Rheoliadau Cynhyrchion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019
2.—(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion Bwyd a Bwyd Anifeiliaid Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 2.
(3) Yn rheoliad 3 (diwygio Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012)—
(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(2A) Yn rheoliad 4(3) hepgorer “Cymunedol”.
(2B) Yn rheoliad 6(1)—
(a)hepgorer is-baragraff (a);
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “16(1)” rhodder “16”.”
(b)ym mharagraff (5), yn y rheoliad newydd 10A sydd i’w fewnosod—
(i)ym mharagraff (1), yn lle “yn unol ag Erthygl 16 o Reoliad 1935/2004” rhodder “sy’n cydymffurfio â pharagraff (2)”;
(ii)ym mharagraff (2), yn lle “yn y Deyrnas Unedig” rhodder “ym Mhrydain Fawr”;
(iii)ym mharagraff (3), yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i Brydain Fawr”;
(c)ar ôl paragraff (6) mewnosoder—
“(6A) Yn rheoliad 27(1)(a)(i), yn lle “10(4), 10(6)” rhodder “10A(1), 10A(3).
(6B) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1, yn yr adran 10(1A) a amnewidiwyd, yn lle “10(4), 10(6)” rhodder “10A(1), 10A(3).”
(4) Hepgorer rheoliad 4.
(5) Yn yr Atodlen, yn yr Atodlen 5 newydd (datganiad o gydymffurfedd) sydd i’w mewnosod, ym mharagraff 1(a), yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i Brydain Fawr”.