- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
26 Tachwedd 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
30 Tachwedd 2020
Yn dod i rym
4 Ionawr 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 56 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol aʼr Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1. Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Rhestr o Sefydliadau Ôl-16 Arbennig Annibynnol) (Cymru) 2020 a deuant i rym ar 4 Ionawr 2021.
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “DDdY” (“ALP”) yw darpariaeth ddysgu ychwanegol;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol aʼr Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
ystyr “y rhestr” (“the list”) ywʼr rhestr a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 56(2) oʼr Ddeddf;
ystyr “SOAA” (“ISPI”) yw sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol o fewn ystyr adran 56(6) oʼr Ddeddf;
ystyr “trefniadau yn yr SOAA” (“arrangements at the ISPI”) ywʼr trefniadau a restrir yn rheoliad 3(b).
3. Rhaid iʼr rhestr gynnwys, mewn cysylltiad â phob SOAA sydd wedi ei gynnwys—
(a)yr wybodaeth a ganlyn—
(i)ei enw masnachu;
(ii)cyfeiriad y wefan (os yw ar gael);
(iii)ei gyfeiriad;
(iv)a ywʼn darparu llety preswyl;
(v)y dyddiad y cynhwyswyd yr SOAA yn y rhestr;
(vi)y dyddiad y cymeradwywyd unrhyw newidiadau iʼr trefniadau yn yr SOAA gan Weinidogion Cymru;
(b)yr wybodaeth a ganlyn syʼn ymwneud â threfniadau yn yr SOAA—
(i)ystod oedran y personau y maeʼr SOAA yn darparu ar eu cyfer;
(ii)nifer y personau y maeʼr SOAA yn darparu ar eu cyfer;
(iii)y perchennog;
(iv)y math o DDdY a ddarperir gan yr SOAA.
4.—(1) Caiff perchennog SOAA wneud cais i Weinidogion Cymru i gymeradwyo trefniadau yn yr SOAA.
(2) Rhaid i gais am gymeradwyaeth o dan y rheoliad hwn gael ei wneud yn ysgrifenedig.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysuʼr perchennog pa un a ydynt yn cymeradwyoʼr trefniadau ai peidio.
(4) Rhaid iʼr perchennog ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth syʼn ymwneud âʼr trefniadau yn yr SOAA syʼn rhesymol ofynnol gan Weinidogion Cymru.
5.—(1) Caiff perchennog SOAA wneud cais i Weinidogion Cymru i gynnwys SOAA yn y rhestr.
(2) Er mwyn i SOAA gael ei gynnwys yn y rhestr—
(a)rhaid bod y trefniadau yn yr SOAA wedi eu cymeradwyo;
(b)rhaid i berchennog yr SOAA ddarparuʼr canlynol i Weinidogion Cymru—
(i)yr wybodaeth a grybwyllir yn rheoliad 3(a)(i) – (iv);
(ii)tystiolaeth syʼn bodloni Gweinidogion Cymru bod yr SOAA yn ariannol hyfyw;
(iii)tystiolaeth syʼn bodloni Gweinidogion Cymru o ran ansawdd y DDdY a ddarperir yn yr SOAA gan gynnwys—
(aa)(os ywʼr SOAA yng Nghymru) adroddiadau syʼn ymwneud âʼr SOAA gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Weinidogion Cymru (os ydynt ar gael);
(bb)(os ywʼr SOAA yn Lloegr) adroddiadau syʼn ymwneud âʼr SOAA gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau neuʼr Comisiwn Ansawdd Gofal (os ydynt ar gael);
(iv)unrhyw wybodaeth arall syʼn ymwneud â’r DDdY neu reoli neu lywodraethu’r SOAA syʼn rhesymol ofynnol gan Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysuʼr perchennog pa un a gaiff yr SOAA ei gynnwys yn y rhestr ai peidio.
6. Rhaid i SOAA sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr, yn dilyn cais gan Weinidogion Cymru, ddarparuʼr wybodaeth a ganlyn iddynt—
(a)tystiolaeth syʼn bodloni Gweinidogion Cymru bod yr SOAA yn ariannol hyfyw;
(b)tystiolaeth sy’n bodloni Gweinidogion Cymru o ran ansawdd y DDdY gan gynnwys—
(i)(os ywʼr SOAA yng Nghymru) adroddiadau syʼn ymwneud âʼr SOAA gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru neu Weinidogion Cymru (os ydynt ar gael);
(ii)(os ywʼr SOAA yn Lloegr) adroddiadau syʼn ymwneud âʼr SOAA gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg, Gwasanaethau Plant a Sgiliau neuʼr Comisiwn Ansawdd Gofal (os ydynt ar gael);
(c)unrhyw wybodaeth arall syʼn ymwneud â’r DDdY, rheoli neu lywodraethu’r SOAA neuʼr trefniadau yn yr SOAA syʼn rhesymol ofynnol gan Weinidogion Cymru.
7.—(1) Caiff perchennog SOAA wneud cais i Weinidogion Cymru i gymeradwyo newid yn y trefniadau yn yr SOAA.
(2) Rhaid i gais am gymeradwyaeth o dan y rheoliad hwn gael ei wneud yn ysgrifenedig ac, yn achos cymeradwyaeth i newid perchennog, rhaid iʼr perchennog newydd arfaethedig wneud y cais.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysuʼr perchennog ac unrhyw berchennog newydd arfaethedig a pa un ydynt yn cymeradwyoʼr newid iʼr trefniadau ai peidio.
8.—(1) Caiff perchennog SOAA wneud cais i Weinidogion Cymru i ddileu’r SOAA oʼr rhestr.
(2) Rhaid i gais i ddileu o dan y rheoliad hwn gael ei wneud yn ysgrifenedig a phennu dyddiad o leiaf 28 o ddiwrnodau o ddyddiad y cais.
(3) Bydd dileu’r SOAA o’r rhestr yn cymryd effaith—
(a)ar y dyddiad a bennir yn y cais; neu
(b)ar ddyddiad y cytunir arno rhwng perchennog yr SOAA a Gweinidogion Cymru.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu pob awdurdod lleol yng Nghymru o’r dyddiad y bydd yr SOAA yn cael ei ddileu o’r rhestr.
9.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru ystyried y canlynol wrth benderfynu pa un ai i ddileu SOAA o’r rhestr—
(a)tystiolaeth syʼn ymwneud â hyfywedd ariannol yr SOAA;
(b)yr adroddiadau syʼn ymwneud âʼr SOAA y cyfeirir atynt yn rheoliad 5(2);
(c)unrhyw dystiolaeth a ddaw i law o ganlyniad i gais o dan reoliad 6; a
(d)unrhyw bryderon difrifol am yr SOAA a ddaw i law gan awdurdod lleol, person syʼn mynychuʼr SOAA neu gan unrhyw berson arall.
10.—(1) Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu dileu SOAA oʼr rhestr, rhaid iddynt hysbysu perchennog yr SOAA am y penderfyniad hwnnw.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu pob awdurdod lleol yng Nghymru am y penderfyniad hwnnw.
(3) Caiff yr SOAA ei ddileu oʼr rhestr yn unol â rheoliad 11(3) neu 12(3) (yn ôl y digwydd) os ywʼr perchennog yn arfer yr hawl i apelio y cyfeirir ati yn rheoliad 11, ac ym mhob achos arall bydd y dileu yn cymryd effaith ar ôl i 28 o ddiwrnodau ddod i ben syʼn dechrau âʼr diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad o’r penderfyniad i ddileu iʼr perchennog.
11.—(1) Caiff perchennog SOAA apelio iʼr Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erbyn penderfyniad—
(a)i wrthod rhestru SOAA;
(b)i ddileu SOAA oʼr rhestr;
(c)i beidio â chymeradwyo trefniadau yn yr SOAA;
(d)i beidio â chymeradwyo newid i drefniadau yn yr SOAA.
(2) Rhaid i apêl gael ei chyflwyno o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau syʼn dechrau âʼr diwrnod y cyflwynir hysbysiad oʼr penderfyniad i wrthod, i ddileu, neu i beidio â chymeradwyo iʼr perchennog (“y cyfnod apelio”).
(3) Pan fo apêl yn cael ei gwneud yn erbyn penderfyniad i ddileu SOAA oʼr rhestr—
(a)os caiff yr apêl ei thynnuʼn ôl neu ei gwaredu fel arall cyn iʼr tribiwnlys ddyfarnu arni o dan reoliad 12, caiff Gweinidogion Cymru ddileuʼr SOAA oʼr rhestr ar unrhyw ddyddiad ar ôl y cyfnod apelio y maent yn ei benderfynu, a
(b)mewn unrhyw achos arall, dim ond yn unol âʼr dyfarniad a wneir gan y tribiwnlys o dan reoliad 12 y caiff Gweinidogion Cymru ddileuʼr SOAA o’r rhestr.
(4) Yn achos apêl yn erbyn penderfyniad i ddileu SOAA oʼr rhestr, os ywʼr tribiwnlys, ar unrhyw adeg, yn ystyried bod perygl o niwed difrifol i les personau cyn y dyfernir ar yr apêl, caiff drwy orchymyn ddarparu bod yr SOAA iʼw ystyried fel pe na bai wedi ei gynnwys ar y rhestr at ddibenion adran 56(3) oʼr Ddeddf hyd nes y bydd y tribiwnlys yn dyfarnu ar yr apêl o dan reoliad 12 (neuʼn dirymuʼr gorchymyn cyn dyfarnu ar yr apêl felly).
12.—(1) Yn achos apêl yn erbyn penderfyniad i beidio â chymeradwyo trefniadau neu i beidio â chymeradwyo newid i drefniadau, caiff y tribiwnlys—
(a)cadarnhau’r penderfyniad i beidio â chymeradwyo, neu
(b)cymeradwyoʼr trefniadau neuʼr newid mewn trefniadau ei hunan.
(2) Yn achos apêl yn erbyn penderfyniad i ddileuʼr SOAA oʼr rhestr, caiff y tribiwnlys—
(a)cadarnhau’r penderfyniad, neu
(b)dirymuʼr penderfyniad.
(3) Pan foʼr tribiwnlys, o dan baragraff (2)(a), yn cadarnhau penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru ddileuʼr SOAA oʼr rhestr ar unrhyw ddyddiad y maeʼr tribiwnlys yn ei bennu neu, os nad ywʼn pennu dyddiad, ar unrhyw ddyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn ei benderfynu.
(4) Yn achos apêl yn erbyn penderfyniad i wrthod cynnwys yr SOAA yn y rhestr, caiff y tribiwnlys—
(a)cadarnhau’r penderfyniad, neu
(b)cyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gynnwys yr SOAA yn y rhestr.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
26 Tachwedd 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Maeʼr Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran 56 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol aʼr Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”) ac maent yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chynnwys sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol (“SOAA”) yn y rhestr (“y rhestr o SOAAau”) a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 56(2) o’r Ddeddf.
Maeʼr Rheoliadau yn manylu ar gynnwys y rhestr o SOAAau gan gynnwys gwybodaeth benodol syʼn ymwneud âʼr trefniadau yn yr SOAA (rheoliad 3).
Mae rheoliad 4 yn manylu ar sut y caniateir gwneud cais i Weinidogion Cymru i gymeradwyoʼr trefniadau yn yr SOAA.
Mae rheoliad 5 yn manylu ar y gofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy er mwyn i SOAA gael ei gynnwys yn y rhestr o SOAAau ac mae rheoliad 6 yn manylu ar y gofynion y mae angen cydymffurfio â hwy er mwyn iʼr SOAA barhau i gael ei gynnwys yn y rhestr o SOAAau.
Os yw perchennog yn dymuno gwneud newidiadau iʼr trefniadau sydd wedi eu cymeradwyo yn yr SOAA, yna caiff perchennog yr SOAA wneud cais i Weinidogion Cymru i gymeradwyoʼr newid (rheoliad 7).
Mae rheoliad 8 yn darparu y caiff perchennog SOAA wneud cais i Weinidogion Cymru i ddileu’r SOAA o’r rhestr o SOAAau.
Mae rheoliad 9 yn manylu ar yr hyn y caiff Gweinidogion Cymru ei ystyried wrth benderfynu a ddylid dileu SOAA oʼr rhestr o SOAAau. Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylid dileu SOAA oʼr rhestr o SOAAau, mae angen iddynt hysbysuʼr perchennog a phob un o awdurdodau lleol Cymru am y penderfyniad hwnnw (rheoliad 10).
Mae rheoliad 11 yn manylu ar yr hawl i apelio iʼr Tribiwnlys Haen Gyntaf mewn cysylltiad â phenderfyniad gan Weinidogion Cymru i wrthod rhestru SOAA, i ddileu SOAA oʼr rhestr o SOAAau neu i beidio â chymeradwyo trefniadau neu newid mewn trefniadau yn yr SOAA. Mae rheoliad 12 yn manylu ar sut y caiff y Tribiwnlys ddyfarnu ar apêl a wneir o dan reoliad 11.
Y Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Addysg, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: