfarfod gael ei gynnal gan ddefnyddio mynediad o bell;
(c)bod gan bob cyfranogwr fynediad at y dulliau electronig er mwyn caniatáu iddo glywed a chael ei glywed, a gweld a chael ei weld (pan ddefnyddir cyswllt fideo byw), drwy gydol y cyfarfod; a
(d)bod modd cynnal y cyfarfod yn deg ac yn dryloyw.”
(5) Yn rheoliad 73, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(3) Caniateir i’r cofnodion a’r agenda a lunnir at ddibenion y rheoliad hwn gael eu cadw ar ffurf electronig a phan fo hynny’n digwydd caniateir i’r cofnodion gael eu llofnodi’n electronig.”
(6) Yn Atodlen 7—
(a)hepgorer paragraff 4 (anhwylder meddyliol);
(b)ym mharagraff 7(b), yn lle “gorchymyn anghymhwyso o dan Ran 2 o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1989” rhodder “gorchymyn anghymhwyso o dan Orchymyn Anghymhwyso Cyfarwyddwyr Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 2002(4)”.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
20 Tachwedd 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1132 (Cy. 111)).
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu y caniateir cynnal cyfarfodydd cyrff llywodraethu a phwyllgorau cyrff llywodraethu drwy fynediad o bell os yw’r amodau angenrheidiol wedi eu bodloni.
Maent yn dileu’r gofyniad i’r clerc, neu berson sy’n gweithredu fel clerc i gorff llywodraethu neu bwyllgor corff llywodraethu, gofnodi cofnodion y trafodion mewn llyfr neu ar dudalennau a gedwir at y diben hwnnw.
Maent hefyd yn dileu’r gofyniad i’r clerc gofnodi enwau’r aelodau ac unrhyw berson arall sy’n bresennol yn y cyfarfod o dan sylw yn y llyfr neu ar y tudalennau a ddefnyddir at y diben hwnnw.
Mae’r Rheoliadau hyn yn galluogi cyrff llywodraethu a phwyllgorau i gadw’r cofnodion a’r agenda ar ffurf electronig ac i’r cofnodion gael eu llofnodi’n electronig.
Mae’r Rheoliadau hyn yn dileu’r ddarpariaeth sy’n anghymhwyso person rhag dal swydd neu barhau i ddal swydd fel llywodraethwr pan fo’n agored i gael ei gadw’n gaeth o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2002 p. 32. Mewnosodwyd adran 19(9) gan adran 19(2)(b) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (mccc 7). Diwygiwyd adran 210(7) gan adran 21(3) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2). Gweler adran 212(1) am y diffiniad o “regulations”.
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 2014/1132 (Cy. 111), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.