Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
7 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
9 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym
30 Rhagfyr 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 22(1), (2), 4(a) ac (c) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 2020.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 30 Rhagfyr 2020.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “data gwasanaethau iechyd” (“health service data”) yw data a brosesir ar gyfer darparu neu hybu gwasanaethau o dan y Ddeddf neu mewn cysylltiad â darparu neu hybu gwasanaethau o’r fath;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
ystyr “fferyllydd cofrestredig” (“registered pharmacist”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n fferyllydd yn Rhan 1 neu 4 o’r gofrestr a gynhelir o dan erthygl 19 o Orchymyn Fferylliaeth 2010(2);
ystyr “IGDC” (“DHCW”) yw Iechyd a Gofal Digidol Cymru;
ystyr “nyrs gofrestredig” (“registered nurse”) yw nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio sydd wedi ei chofrestru neu ei gofrestru yn y gofrestr a gynhelir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(3) yn rhinwedd cymhwyster sy’n gymhwyster a gymeradwyir at ddibenion cofrestru yn y rhan berthnasol o’r gofrestr;
ystyr “optometrydd” (“optometrist”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr optometryddion a gynhelir o dan adran 7 o Ddeddf Optegwyr 1989(4);
ystyr “platfformau, systemau a gwasanaethau digidol” (“digital platforms, systems and services”) yw caledwedd, meddalwedd a threfniadau eraill ar gyfer casglu, storio, prosesu, dadansoddi, defnyddio a lledaenu data gwasanaethau iechyd yn ddigidol;
ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd cofrestredig” (“registered healthcare professional”) yw person sydd wedi ei gofrestru ar y gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 2001(5);
ystyr “swyddog clinigol” (“clinical officer”) yw swyddog sy’n broffesiynolyn gofal iechyd cofrestredig; ymarferydd meddygol cofrestredig; nyrs gofrestredig; fferyllydd cofrestredig; ymarferydd deintyddol; neu optometrydd;
ystyr “ymarferydd deintyddol” (“dental practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Deintyddion 1984(6);
ystyr “ymarferydd meddygol cofrestredig” (“registered medical practitioner”) yw person sydd wedi ei gofrestru’n llawn o fewn yr ystyr a roddir i “fully registered person” yn Neddf Feddygol 1983(7) sy’n dal trwydded i ymarfer o dan y Ddeddf honno.
2. Mae Awdurdod Iechyd Arbennig o’r enw Iechyd a Gofal Digidol Cymru neu Digital Health and Care Wales wedi ei sefydlu.
3. Mae IGDC i arfer unrhyw swyddogaethau a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru(8) mewn cysylltiad â—
(a)darparu, dylunio, rheoli, datblygu a chyflenwi platfformau, systemau a gwasanaethau digidol;
(b)casglu, dadansoddi, defnyddio a lledaenu data gwasanaethau iechyd;
(c)darparu cyngor a chanllawiau i Weinidogion Cymru ynghylch gwella platfformau, systemau a gwasanaethau digidol;
(d)cefnogi cyrff a phersonau a nodir mewn cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru i IGDC mewn perthynas â materion sy’n berthnasol i blatfformau, systemau a gwasanaethau digidol;
(e)unrhyw fater arall er mwyn sicrhau y darperir neu yr hybir gwasanaethau o dan y Ddeddf.
4.—(1) Aelodaeth IGDC yw—
(a)cadeirydd;
(b)is-gadeirydd;
(c)dim mwy na 5 aelod nad ydynt yn swyddogion IGDC yn ychwanegol at y cadeirydd a’r is-gadeirydd;
(d)dim mwy na 5 aelod sy’n swyddogion IGDC y mae rhaid iddynt gynnwys;
(i)prif swyddog;
(ii)swyddog cyllid;
(iii)swyddog clinigol;
(e)dim mwy na 3 aelod cyswllt nad ydynt yn gymwys i bleidleisio mewn unrhyw drafodion gan IGDC ac nad ydynt wedi eu cynnwys at ddibenion y cyfrifiad ym mharagraff (2).
(2) Ni chaiff nifer yr aelodau sy’n swyddogion IGDC fod yn fwy na nifer yr aelodau nad ydynt yn swyddogion o’r fath.
(3) Mae aelodau IGDC y cyfeirir atynt yn erthygl 4(1)(a),(b) ac (c) i’w hadnabod fel yr aelodau nad ydynt yn swyddogion.
(4) Mae aelodau IGDC y cyfeirir atynt yn erthygl 4(1)(d) i’w hadnabod fel y swyddog-aelodau.
(5) Mae aelodau IGDC y cyfeirir atynt yn erthygl 4(1)(e) i’w hadnabod fel yr aelodau cyswllt.
5. Mae Deddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960(9) i fod yn gymwys i IGDC.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
7 Rhagfyr 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“y Ddeddf”). Mae’n sefydlu Awdurdod Iechyd Arbennig newydd, sef Iechyd a Gofal Digidol Cymru (“IGDC”), ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei swyddogaethau a’i aelodaeth.
Mae erthygl 3 yn nodi natur swyddogaethau IGDC sydd i’w pennu’n fwy penodol mewn cyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 24 o’r Ddeddf. Bydd swyddogaethau IGDC yn ymwneud â darparu platfformau, systemau a gwasanaethau digidol a chefnogi gwella systemau o’r fath ac unrhyw swyddogaethau eraill a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru er mwyn sicrhau y darperir neu yr hybir gwasanaethau o dan y Ddeddf.
Mae erthygl 4 yn nodi aelodaeth IGDC ac mae erthygl 5 yn darparu bod Deddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960 yn gymwys i gyfarfodydd IGDC.
Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gwneud unrhyw ddarpariaeth sy’n ymwneud â throsglwyddo swyddogion, eiddo neu atebolrwyddau.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2006 p. 42. (“Deddf 2006”).
O.S. 2002/254 a ddiwygiwyd gan O.S. 2009/1182.
Gweler adran 24 o Ddeddf 2006.
1960 p. 67; gweler paragraff 1(g) o’r Atodlen i Ddeddf Cyrff Cyhoeddus (Derbyn i Gyfarfodydd) 1960, a fewnosodwyd gan baragraff 91 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17).