Search Legislation

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 1607 (Cy. 334)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020

Gwnaed

18 Rhagfyr 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

21 Rhagfyr 2020

Coming into force in accordance with regulation 1(2) and 1(3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 124 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.

(2Ac eithrio fel y’i darperir ym mharagraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(3Daw rheoliad 9 i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(4Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989(2).

RHAN 2Diwygio’r Prif Reoliadau

Diwygio rheoliad 1

2.—(1Mae rheoliad 1(2) (enwi, cychwyn a dehongli) o’r Prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn y lle priodol mewnosoder—

(a)““the 2014 Act” means the Immigration Act 2014(3);”;

(b)““competent institution” has the same meaning as in Regulation (EC) No 883/2004 or Regulation (EEC) No 1408/71, as the case may be;”;

(c)““equivalent document” means a document which, for the purposes of a listed healthcare arrangement is treated as equivalent to an S1 healthcare certificate(4);”;

(d)““immigration rules” means the rules laid before Parliament under section 3(2) (general provisions for regulation and control) of the Immigration Act 1971(5);”;

(e)““listed healthcare arrangement” has the meaning given in regulation 1(3) of the Healthcare (European Economic Area and Switzerland Arrangements) (EU Exit) Regulations 2019(6);”;

(f)““Regulation (EC) No 883/2004” means Regulation (EC) No 883/2004 of the European Parliament and of the Council of 29 April 2004 on the coordination of social security systems as it had effect immediately before implementation period completion day(7);”;

(g)““Regulation (EEC) No 1408/71” means Council Regulation (EEC) No 1408/71 of 14 June 1971 on the application of social security schemes to employed persons, to self-employed persons and to members of their families moving within the Community as it had effect immediately before implementation period completion day(8);”;

(h)““relevant services” means accommodation, services or facilities(9) which are provided, or whose provision is arranged, under the National Health Service (Wales) Act 2006(10) other than—

(i)primary medical services provided under Part 4 (medical services);

(ii)primary dental services provided under Part 5 (dental services);

(iii)primary ophthalmic services provided under Part 6 (ophthalmic services); or

(iv)equivalent services which are provided, or whose provision is arranged, under that Act;”.

(3Yn lle’r diffiniad o “member of the family” rhodder—

“member of the family” has the same meaning as in Regulation (EC) No 883/2004 or Regulation (EEC) No 1408/71 as the case may be;.

Diwygio rheoliad 4

3.—(1Mae rheoliad 4(1) (ymwelwyr tramor sydd wedi eu hesemptio rhag ffioedd) o’r Prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-baragraff (l), yn lle “another” rhodder “a”.

(3Yn is-baragraff (m), ar ôl “member state” mewnosoder “or a British citizen”.

(4Yn lle is-baragraff (o) rhodder—

(o)in whose case the services are provided in circumstances covered by a reciprocal agreement—

(i)with a country or territory specified in Schedule 2; or

(ii)with an EEA state or Switzerland where that agreement is a listed healthcare arrangement; or.

(5Ar ôl is-baragraff (r) mewnosoder—

(s)who—

(i)is granted leave to remain in the United Kingdom under Appendix S2 Healthcare Visitor to the immigration rules, and

(ii)in respect of whom a waiver to the immigration health charge applies,

except in the case of relevant services which do not form part of the planned healthcare treatment authorised by that person’s S2 healthcare certificate(11)..

Diwygio rheoliad 4A

4.—(1Mae rheoliad 4A (esemptiad rhag ffioedd yn ystod ymweliadau hirdymor gan bensiynwyr y Deyrnas Unedig) o’r Prif Reoliadau wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn is-baragraff (b), yn lle “another” rhodder “a”.

(3Yn is-baragraff (c), yn lle “another” rhodder “a”.

Rheoliadau newydd 4B, 4C a 4D

5.  Ar ôl rheoliad 4A (esemptiad rhag ffioedd yn ystod ymweliadau hirdymor gan bensiynwyr y Deyrnas Unedig) o’r Prif Reoliadau, mewnosoder—

Overseas visitors with citizens’ rights

4B(1) No charge may be made or recovered in respect of any relevant services provided to an overseas visitor who has an entitlement to the provision of those services without charge by virtue of a right arising from—

(a)Title III of Part 2 of the withdrawal agreement;

(b)Title III of Part 2 of the EEA EFTA separation agreement; or

(c)the social security co-ordination provisions of the Swiss citizens’ rights agreement.

(2) Subject to paragraphs (3) to (5) of this regulation, no charge may be made or recovered in respect of any relevant services provided to an overseas visitor who is a member of the family of another overseas visitor (“the principal overseas visitor”) if—

(a)the overseas visitor is lawfully present in the United Kingdom;

(b)the overseas visitor is visiting the United Kingdom with the principal overseas visitor; and

(c)the principal overseas visitor is exempt from changes under paragraph (1).

(3) The exemption in paragraph (2) only applies if both conditions in paragraphs (4) and (5) are satisfied.

(4) The first condition is that—

(a)the overseas visitor does not have a right under an agreement mentioned in paragraph (1), and

(b)the reason that the overseas visitor does not have such a right is because the overseas visitor is not recognised as a member of the family (within the meaning of Article 1(i) of Regulation (EC) No 883/2004).

(5) The second condition is that the relevant services provided to the overseas visitor are services that the overseas visitor would be entitled to receive without charge by virtue of a right under an agreement mentioned in paragraph (1) if the overseas visitor had such a right.

(6) For the purposes of this regulation, unless otherwise provided, “member of the family” means—

(a)the spouse or civil partner of an overseas visitor; or

(b)a child in respect of whom an overseas visitor has parental responsibility.

(7) In paragraph (1), “withdrawal agreement”, “EEA EFTA separation agreement” and “Swiss citizens’ rights agreement” have the same meanings as in section 39(1) of the European Union (Withdrawal Agreement) Act 2020(12).

Overseas visitors with a United Kingdom issued S1 healthcare certificate or equivalent document

4C(1) No charge may be made or recovered in respect of any relevant services provided to an overseas visitor who—

(a)was ordinarily resident in an EEA state or Switzerland immediately before implementation period completion day,

(b)continues to be ordinarily resident in an EEA state or Switzerland on and after implementation period completion day,

(c)receives a state pension paid by the United Kingdom Government, and

(d)holds a S1 healthcare certificate, or an equivalent document, issued to or in respect of that person by a competent institution of the United Kingdom.

(2) No charge may be made or recovered in respect of any relevant services provided to—

(a)the spouse or civil partner of an overseas visitor; or

(b)a child in respect of whom an overseas visitor has parental responsibility,

if that overseas visitor is exempt from charges under paragraph (1).

Persons who make late applications under Appendix EU to the immigration rules

4D.(1) Subject to paragraph (4), no charge may be made or recovered in respect of relevant services provided to an overseas visitor to whom paragraph (2) or (3) applies during the period which begins on the date on which the application mentioned in paragraph (2)(b) or (3)(b), as the case may be, is made and which ends on the date on which that application is finally determined under Appendix EU to the immigration rules.

(2) This paragraph applies to a person who is an overseas visitor by virtue of section 39 of the 2014 Act who—

(a)is eligible to apply for leave to enter or remain in the United Kingdom under Appendix EU to the immigration rules, and

(b)makes a valid application for leave to enter or remain in the United Kingdom under that Appendix to those rules after the application deadline.

(3) This paragraph applies to a person who is an overseas visitor by virtue of section 39 of the 2014 Act who—

(a)was granted limited leave to enter or remain in the United Kingdom under Appendix EU to the immigration rules, and

(b)after the expiry of that limited leave to enter or remain, makes a valid application for indefinite leave to enter or remain in the United Kingdom under Appendix EU to the immigration rules.

(4) Where it is determined under Appendix EU to the immigration rules not to grant leave to enter or remain in the United Kingdom to a person pursuant to an application mentioned in paragraph (2)(b) or (3)(b), as the case may be, a Local Health Board or NHS trust must make and recover charges for any relevant services provided to that person during the period specified in paragraph (1).

(5) Where a person is granted leave to enter or remain in the United Kingdom pursuant to an application mentioned in paragraph (2)(b) or (3)(b)—

(a)if the Local Health Board or NHS trust has made charges for relevant services provided during the period specified in paragraph (1), it must not recover those charges;

(b)if the Local Health Board or NHS trust has made and recovered charges for relevant services provided during the period specified in paragraph (1), it must repay any sum paid in respect of those charges in accordance with regulation 8.

(6) In paragraph (2), “application deadline” has the meaning given in regulation 2 of the Citizens’ Rights (Application Deadline and Temporary Protection) (EU Exit) Regulations 2020(13).

Diwygio rheoliad 5

6.  Yn rheoliad 5(a) (esemptiad rhag ffioedd am driniaeth y cododd yr angen amdani yn ystod yr ymweliad) o’r Prif Reoliadau, ar ôl “a national of a member state,” mewnosoder “a British citizen,”.

Rheoliad newydd 5A

7.  Ar ôl rheoliad 5 (esemptiad rhag ffioedd am driniaeth y cododd yr angen amdani yn ystod yr ymweliad) o’r Prif Reoliadau mewnosoder—

EU Exit: transitional arrangements

5A.  Where an overseas visitor who is ordinarily resident in an EEA state or Switzerland has—

(a)before implementation period completion day received relevant services from a Local Health Board or NHS trust, or

(b)on or after implementation period completion day received relevant services from a Local Health Board or NHS trust as part of a course of treatment which commenced before implementation period completion day,

the charges payable in respect of those services must be calculated in the same way as provided for by regulation 13(1) of the National Health Service (Cross-Border Healthcare) Regulations 2013(14).

Diwygio Atodlen 2

8.—(1Mae Atodlen 2 (gwledydd neu diriogaethau y mae’r Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gytundeb cilyddol mewn cysylltiad â hwy) i’r Prif Reoliadau wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn y lle priodol mewnosoder—

(a)“Bosnia and Herzegovina”;

(b)“Faroe Islands”;

(c)“Kosovo”;

(d)“Liechtenstein”;

(e)“Montenegro”;

(f)“North Macedonia”; ac

(g)“Serbia”.

(3Hepgorer—

(a)“Barbados”;

(b)“Iceland”;

(c)“Russian Federation”;

(d)“the Union of Soviet Socialist Republics except the States of Estonia, Latvia, Lithuania and the Russian Federation”; ac

(e)“Yugoslavia”.

RHAN 3Dirymu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

Dirymu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019

9.  Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(15) wedi eu dirymu.

Vaughan Gething

Y Gweinidog Iechyd, a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

18 Rhagfyr 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (“y Prif Reoliadau”), sy’n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am wasanaethau perthnasol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) i bersonau penodol nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig.

Mae rheoliad 1 yn cynnwys darpariaethau cychwyn a dehongli. Ac eithrio rheoliad 9, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y’i diffinnir yn Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4). Daw rheoliad 9 i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 1 o’r Prif Reoliadau i fewnosod diffiniadau o “the 2014 Act”, “competent institution”, “equivalent document”, “immigration rules”, “listed healthcare arrangements”, “Regulation (EC) No 883/2004”, “Regulation (EEC) No 1408/71” a “relevant services”. Mae hefyd yn diwygio’r diffiniad presennol o “member of the family”.

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 4 o’r prif Reoliadau. Mae paragraffau (1) i (3) yn gwneud mân ddiwygiadau o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. Mae paragraff (4) yn darparu esemptiad rhag ffioedd ar gyfer ymwelwyr tramor o dan amgylchiadau pan fo hyn wedi ei gwmpasu gan gytundeb cilyddol â gwlad a restrir yn Atodlen 2 i’r Prif Reoliadau neu â gwladwriaeth AEE neu’r Swistir o dan drefniant gofal iechyd a restrir. Mae paragraff (5) yn darparu, pan fo caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig at ddibenion ei driniaeth wedi ei roi i berson a chanddo dystysgrif gofal iechyd S2, ac y mae’r ffioedd iechyd mewnfudo wedi eu hepgor mewn cysylltiad ag ef, y caniateir i ffioedd gael eu codi am ddarparu gwasanaethau perthnasol nad ydynt wedi eu hawdurdodi gan y dystysgrif gofal iechyd S2.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 4A o’r Prif Reoliadau i adlewyrchu’r ffaith na fydd y term “Member State” yn cwmpasu’r Deyrnas Unedig ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliadau newydd 4B, 4C a 4D yn y Prif Reoliadau.

Mae rheoliad 4B yn darparu bod personau sydd o fewn cwmpas Teitl III o Ran 2 o’r cytundeb ymadael, Teitl III o Ran 2 o gytundeb gwahanu Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA) yr AEE neu’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd yn gallu parhau i gael gwasanaethau perthnasol yn ddi-dâl pan fo hawl i gael hyn o dan Reoliad (EU) Rhif 883/2004. Mae hefyd yn darparu bod gan aelodau o deulu person o’r fath hawlogaeth i gael gwasanaethau perthnasol yn ddi-dâl, yn ddarostyngedig i amodau penodol.

Mae rheoliad 4C yn darparu y bydd gwladolyn o’r Deyrnas Unedig sy’n cael pensiwn y Deyrnas Unedig ac sy’n preswylio fel arfer mewn gwladwriaeth AEE neu yn y Swistir ac a chanddo dystysgrif gofal iechyd S1 a ddyroddir gan y Deyrnas Unedig (neu ddogfen gyfatebol) yn cael gwasanaethau perthnasol yn ddi-dâl. Mae hefyd yn darparu y bydd gan aelodau o deulu person o’r fath hawlogaeth i gael gwasanaethau perthnasol yn ddi-dâl. Mae rheoliad 4D yn darparu na chodir ffi ar berson, sy’n gwneud cais hwyr o dan Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo, am wasanaethau perthnasol sy’n cael eu darparu tra bo ei gais yn cael ei benderfynu. Os yw’r cais hwnnw yn aflwyddiannus, codir ffi ar y person am ddarparu’r gwasanaethau perthnasol hynny ac, os yw’r cais yn llwyddiannus ac os yw ffioedd wedi eu codi a’u hadennill, caiff y rhain eu had-dalu.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 5 o’r Prif Reoliadau drwy ychwanegu “a British citizen” at y categorïau o bersonau a fydd wedi eu hesemptio rhag ffioedd am driniaeth y mae’r angen amdani yn codi ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Mae rheoliad 7 yn mewnosod rheoliad newydd 5A yn y Prif Reoliadau o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r rheoliad newydd yn darparu, pan fo ymwelydd tramor o wladwriaeth AEE neu’r Swistir naill ai wedi cael triniaeth cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu neu’n rhan o’r ffordd drwy driniaeth ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, y bydd y ffi a oedd yn gymwys cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn gymwys mewn cysylltiad â’r driniaeth honno.

Mae rheoliad 8 yn ychwanegu Bosnia-Herzegovina, Gogledd Macedonia, Kosovo, Liechtenstein, Montenegro, Serbia ac Ynysoedd Ffaröe at y rhestr o wledydd yn Atodlen 2 i’r Prif Reoliadau sy’n ymwneud â chytundebau cilyddol. Mae rheoliad 8 hefyd yn dileu Barbados, Ffederasiwn Rwsia, Gwlad yr Iâ, Iwgoslafia ac Undeb y Gweriniaethau Sofiet Sosialaidd o’r rhestr o wledydd yn Atodlen 2.

Mae rheoliad 9 yn dirymu Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 a baratowyd at Ymadawiad “heb gytundeb” â’r UE ac nad ydynt yn adlewyrchu darpariaethau’r cytundeb ymadael â’r UE, darpariaethau cytundeb gwahanu EFTA yr AEE na darpariaethau’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2006 p. 42. Gweler adran 206(1) am y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.

(4)

Mae tystysgrif gofal iechyd S1 yn rhoi hawlogaeth i berson i gael gofal iechyd mewn gwladwriaeth AEE ac yn y Swistir ar yr un sail â phreswylwyr y wlad honno. Fe’i dyroddir gan wladwriaeth AEE a’r Swistir ac fe’i dyroddwyd gan y Deyrnas Unedig, cyn iddi ymadael â’r UE. Fe’i dyroddwyd i weithwyr penodol a oedd yn gweithio mewn gwladwriaeth AEE neu yn y Swistir a dalodd Gyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y Deyrnas Unedig neu i bobl a oedd yn cael budd-daliadau penodol y Deyrnas Unedig y gellid eu hallforio (er enghraifft, pensiynau ymddeol). Yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r UE, ni fydd y Deyrnas Unedig yn dyroddi tystysgrifau gofal iechyd S1 mwyach ond bydd yn dyroddi dogfen i bersonau cymhwysol penodol a fydd yn darparu’r un mynediad at ofal iechyd â’r ddogfen gofal iechyd S1.

(6)

O.S. 2019/1293, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

OJ Rhif L 166, 30.4.2004, t. 1. Mae’r Rheoliad hwn gan yr UE wedi ei ddiwygio gan offerynnau amrywiol gan yr UE, yn ddiweddaraf gan Reoliad (EU) 2019/1149 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 (OJ Rhif L 186, 11.7.2019, t. 21). Mae diwygiadau wedi eu gwneud yn rhagolygol gydag effaith o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu gan O.S. 2019/722.

(8)

OJ Rhif L 149, 5.7.1971, t. 2. Diddymwyd Rheoliad (EEC) Rhif 1408/71 gan Reoliad (EC) Rhif 883/2004 ond fe’i harbedwyd at ddibenion penodol. Mae Rheoliad (EEC) Rhif 1408/71 wedi ei ddiwygio gan offerynnau amrywiol gan yr UE ac fe’i hailddatganwyd yn Rhan 1 o Atodiad A i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 118/97 dyddiedig 2 Rhagfyr 1996 (OJ Rhif L 28, 30.1.1997, t. 1). Mae wedi ei ddiwygio’n ddiweddaraf gan Reoliad (EC) Rhif 592/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Mehefin 2008 (OJ Rhif L 177, 4.7.2008, t. 1). Mae diwygiadau wedi eu gwneud yn rhagolygol gydag effaith o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu gan O.S. 2019/726.

(9)

Mae “facilities” wedi eu diffinio yn adran 206(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.

(11)

Dyroddir tystysgrif gofal iechyd S2 gan wladwriaeth AEE a’r Swistir, a, chyn iddi ymadael â’r UE, gan y Deyrnas Unedig. Mae’n rhoi hawlogaeth i berson i deithio i wladwriaeth AEE neu’r Swistir i gael triniaeth wedi ei chynllunio ac wedi ei hawdurdodi ymlaen llaw ar yr un sail â phreswylydd y wlad honno, gyda chostau’r driniaeth yn cael eu talu gan y wlad a ddyroddodd y dystysgrif gofal iechyd S2, yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 883/2004.

(12)

2020 p. 1.

(14)

O.S. 2013/2269. Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu dirymu ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu gan O.S. 2019/777, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a darpariaethau trosiannol yn rheoliad 15 i 17 o’r Rheoliadau hynny.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources