
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Schedule
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Newidiadau dros amser i: Paragraff 4


Timeline of Changes
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Statws
Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/10/2021.
Newidiadau i ddeddfwriaeth:
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.

Changes to Legislation
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
Gwaharddiad ar drefnu digwyddiadauLL+C
4.—(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu—
(a)digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf o dan do lle y mae mwy na 15 o bobl yn bresennol, neu
(b)digwyddiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn yr awyr agored lle y mae mwy na 30 o bobl yn bresennol,
heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu digwyddiad chwaraeon elît sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5.
(3) At ddibenion is-baragraff (1)—
(a)nid yw person yn ymwneud â threfnu digwyddiad os nad yw’r person ond yn ymwneud â’r digwyddiad drwy fynd iddo;
(b)mae esgus rhesymol yn cynnwys pan fo’r person wedi cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau nad oes mwy na 15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd;
(c)nid yw’r canlynol i’w trin yn ddigwyddiadau—
(i)marchnad;
(ii)gwasanaeth crefyddol.
Back to top