Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1556 (Cy. 328)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Amaethyddiaeth, Cymru

Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Gwnaed

16 Rhagfyr 2020

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Yn unol ag adran 50(6)(c) ac (8) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020, a pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i Ddeddf 2018, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.

(2Maent yn dod i rym fel a ganlyn—

(a)ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer gan is-baragraff (b), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

(b)mae Rhannau 1, 5 a 6 a rheoliad 7(4) yn dod i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 2Taliadau Uniongyrchol: Deddfwriaeth Lorweddol

Diwygio Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013

2.—(1Mae Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ariannu, rheoli a monitro’r polisi amaethyddol cyffredin(3) wedi ei ddiwygio, i’r graddau y mae’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol, fel a ganlyn.

(2Yn lle Erthygl 2(1)(m) rhodder—

(m)“appropriate authority” means the relevant authority for the constituent nation in which the regulations apply.

(3Yn Erthygl 12—

(a)yn lle “must” rhodder “may”;

(b)yn lle “shall”, yn yr ail frawddeg, rhodder “may”;

(c)yn lle’r drydedd frawddeg rhodder—

That system may cover the maintenance of the agricultural area as referred to in point (c) of Article 4(1) of Regulation (EU) No. 1307/2013.

(4Hepgorer Erthygl 26.

(5Yn Erthygl 54—

(a)ym mharagraff 1, hepgorer “within 18 months”;

(b)ym mharagraff 3(a)—

(i)ym mhwynt (i), yn lle “EUR 100” rhodder “£100”;

(ii)ym mhwynt (ii)—

(aa)yn lle “EUR 100” rhodder “£100”;

(bb)yn lle “EUR 250” rhodder “£250”.

(6Hepgorer Erthygl 55.

(7Yn Erthygl 67—

(a)ym mharagraff 4(a), ar ôl “continuous area of land” mewnosoder “within Wales”;

(b)ym mharagraff 4(b), hepgorer “the payment for agricultural practices beneficial for the climate and the environment referred to in Chapter 3 of Title III of Regulation (EU) No 1307/2013;”.

(8Yn Erthygl 69—

(a)hepgorer brawddeg derfynol paragraff 1;

(b)hepgorer paragraff 2.

(9Yn Erthygl 70—

(a)ym mharagraff 1—

(i)hepgorer “and, as from 2016, at a scale of 1: 5 000,”;

(ii)hepgorer yr ail is-baragraff;

(b)hepgorer paragraff 2.

(10Hepgorer Erthygl 71(2).

(11Yn Erthygl 75—

(a)ym mharagraff 1, ar ôl “calendar year” mewnosoder “or in cases where it has not been possible to complete the verification of eligibility conditions by 30 June, upon completion.”;

(b)ym mharagraff 1(a)—

(i)hepgorer “but not before 16 October”;

(ii)ar ôl “direct payments” mewnosoder “before the verification of eligibility conditions, to be carried out by the relevant authority pursuant to Article 74, has been finalised”;

(c)ym mharagraff 2, ar ôl “paragraph 1” mewnosoder “(excluding advances for direct payments under paragraph 1(a))”.

(12Hepgorer Erthygl 77(6).

(13Yn Erthygl 91—

(a)hepgorer ail is-baragraff paragraff 2;

(b)ym mharagraff 3(a), yn lle “the United Kingdom” rhodder “Wales”.

(14Yn nheitl Erthygl 94, hepgorer “of Member States”.

(15Yn Erthygl 97(3), yn lle “EUR 100” rhodder “£100”.

(16Hepgorer Erthyglau 105 a 106.

(17Hepgorer Erthygl 108.

(18Hepgorer is-baragraff terfynol Erthygl 111(1).

(19Yn Erthygl 112, yn yr is-baragraff cyntaf, yn lle’r geiriau o “the Funds” hyd at y diwedd, rhodder “received in one year by a beneficiary is equal to or less than £1250.”

(20Yn Atodiad II, yn y rhes “Landscape, minimum level of maintenance”, yn y bedwaredd golofn, ar ôl “measures for avoiding invasive plant species” mewnosoder—

. Restrictions on converting, ploughing or reseeding environmentally sensitive permanent grassland.

Diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 640/2014

3.—(1Mae Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 640/2014 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system integredig gweinyddu a rheoli a’r amodau ar gyfer gwrthod taliadau neu eu tynnu yn ôl a chosbau gweinyddol sy’n gymwys i daliadau uniongyrchol, cymorth ar gyfer datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio(4), wedi ei ddiwygio, i’r graddau y mae’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol, fel a ganlyn.

(2Yn Erthygl 2(1), yn lle pwynt (22) rhodder—

(22) ‘use’ in relation to area means the use of area in terms of the type of permanent grassland as defined in Article 4(1)(h) of Regulation (EU) No. 1307/2013, or areas of grassland, other than permanent grassland, or ground cover or the absence of a crop;.

(3Yn Erthygl 5(2)—

(a)hepgorer pwynt (c);

(b)ym mhwynt (d), hepgorer y geiriau o “areas designated” hyd at y diwedd.

(4Yn Erthygl 6—

(a)yn lle paragraff 1 rhodder—

1.  The relevant authority shall annually assess the quality of the identification system for agricultural parcels. Where the results of the quality assessment reveal deficiencies in the system, the relevant authority shall take appropriate remedial action.;

(b)yn lle paragraff 2 rhodder—

2.  The relevant authority shall perform the assessment referred to in paragraph 1 on the basis of a sample of reference parcels.;

(c)ym mharagraff 3, hepgorer “by 31 January 2021”.

(5Yn Erthygl 7(1), hepgorer “at United Kingdom level”.

(6Hepgorer is-baragraff terfynol Erthygl 9(3).

(7Hepgorer Erthygl 10.

(8Yn Erthygl 13—

(a)hepgorer ail is-baragraff paragraff 1;

(b)ar ôl is-baragraff terfynol paragraff 1 mewnosoder—

All documents in support of an aid application, must be submitted by 31 December of that calendar year.;

(c)yn ail is-baragraff paragraff 3, yn lle “third” rhodder “second”.

(9Hepgorer ail is-baragraff Erthygl 16(1).

(10Yn Erthygl 18(2), hepgorer “and (8)”.

(11Yn Erthygl 19a—

(a)yn lle paragraff 2 rhodder—

2.  The administrative penalty referred to in paragraph 1 shall be reduced by 50% if the difference between the area declared and the area determined does not exceed 10% of the area determined.;

(b)hepgorer paragraffau 3 a 4.

(12Hepgorer Erthyglau 22 i 29.

(13Hepgorer brawddeg derfynol Erthygl 38(1).

Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014

4.—(1Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 809/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system integredig gweinyddu a rheoli, mesurau datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio(5), wedi ei ddiwygio, i’r graddau y mae’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol, fel a ganlyn.

(2Hepgorer Erthygl 2.

(3Hepgorer ail baragraff Erthygl 4.

(4Yn Erthygl 6—

(a)ym mharagraff 2(f)(v), yn lle “national” rhodder “total”;

(b)hepgorer paragraff 3(b).

(5Yn Erthygl 14(1), hepgorer pwynt (h).

(6Yn Erthygl 15—

(a)hepgorer paragraff 1b;

(b)ym mharagraff 2—

(i)yn yr ail is-baragraff, yn lle “Member States” rhodder “the relevant authority”;

(ii)yn y trydydd is-baragraff, hepgorer y geiriau o “the payment for agricultural practices” hyd at “Regulation (EU) No. 1307/2013 or”;

(c)hepgorer paragraff 2b;

(d)ym mharagraff 3, hepgorer yr ail is-baragraff.

(7Yn Erthygl 17—

(a)hepgorer paragraff 2;

(b)yn ail is-baragraff paragraff 4, hepgorer y frawddeg derfynol;

(c)yn lle paragraff 5 rhodder—

5.  The beneficiary shall unambiguously identify and declare the area of each agricultural parcel. ;

(d)hepgorer paragraff 6.

(8Hepgorer Erthygl 18.

(9Yn Erthygl 25, hepgorer “and shall not exceed 14 days”.

(10Hepgorer Erthygl 26(4).

(11Hepgorer ail a thrydydd paragraff Erthygl 27.

(12Yn Erthygl 29(1)(d), yn lle “(6)” rhodder “(4)”.

(13Ym mhennawd Erthygl 30, hepgorer “other than the payment for agricultural practices beneficial for the climate and environment”.

(14Yn lle Erthygl 30 rhodder—

For area-related aid schemes the control sample for on-the-spot checks carried out each year shall cover at least:

(a)3% of all beneficiaries applying for the basic payment scheme in accordance with Title III of Regulation (EU) No. 1307/2013 (which includes the redistributive payment, and the payment for young farmers); and

(b)5% of all beneficiaries applying for area-related payments under voluntary coupled support in accordance with Chapter 1 of Title IV of Regulation (EU) No 1307/2013.

(15Hepgorer Erthygl 31.

(16Yn lle Erthygl 33 rhodder—

For animal aid schemes, the control sample for on-the-spot checks carried out each year shall for each of the aid schemes cover at least 5% of all beneficiaries applying for that respective aid scheme.

(17Hepgorer Erthygl 33a.

(18Yn Erthygl 34—

(a)yn lle paragraff 2 rhodder—

2.  For the purposes of Article 30, the sample selection shall ensure that:

(a)a proportion of the control population is selected randomly;

(b)the remaining number of beneficiaries in the control sample is selected on the basis of a risk analysis.;

(b)hepgorer paragraffau 3, 4 a 4a;

(c)ym mharagraff 5—

(i)yn lle “shall” rhodder “may”;

(ii)ym mhwynt (d) ar ôl “that” mewnosoder “may”.

(19Yn Erthygl 36—

(a)ym mharagraff 2—

(i)hepgorer “and (b)”;

(ii)yn lle “3%” rhodder “1%”;

(b)ym mharagraff 3—

(i)hepgorer “and (b)”;

(ii)hepgorer yr ail, trydydd a phedwerydd is-baragraff;

(c)ym mharagraff 5—

(i)yn lle “2, 3 and 4” rhodder “2 and 3”;

(ii)hepgorer “and (b)”.

(20Hepgorer Erthygl 37(3).

(21Yn Erthygl 38—

(a)hepgorer y frawddeg derfynol ym mharagraff 5;

(b)hepgorer paragraff 6;

(c)hepgorer paragraff 9;

(d)ym mharagraff 10, hepgorer “or permanent pastures”.

(22Yn Erthygl 39—

(a)hepgorer brawddeg gyntaf paragraff 2;

(b)hepgorer paragraff 3.

(23Hepgorer Erthygl 40a.

(24Yn Erthygl 41—

(a)hepgorer is-baragraff terfynol paragraff 1;

(b)yn is-baragraff terfynol paragraff 2—

(i)hepgorer “or by means of monitoring in accordance with Article 40a,”;

(ii)hepgorer “or by monitoring” yn y ddau le y mae’n digwydd;

(iii)hepgorer y frawddeg derfynol.

(25Yn Erthygl 42(1), yn yr ail is-baragraff—

(a)hepgorer “at least 50% of”;

(b)yn lle “shall”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “may”.

(26Hepgorer Erthygl 44.

(27Yn Erthygl 68—

(a)ym mharagraff 1—

(i)yn yr is-baragraff cyntaf, hepgorer “, as it has effect in EU law”;

(ii)hepgorer yr ail is-baragraff;

(b)ym mharagraff 4, yn lle “shall” rhodder “may”.

(28Yn Erthygl 69(1), hepgorer brawddeg derfynol yr is-baragraff cyntaf.

(29Yn Erthygl 70—

(a)ym mharagraff 3, hepgorer y geiriau o “or by using” hyd at “equivalent value”;

(b)hepgorer paragraff 4.

(30Hepgorer Erthyglau 70a a 70b.

(31Yn Erthygl 72—

(a)hepgorer is-baragraff terfynol paragraff 1;

(b)ym mharagraff 2, hepgorer “checked by monitoring in accordance with Article 70a,”;

(c)ym mharagraff 3, hepgorer y frawddeg derfynol yn yr is-baragraff cyntaf;

(d)ym mharagraff 4, hepgorer ail frawddeg yr is-baragraff cyntaf.

Diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 907/2014

5.  Yn Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 907/2014 dyddiedig 11 Mawrth 2014 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran asiantaethau talu a chyrff eraill, rheolaeth ariannol, clirio cyfrifon, gwarannau a defnyddio’r ewro(6), hepgorer Erthygl 11, i’r graddau y mae’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol.

Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 908/2014

6.—(1Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 908/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran asiantaethau talu a chyrff eraill, rheolaeth ariannol, clirio cyfrifon, rheolau ar wiriadau, gwarannau a thryloywder(7) wedi ei ddiwygio, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r taliadau uniongyrchol, fel a ganlyn.

(2Yn Erthygl 4(1)—

(a)hepgorer pwynt (i);

(b)ym mhwynt (ii), hepgorer “on a single website”.

(3Hepgorer Erthygl 11.

(4Yn Erthygl 27(1), yn lle “EUR 5” rhodder “£5.00”.

(5Yn Erthygl 28—

(a)hepgorer “established in accordance with national law”;

(b)hepgorer y geiriau o “under direct” hyd at “Development”.

(6Yn lle Erthygl 41(1) rhodder—

1.  The relevant authorities may decide to reduce the minimum level of on-the-spot checks in accordance with Article 59(5) of Regulation (EU) No 1306/2013. For the reduced control rate to apply, the paying agency must confirm that—

(a)the internal control system is functioning correctly; and

(b)the error rate for the population concerned was below the materiality threshold of 2.0%.

(7Yn Erthygl 58, yn lle “third” rhodder “second”.

(8Hepgorer Erthygl 62.

RHAN 3Taliadau Uniongyrchol: Deddfwriaeth Uniongyrchol a Ddargedwir

Diwygio Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013

7.—(1Mae Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin(8) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn Erthygl 1, hepgorer pwynt (b)(iv).

(3Yn Erthygl 4—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)ym mhwyntiau (a), (b) ac (i), yn lle “the United Kingdom”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Wales”;

(ii)ym mhwynt (e), hepgorer “and permanent pasture”;

(iii)ym mhwynt (g)—

(aa)hepgorer “and permanent pasture”;

(bb)yn lle “occupy” rhodder “occupies”;

(iv)ym mhwynt (h), yn lle ““permanent grassland and permanent pasture” (together referred to as “permanent grassland”)” rhodder ““permanent grassland”” ;

(v)yn lle pwynt (s) rhodder—

(s)“appropriate authority” means the relevant authority for the constituent nation in which the regulations apply;;

(vi)ar ôl pwynt (s) mewnosoder—

(t)“total ceiling” means the amount determined in accordance with Article 5A.;

(b)ym mharagraff 2, hepgorer yr is-baragraff terfynol.

(4Ar ôl Erthygl 5 mewnosoder—

Article 5AThe total ceiling for Wales

1.  The Welsh Ministers must determine the total ceiling for Wales.

2.  The Welsh Ministers must determine the total ceiling before the start of the relevant year.

3.  The Welsh Ministers must publish the total ceiling as soon as practicable after they have determined it under paragraph 1.

4.  The total ceiling, for any relevant year, must be distributed among all claimed payment entitlements, including the national reserve or the regional reserves, and ceilings set in accordance with Articles 42 and 51 and the amount allocated under Article 53.

5.  In this Article, “relevant year” has the same meaning as in paragraph 3(4) of Schedule 5 to the Agriculture Act 2020.

(5Hepgorer Erthyglau 6, 7 a 7A.

(6Yn Erthygl 9—

(a)hepgorer paragraffau 2 i 4;

(b)hepgorer paragraff 5(b), (c) a (d);

(c)hepgorer paragraffau 6 i 8.

(7Yn Erthygl 10(2), yn lle “EUR 100” rhodder “£100”.

(8Yn Erthygl 11—

(a)ym mharagraff 1, yn lle “EUR 150 000” rhodder “£150,000”;

(b)ym mharagraff 3—

(i)hepgorer “of its share” yn y ddau le y mae’n digwydd;

(ii)yn lle “annual national”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “total”.

(9Hepgorer Erthygl 14.

(10Yn Erthygl 22—

(a)hepgorer paragraff 1;

(b)yn lle paragraff 2 rhodder—

2.  The basic payment scheme ceiling in Wales for any given year is the amount which remains for the basic payment scheme after deducting, from the total ceiling, the ceilings set in accordance with Articles 42 and 51 for that year, and the amount allocated under Article 53.;

(c)hepgorer paragraff 3;

(d)yn lle paragraff 4 rhodder—

4.  The total value of all claimed payment entitlements in the constituent nation must equal the basic payment scheme ceiling in Wales.;

(e)yn lle paragraff 5 rhodder—

5.  If the ceiling calculated pursuant to paragraph 2 of this Article is different from the relevant authority’s share of the basic payment scheme ceiling in claim year 2020 as a result of any decision taken by the relevant authority, or the total value of all claimed payment entitlements (including those allocated and claimed from the national reserve or regional reserve) is different from the total value of claimed payment entitlements in claim year 2020, the relevant authority shall linearly reduce or increase the value of all claimed payment entitlements in order to ensure compliance with paragraph 4 of this Article.

(11Yn Erthygl 25—

(a)hepgorer paragraffau 1 a 2;

(b)hepgorer paragraff 8.

(12Yn Erthygl 30—

(a)ym mharagraff 7—

(i)hepgorer pwyntiau (a) a (b);

(ii)ym mhwynt (e), yn lle “relevant authority’s share of the basic payment scheme ceiling” rhodder “basic payment scheme ceiling in Wales”;

(iii)ym mhwynt (f), hepgorer “and Article 65(1), (2) and (3)”;

(b)ym mharagraff 8—

(i)yn yr ail is-baragraff, yn lle “relevant authority’s share of the basic payment scheme ceiling” rhodder “basic payment scheme ceiling in Wales”;

(ii)hepgorer y trydydd is-baragraff;

(c)ym mharagraff 11(a), hepgorer “(3) and”.

(13Hepgorer Erthygl 31(1)(h).

(14Yn Erthygl 32—

(a)ym mharagraff 1—

(i)hepgorer “of financial discipline,”;

(ii)hepgorer “Article 7 and”;

(b)hepgorer paragraff 5.

(15Yn Erthygl 34, hepgorer paragraff 4.

(16Yn Erthygl 35(1)—

(a)ym mhwynt (g), hepgorer “and 7”;

(b)hepgorer pwynt (h).

(17Yn Erthygl 41—

(a)ym mharagraff 1, hepgorer y geiriau o “, provided that” hyd at y diwedd;

(b)ym mharagraff 3—

(i)hepgorer “of financial discipline,”;

(ii)hepgorer “, of linear reductions as referred in Article 7”;

(c)ym mharagraff 4, yn lle’r ail frawddeg rhodder—

The number of such payment entitlements or hectares shall not exceed a maximum level to be set by the relevant authority which shall not be higher than 54 hectares.

(18Yn Erthygl 42—

(a)hepgorer “, by the date referred to in Article 41(1)”;

(b)yn lle “its share of the annual national” rhodder “the total”.

(19Hepgorer Pennod 3 o Deitl III.

(20Yn Erthygl 50—

(a)hepgorer paragraff 3;

(b)ym mharagraff 4, hepgorer “of financial discipline,”;

(c)hepgorer ail is-baragraff paragraff 5;

(d)hepgorer paragraffau 8 a 10A.

(21Yn Erthygl 51—

(a)yn is-baragraff cyntaf paragraff 1, yn lle “its share of the annual national” rhodder “the total”;

(b)ym mharagraff 2, yn lle “relevant authority’s share of the national” rhodder “total”;

(c)ym mharagraff 3, yn lle “its share of the annual national” rhodder “the total”.

(22Yn Erthygl 53—

(a)yn lle paragraff 1 rhodder—

1.  Up to 10% of the total ceiling may be used to finance the coupled support. ;

(b)hepgorer paragraff 3;

(c)ym mharagraff 5—

(i)yn lle “percentages set out in paragraphs 1 to 4” rhodder “percentage set out in paragraph 1”;

(ii)yn lle “EUR 3” rhodder “£3”;

(d)hepgorer paragraff 6.

(23Yn Erthygl 71A—

(a)ym mharagraff 1, yn lle “paragraphs 2” rhodder “paragraphs 3”;

(b)hepgorer paragraff 2.

(24Yn Atodiad I, hepgorer y trydydd cofnod yn y tabl.

(25Yn Atodiad II, yn y pennawd, yn lle “Article 6” rhodder “Article 5A”.

(26Hepgorer Atodiadau III, IX a X.

Diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 639/2014

8.—(1Mae Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 639/2014 dyddiedig 11 Mawrth 2014 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin(9) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer Erthygl 1(d).

(3Hepgorer Erthygl 8.

(4Hepgorer Erthyglau 11 i 13.

(5Hepgorer Erthygl 26.

(6Hepgorer Erthygl 29(4).

(7Hepgorer Erthygl 30(2).

(8Hepgorer Pennod 3.

(9Yn Erthygl 49(3)(a), hepgorer “,(8)”.

(10Yn Erthygl 53(2), yn yr ail is-baragraff, ym mhwyntiau (a) a (b), ar ôl “Annex I to this Regulation”, yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “as it had effect immediately before exit day”.

(11Yn Erthygl 53a, hepgorer paragraff 4.

(12Hepgorer Atodiad II.

Diwygio Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 641/2014

9.—(1Mae Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 641/2014 dyddiedig 16 Mehefin 2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin(10) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer Atodlen 1(c).

(3Yn Erthygl 8(1), hepgorer “prior to exit day”.

(4Hepgorer Pennod 3.

RHAN 4Taliadau Uniongyrchol: Deddfwriaeth Ddomestig

Diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014

10.—(1Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014(11) wedi eu diwygio, i’r graddau y maent yn ymwneud â thaliadau uniongyrchol, fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, hepgorer paragraff (1A).

(3Yn rheoliad 5—

(a)yn lle paragraff (2)(b) rhodder—

(b)yn cynnwys datganiad gan Weinidogion Cymru o’r gyfradd am y cyfnod hwnnw;;

(b)hepgorer paragraff (3).

(4Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 15 mewnosoder—

Trosi, aredig neu ailhadu tir a ddynodwyd yn laswelltir parhaol amgylcheddol-sensitif

16.(1) Ni chaiff buddiolwr drosi, aredig neu ailhadu darnau penodol o laswelltir parhaol amgylcheddol-sensitif ond—

(a)os yw hysbysiad y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn ei gwneud yn ofynnol neu’n caniatáu i’r buddiolwr aredig neu drosi darnau penodol o’r safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig; neu

(b)os yw’r caniatâd i wneud hynny wedi ei roi gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

(2) Yn y paragraff hwn—

ystyr “glaswelltir parhaol amgylcheddol-sensitif” (“environmentally sensitive permanent grassland”) yw—

(a)

glaswelltir a leolir mewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig; a

(b)

glaswelltir y mae’n ofynnol cael caniatâd ysgrifenedig i aredig mewn perthynas ag ef yn unol ag adran 28E(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(12) ond nad yw caniatâd o’r fath wedi ei gael;

mae i “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” yr ystyr a roddir i “site of special scientific interest” yn adran 52(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Rheoli a Gorfodi, Trawsgydymffurfio, Craffu ar Drafodiadau ac Apelau) 2014

11.—(1Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Rheoli a Gorfodi, Trawsgydymffurfio, Craffu ar Drafodiadau ac Apelau) 2014(13)wedi eu diwygio, i’r graddau ag y maent yn ymwneud â thaliadau uniongyrchol, fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y diffiniad o “competent authority”, hepgorer “, except as otherwise provided by regulation 3,”.

(3Yn rheoliad 3 (awdurdod cymwys)—

(a)hepgorer paragraffau (2) i (3A);

(b)yn lle paragraff (4) rhodder—

(4) In this regulation, “holding” has the meaning given by Article 4(1)(b) of the Direct Payments Regulation..

Diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015

12.—(1Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015(14) wedi eu diwygio, i’r graddau ag y maent yn ymwneud â thaliadau uniongyrchol, fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3—

(a)mae’r ddarpariaeth bresennol wedi ei hailrifo fel paragraff (1);

(b)ar ddechrau’r paragraff (1) a ailrifwyd, mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (2),”;

(c)ar ôl y paragraff (1) a ailrifwyd mewnosoder—

(2) Caniateir i daliadau uniongyrchol gael eu rhoi i ffermwr pan fo arwynebedd cymwys y daliad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn llai na 5 hectar os oedd taliadau uniongyrchol wedi eu hawlio gan y ffermwr hwnnw yn 2020 neu’n ddyledus iddo bryd hynny—

(a)cyn cymhwysiad Erthygl 63 o Reoliad (EU) Rhif 1306/2013; a

(b)mewn cysylltiad â daliad o’r fath (fel y’i diffinnir ar gyfer blwyddyn hawlio 2020)—

(i)a leolir yng Nghymru ac o leiaf un diriogaeth arall;

(ii)pan fo arwynebedd cymwys a leolir yng Nghymru y daliad hwnnw yn llai na 5 hectar; a

(iii)yr oedd taliad wedi ei hawlio neu’n ddyledus mewn cysylltiad â’r arwynebedd cymwys a leolir yng Nghymru.

(3Hepgorer rheoliad 9.

(4Yn rheoliad 10—

(a)ym mharagraff (1), hepgorer “Erthygl 24 neu”;

(b)hepgorer paragraffau (3) a (4).

(5Yn rheoliad 11(3), yn lle “30 Ebrill” rhodder “15 Mai”.

(6Hepgorer rheoliadau 14 i 16, a 19.

RHAN 5Taliadau Uniongyrchol: diwygio deddfwriaeth ddomestig o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd

Diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

13.—(1Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(15) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer rheoliad 2.

(3Hepgorer rheoliad 4(2).

(4Hepgorer rheoliad 5(2) a (3).

RHAN 6Diwygio deddfwriaeth ddomestig o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd

Diwygio Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

14.  Yn rheoliad 1(3) o Reoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(16), ar ôl “rheoliadau” mewnosoder “1,”.

Diwygio Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019

15.  Yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019(17), ar ôl “rheoliadau” mewnosoder “1,”.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

16 Rhagfyr 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhannau 2, 3 a 4 o’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraffau 2(1), 3(1) a (2) a 4(1) a (2) o Atodlen 5 i Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) er mwyn gwneud darpariaeth yng nghyfraith yr UE a ddargedwir sy’n llywodraethu’r cynlluniau taliadau uniongyrchol ar gyfer sicrhau parhad cynllun y taliad sylfaenol yng Nghymru y tu hwnt i 2020.

Mae rheoliadau 2, 3, 4, 5 a 6 yn addasu Rheoliadau (EU) Rhif 1306/2013, 809/2014, 640/2014, 907/2014 a 908/2014 i’r graddau y mae’n angenrheidiol i gynllun y taliad sylfaenol weithredu’n effeithiol y tu hwnt i 2020. Mae’r Rheoliadau UE hynny’n cynnwys rhai o’r rheolau sy’n llywodraethu’r cynlluniau taliadau uniongyrchol yn ogystal â chynlluniau eraill o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r corff hwnnw o gyfreithiau i’r graddau ag y mae’n ymwneud â chynlluniau taliadau uniongyrchol yn unig.

Mae rheoliadau 7, 8 a 9 yn diwygio Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 (“y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol”), Rheoliadau (EU) Rhif 639/2014 a 641/2014. Mae’r newidiadau hyn yn caniatáu i gynllun y taliad sylfaenol weithredu’n effeithiol y tu hwnt i 2020. Mae rheoliad 7(4) yn cyflwyno i’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol Erthygl 5A newydd sy’n darparu’r modd ar gyfer penderfynu terfyn y taliadau uniongyrchol y tu hwnt i 2020.

Mae rheoliadau 2 i 9 hefyd yn diwygio cyfraith yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud â’r cynlluniau taliadau uniongyrchol er mwyn—‏

(a)symleiddio dull gweinyddu’r cynllun a gwneud ei weithrediad yn fwy effeithlon ac effeithiol,

(b)dileu darpariaethau sydd wedi darfod neu nad ydynt yn cael eu defnyddio,

(c)dileu neu leihau’r beichiau ar bersonau sy’n gwneud cais am daliadau uniongyrchol o dan y cynllun neu y mae ganddynt hawl i’w cael,

(d)gwella’r ffordd y mae’r cynllun yn gweithredu mewn perthynas â phersonau sy’n gwneud cais am daliadau uniongyrchol o dan y cynllun neu y mae ganddynt hawl i’w cael,

(e)sicrhau bod sancsiynau a chosbau a osodir o dan y cynllun yn briodol a chymesur, ac

(f)cyfyngu ar gymhwysiad y cynllun i dir yng Nghymru yn unig.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth ddomestig sy’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol.

Mae rheoliad 10 yn diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014 (O.S. 2014/3223 (Cy. 328)), er mwyn sicrhau bod modd ei weithredu ar gyfer cynllun y taliad sylfaenol yng Nghymru y tu hwnt i 2020. Mae rheoliad 10 hefyd yn mewnosod paragraff newydd yn Atodlen 1 (Safonau ar gyfer Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da) sy’n rhoi manylion am y cyfyngiadau ar drosi, aredig neu ailhadu glaswelltir parhaol amgylcheddol-sensitif. Mae hyn yn sicrhau bod cydweddu â’r newidiadau a wnaed gan reoliad 2 i Reoliad (EU) Rhif 1306/2013.

Mae rheoliad 11 yn diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Rheoli a Gorfodi, Trawsgydymffurfio, Craffu ar Drafodiadau ac Apelau) 2014 (O.S. 2014/3263), ac mae’n gymwys o ran Cymru. Mae rheoliad 3 (awdurdod cymwys) y Rheoliadau hynny wedi ei ddiwygio i sicrhau ei fod yn cydweddu â chyfraith yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol.

Mae rheoliad 12 yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015 (O.S. 2015/1252 (Cy. 84)) i sicrhau ei fod yn cydweddu â’r newidiadau sy’n cael eu gwneud i gyfraith yr UE a ddargedwir sy’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol gan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn wedi ei gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. Mae rheoliad 13 yn diwygio Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/688 (Cy. 132)), sy’n ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. Mae rheoliad 13 yn dirymu rheoliadau 2, 4(2) a 5(2) a (3) i gydweddu â’r newidiadau a wnaed gan y Rheoliadau hyn a chan Reoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/104 (Cy. 17)).

Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn wedi ei gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 er mwyn cywiro gwallau yn Rheoliadau Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/1281 (Cy. 225)) a Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019 (O.S. 2019/1376 (Cy. 242)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2020 p. 21. Gweler paragraff 3(4) o Atodlen 5 am y diffiniad o “specified”.

(2)

2018 p. 16. Gweler adran 20(1) am y diffiniad o “devolved authority”.

(3)

EUR 2013/1306, a ddiwygiwyd mewn perthynas â chynlluniau taliadau uniongyrchol gan O.S. 2020/90 a 576. Mae EUR 2013/1306 wedi ei ddiwygio hefyd yn rhagolygol gydag effaith o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu gan O.S. 2019/748 (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/831), 763 (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/812), 831 a 1402. Er hynny, yn rhinwedd y diwygiadau yn Rheoliadau Amathyddiaeth (Taliadau) (Diwygio, etc.) (Ymadael â’r UE) 2020, nid yw’r diwygiadau rhagolygol hyn yn cael effaith mewn perthynas â chynlluniau taliadau uniongyrchol.

(4)

EUR 2014/640, a ddiwygiwyd mewn perthynas â chynlluniau taliadau uniongyrchol gan O.S. 2020/90 ac mewn perthynas â chynlluniau taliadau uniongyrchol yn Lloegr gan O.S. 2020/551. Diwygiwyd EUR 2014/640 hefyd yn rhagolygol gydag effaith o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu gan O.S. 2019/765. Er hynny, yn rhinwedd y diwygiadau yn Rheoliadau Amaethyddiaeth (Taliadau) (Diwygio, etc.) (Ymadael â’r UE) 2020, nid yw’r diwygiadau rhagolygol hyn yn cael effaith mewn perthynas â chynlluniau taliadau uniongyrchol.

(5)

EUR 2014/809, a ddiwygiwyd mewn perthynas â chynlluniau taliadau uniongyrchol gan O.S. 2020/90 a 576. Mae EUR 2014/809 wedi ei ddiwygio hefyd mewn perthynas â chynlluniau taliadau uniongyrchol yn Lloegr gan O.S. 2020/510 a 575. Mae EUR 2014/809 hefyd wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gydag effaith o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu gan O.S. 2019/765. Er hynny, yn rhinwedd y diwygiadau yn Rheoliadau Amaethyddiaeth (Taliadau) (Diwygio, etc.) (Ymadael â’r UE) 2020, nid yw’r diwygiadau rhagolygol hyn yn cael effaith mewn perthynas â chynlluniau taliadau uniongyrchol.

(6)

EUR 2014/907, a ddiwygiwyd mewn perthynas â chynlluniau taliadau uniongyrchol gan O.S. 2020/90. Mae EUR 2014/907 hefyd wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gydag effaith o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu gan O.S. 2019/765. Er hynny, yn rhinwedd y diwygiadau yn Rheoliadau Amaethyddiaeth (Taliadau) (Diwygio, etc.) (Ymadael â’r UE) 2020, nid yw’r diwygiadau rhagolygol hyn yn cael effaith mewn perthynas â chynlluniau taliadau uniongyrchol.

(7)

EUR 2014/908, a ddiwygiwyd mewn perthynas â chynlluniau taliadau uniongyrchol gan O.S. 2020/90. Mae EUR 2014/908 hefyd wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gydag effaith o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu gan O.S. 2019/765. Er hynny, yn rhinwedd y diwygiadau yn Rheoliadau Amaethyddiaeth (Taliadau) (Diwygio, etc.) (Ymadael â’r UE) 2020, nid yw’r diwygiadau rhagolygol hyn yn cael effaith mewn perthynas â chynlluniau taliadau uniongyrchol.

(8)

EUR 2013/1307, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/91, O.S. 2020/576 ac O.S. 2020/760. Ymgorfforwyd y Rheoliad hwn mewn cyfraith ddomestig gan adran 1 o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2).

(9)

EUR 2014/639, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/91 a 576. Diwygiwyd EUR 2014/639 yn rhagolygol gydag effaith o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu gan O.S 2019/208 a 763 (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2019/812), ond dirymwyd y diwygiadau rhagolygol hynny gan Rheoliadau Amaethyddiaeth (Taliadau) (Diwygio, etc.) (Ymadael â’r UE) 2020 yn union cyn ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(10)

EUR 2014/641, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/91. Diwygiwyd EUR 2014/641 hefyd yn rhagolygol gydag effaith o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu gan O.S. 2019/208, er y dirymwyd yr offeryn hwnnw gan Rheoliadau Amaethyddiaeth (Taliadau) (Diwygio, etc.) (Ymadael â’r UE) 2020 yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(13)

O.S. 2014/3263, a ddiwygiwyd gan O.S. 2015/1325. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(14)

O.S. 2015/1252 (Cy. 84), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/217 (Cy. 86), O.S. 2019/688 (Cy. 132) o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ymlaen, ac O.S. 2020/104 (Cy. 17).