Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
am 8.00 p.m. ar 11 Rhagfyr 2020
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 4.52 p.m. ar 11 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym
ar 14 Rhagfyr 2020
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Rhagfyr 2020.
2.—(1) Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7(2)(c)—
(a)ym mharagraff (i), ar ôl “ffilm” mewnosoder “mewn sinema o sedd cerbyd”;
(b)ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—
“(ia)perfformiad mewn theatr o sedd cerbyd;”.
(3) Yn rheoliad 19, hepgorer paragraff (1A).
(4) Yn rheoliad 47, ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
“(4A) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae mangre sinema neu theatr yn sinema neu’n theatr o sedd cerbyd—
(a)os yw’r fangre yn yr awyr agored, a
(b)o ran personau sy’n mynd i arddangosiad ffilm neu berfformiad yn y fangre—
(i)ni chaniateir iddynt ond gwneud hynny mewn cerbyd caeedig, a
(ii)ni chaniateir iddynt, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, adael y cerbyd tra byddant yn y fangre.”
(5) Yn Atodlen 1—
(a)ym mharagraff 3, ar ôl “Theatrau” mewnosoder “ac eithrio theatrau o sedd cerbyd”;
(b)ym mharagraff 6, ar ôl “arcedau diddanu” mewnosoder “, parciau a chanolfannau trampolîn, parciau a chanolfannau sglefrio o dan do”;
(c)ym mharagraff 8, ar ôl “Sinemâu” mewnosoder “ac eithrio sinemâu o sedd cerbyd”.
Mark Drakeford
Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
Am 4.52 p.m. ar 11 Rhagfyr 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru. Mae’r Rheoliadau yn gosod gofynion a chyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1219 (Cy. 276)) (y “prif Reoliadau”) er mwyn—
(a)ei gwneud yn ofynnol i bob sinema, ffair, parc difyrrwch, parc thema, amgueddfa, oriel ac atyniad ymwelwyr, boed o dan do neu yn yr awyr agored, fod ar gau;
(b)egluro bod yn rhaid i barciau a chanolfannau trampolîn a pharciau a chanolfannau sglefrio o dan do fod ar gau;
(c)(er gwaethaf y gofynion ar fangreoedd busnes penodol i fod ar gau) caniatáu i sinemâu a theatrau o sedd cerbyd agor yn ddarostyngedig i’r gofyniad yn y prif Reoliadau fod pob mesur rhesymol yn cael ei gymryd ar fangreoedd busnes i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.
O.S. 2020/1219 (Cy. 276) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2020/1237 (Cy. 279), O.S. 2020/1288 (Cy. 286), O.S. 2020/1409 (Cy. 311) ac O.S. 2020/1477 (Cy. 316).