- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
am 3.52 p.m. ar 8 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 6.00 p.m. ar 8 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym
10 Rhagfyr 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45B, 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 3) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym 10 Rhagfyr 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
(a)ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(2), a
(b)ystyr “Rheoliadau Rhif 4” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) 2020(3).
2. Yn y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol—
(a)yn y mannau a ganlyn, yn lle “14” rhodder “10” (gan dreiglo yn ôl yr angen)—
(i)rheoliad 3(1)(b)(ii);
(ii)rheoliad 7(1)(b)(ii);
(iii)rheoliad 8(1)(b);
(iv)Atodlen 1, paragraff 2(ia);
(v)Atodlen 2, paragraffau 2(1)(a), 3(1)(b), 4(a), a 38(2)(c);
(b)yn rheoliad 10(4), ar ôl paragraff (e) mewnosoder—
“(ea)pan fo P yn blentyn nad yw’n byw ar yr un aelwyd â rhieni P, neu ag un o rieni P, i barhau â threfniant sydd eisoes yn bodoli er mwyn cael mynediad at, a chyswllt rhwng, P a rhieni P, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i P, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros P, neu sy’n gofalu amdano;”
(c)yn rheoliad 12, yn lle “14 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar” rhodder “10 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl”.
3.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan, yn union cyn 10 Rhagfyr 2020—
(a)oedd person (“P”) yn ddarostyngedig i ofyniad i ynysu, a
(b)byddai diwrnod olaf ynysiad P, oni bai am baragraff (2), yn 10 Rhagfyr 2020 neu wedi hynny.
(2) Mae rheoliad 12 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gymwys i P fel pe bai “10 niwrnod sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl” wedi ei roi yn lle “14 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar”.
(3) Ym mharagraff (1)—
(a)mae i “gofyniad i ynysu” yr ystyr a roddir gan reoliad 10(2) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, a
(b)mae’r cyfeiriad at ddiwrnod olaf ynysiad P i’w ddehongli yn unol â rheoliad 12 o’r Rheoliadau hynny.
4.—(1) Mae Rheoliadau Rhif 4 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 11—
(a)ym mharagraff (4), yn lle “â” rhodder “â’r diwrnod ar ôl”;
(b)ym mharagraff (5), ar ôl “dechrau â’r” mewnosoder “diwrnod ar ôl y”.
(3) Yn rheoliad 12—
(a)ym mharagraff (4), yn lle “â” rhodder “â’r diwrnod ar ôl”;
(b)ym mharagraff (5), ar ôl “dechrau â’r” mewnosoder “diwrnod ar ôl y”.
(4) Yn rheoliad 13—
(a)ym mharagraff (4), yn lle “14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r” rhodder “10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y”;
(b)ym mharagraff (5)—
(i)yn is-baragraff (a), yn lle “14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r” rhodder “10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y”;
(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â” rhodder “10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl”.
(5) Yn rheoliad 14—
(a)ym mharagraff (4), yn lle “14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r” rhodder “10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y”;
(b)ym mharagraff (5)—
(i)yn is-baragraff (a), yn lle “14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r” rhodder “10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y”;
(ii)yn is-baragraff (b), yn lle “14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â” rhodder “10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl”.
(6) Yn rheoliad 15(2), ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—
“(i)pan fo’r person yn blentyn nad yw’n byw ar yr un aelwyd â rhieni’r plentyn, neu ag un o rieni’r plentyn, parhau â threfniant sydd eisoes yn bodoli er mwyn cael mynediad at, a chyswllt rhwng, y plentyn a rhieni’r plentyn, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn, mae “rhiant” yn cynnwys person nad yw’n rhiant i’r plentyn, ond sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu sy’n gofalu amdano.”
(7) Yn rheoliad 18(2)(a), hepgorer paragraff (iv).
5. Darpariaeth drosiannol mewn cysylltiad â rheoliad 4 Pan fo person, yn union cyn 10 Rhagfyr 2020, yn ddarostyngedig i ofyniad yn rheoliad 11(2), 12(2), 13(2) neu 14(2) o Reoliadau Rhif 4, mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys i’r person sy’n ddarostyngedig i’r diwygiadau a wneir yn rheoliad 4 o 10 Rhagfyr 2020.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 3.52 p.m. ar 8 Rhagfyr 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1219 (Cy. 276)) (“Rheoliadau Rhif 4”).
Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor. Maent yn cynnwys gofyniad i bersonau sy’n cyrraedd Cymru ynysu am gyfnod i’w bennu yn unol â’r Rheoliadau. Mae gofynion y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn ddarostyngedig i eithriadau, ac mae categorïau penodol o bersonau wedi eu hesemptio rhag gorfod cydymffurfio. Nid yw’n ofynnol i bersonau sy’n dod i Gymru ynysu ar ôl bod mewn un neu ragor o’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae rheoliad 2 yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn lleihau’r cyfnod pan fo’n ofynnol i berson ynysu o 14 o ddiwrnodau i 10 niwrnod.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol sydd â’r effaith na fydd ond yn ofynnol i berson sy’n ddarostyngedig i ofyniad i ynysu o dan y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ynysu am 10 niwrnod, pan ddaw’r diwygiadau yn rheoliad 2 i rym. Os yw’r person eisoes wedi mynd heibio 10fed diwrnod ei ynysiad ar y pwynt hwnnw, caiff roi’r gorau i ynysu ar unwaith.
Mae rheoliad 4 yn diwygio Rheoliadau Rhif 4 er mwyn—
(a)darparu bod cyfnod ynysu person yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y digwyddiad sy’n sbarduno’r gofyniad (er enghraifft – prawf positif, y diwrnod cyntaf y profir symptomau, neu’r diwrnod pan ddaethpwyd i gysylltiad agos â person sydd wedi cael prawf positif);
(b)darparu bod rhaid i berson sy’n ddarostyngedig i ofyniad i ynysu o dan reoliad 13 neu 14 o Reoliadau Rhif 4 o ganlyniad i fod wedi dod i gysylltiad agos â pherson sydd wedi cael prawf positif am y coronafeirws ynysu am 10 niwrnod yn hytrach na 14 o ddiwrnodau;
(c)caniatáu i blentyn y mae’n ofynnol iddo ynysu o dan reoliad 12 neu 14 o Reoliadau Rhif 4 symud rhwng aelwydydd ei rieni yn ystod y cyfnod ynysu os yw hyn yn cyd-fynd â threfniadau sydd eisoes yn bodoli yn ymwneud â gwarchodaeth a chyswllt â rhieni’r plentyn;
(d)hepgor y gallu i swyddog olrhain cysylltiadau ddatgelu gwybodaeth am gosbau penodedig neu achosion troseddol a ddygir mewn perthynas â chyflawni trosedd o dorri’r gofynion a osodir gan ddarpariaethau Rheoliadau Rhif 4 yn ymwneud â gofynion ynysu (nid yw’r wybodaeth honno ar gael i swyddogion olrhain cysylltiadau felly nid oedd angen y ddarpariaeth hon).
Mae rheoliad 5 yn darparu bod person sy’n ddarostyngedig i ofyniad i ynysu o dan Reoliadau Rhif 4 pan ddaw’r diwygiadau yn rheoliad 4(2) i rym yn ddarostyngedig i’r gofynion hynny fel y’u diwygir gan reoliad 4(2). Er enghraifft, os yw’r person yn ynysu am gyfnod o 14 o ddiwrnodau caiff y cyfnod hwnnw ei ostwng i 10 niwrnod pan ddaw’r diwygiadau i rym. Os yw’r person eisoes wedi mynd heibio 10fed diwrnod ei ynysiad ar y pwynt hwnnw, caiff roi’r gorau i ynysu ar unwaith.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2020/574 (Cy. 132) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/595 (Cy. 136), O.S. 2020/714 (Cy. 160), O.S. 2020/726 (Cy. 163), O.S. 2020/804 (Cy. 177), O.S. 2020/817 (Cy. 179), O.S. 2020/840 (Cy. 185), O.S. 2020/868 (Cy. 190), O.S. 2020/886 (Cy. 196), O.S. 2020/917 (Cy. 205), O.S. 2020/944 (Cy. 210), O.S. 2020/962 (Cy. 216), O.S. 2020/981 (Cy. 220), O.S. 2020/1015 (Cy. 226), O.S. 2020/1042 (Cy. 231), O.S. 2020/942, O.S. 2020/1080 (Cy. 243), O.S. 2020/1098 (Cy. 249), O.S. 2020/1133 (Cy. 258), O.S. 2020/1165 (Cy. 263), O.S. 2020/1191 (Cy. 269), O.S. 2020/1223 (Cy. 277), O.S. 2020/1232 (Cy. 278), O.S. 2020/1237 (Cy. 279), O.S. 2020/1288 (Cy. 286), O.S. 2020/1329 (Cy. 295) ac O.S. 2020/1362 (Cy. 301).
O.S. 2020/1219 (Cy. 276) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/1237 (Cy. 279), O.S. 2020/1288 (Cy. 286) ac O.S. 2020/1409 (Cy. 311).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: