2020 Rhif 1356 (Cy. 300)
Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 6(2) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 20191.
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 43(2) o’r Ddeddf honno.
Enwi a dod i rym1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020.
2
Deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
Diwygiadau i Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 20192
1
Mae’r Tabl yn Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (diffiniadau o eiriau ac ymadroddion sy’n ymddangos yn Neddfau Senedd Cymru ac mewn is-offerynnau Cymreig) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor—
Cod Dedfrydu (Sentencing Code)
ystyr “Cod Dedfrydu” yw’r cod sydd wedi ei gynnwys yn Neddf Dedfrydu 2020 (p. 17) (gweler adran 1 o’r Ddeddf honno)
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Equality and Human Rights Commission)
ystyr “Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol” yw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006 (p. 3)
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (Public Accounts Committee)
ystyr “Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus” yw pwyllgor Senedd Cymru a sefydlwyd yn unol ag adran 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac y cyfeirir ato yn yr adran honno fel y “Pwyllgor Archwilio”)
Ymddiriedolaeth Genedlaethol (National Trust)
ystyr “Ymddiriedolaeth Genedlaethol” yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros Fannau o Ddiddordeb Hanesyddol neu Harddwch Naturiol a gorfforwyd gan Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1907 (p. cxxxvi)
3
Yn y diffiniad o “graddfa safonol”, ar ôl “yr ystyr a roddir i “standard scale”” mewnosoder—
—
- a
yn achos trosedd y mae’r troseddwr wedi ei euogfarnu ohoni ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2020, gan adran 122 o’r Cod Dedfrydu;
- b
yn achos trosedd yr oedd y troseddwr wedi ei euogfarnu ohoni cyn y dyddiad hwnnw,
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)