2020 Rhif 1469 (Cy. 315)

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2020

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 25(1)(b), 25(2) a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061 a pharagraffau 3(3) a (4), 5 a 13 o Atodlen 5 iddi, ac ar ôl ymgynghori yn unol â pharagraff 4(1) o Atodlen 5 i’r Ddeddf honno.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2020.

2

Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 30 Rhagfyr 2020.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “aelod cyswllt” (“associate member”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(5) o’r Gorchymyn;

  • mae i “aelod nad yw’n swyddog” (“non-officer member”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(3) o’r Gorchymyn;

  • mae i “aelod sy’n swyddog” (“officer member”) yr ystyr a roddir yn erthygl 4(4) o’r Gorchymyn;

  • ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw—

    1. a

      grŵp comisiynu clinigol a sefydlir o dan adran 14D o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 20062,

    2. b

      yr Asiantaeth Gwasanaethau Cyffredin ar gyfer Gwasanaethau Iechyd yr Alban sydd wedi ei chyfansoddi o dan adran 10(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 19783,

    3. c

      Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddir o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 19784,

    4. d

      y Ganolfan Gwybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd wedi ei sefydlu o dan adran 252 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 20125,

    5. e

      yr Awdurdod Ymchwil Iechyd sydd wedi ei sefydlu o dan adran 109 o Ddeddf Gofal 20146,

    6. f

      Bwrdd Iechyd Lleol,

    7. g

      Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol sydd wedi ei sefydlu o dan adran 1H o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006,

    8. h

      ymddiriedolaeth sefydledig GIG a sefydlir o dan adran 30 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006,

    9. i

      ymddiriedolaeth GIG a sefydlir o dan adran 18 o’r Ddeddf neu a sefydlir o dan adran 25 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006,

    10. j

      y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal sydd wedi ei sefydlu o dan adran 232 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012,

    11. k

      y Bwrdd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol sydd wedi ei sefydlu o dan adran 7 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Diwygio) (Gogledd Iwerddon) 20097,

    12. l

      Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlir o dan adran 22 o’r Ddeddf;

  • mae i “cydnabod”, mewn perthynas ag undeb llafur, yr ystyr a roddir i “recognised” gan Ddeddf 1992;

  • ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 19928;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

  • ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 20209;

  • mae i “swyddog clinigol” (“clinical officer”) yr ystyr a roddir yn erthygl 1(3) o’r Gorchymyn;

  • ystyr “IGDC” (“DHCW”) yw Iechyd a Gofal Digidol Cymru sydd wedi ei sefydlu gan y Gorchymyn;

  • mae i “undeb llafur” yr ystyr a roddir i “trade union” gan Ddeddf 1992.

RHAN 2Penodi aelodau IGDC

Penodi aelodau3

1

Penodir aelodau IGDC fel a ganlyn—

a

penodir y cadeirydd, yr is-gadeirydd a hyd at 5 o aelodau eraill nad ydynt yn swyddogion gan Weinidogion Cymru;

b

penodir y prif swyddog yn unol â pharagraff (3);

c

penodir yr aelodau sy’n swyddogion yn unol â pharagraff (4);

d

penodir yr aelodau cyswllt yn unol â pharagraff (6).

2

Ni chaiff yr aelodau nad ydynt yn swyddogion fod yn gyflogeion IGDC.

3

Penodir y prif swyddog gan yr aelodau nad ydynt yn swyddogion, ar wahân i’r prif swyddog cyntaf a benodir gan Weinidogion Cymru.

4

Penodir yr aelodau sy’n swyddogion fel a ganlyn:

a

penodir y swyddog cyllid cyntaf a’r swyddog clinigol cyntaf gan yr aelodau nad ydynt yn swyddogion;

b

penodir yr holl aelodau eraill sy’n swyddogion gan yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a’r prif swyddog.

5

Mae’r aelodau sy’n swyddogion i fod yn gyflogeion IGDC.

6

Penodir yr aelodau cyswllt fel a ganlyn:

a

caiff Gweinidogion Cymru, neu IGDC gan weithredu â chydsyniad Gweinidogion Cymru, benodi hyd at 2 aelod cyswllt, a

b

pan fo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan IGDC, caniateir penodi 1 aelod cyswllt yn unol â rheoliad 4.

Penodi aelod cyswllt yr undebau llafur4

1

Pan fo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan IGCD, rhaid i’r aelodau nad ydynt yn swyddogion wahodd pob un o’r undebau llafur a gydnabyddir gan IGCD i enwebu ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt.

2

Rhaid i’r gwahoddiad bennu’r cyfnod y mae enwebiad i’w wneud ynddo a’r modd y mae enwebiad i’w wneud.

3

Rhaid i’r aelodau nad ydynt yn swyddogion benodi person o blith yr ymgeiswyr cymwys, os enwebir rhai, yn aelod cyswllt.

4

Nid yw person yn ymgeisydd cymwys i’w enwebu o dan baragraff (1) ond os yw’r person—

a

yn aelod o staff IGDC,

b

yn aelod o undeb llafur a gydnabyddir gan IGDC, ac

c

wedi ei enwebu o fewn y cyfnod a bennir o dan baragraff (2).

Aelodau nad ydynt yn swyddogion5

Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y trefniadau ar gyfer penodi personau yn aelodau nad ydynt yn swyddogion yn ystyried y cod a gyhoeddir gan y Gweinidog dros Swyddfa’r Cabinet sy’n nodi—

a

yr egwyddorion ar gyfer penodiadau cyhoeddus, a

b

y canllawiau ar yr arferion i’w dilyn mewn perthynas â gwneud penodiadau cyhoeddus.

RHAN 3Telerau swydd

Aelodau nad ydynt yn swyddogion6

1

Mae aelod nad yw’n swyddog yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir gan Weinidogion Cymru yn nhelerau’r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3), (4) a Rhan 4.

2

Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod nad yw’n swyddog fod yn hwy na 4 blynedd.

3

Caiff person sydd wedi dal swydd fel aelod nad yw’n swyddog fod yn gymwys i gael ei ailbenodi’n aelod nad yw’n swyddog ond ni chaiff person fod yn aelod nad yw’n swyddog am gyfnod cyfan sy’n hwy nag 8 mlynedd.

4

Caiff aelod nad yw’n swyddog ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

Aelodau sy’n swyddogion7

Mae aelod sy’n swyddog yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir yn nhelerau’r penodiad.

Aelodau cyswllt8

1

Yn ddarostyngedig i Ran 4, mae aelod cyswllt a benodir yn unol â rheoliad 3(6)(a) yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir yn nhelerau’r penodiad.

2

Pan fo aelod cyswllt wedi ei benodi gan IGDC yn unol â rheoliad 3(6)(a), rhaid i Weinidogion Cymru gymeradwyo telerau ac amodau’r penodiad.

3

Caniateir i berson sydd wedi dal swydd fel aelod cyswllt a benodir yn unol â rheoliad 3(6)(a) gael ei ailbenodi’n aelod cyswllt yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb yn nhelerau ei benodiad.

4

Mae aelod cyswllt a benodir yn unol â rheoliad 3(6)(b) yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir yn nhelerau’r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (5).

5

Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod cyswllt a benodir yn unol â rheoliad 3(6)(b) fod yn hwy na 4 blynedd.

6

Caiff person sydd wedi dal swydd fel aelod cyswllt a benodir yn unol â rheoliad 3(6)(b) fod yn gymwys i gael ei ailbenodi.

RHAN 4Cymhwystra, anghymhwyso, atal dros dro a diswyddo

Aelodau nad ydynt yn swyddogion – cymhwystra9

1

Nid yw berson yn gymwys i fod yn aelod nad yw’n swyddog os yw’r person hwnnw yn cael, neu wedi cael, yn y 12 mis cyn ei benodi, ei gyflogi am dâl gan—

a

Bwrdd Iechyd Lleol,

b

ymddiriedolaeth GIG a sefydlir o dan adran 18 o’r Ddeddf, neu

c

Awdurdod Iechyd Arbennig o ran Cymru a sefydlir gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o’r Ddeddf.

2

At ddibenion paragraff (1), nid yw person i’w drin fel pe bai wedi ei gyflogi am dâl a hynny am ei fod wedi dal swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog o Fwrdd Iechyd Lleol; cadeirydd, is-gadeirydd neu gyfarwyddwr anweithredol o ymddiriedolaeth GIG; neu swydd cadeirydd, is-gadeirydd neu aelod nad yw’n swyddog o Awdurdod Iechyd Arbennig.

3

Mae person yn peidio â bod yn gymwys i fod yn aelod nad yw’n swyddog os yw’r person hwnnw, yn dilyn ei benodi’n aelod nad yw’n swyddog, yn ymgymryd â chyflogaeth am dâl gydag unrhyw un neu ragor o’r cyrff a restrir ym mharagraff (1) ac eithrio o dan yr amgylchiadau a bennir ym mharagraff 9(2).

Aelodau nad ydynt yn swyddogion ac aelodau cyswllt a benodir gan Weinidogion Cymru neu gan IGDC gan weithredu â chydsyniad Gweinidogion Cymru - anghymhwyso10

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—

a

yn aelod nad yw’n swyddog;

b

yn aelod cyswllt gan Weinidogion Cymru neu gan IGDC yn unol â rheoliad 3(6)(a).

2

Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei benodi’n aelod, neu rhag parhau i ddal swydd fel aelod, pan fo’r person hwnnw yn dod o fewn un neu ragor o baragraffau o’r Atodlen.

3

Os yw person wedi cael ei benodi’n aelod ac yn dod yn anghymwys o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r person hysbysu IGDC a Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am yr anghymhwysiad.

Aelodau nad ydynt yn swyddogion ac aelodau cyswllt a benodir gan Weinidogion Cymru neu gan IGDC gan weithredu â chydsyniad Gweinidogion Cymru – diswyddo11

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—

a

yn aelod nad yw’n swyddog;

b

yn aelod cyswllt gan Weinidogion Cymru neu gan IGDC yn unol â rheoliad 3(6)(a).

2

Caiff Gweinidogion Cymru, neu IGDC os yw wedi gwneud y penodiad, drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod, ddiswyddo’r person hwnnw os ydynt wedi eu bodloni, neu os yw wedi ei fodloni—

a

nad yw er budd IGDC neu’r gwasanaeth iechyd i’r person hwnnw barhau i ddal swydd,

b

nad yw’r person yn addas i fod yn aelod o IGDC neu ei fod yn anfodlon arfer swyddogaethau aelod o IGDC neu nad yw’n gallu gwneud hynny,

c

bod y person yn peidio â bod yn gymwys i fod yn aelod nad yw’n swyddog o dan reoliad 9(3), neu

d

bod y person wedi ei anghymhwyso o dan reoliad 10 rhag dal swydd neu ei fod wedi ei anghymhwyso adeg ei benodi.

Aelodau nad ydynt yn swyddogion ac aelodau cyswllt a benodir gan Weinidogion Cymru neu gan IGDC gan weithredu â chydsyniad Gweinidogion Cymru – atal dros dro12

1

Caiff Gweinidogion Cymru, neu IGDC os yw wedi gwneud y penodiad, atal person dros dro tra bo’n ystyried pa un ai i ddiswyddo’r person hwnnw o dan reoliad 11.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru, neu IGDC os yw wedi gwneud y penodiad, roi hysbysiad o’r penderfyniad i atal person dros dro yn unol â thelerau’r penodiad.

3

Ni chaiff person y mae ei benodiad wedi ei atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod yn ystod y cyfnod atal dros dro.

Aelod sy’n swyddog – diswyddo ac atal dros dro13

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn aelod sy’n swyddog.

2

Caiff yr aelodau nad ydynt yn swyddogion ddiswyddo’r person hwnnw, drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod, os ydynt wedi eu bodloni nad yw er budd IGDC neu’r gwasanaeth iechyd i’r person hwnnw barhau i ddal swydd.

3

Caiff yr aelodau nad ydynt yn swyddogion atal y person hwnnw dros dro, drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r aelod, os yw’n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer ym mharagraff (2).

4

Ni chaiff person y mae ei benodiad wedi ei atal dros dro o dan baragraff (3) gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod yn ystod y cyfnod atal dros dro.

Aelod cyswllt yr undebau llafur – diswyddo ac atal dros dro14

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i aelod cyswllt a benodir gan yr aelodau nad ydynt yn swyddogion yn unol â rheoliad 3(6)(b).

2

Caiff yr aelodau nad ydynt yn swyddogion ddiswyddo’r person hwnnw, drwy hysbysiad ysgrifenedig, os ydynt wedi eu bodloni nad yw’r person yn addas i fod yn aelod o IGDC neu nad yw’n fodlon arfer swyddogaethau aelod o IGDC neu nad yw’n gallu gwneud hynny.

3

Caiff yr aelodau nad ydynt yn swyddogion atal person dros dro, drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r person hwnnw, os yw’n ymddangos i’r aelodau nad ydynt yn swyddogion y gall fod sail dros arfer y pŵer ym mharagraff (2).

4

Mae aelod cyswllt yn peidio â dal swydd os yw’r aelod yn peidio â bod yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt o dan reoliad 4(4).

5

Ni chaiff person y mae ei benodiad wedi ei atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod yn ystod y cyfnod atal dros dro.

RHAN 5Y weithdrefn

Pwerau’r is-gadeirydd yn absenoldeb y cadeirydd15

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

a

os yw’r cadeirydd wedi ei atal dros dro o dan reoliad 12,

b

os yw swydd y cadeirydd yn wag dros dro am unrhyw reswm, neu

c

os nad yw’r cadeirydd yn gallu cyflawni dyletswyddau’r cadeirydd, neu os nad yw’n fodlon gwneud hynny, oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw reswm arall.

2

Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae’r is-gadeirydd i weithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu hyd nes bod y cadeirydd presennol yn ailafael yn nyletswyddau’r cadeirydd.

Penodi pwyllgorau ac is-bwyllgorau16

1

Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, caiff IGDC—

a

sefydlu pwyllgorau ac is-bwyllgorau;

b

ar y cyd ag un neu ragor o Awdurdodau Iechyd Arbennig, sefydlu cyd-bwyllgorau neu gyd-is-bwyllgorau;

sy’n cynnwys yn llawn neu’n rhannol bersonau nad ydynt yn aelodau o IGDC.

2

Rhaid i IGDC sefydlu unrhyw bwyllgorau, is-bwyllgorau, cyd-bwyllgorau a chyd-is-bwyllgorau o’r fath y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) os ydynt yn cael eu cyfarwyddo i wneud hynny gan Weinidogion Cymru.

Trefniadau ar gyfer arfer swyddogaethau17

1

Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, caiff IGDC wneud trefniadau ar gyfer arfer unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gan bwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu gyd-is-bwyllgor a benodir o dan reoliad 16, neu gan swyddog IGDC, yn ddarostyngedig i’r cyfyngiadau a’r amodau hynny y mae IGDC yn meddwl eu bod yn addas.

2

Nid yw trefniant o dan baragraff (1) yn effeithio ar gyfrifoldeb IGDC i arfer swyddogaeth ddirprwyedig neu ei allu i wneud hynny.

Cyfarfodydd a thrafodion18

1

Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, rhaid i IGDC wneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoli ei drafodion a’i fusnes.

2

Pan fo pwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu is-gyd-bwyllgor wedi ei sefydlu yn unol â rheoliad 16, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru, rhaid i IGDC gymeradwyo unrhyw reolau sefydlog a wneir gan y pwyllgor, is-bwyllgor, cyd-bwyllgor neu is-gyd-bwyllgor hwnnw.

RHAN 6Cyfrifon ac Adroddiadau

Adroddiadau19

1

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i IGDC—

a

llunio adroddiad blynyddol ynghylch sut y mae wedi cyflawni ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn honno, a

b

anfon copi o’r adroddiad hwnnw at Weinidogion Cymru cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol honno.

2

Rhaid i IGDC—

a

cyflwyno unrhyw adroddiadau eraill i Weinidogion Cymru yn y modd ac ar yr adeg a gyfarwyddir gan Weinidogion Cymru, a

b

darparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani o bryd i’w gilydd.

Cyfrifon20

Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i IGDC—

a

llunio cyfrifon a chadw cofnodion mewn perthynas â’r cyfrifon hynny, a

b

llunio datganiad o gyfrifon;

yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru.

Vaughan GethingY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

YR ATODLENANGHYMHWYSO

Rheoliad 10

Euogfarnau troseddol1

1

Mae’r person wedi ei euogfarnu o fewn y cyfnod o 5 mlynedd yn union cyn dyddiad y penodiad arfaethedig, neu ar unrhyw adeg yn ystod ei gyfnod swydd yn cael ei euogfarnu—

a

yn y Deyrnas Unedig o unrhyw drosedd, neu

b

y tu allan i’r Deyrnas Unedig o drosedd a fyddai, pe bai wedi ei chyflawni yn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig, yn drosedd yn y rhan honno;

ac, yn y naill achos neu’r llall, canlyniad terfynol yr achos oedd dedfryd o garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio) am gyfnod o ddim llai na 3 mis heb yr opsiwn o dalu dirwy.

2

At ddibenion y paragraff hwn, bernir mai’r dyddiad euogfarnu yw’r dyddiad y mae’r cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais mewn cysylltiad â’r euogfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o’r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu’r cais, neu’r dyddiad y rhoddir y gorau i’r apêl neu’r cais, neu’r dyddiad y mae’r apêl yn methu am na chafodd ei dwyn yn ei blaen neu’r dyddiad y mae’r cais yn methu am na chafodd ei ddwyn yn ei flaen.

Methdaliad2

1

Mae’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn cyfyngu methdaliad interim neu wedi gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr.

2

Pan fo person wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1)—

a

os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai’r person fod wedi cael ei ddyfarnu’n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu’n llawn, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod ar ddyddiad y diddymiad,

b

os caiff y person ei ryddhau o fethdaliad, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod ar ddyddiad y rhyddhau,

c

os telir dyledion y person yn llawn, ac yntau wedi gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod ar y dyddiad y telir y dyledion hynny yn llawn, a

d

os yw cyfnod o 5 mlynedd, ar ôl gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr, wedi dod i ben o’r dyddiad y cyflawnwyd telerau’r compównd neu’r trefniant, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n aelod.

Diswyddo o gorff gwasanaeth iechyd3

1

Mae’r person wedi ei ddiswyddo fel aelod, ac eithrio am fod y swydd wedi ei dileu, neu gontract tymor penodol heb ei adnewyddu, o gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd.

2

Caiff person sydd wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1), ar ôl i gyfnod o 2 flynedd ddod i ben o ddyddiad y diswyddiad, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu’r anghymhwysiad hwnnw.

3

Pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i ddileu anghymhwysiad o dan is-baragraff (2), nid yw’r person wedi ei anghymwyso mwyach at ddiben yr Atodlen hon.

4

Os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais person o dan is-baragraff (2), ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn i’r cyfnod o 2 flynedd ddod i ben gan ddechrau â dyddiad cais diwethaf y person.

5

At ddiben y paragraff hwn, nid yw person i’w drin fel pe bai wedi ei gyflogi am dâl a hynny dim ond oherwydd ei fod—

a

yn achos corff gwasanaeth iechyd nad yw’n ymddiriedolaeth GIG neu’n ymddiriedolaeth sefydledig GIG (ac eithrio grŵp comisiynu clinigol), yn gadeirydd, yn is-gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog o’r corff,

b

yn achos ymddiriedolaeth GIG, yn gadeirydd, yn is-gadeirydd neu’n gyfarwyddwr anweithredol i’r ymddiriedolaeth,

c

yn achos ymddiriedolaeth sefydledig GIG, yn gadeirydd, yn llywodraethwr neu’n gyfarwyddwr anweithredol i’r ymddiriedolaeth, neu

d

yn achos grŵp comisiynu clinigol, yn gadeirydd neu’n aelod o’r corff llywodraethu.

6

Yn is-baragraff (5)(a), ystyr “aelod nad yw’n swyddog” yw aelod o gorff gwasanaeth iechyd nad yw’n cael ei gyflogi gan y corff.

Terfynu aelodaeth o gorff gwasanaeth iechyd4

1

Mae—

a

aelodaeth y person fel cadeirydd, is-gadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd wedi ei therfynu, ac eithrio am fod y swydd wedi ei dileu, oherwydd ymddiswyddiad gwirfoddol neu ad-drefnu’r corff gwasanaeth iechyd, neu am fod cyfnod y swydd y penodwyd y person amdano wedi dod i ben, neu

b

y person wedi ei ddiswyddo fel cadeirydd neu aelod o gorff llywodraethu grŵp comisiynu clinigol.

2

Os yw person wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1), bydd yr anghymhwysiad yn peidio â chael effaith pan ddaw 2 flynedd i ben gan ddechrau ar y dyddiad y terfynir tymor y penodiad neu unrhyw gyfnod hwy a bennwyd gan y corff a derfynodd aelodaeth y person.

3

Caiff Gweinidogion Cymru, pan wneir cais iddynt gan y person a anghymhwyswyd, leihau cyfnod yr anghymhwysiad a grybwyllir yn is-baragraff (2).

4

Pan fo cyfnod yr anghymhwysiad o dan is-baragraff (2) yn dod i ben, nid yw’r person wedi ei anghymhwyso mwyach at ddiben yr Atodlen hon.

Vaughan GethingMinister for Health and Social Services, one of the Welsh Ministers
NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch aelodaeth a gweithdrefn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (“IGDC”). Mae IGDC yn Awdurdod Iechyd Arbennig sydd wedi ei sefydlu o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 gan Orchymyn Iechyd a Gofal Digidol Cymru (Sefydlu ac Aelodaeth) 2020.

Yn benodol, mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn darparu’r weithdrefn ar gyfer penodi swydd y cadeirydd, yr is-gadeirydd, y prif swyddog ac aelodau eraill o IGDC (rheoliadau 3, 4 a 5). Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch tymor swydd y penodiadau hynny (rheoliadau 6, 7 ac 8). Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chymhwystra aelodau a’u hanghymhwyso (rheoliadau 9 a 10) ac atal aelodau dros dro a’u diswyddo (rheoliadau 11, 12, 13 a 14).

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch gweithdrefnau IGDC, gan gynnwys pwerau is-gadeirydd yn absenoldeb y cadeirydd (rheoliad 15) a phenodi pwyllgorau, is-bwyllgorau, cyd-bwyllgorau a chyd-is-bwyllgorau ac arfer swyddogaethau ganddynt (rheoliadau 16 a 17). Mae darpariaeth wedi ei gwneud hefyd mewn perthynas â chynnal cyfarfodydd a thrafodion (rheoliad 18). Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i IGDC lunio a chadw cyfrifon a llunio adroddiadau a’u rhoi i Weinidogion Cymru (rheoliadau 19 ac 20).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.