Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1409 (Cy. 311)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

2 Rhagfyr 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

3 Rhagfyr 2020

Yn dod i rym

am 6.00 p.m. ar 4 Rhagfyr 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45B, 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws a Swyddogaethau Awdurdodau Lleol) (Diwygio) (Cymru) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 6.00 p.m. ar 4 Rhagfyr 2020.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 9—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “y tu allan i Gymru” rhodder “mewn ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau”;

(b)ym mharagraff (2), ar ôl “ymadael â Chymru” mewnosoder “at ddibenion mynd i ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau neu aros mewn ardal o’r fath”;

(c)ar y diwedd mewnosoder—

(6) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “ardal o’r DU sydd o dan gyfyngiadau” yw —

(a)ardal o Loegr y pennir neu y disgrifir am y tro yn Rhan 2 o Atodlen 4 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Cyfyngiadau) (Pob Haen) (Lloegr) 2020(3) ei bod o fewn ardal Haen 3;

(b)ardal o’r Alban a bennir am y tro yn y tabl yn Atodlen 6 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cyfyngiadau a Gofynion) (Lefelau Lleol) (Yr Alban) 2020(4), pan fo’r tabl yn nodi ei bod yn ardal Lefel 3 neu Lefel 4;

(c)Gogledd Iwerddon.

(3Yn Rhan 4, hepgorer Pennod 3.

(4Yn rheoliad 19, ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) O ran ei gymhwysiad i fusnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 10 i 12 o Atodlen 1, nid yw paragraff (1) ond yn gymwys i fangre sydd o dan do.

(5Ar ôl rheoliad 19 mewnosoder—

Cyfyngiadau ar fusnesau bwyd a diod

19A.(1) O ran person sy’n gyfrifol am gynnal busnes neu ddarparu gwasanaeth a restrir ym mharagraffau 5 i 7 o Atodlen 2—

(a)ni chaiff agor ei fangre i gwsmeriaid cyn 6.00 a.m. bob dydd;

(b)rhaid iddo gau’r fangre i gwsmeriaid am neu cyn 6.00 p.m. bob dydd.

(2) Ni chaiff y person sy’n gyfrifol am y busnes—

(a)gwerthu na chyflenwi alcohol i’w yfed yn ei fangre;

(b)caniatáu i alcohol gael ei yfed yn y fangre.

(3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae ardal sy’n gyfagos i fangre’r busnes lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid y busnes (pa un ai gan y busnes ai peidio) i’w thrin fel rhan o fangre’r busnes hwnnw.

(4) Pan fo—

(a)person sy’n gyfrifol am gynnal busnes a restrir ym mharagraffau 5 i 7 o Atodlen 2 (“busnes A”) yn ddarostyngedig i ofyniad neu gyfyngiad o dan y rheoliad hwn, a

(b)busnes A yn ffurfio rhan o fusnes mwy (“busnes B”),

cydymffurfir â’r gofyniad neu’r cyfyngiad os yw’r person sy’n gyfrifol am gynnal busnes B yn cydymffurfio â’r gofyniad neu’r cyfyngiad.

Cyfyngiadau ar fusnesau bwyd a diod: eithriadau

19B.(1) Nid yw rheoliad 19A(1) yn gymwys i—

(a)mangre mewn—

(i)porthladd môr;

(ii)maes awyr;

(iii)sefydliad addysgol;

(iv)ysbyty neu gartref gofal;

(b)ffreuturau yn y gweithle, pan na fo dewis ymarferol arall i bobl yn y gweithle hwnnw gael bwyd rhwng 6.00 p.m. a 6.00 a.m.;

(c)mangre a ddefnyddir ar gyfer darparu bwyd neu ddiod i bersonau digartref.

(2) Nid yw rheoliad 19A(1) yn atal mangre rhag cael ei defnyddio i werthu neu gyflenwi bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre.

(3) Os—

(a)yw dathliad priodas neu ffurfiad partneriaeth sifil yn cael ei gynnal mewn mangre y mae rheoliad 19A yn gymwys iddi, a

(b)archebwyd y dathliad cyn 6.00 p.m. ar 4 Rhagfyr 2020,

caiff y fangre, er gwaethaf rheoliad 19A(1)(b), aros ar agor tan 10.00 p.m. at ddibenion cynnal y dathliad.

(4) Mae paragraffau (5) a (6) yn gymwys pan fo mangre busnes neu wasanaeth a restrir ym mharagraffau 5 i 7 o Atodlen 2 (“y fangre o dan gyfyngiadau”) yn ffurfio rhan o fangre llety gwyliau neu lety teithio.

(5) Nid yw rheoliad 19A(1)—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol i’r fangre o dan gyfyngiadau fod ar gau i breswylwyr y llety gwyliau neu’r llety teithio;

(b)yn atal gwerthu bwyd neu ddiod i breswylwyr—

(i)fel rhan o wasanaeth ystafell, neu

(ii)rhwng 6.00 a.m. a 10.00 p.m. mewn unrhyw ran o fangre’r llety gwyliau neu’r llety teithio.

(6) Nid yw rheoliad 19A(1) na (2)—

(a)yn atal preswylwyr rhag bwyta bwyd neu yfed diod (gan gynnwys alcohol) ar unrhyw adeg yn eu hystafell breifat;

(b)yn atal gwerthu alcohol i breswylwyr fel rhan o wasanaeth ystafell (ond gweler rheoliad 20).

(6Yn rheoliad 20—

(a)hepgorer paragraffau (2) i (5);

(b)ym mharagraff (6), yn lle “Nid yw paragraffau (1) a (2) yn caniatáu i’r fangre fod ar agor, nac” rhodder “Nid yw paragraff (1) yn caniatáu”;

(c)hepgorer paragraff (7).

(7Yn rheoliad 25(3)—

(a)ar ôl “19(1),” mewnosoder “19A(1) neu (2),”;

(b)yn lle “20(1) neu (2)” rhodder “20(1)”.

(8Yn rheoliad 28(4), yn lle “, 14(2) neu 18A(3)” rhodder “neu 14(2)”.

(9Yn rheoliad 31(4), yn lle “, 14(2) neu 18A(3)” rhodder “neu 14(2)”.

(10Yn rheoliad 32, ar y diwedd mewnosoder—

(4) Ni chaiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat onid yw’r swyddog gorfodaeth yn gwnstabl.

(11Yn rheoliad 34—

(a)ym mharagraff (1), hepgorer “, gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu ateb unrhyw gwestiwn y mae’r swyddog yn ystyried ei bod neu ei fod yn berthnasol i arfer y pŵer”;

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(1A) Caiff camau gweithredu a gymerir o dan baragraff (1) gynnwys ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi unrhyw wybodaeth neu ateb unrhyw gwestiwn y mae’r swyddog yn ystyried—

(a)ei bod neu ei fod yn angenrheidiol er mwyn galluogi’r swyddog i benderfynu pa un ai i arfer pŵer a roddir i’r swyddog gan y Rhan hon, neu

(b)ei bod neu ei fod yn berthnasol fel arall i arfer pŵer o’r fath.

(12Yn rheoliad 35—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn is-baragraff (a), hepgorer “18A(3),”;

(ii)yn is-baragraff (b)—

(aa)ar ôl “19(1),” mewnosoder “19A(1) neu (2),”;

(bb)yn lle “20(1) neu (2)” rhodder “20(1)”;

(b)ym mharagraff (5), o flaen is-baragraff (a) mewnosoder—

(za)heb esgus rhesymol, yn methu â chymryd y mesurau a bennir mewn hysbysiad gwella mangre a ddyroddir o dan baragraff 1(1) o Atodlen 3 o fewn y terfyn amser a bennir yn yr hysbysiad,.

(13Yn lle rheoliad 42(1) rhodder—

42.(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd honedig—

(a)o dorri—

(i)rheoliad 19(1), 19A(1) neu (2), neu 20(1), neu

(i)paragraff 3(1) o Atodlen 3, neu

(b)o dan reoliad 35(5)(za),

(y cyfeirir ati yn y rheoliad hwn fel “trosedd busnes honedig”).

(14Yn rheoliad 46(1)(c)(i), yn lle “neu 20(1) neu (2)” rhodder “, 19A(1) neu (2), neu 20(1)”.

(15Yn Atodlen 1, ar y diwedd mewnosoder—

5.  Neuaddau bingo.

6.  Alïau bowlio, arcedau diddanu a mannau chwarae o dan do.

7.  Casinos.

8.  Sinemâu.

9.  Canolfannau sglefrio.

10.  Ffeiriau pleser, parciau diddanu a pharciau thema.

11.  Amgueddfeydd ac orielau.

12.  Atyniadau i ymwelwyr.

(16Yn Atodlen 2—

(a)hepgorer paragraffau 13, 14, 17, 18, 25, 33 a 38;

(b)ym mharagraff 30, ar ôl “Llyfrgelloedd” mewnosoder “a gwasanaethau archifau”;

(c)ym mharagraff 45, yn lle “Atyniadau i ymwelwyr a busnesau” rhodder “Busnesau”;

(d)ar ôl paragraff 45 mewnosoder—

45A.  Busnes neu wasanaeth a restrir yn Atodlen 1 i’r graddau y caniateir i’r fangre—

(a)bod ar agor yn rhinwedd rheoliad 19(1A), neu

(b)cael ei defnyddio yn rhinwedd rheoliad 19(2).

(17Yn Atodlen 3, ym mharagraff 2, ar y diwedd mewnosoder—

(8) Pan fo—

(a)swyddog gorfodaeth yn ystyried bod person cyfrifol wedi methu â chymryd y mesurau a bennir mewn hysbysiad gwella mangre o fewn y terfyn amser penodedig, a

(b)naill ai—

(i)hysbysiad cosb benodedig wedi ei ddyroddi mewn cysylltiad â throsedd honedig o dan reoliad 35(5)(za), neu

(ii)achos wedi ei ddwyn am drosedd o’r fath,

mewn perthynas â’r methiant hwnnw,

caiff y swyddog gorfodaeth serch hynny ddyroddi hysbysiad cau mangre o dan is-baragraff (1).

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020

3.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020(5) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(1), yn lle “8 Ionawr” rhodder “19 Chwefror”.

(3Yn rheoliad 6—

(a)yn lle paragraff (2) rhodder—

(2) Wrth ystyried a yw’r amodau iechyd y cyhoedd wedi eu bodloni, rhaid i awdurdod lleol, yn benodol, roi sylw i—

(a)a yw pobl yn ymgynnull, neu’n debygol o ymgynnull, yn y digwyddiad yn groes i reoliad 6 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020;

(b)pan fo’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do, a yw mwy na 15 o bobl yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol;

(c)pan fo’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored, a yw mwy na 30 o bobl yn bresennol neu’n debygol o fod yn bresennol.;

(b)ar ôl paragraff (7), mewnosoder—

(8) At ddibenion paragraff (2), mae digwyddiad i’w drin fel pe bai’n cael ei gynnal o dan do os yw’n cael ei gynnal mewn mangre sy’n gaeedig neu’n sylweddol gaeedig o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 2 o Reoliadau Mangreoedd etc. Di-fwg (Cymru) 2007(6).

(4Yn rheoliad 17, ar y diwedd mewnosoder—

(4) Ni chaiff swyddog gorfodaeth fynd i fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat onid yw’r swyddog gorfodaeth yn gwnstabl.

(5Yn rheoliad 19(10), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(c)Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020(7);

(6Yn rheoliad 20, ar ôl “Cyhoeddus” mewnosoder “, awdurdod lleol”.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

2 Rhagfyr 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1219 (Cy. 276)) (y “prif Reoliadau”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1011 (Cy. 225)) (y “Rheoliadau swyddogaethau awdurdodau lleol”).

Mae’r diwygiadau i’r prif Reoliadau—

(a)yn ei gwneud yn ofynnol, yn rheoliad newydd 19A(1) o’r prif Reoliadau, i fariau, caffis, ffreuturau, bwytai a thafarndai fod ar gau i gwsmeriaid rhwng 6.00 p.m. a 6.00 a.m. (ond mae’r cyfyngiad hwn yn ddarostyngedig i eithriadau penodol yn rheoliad newydd 19B, gan gynnwys mewn perthynas â llety gwyliau neu lety teithio ac ar gyfer gwleddoedd priodasau neu bartneriaethau sifil a archebwyd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym);

(b)yn atal, yn rheoliad newydd 19A(2), unrhyw alcohol rhag cael ei werthu i’w yfed, neu rhag cael ei yfed, mewn bariau, caffis, ffreuturau, bwytai a thafarndai (ond nid yw hyn yn atal alcohol rhag cael ei werthu i breswylwyr mewn llety gwyliau neu lety teithio fel rhan o wasanaeth ystafell (yn ddarostyngedig i’r gofynion yn rheoliad 20), nac yn atal preswylwyr rhag yfed alcohol yn eu hystafelloedd preifat);

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i fangreoedd o dan do mewn lleoliadau adloniant ac atyniadau i ymwelwyr gau;

(d)yn gwneud diwygiadau canlyniadol, mân ddiwygiadau neu ddiwygiadau technegol, gan gynnwys dirymu darpariaethau diangen a diwygio darpariaethau gorfodi amrywiol (gan gynnwys er mwyn darparu ei bod yn drosedd methu, heb esgus rhesymol, â chymryd mesurau a bennir mewn hysbysiad gwella mangre a ddyroddir o dan Atodlen 3 i’r prif Reoliadau).

Mae’r diwygiadau i’r Rheoliadau swyddogaethau awdurdodau lleol—

(a)yn darparu i’r Rheoliadau ddod i ben ar 19 Chwefror 2020 yn lle 8 Ionawr 2020, er mwyn bod yn gyson â dyddiad dod i ben y prif Reoliadau;

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, wrth benderfynu pa un ai i roi cyfarwyddyd digwyddiad, roi sylw i a all y digwyddiad arwain at bobl yn ymgynnull yn groes i reoliad 6 o’r prif Reoliadau a rhoi sylw i a all mwy na 15 o bobl (pan fo’r digwyddiad o dan do) neu 30 o bobl (pan fo yn yr awyr agored) fod yn bresennol yn y digwyddiad ar unrhyw un adeg;

(c)yn rhoi y tu hwnt i amheuaeth, er bod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 wedi dod i ben, fod rhaid ystyried hysbysiadau cosb a ddyroddwyd o dan y Rheoliadau hynny wrth bennu swm hysbysiad cosb benodedig i’w ddyroddi o dan reoliad 19 o’r Rheoliadau swyddogaethau awdurdodau lleol;

(d)yn caniatáu i awdurdodau lleol ddwyn achosion am droseddau o dan y Rheoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.