2020 Rhif 1556 (Cy. 328)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt—

a

mewn perthynas â Rhan 1, gan y darpariaethau a grybwyllir ym mharagraffau (b) ac (c);

b

mewn perthynas â Rhannau 2, 3 a 4, gan baragraffau 2(1), 3(1) a (2), a 4(1) a (2) o Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 20201;

c

mewn perthynas â Rhannau 5 a 6, gan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20182 (“Deddf 2018”).

Mewn perthynas â Rhannau 5 a 6, mae’r gofyniad ym mharagraff 4(a) o Atodlen 2 (sy’n ymwneud ag ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol) i Ddeddf 2018 wedi ei fodloni.

Yn unol ag adran 50(6)(c) ac (8) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, a pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i Ddeddf 2018, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.

2

Maent yn dod i rym fel a ganlyn—

a

ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer gan is-baragraff (b), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

b

mae Rhannau 1, 5 a 6 a rheoliad 7(4) yn dod i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 2Taliadau Uniongyrchol: Deddfwriaeth Lorweddol

Diwygio Rheoliad (EU) Rhif 1306/20132

1

Mae Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin3 wedi ei ddiwygio, i’r graddau y mae’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol, fel a ganlyn.

2

Yn lle Erthygl 2(1)(m) rhodder—

m

“appropriate authority” means the relevant authority for the constituent nation in which the regulations apply.

3

Yn Erthygl 12—

a

yn lle “must” rhodder “may”;

b

yn lle “shall”, yn yr ail frawddeg, rhodder “may”;

c

yn lle’r drydedd frawddeg rhodder—

That system may cover the maintenance of the agricultural area as referred to in point (c) of Article 4(1) of Regulation (EU) No. 1307/2013.

4

Hepgorer Erthygl 26.

5

Yn Erthygl 54—

a

ym mharagraff 1, hepgorer “within 18 months”;

b

ym mharagraff 3(a)—

i

ym mhwynt (i), yn lle “EUR 100” rhodder “£100”;

ii

ym mhwynt (ii)—

aa

yn lle “EUR 100” rhodder “£100”;

bb

yn lle “EUR 250” rhodder “£250”.

6

Hepgorer Erthygl 55.

7

Yn Erthygl 67—

a

ym mharagraff 4(a), ar ôl “continuous area of land” mewnosoder “within Wales”;

b

ym mharagraff 4(b), hepgorer “the payment for agricultural practices beneficial for the climate and the environment referred to in Chapter 3 of Title III of Regulation (EU) No 1307/2013;”.

8

Yn Erthygl 69—

a

hepgorer brawddeg derfynol paragraff 1;

b

hepgorer paragraff 2.

9

Yn Erthygl 70—

a

ym mharagraff 1—

i

hepgorer “and, as from 2016, at a scale of 1: 5 000,”;

ii

hepgorer yr ail is-baragraff;

b

hepgorer paragraff 2.

10

Hepgorer Erthygl 71(2).

11

Yn Erthygl 75—

a

ym mharagraff 1, ar ôl “calendar year” mewnosoder “or in cases where it has not been possible to complete the verification of eligibility conditions by 30 June, upon completion.”;

b

ym mharagraff 1(a)—

i

hepgorer “but not before 16 October”;

ii

ar ôl “direct payments” mewnosoder “before the verification of eligibility conditions, to be carried out by the relevant authority pursuant to Article 74, has been finalised”;

c

ym mharagraff 2, ar ôl “paragraph 1” mewnosoder “(excluding advances for direct payments under paragraph 1(a))”.

12

Hepgorer Erthygl 77(6).

13

Yn Erthygl 91—

a

hepgorer ail is-baragraff paragraff 2;

b

ym mharagraff 3(a), yn lle “the United Kingdom” rhodder “Wales”.

14

Yn nheitl Erthygl 94, hepgorer “of Member States”.

15

Yn Erthygl 97(3), yn lle “EUR 100” rhodder “£100”.

16

Hepgorer Erthyglau 105 a 106.

17

Hepgorer Erthygl 108.

18

Hepgorer is-baragraff terfynol Erthygl 111(1).

19

Yn Erthygl 112, yn yr is-baragraff cyntaf, yn lle’r geiriau o “the Funds” hyd at y diwedd, rhodder “received in one year by a beneficiary is equal to or less than £1250.”

20

Yn Atodiad II, yn y rhes “Landscape, minimum level of maintenance”, yn y bedwaredd golofn, ar ôl “measures for avoiding invasive plant species” mewnosoder—

. Restrictions on converting, ploughing or reseeding environmentally sensitive permanent grassland.

Diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 640/20143

1

Mae Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 640/2014 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system integredig gweinyddu a rheoli a’r amodau ar gyfer gwrthod taliadau neu eu tynnu yn ôl a chosbau gweinyddol sy’n gymwys i daliadau uniongyrchol, cymorth ar gyfer datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio4, wedi ei ddiwygio, i’r graddau y mae’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol, fel a ganlyn.

2

Yn Erthygl 2(1), yn lle pwynt (22) rhodder—

22

‘use’ in relation to area means the use of area in terms of the type of permanent grassland as defined in Article 4(1)(h) of Regulation (EU) No. 1307/2013, or areas of grassland, other than permanent grassland, or ground cover or the absence of a crop;

3

Yn Erthygl 5(2)—

a

hepgorer pwynt (c);

b

ym mhwynt (d), hepgorer y geiriau o “areas designated” hyd at y diwedd.

4

Yn Erthygl 6—

a

yn lle paragraff 1 rhodder—

1

The relevant authority shall annually assess the quality of the identification system for agricultural parcels. Where the results of the quality assessment reveal deficiencies in the system, the relevant authority shall take appropriate remedial action.

b

yn lle paragraff 2 rhodder—

2

The relevant authority shall perform the assessment referred to in paragraph 1 on the basis of a sample of reference parcels.

c

ym mharagraff 3, hepgorer “by 31 January 2021”.

5

Yn Erthygl 7(1), hepgorer “at United Kingdom level”.

6

Hepgorer is-baragraff terfynol Erthygl 9(3).

7

Hepgorer Erthygl 10.

8

Yn Erthygl 13—

a

hepgorer ail is-baragraff paragraff 1;

b

ar ôl is-baragraff terfynol paragraff 1 mewnosoder—

All documents in support of an aid application, must be submitted by 31 December of that calendar year.

c

yn ail is-baragraff paragraff 3, yn lle “third” rhodder “second”.

9

Hepgorer ail is-baragraff Erthygl 16(1).

10

Yn Erthygl 18(2), hepgorer “and (8)”.

11

Yn Erthygl 19a—

a

yn lle paragraff 2 rhodder—

2

The administrative penalty referred to in paragraph 1 shall be reduced by 50% if the difference between the area declared and the area determined does not exceed 10% of the area determined.

b

hepgorer paragraffau 3 a 4.

12

Hepgorer Erthyglau 22 i 29.

13

Hepgorer brawddeg derfynol Erthygl 38(1).

Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/20144

1

Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system integredig gweinyddu a rheoli, mesurau datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio5, wedi ei ddiwygio, i’r graddau y mae’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol, fel a ganlyn.

2

Hepgorer Erthygl 2.

3

Hepgorer ail baragraff Erthygl 4.

4

Yn Erthygl 6—

a

ym mharagraff 2(f)(v), yn lle “national” rhodder “total”;

b

hepgorer paragraff 3(b).

5

Yn Erthygl 14(1), hepgorer pwynt (h).

6

Yn Erthygl 15—

a

hepgorer paragraff 1b;

b

ym mharagraff 2—

i

yn yr ail is-baragraff, yn lle “Member States” rhodder “the relevant authority”;

ii

yn y trydydd is-baragraff, hepgorer y geiriau o “the payment for agricultural practices” hyd at “Regulation (EU) No. 1307/2013 or”;

c

hepgorer paragraff 2b;

d

ym mharagraff 3, hepgorer yr ail is-baragraff.

7

Yn Erthygl 17—

a

hepgorer paragraff 2;

b

yn ail is-baragraff paragraff 4, hepgorer y frawddeg derfynol;

c

yn lle paragraff 5 rhodder—

5

The beneficiary shall unambiguously identify and declare the area of each agricultural parcel.

d

hepgorer paragraff 6.

8

Hepgorer Erthygl 18.

9

Yn Erthygl 25, hepgorer “and shall not exceed 14 days”.

10

Hepgorer Erthygl 26(4).

11

Hepgorer ail a thrydydd paragraff Erthygl 27.

12

Yn Erthygl 29(1)(d), yn lle “(6)” rhodder “(4)”.

13

Ym mhennawd Erthygl 30, hepgorer “other than the payment for agricultural practices beneficial for the climate and environment”.

14

Yn lle Erthygl 30 rhodder—

For area-related aid schemes the control sample for on-the-spot checks carried out each year shall cover at least:

a

3% of all beneficiaries applying for the basic payment scheme in accordance with Title III of Regulation (EU) No. 1307/2013 (which includes the redistributive payment, and the payment for young farmers); and

b

5% of all beneficiaries applying for area-related payments under voluntary coupled support in accordance with Chapter 1 of Title IV of Regulation (EU) No 1307/2013.

15

Hepgorer Erthygl 31.

16

Yn lle Erthygl 33 rhodder—

For animal aid schemes, the control sample for on-the-spot checks carried out each year shall for each of the aid schemes cover at least 5% of all beneficiaries applying for that respective aid scheme.

17

Hepgorer Erthygl 33a.

18

Yn Erthygl 34—

a

yn lle paragraff 2 rhodder—

2

For the purposes of Article 30, the sample selection shall ensure that:

a

a proportion of the control population is selected randomly;

b

the remaining number of beneficiaries in the control sample is selected on the basis of a risk analysis.

b

hepgorer paragraffau 3, 4 a 4a;

c

ym mharagraff 5—

i

yn lle “shall” rhodder “may”;

ii

ym mhwynt (d) ar ôl “that” mewnosoder “may”.

19

Yn Erthygl 36—

a

ym mharagraff 2—

i

hepgorer “and (b)”;

ii

yn lle “3%” rhodder “1%”;

b

ym mharagraff 3—

i

hepgorer “and (b)”;

ii

hepgorer yr ail, trydydd a phedwerydd is-baragraff;

c

ym mharagraff 5—

i

yn lle “2, 3 and 4” rhodder “2 and 3”;

ii

hepgorer “and (b)”.

20

Hepgorer Erthygl 37(3).

21

Yn Erthygl 38—

a

hepgorer y frawddeg derfynol ym mharagraff 5;

b

hepgorer paragraff 6;

c

hepgorer paragraff 9;

d

ym mharagraff 10, hepgorer “or permanent pastures”.

22

Yn Erthygl 39—

a

hepgorer brawddeg gyntaf paragraff 2;

b

hepgorer paragraff 3.

23

Hepgorer Erthygl 40a.

24

Yn Erthygl 41—

a

hepgorer is-baragraff terfynol paragraff 1;

b

yn is-baragraff terfynol paragraff 2—

i

hepgorer “or by means of monitoring in accordance with Article 40a,”;

ii

hepgorer “or by monitoring” yn y ddau le y mae’n digwydd;

iii

hepgorer y frawddeg derfynol.

25

Yn Erthygl 42(1), yn yr ail is-baragraff—

a

hepgorer “at least 50% of”;

b

yn lle “shall”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “may”.

26

Hepgorer Erthygl 44.

27

Yn Erthygl 68—

a

ym mharagraff 1—

i

yn yr is-baragraff cyntaf, hepgorer “, as it has effect in EU law”;

ii

hepgorer yr ail is-baragraff;

b

ym mharagraff 4, yn lle “shall” rhodder “may”.

28

Yn Erthygl 69(1), hepgorer brawddeg derfynol yr is-baragraff cyntaf.

29

Yn Erthygl 70—

a

ym mharagraff 3, hepgorer y geiriau o “or by using” hyd at “equivalent value”;

b

hepgorer paragraff 4.

30

Hepgorer Erthyglau 70a a 70b.

31

Yn Erthygl 72—

a

hepgorer is-baragraff terfynol paragraff 1;

b

ym mharagraff 2, hepgorer “checked by monitoring in accordance with Article 70a,”;

c

ym mharagraff 3, hepgorer y frawddeg derfynol yn yr is-baragraff cyntaf;

d

ym mharagraff 4, hepgorer ail frawddeg yr is-baragraff cyntaf.

Diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 907/20145

Yn Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 907/2014 dyddiedig 11 Mawrth 2014 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran asiantaethau talu a chyrff eraill, rheolaeth ariannol, clirio cyfrifon, gwarannau a defnyddio’r ewro6, hepgorer Erthygl 11, i’r graddau y mae’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol.

Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 908/20146

1

Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 908/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran asiantaethau talu a chyrff eraill, rheolaeth ariannol, clirio cyfrifon, rheolau ar wiriadau, gwarannau a thryloywder7 wedi ei ddiwygio, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r taliadau uniongyrchol, fel a ganlyn.

2

Yn Erthygl 4(1)—

a

hepgorer pwynt (i);

b

ym mhwynt (ii), hepgorer “on a single website”.

3

Hepgorer Erthygl 11.

4

Yn Erthygl 27(1), yn lle “EUR 5” rhodder “£5.00”.

5

Yn Erthygl 28—

a

hepgorer “established in accordance with national law”;

b

hepgorer y geiriau o “under direct” hyd at “Development”.

6

Yn lle Erthygl 41(1) rhodder—

1

The relevant authorities may decide to reduce the minimum level of on-the-spot checks in accordance with Article 59(5) of Regulation (EU) No 1306/2013. For the reduced control rate to apply, the paying agency must confirm that—

a

the internal control system is functioning correctly; and

b

the error rate for the population concerned was below the materiality threshold of 2.0%.

7

Yn Erthygl 58, yn lle “third” rhodder “second”.

8

Hepgorer Erthygl 62.

RHAN 3Taliadau Uniongyrchol: Deddfwriaeth Uniongyrchol a Ddargedwir

Diwygio Rheoliad (EU) Rhif 1307/20137

1

Mae Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin8 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn Erthygl 1, hepgorer pwynt (b)(iv).

3

Yn Erthygl 4—

a

ym mharagraff (1)—

i

ym mhwyntiau (a), (b) ac (i), yn lle “the United Kingdom”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Wales”;

ii

ym mhwynt (e), hepgorer “and permanent pasture”;

iii

ym mhwynt (g)—

aa

hepgorer “and permanent pasture”;

bb

yn lle “occupy” rhodder “occupies”;

iv

ym mhwynt (h), yn lle ““permanent grassland and permanent pasture” (together referred to as “permanent grassland”)” rhodder ““permanent grassland”” ;

v

yn lle pwynt (s) rhodder—

s

“appropriate authority” means the relevant authority for the constituent nation in which the regulations apply;

vi

ar ôl pwynt (s) mewnosoder—

t

“total ceiling” means the amount determined in accordance with Article 5A.

b

ym mharagraff 2, hepgorer yr is-baragraff terfynol.

4

Ar ôl Erthygl 5 mewnosoder—

Article 5AThe total ceiling for Wales

1

The Welsh Ministers must determine the total ceiling for Wales.

2

The Welsh Ministers must determine the total ceiling before the start of the relevant year.

3

The Welsh Ministers must publish the total ceiling as soon as practicable after they have determined it under paragraph 1.

4

The total ceiling, for any relevant year, must be distributed among all claimed payment entitlements, including the national reserve or the regional reserves, and ceilings set in accordance with Articles 42 and 51 and the amount allocated under Article 53.

5

In this Article, “relevant year” has the same meaning as in paragraph 3(4) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020.

5

Hepgorer Erthyglau 6, 7 a 7A.

6

Yn Erthygl 9—

a

hepgorer paragraffau 2 i 4;

b

hepgorer paragraff 5(b), (c) a (d);

c

hepgorer paragraffau 6 i 8.

7

Yn Erthygl 10(2), yn lle “EUR 100” rhodder “£100”.

8

Yn Erthygl 11—

a

ym mharagraff 1, yn lle “EUR 150 000” rhodder “£150,000”;

b

ym mharagraff 3—

i

hepgorer “of its share” yn y ddau le y mae’n digwydd;

ii

yn lle “annual national”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “total”.

9

Hepgorer Erthygl 14.

10

Yn Erthygl 22—

a

hepgorer paragraff 1;

b

yn lle paragraff 2 rhodder—

2

The basic payment scheme ceiling in Wales for any given year is the amount which remains for the basic payment scheme after deducting, from the total ceiling, the ceilings set in accordance with Articles 42 and 51 for that year, and the amount allocated under Article 53.

c

hepgorer paragraff 3;

d

yn lle paragraff 4 rhodder—

4

The total value of all claimed payment entitlements in the constituent nation must equal the basic payment scheme ceiling in Wales.

e

yn lle paragraff 5 rhodder—

5

If the ceiling calculated pursuant to paragraph 2 of this Article is different from the relevant authority’s share of the basic payment scheme ceiling in claim year 2020 as a result of any decision taken by the relevant authority, or the total value of all claimed payment entitlements (including those allocated and claimed from the national reserve or regional reserve) is different from the total value of claimed payment entitlements in claim year 2020, the relevant authority shall linearly reduce or increase the value of all claimed payment entitlements in order to ensure compliance with paragraph 4 of this Article.

11

Yn Erthygl 25—

a

hepgorer paragraffau 1 a 2;

b

hepgorer paragraff 8.

12

Yn Erthygl 30—

a

ym mharagraff 7—

i

hepgorer pwyntiau (a) a (b);

ii

ym mhwynt (e), yn lle “relevant authority’s share of the basic payment scheme ceiling” rhodder “basic payment scheme ceiling in Wales”;

iii

ym mhwynt (f), hepgorer “and Article 65(1), (2) and (3)”;

b

ym mharagraff 8—

i

yn yr ail is-baragraff, yn lle “relevant authority’s share of the basic payment scheme ceiling” rhodder “basic payment scheme ceiling in Wales”;

ii

hepgorer y trydydd is-baragraff;

c

ym mharagraff 11(a), hepgorer “(3) and”.

13

Hepgorer Erthygl 31(1)(h).

14

Yn Erthygl 32—

a

ym mharagraff 1—

i

hepgorer “of financial discipline,”;

ii

hepgorer “Article 7 and”;

b

hepgorer paragraff 5.

15

Yn Erthygl 34, hepgorer paragraff 4.

16

Yn Erthygl 35(1)—

a

ym mhwynt (g), hepgorer “and 7”;

b

hepgorer pwynt (h).

17

Yn Erthygl 41—

a

ym mharagraff 1, hepgorer y geiriau o “, provided that” hyd at y diwedd;

b

ym mharagraff 3—

i

hepgorer “of financial discipline,”;

ii

hepgorer “, of linear reductions as referred in Article 7”;

c

ym mharagraff 4, yn lle’r ail frawddeg rhodder—

The number of such payment entitlements or hectares shall not exceed a maximum level to be set by the relevant authority which shall not be higher than 54 hectares.

18

Yn Erthygl 42—

a

hepgorer “, by the date referred to in Article 41(1)”;

b

yn lle “its share of the annual national” rhodder “the total”.

19

Hepgorer Pennod 3 o Deitl III.

20

Yn Erthygl 50—

a

hepgorer paragraff 3;

b

ym mharagraff 4, hepgorer “of financial discipline,”;

c

hepgorer ail is-baragraff paragraff 5;

d

hepgorer paragraffau 8 a 10A.

21

Yn Erthygl 51—

a

yn is-baragraff cyntaf paragraff 1, yn lle “its share of the annual national” rhodder “the total”;

b

ym mharagraff 2, yn lle “relevant authority’s share of the national” rhodder “total”;

c

ym mharagraff 3, yn lle “its share of the annual national” rhodder “the total”.

22

Yn Erthygl 53—

a

yn lle paragraff 1 rhodder—

1

Up to 10% of the total ceiling may be used to finance the coupled support.

b

hepgorer paragraff 3;

c

ym mharagraff 5—

i

yn lle “percentages set out in paragraphs 1 to 4” rhodder “percentage set out in paragraph 1”;

ii

yn lle “EUR 3” rhodder “£3”;

d

hepgorer paragraff 6.

23

Yn Erthygl 71A—

a

ym mharagraff 1, yn lle “paragraphs 2” rhodder “paragraphs 3”;

b

hepgorer paragraff 2.

24

Yn Atodiad I, hepgorer y trydydd cofnod yn y tabl.

25

Yn Atodiad II, yn y pennawd, yn lle “Article 6” rhodder “Article 5A”.

26

Hepgorer Atodiadau III, IX a X.

Diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 639/20148

1

Mae Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 639/2014 dyddiedig 11 Mawrth 2014 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin9 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Hepgorer Erthygl 1(d).

3

Hepgorer Erthygl 8.

4

Hepgorer Erthyglau 11 i 13.

5

Hepgorer Erthygl 26.

6

Hepgorer Erthygl 29(4).

7

Hepgorer Erthygl 30(2).

8

Hepgorer Pennod 3.

9

Yn Erthygl 49(3)(a), hepgorer “,(8)”.

10

Yn Erthygl 53(2), yn yr ail is-baragraff, ym mhwyntiau (a) a (b), ar ôl “Annex I to this Regulation”, yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “as it had effect immediately before exit day”.

11

Yn Erthygl 53a, hepgorer paragraff 4.

12

Hepgorer Atodiad II.

Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 641/20149

1

Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 641/2014 dyddiedig 16 Mehefin 2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin10 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Hepgorer Atodlen 1(c).

3

Yn Erthygl 8(1), hepgorer “prior to exit day”.

4

Hepgorer Pennod 3.

RHAN 4Taliadau Uniongyrchol: Deddfwriaeth Ddomestig

Diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 201410

1

Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 201411 wedi eu diwygio, i’r graddau y maent yn ymwneud â thaliadau uniongyrchol, fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2, hepgorer paragraff (1A).

3

Yn rheoliad 5—

a

yn lle paragraff (2)(b) rhodder—

b

yn cynnwys datganiad gan Weinidogion Cymru o’r gyfradd am y cyfnod hwnnw;

b

hepgorer paragraff (3).

4

Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 15 mewnosoder—

Trosi, aredig neu ailhadu tir a ddynodwyd yn laswelltir parhaol amgylcheddol-sensitif16

1

Ni chaiff buddiolwr drosi, aredig neu ailhadu darnau penodol o laswelltir parhaol amgylcheddol-sensitif ond—

a

os yw hysbysiad y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i’r buddiolwr aredig neu drosi darnau penodol o’r safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig; neu

b

os yw’r caniatâd i wneud hynny wedi ei roi gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

2

Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “glaswelltir parhaol amgylcheddol-sensitif” (“environmentally sensitive permanent grassland”) yw—

    1. a

      glaswelltir a leolir mewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig; a

    2. b

      glaswelltir y mae’n ofynnol cael caniatâd ysgrifenedig i aredig mewn perthynas ag ef yn unol ag adran 28E(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 198112 ond nad yw caniatâd o’r fath wedi ei gael;

    mae i “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” yr ystyr a roddir i “site of special scientific interest” yn adran 52(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Rheoli a Gorfodi, Trawsgydymffurfio, Craffu ar Drafodiadau ac Apelau) 201411

1

Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Rheoli a Gorfodi, Trawsgydymffurfio, Craffu ar Drafodiadau ac Apelau) 201413wedi eu diwygio, i’r graddau ag y maent yn ymwneud â thaliadau uniongyrchol, fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “competent authority”, hepgorer “, except as otherwise provided by regulation 3,”.

3

Yn rheoliad 3 (awdurdod cymwys)—

a

hepgorer paragraffau (2) i (3A);

b

yn lle paragraff (4) rhodder—

4

In this regulation, “holding” has the meaning given by Article 4(1)(b) of the Direct Payments Regulation.

Diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 201512

1

Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 201514 wedi eu diwygio, i’r graddau ag y maent yn ymwneud â thaliadau uniongyrchol, fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 3—

a

mae’r ddarpariaeth bresennol wedi ei hailrifo fel paragraff (1);

b

ar ddechrau’r paragraff (1) a ailrifwyd, mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (2),”;

c

ar ôl y paragraff (1) a ailrifwyd mewnosoder—

2

Caniateir i daliadau uniongyrchol gael eu rhoi i ffermwr pan fo arwynebedd cymwys y daliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn llai na 5 hectar os oedd taliadau uniongyrchol wedi eu hawlio gan y ffermwr hwnnw yn 2020 neu’n ddyledus iddo bryd hynny—

a

cyn cymhwysiad Erthygl 63 o Reoliad (EU) Rhif 1306/2013; a

b

mewn cysylltiad â daliad o’r fath (fel y’i diffinnir ar gyfer blwyddyn hawlio 2020)—

i

a leolir yng Nghymru ac o leiaf un diriogaeth arall;

ii

pan fo arwynebedd cymwys a leolir yng Nghymru y daliad hwnnw yn llai na 5 hectar; a

iii

yr oedd taliad wedi ei hawlio neu’n ddyledus mewn cysylltiad â’r arwynebedd cymwys a leolir yng Nghymru.

3

Hepgorer rheoliad 9.

4

Yn rheoliad 10—

a

ym mharagraff (1), hepgorer “Erthygl 24 neu”;

b

hepgorer paragraffau (3) a (4).

5

Yn rheoliad 11(3), yn lle “30 Ebrill” rhodder “15 Mai”.

6

Hepgorer rheoliadau 14 i 16, a 19.

RHAN 5Taliadau Uniongyrchol: diwygio deddfwriaeth ddomestig o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd

Diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 201913

1

Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 201915 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Hepgorer rheoliad 2.

3

Hepgorer rheoliad 4(2).

4

Hepgorer rheoliad 5(2) a (3).

RHAN 6Diwygio deddfwriaeth ddomestig o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd

Diwygio Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 201914

Yn rheoliad 1(3) o Reoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 201916, ar ôl “rheoliadau” mewnosoder “1,”.

Diwygio Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 201915

Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 201917, ar ôl “rheoliadau” mewnosoder “1,”.

Lesley GriffithsGweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhannau 2, 3 a 4 o’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 2(1), 3(1) a (2) a 4(1) a (2) o Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) er mwyn gwneud darpariaeth yng nghyfraith yr UE a ddargedwir sy’n llywodraethu’r cynlluniau taliadau uniongyrchol ar gyfer sicrhau parhad cynllun y taliad sylfaenol yng Nghymru y tu hwnt i 2020.

Mae rheoliadau 2, 3, 4, 5 a 6 yn addasu Rheoliadau (EU) Rhif 1306/2013, 809/2014, 640/2014, 907/2014 a 908/2014 i’r graddau y mae’n angenrheidiol i gynllun y taliad sylfaenol weithredu’n effeithiol y tu hwnt i 2020. Mae’r Rheoliadau UE hynny’n cynnwys rhai o’r rheolau sy’n llywodraethu’r cynlluniau taliadau uniongyrchol yn ogystal â chynlluniau eraill o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r corff hwnnw o gyfreithiau i’r graddau ag y mae’n ymwneud â chynlluniau taliadau uniongyrchol yn unig.

Mae rheoliadau 7, 8 a 9 yn diwygio Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 (“y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol”), Rheoliadau (EU) Rhif 639/2014 a 641/2014. Mae’r newidiadau hyn yn caniatáu i gynllun y taliad sylfaenol weithredu’n effeithiol y tu hwnt i 2020. Mae rheoliad 7(4) yn cyflwyno i’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol Erthygl 5A newydd sy’n darparu’r modd ar gyfer penderfynu terfyn y taliadau uniongyrchol y tu hwnt i 2020.

Mae rheoliadau 2 i 9 hefyd yn diwygio cyfraith yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud â’r cynlluniau taliadau uniongyrchol er mwyn—‏

a

symleiddio dull gweinyddu’r cynllun a gwneud ei weithrediad yn fwy effeithlon ac effeithiol,

b

dileu darpariaethau sydd wedi darfod neu nad ydynt yn cael eu defnyddio,

c

dileu neu leihau’r beichiau ar bersonau sy’n gwneud cais am daliadau uniongyrchol o dan y cynllun neu y mae ganddynt hawl i’w cael,

d

gwella’r ffordd y mae’r cynllun yn gweithredu mewn perthynas â phersonau sy’n gwneud cais am daliadau uniongyrchol o dan y cynllun neu y mae ganddynt hawl i’w cael,

e

sicrhau bod sancsiynau a chosbau a osodir o dan y cynllun yn briodol a chymesur, ac

f

cyfyngu ar gymhwysiad y cynllun i dir yng Nghymru yn unig.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth ddomestig sy’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol.

Mae rheoliad 10 yn diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/3223 (Cy. 328)), er mwyn sicrhau bod modd ei weithredu ar gyfer cynllun y taliad sylfaenol yng Nghymru y tu hwnt i 2020. Mae rheoliad 10 hefyd yn mewnosod paragraff newydd yn Atodlen 1 (Safonau ar gyfer Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da) sy’n rhoi manylion am y cyfyngiadau ar drosi, aredig neu ailhadu glaswelltir parhaol amgylcheddol-sensitif. Mae hyn yn sicrhau bod cydweddu â’r newidiadau a wnaed gan reoliad 2 i Reoliad (EU) Rhif 1306/2013.

Mae rheoliad 11 yn diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Rheoli a Gorfodi, Trawsgydymffurfio, Craffu ar Drafodiadau ac Apelau) 2014 (O.S. 2014/3263), ac mae’n gymwys o ran Cymru. Mae rheoliad 3 (awdurdod cymwys) y Rheoliadau hynny wedi ei ddiwygio i sicrhau ei fod yn cydweddu â chyfraith yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol.

Mae rheoliad 12 yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1252 (Cy. 84)) i sicrhau ei fod yn cydweddu â’r newidiadau sy’n cael eu gwneud i gyfraith yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol gan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn wedi ei gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. Mae rheoliad 13 yn diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/688 (Cy. 132)), sy’n ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. Mae rheoliad 13 yn dirymu rheoliadau 2, 4(2) a 5(2) a (3) i gydweddu â’r newidiadau a wnaed gan y Rheoliadau hyn a chan Reoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/104 (Cy. 17)).

Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn wedi ei gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn cywiro gwallau yn Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/1281 (Cy. 225)) a Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019 (O.S. 2019/1376 (Cy. 242)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.