2020 Rhif 1626 (Cy. 341)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Cymwysterau Proffesiynol, Cymru

Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020

Gwnaed

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 20181 (“Deddf 2018”) ac adrannau 12 a 14 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 20202 (“Deddf 2020”) a pharagraff 12 o Atodlen 4 iddi.

Yn unol â pharagraff 1(9) o Atodlen 7 i Ddeddf 2018 a pharagraff 3(5) o Atodlen 4 i Ddeddf 2020, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

Fel sy’n ofynnol gan baragraff 4(a) o Atodlen 2 i Ddeddf 2018, ymgynghorwyd â’r Ysgrifennydd Gwladol wrth lunio’r Rheoliadau hyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu3.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

4

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2019” yw Rheoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 20194.

Diwygio Rheoliadau 2019

2

Mae Rheoliadau 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3

Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli)—

a

ym mharagraff (2) hepgorer “Yn ddarostyngedig i baragraff (3),”;

b

hepgorer paragraff (3).

4

Yn Rhan 1 (diwygiadau i ddeddfwriaeth), yn lle rheoliad 14 rhodder—

14

Yn Atodlen 1 (gwasanaethau rheoleiddiedig: diffiniadau), ym mharagraff 7(4) (gwasanaethau eirioli), yn lle paragraff (b) rhodder—

b

yn berson y mae un o’r darpariaethau a ganlyn yn cael effaith ar ei gyfer er mwyn caniatáu i’r person hwnnw barhau i ymarfer fel cyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr a Gogledd Iwerddon, neu’r Alban, ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

rheoliad 5 (darpariaeth drosiannol: Gorchymyn 1978 a’r Swistir) o Reoliadau Gwasanaethau Cyfreithwyr ac Ymarfer Cyfreithwyr (Dirymu etc.) (Ymadael â’r UE) 20205 (“Rheoliadau 2020”);

ii

rheoliad 5 (darpariaeth drosiannol: Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Gwasanaethau Cyfreithwyr) 1978 a’r Swistir) o Reoliadau Gwasanaethau Cyfreithwyr ac Ymarfer Cyfreithwyr (Ymadael â’r UE) (Yr Alban) (Diwygio etc.) 20196 (“Rheoliadau 2019”);

iii

rheoliad 6 (darpariaeth drosiannol: Rheoliadau 2000 a chyfreithwyr Swisaidd) o Reoliadau 2020;

iv

rheoliad 7 (darpariaeth drosiannol: Rheoliadau’r Cymunedau Ewropeaidd (Ymarfer Cyfreithwyr) (Yr Alban) 2000 a chyfreithwyr Swisaidd) o Reoliadau 2019.

Mewnosod darpariaeth ddehongli5

Yn Rhan 2 (arbedion a darpariaeth drosiannol), o Reoliadau 2019 o flaen rheoliad 16 mewnosoder—

Dehongli Rhan 215A

1

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “contract presennol” (“existing contract”) yw contract ysgrifenedig a gwblhawyd, ac y dechreuwyd ei gyflawni, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2005/36” (“Directive 2005/36”) yw Cyfarwyddeb 2005/36/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 7 Medi 2005 ar gydnabod cymwysterau proffesiynol, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

  • ystyr “cyfnod cydnabod Swisaidd” (“Swiss recognition period”) yw’r cyfnod o bedair blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod yn union ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

  • ystyr “cyfnod trosiannol ymarferwyr sydd ar ymweliad” (“visiting practitioner transitional period”) yw—

    1. a

      y cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu (gweler Erthygl 23(1) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd), neu

    2. b

      os yw’r cyfnod ym mharagraff (a) yn cael ei estyn yn unol ag Erthygl 23(2) o’r Cytundeb hwnnw, y cyfnod hwnnw fel y’i hestynnir;

  • ystyr “cymhwyster perthnasol” (“relevant qualification”) yw—

    1. a

      cymhwyster proffesiynol a geir mewn Gwladwriaeth AAE neu yn y Swistir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

    2. b

      cymhwyster proffesiynol a ddechreuodd mewn Gwladwriaeth AEE neu yn y Swistir ond nas cwblhawyd cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

    3. c

      cymhwyster proffesiynol trydedd wlad a gydnabyddir gan awdurdod cymwys yn y Swistir yn unol ag Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 2005/36 cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

    4. d

      cymhwyster proffesiynol trydedd wlad y mae cais i’w gydnabod yn unol ag Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 2005/36 wedi ei gyflwyno i awdurdod cymwys yn y Swistir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, pan fo’r cais hwnnw yn llwyddiannus,

  • ac at ddibenion y diffiniad hwn, ystyr “cymhwyster proffesiynol” yw cymhwyster sy’n berthnasol i ddilyn gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol;

  • ystyr “cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd” (“Swiss citizens’ rights agreement”) (fel y’i haddesir o bryd i’w gilydd yn unol ag unrhyw ddarpariaeth ohono) yw’r Cytundeb a lofnodwyd yn Bern ar 25 Chwefror 2019 rhwng Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon a Chydffederasiwn y Swistir ar hawliau dinasyddion yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r canlynol—

    1. a

      yr Undeb Ewropeaidd, a

    2. b

      y cytundeb ar symudiad rhydd personau,

  • i’r graddau y mae’r Cytundeb yn gweithredu at ddibenion yr achos pan fo i “dyddiad penodedig” at ddibenion y Cytundeb hwnnw yr ystyr a roddir i “specified date” yn Erthygl 2(b)(ii) o’r Cytundeb hwnnw;

  • ystyr “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol” (“relevant European State”) yw Gwladwriaeth AEE neu’r Swistir;

  • ystyr “hawl UE orfodadwy” (“enforceable EU right”) yw hawl a gydnabyddir ac sydd ar gael mewn cyfraith ddomestig yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn rhinwedd adran 2(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19727;

  • ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau’r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 20078 fel—

    1. a

      yr oeddent, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn parhau i fod yn gymwys yn rhinwedd—

      1. i

        rheoliad 78 o Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015;

      2. ii

        rheoliad 155 o Reoliadau Cymwysterau Ewropeaidd (Proffesiynau Iechyd a Gofal Cymdeithasol) 20169; a

    2. b

      y maent, ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn parhau i fod yn gymwys o dan Ran 3 o Atodlen 1 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 201910;

  • ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 201511;

  • mae i “trydedd wlad” yr un ystyr â “third country” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2007;

  • ystyr “ymgeisydd perthnasol” (“relevant applicant”) yw person—

    1. a

      sy’n darparu gwasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig ar sail dros dro ac yn achlysurol ac ar sail contract presennol,

    2. b

      a ddechreuodd ddarparu gwasanaeth a grybwyllir ym mharagraff (a), neu sy’n dechrau darparu gwasanaeth o’r fath, naill ai—

      1. i

        cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel cyflogai neu yn rhinwedd hunangyflogaeth, neu

      2. ii

        ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel cyflogai a leolir at ddiben cyflawni gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol yn y Deyrnas Unedig gan ei gyflogwr sydd wedi ei sefydlu yn y Deyrnas Unedig neu’r Swistir,

    3. c

      sydd—

      1. i

        yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig,

      2. ii

        yn wladolyn o’r Swistir, neu

      3. iii

        yn wladolyn o drydedd wlad, a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn rhinwedd unrhyw hawl UE orfodadwy, â hawlogaeth i beidio â chael ei drin yn llai ffafriol na gwladolyn o’r Deyrnas Unedig neu’r Swistir at ddibenion mynediad at waith cymdeithasol, neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol, a dilyn y gwaith hwnnw,

    4. d

      sydd wedi ei sefydlu’n gyfreithlon yn y Swistir at ddiben mynediad at waith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol yno, a dilyn y gwaith hwnnw yno,

    5. e

      sydd, os nad yw proffesiwn gweithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal cymdeithasol y mae’r person yn dymuno cael mynediad ato a’i ddilyn yn y Deyrnas Unedig na’r addysg a’r hyfforddiant sy’n arwain ato yn cael eu rheoleiddio yn y Swistir, wedi dilyn y proffesiwn hwnnw yn y Swistir am o leiaf 2 flynedd yn ystod y 10 mlynedd cyn darparu gwasanaethau.

Mewnosod arbediad cyffredinol mewn cysylltiad â chamau gweithredu a gymerir etc. cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu6

Ar ôl rheoliad 15A (dehongli Rhan 2) o Reoliadau 2019 (fel y’i mewnosodir gan reoliad 5), mewnosoder—

Camau gweithredu a gymerir, penderfyniadau a wneir etc. cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu15B

Nid yw’r diwygiadau a wneir gan Ran 1 i Ddeddf 2016 yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw gam gweithredu a gymerir, unrhyw benderfyniad a wneir, neu unrhyw hawl neu atebolrwydd a gronnir, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu o dan y Ddeddf honno, ac eithrio fel y’i darperir gan unrhyw ddarpariaeth arbed neu unrhyw ddarpariaeth drosiannol a wneir gan y Rhan hon.

Mewnosod darpariaeth o ran cydweithredu gweinyddol

7

Ar ôl rheoliad 15B (camau gweithredu a gymerir, penderfyniadau a wneir etc. cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu: arbediad cyffredinol) (fel y’i mewnosodir gan reoliad 6) o reoliadau 2019, mewnosoder—

Cydweithredu gweinyddol o dan gytundeb hawliau dinasyddion EFTA yr AEE15C

1

Pan fo person wedi gwneud cais, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, o dan Erthygl 26 o gytundeb hawliau dinasyddion EFTA yr AEE i awdurdod cymwys yng Ngwlad yr Iâ, Norwy neu Liechtenstein i gymhwyster proffesiynol a ddyfernir neu a gydnabyddir gan Ofal Cymdeithasol Cymru gael ei gydnabod, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru—

a

cydweithredu â’r awdurdod cymwys yng Ngwlad yr Iâ, Norwy neu Liechtenstein, neu â’r person (yn ôl y digwydd), yn unol â’r ddarpariaeth cydweithredu cyffredinol, a

b

darparu gwybodaeth i’r awdurdod cymwys yng Ngwlad yr Iâ, Norwy neu Liechtenstein ynghylch camau disgyblu a gymerwyd neu sancsiynau troseddol a osodwyd, neu unrhyw amgylchiadau difrifol penodol eraill sy’n debygol o gael effaith wrth i’r unigolyn hwnnw ddilyn gweithgareddau proffesiynol.

2

Rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru brosesu gwybodaeth at ddibenion paragraff (1) yn unol â deddfwriaeth diogelu data o fewn ystyr “the data protection legislation” yn adran 3(9) o Ddeddf Diogelu Data 201812.

3

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “awdurdod cymwys” (“competent authority”), o ran Gwlad yr Iâ, Norwy a Liechtenstein, yw corff yng Ngwlad yr Iâ, Norwy neu Liechtenstein (yn ôl y digwydd), sy’n awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliadau 2015 (gweler paragraff (b) o’r diffiniad o “competent authority” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau hynny);

  • ystyr “cytundeb hawliau dinasyddion EFTA yr AEE” (“EEA EFTA citizens’ rights agreement”) yw’r Cytundeb a lofnodwyd yn Llundain ar 2 Ebrill 2019 rhwng Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Liechtenstein, Teyrnas Norwy a Theyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ar drefniadau ynghylch hawliau dinasyddion yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd a Chytundeb yr AEE;

  • ystyr “y ddarpariaeth cydweithredu cyffredinol” (“the general cooperation provision”) yw—

    1. a

      rheoliad 5(2), (4) a (5) o Reoliadau 2015, fel y’i haddesir gan baragraff 44(4)(b) o Atodlen 1 i Reoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 201913,

    2. b

      rheoliad 5(3) o Reoliadau 2015,

    i’r graddau y maent yn gymwys mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol Cymru;

  • ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau 201514 fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn ddarostyngedig i’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad at “the Care Council for Wales” i’w ddarllen fel pe bai “Social Care Wales” wedi ei roi yn ei le.

8

Yn rheoliad 16(1) (ceisiadau sydd yn yr arfaeth) o Reoliadau 2019, yn lle “y diwrnod ymadael” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.

Mewnosod rheoliad 16A9

Ar ôl rheoliad 16 (ceisiadau sydd yn yr arfaeth) o Reoliadau 2019, mewnosoder—

Gweithwyr cymdeithasol Swisaidd a rheolwyr gofal cymdeithasol Swisaidd sy’n cymhwyso y tu allan i Gymru: arbed yr hen gyfraith16A

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“ymgeisydd cymhwysol”)—

a

sydd—

i

yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig,

ii

yn wladolyn o’r Swistir, neu

iii

yn wladolyn o drydedd wlad a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn rhinwedd unrhyw hawl UE orfodadwy, â hawlogaeth i beidio â chael ei drin yn llai ffafriol na gwladolyn o’r Deyrnas Unedig neu’r Swistir at ddibenion mynediad at waith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol, a dilyn y gwaith hwnnw;

b

sy’n dymuno cael mynediad at waith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru, a dilyn y gwaith hwnnw, ar sail barhaol pa un ai fel cyflogai neu yn rhinwedd hunangyflogaeth;

c

sydd â chymhwyster perthnasol;

d

sydd, os cafwyd y cymhwyster perthnasol hwnnw mewn trydedd wlad, â thair blynedd o brofiad proffesiynol mewn gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol yn y Swistir ac a ardystiwyd gan awdurdod cymwys Swisaidd;

e

sydd, os yw’r cymhwyster perthnasol hwnnw yn gymhwyster proffesiynol a geir mewn gwladwriaeth AEE, wedi ei sefydlu’n gyfreithlon yn y Swistir, oni bai bod y person yn wladolyn Swisaidd.

2

Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan Ran 1, mae’r darpariaethau o Ddeddf 2016 y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) yn parhau i fod yn gymwys i gais cofrestru a gyflwynir gan ymgeisydd cymhwysol ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel yr oeddent yn gymwys yn union cyn y diwrnod hwnnw ond fel y’u haddesir gan baragraff (5).

3

Mae paragraff (2) yn cael effaith tan ddiwedd y cyfnod cydnabod Swisaidd.

4

Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

a

yn adran 66(1), y diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;

b

adran 85(1) (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru – gweithwyr cymdeithasol);

c

adran 85A (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru – rheolwyr gofal cymdeithasol);

d

adran 90(8) (diffiniadau at ddibenion Rhannau 3 i 8 o Ddeddf 2016);

e

adran 105 (apelau eraill: penderfyniadau a wneir o dan y Rheoliadau Systemau Cyffredinol).

5

I’r graddau y mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys yn rhinwedd paragraff (2), maent yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

a

yn adran 85(1) (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru – gweithwyr cymdeithasol), fel pe bai “weithiwr cymdeithasol Swisaidd” wedi ei roi yn lle “berson esempt”;

b

yn adran 85A (cymwysterau a geir y tu allan i Gymru – rheolwyr gofal cymdeithasol), fel pe bai “rheolwr gofal cymdeithasol Swisaidd” wedi ei roi yn lle “berson esempt”;

c

yn adran 90(8) (diffiniadau at ddibenion Rhannau 3 i 8 o Ddeddf 2016)—

i

fel pe bai’r diffiniadau o “gwladolyn”, “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol” a “person esempt” wedi eu hepgor;

ii

fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”—

  • ystyr “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol” (“the General Systems Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 (O.S. 2015/2059)—

    1. a

      mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel yr oeddent yn cael effaith ar yr adeg honno ond yn ddarostyngedig i’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad at “the Care Council for Wales” i’w ddarllen fel pe bai “Social Care Wales” wedi ei roi yn ei le;

    2. b

      fel (a dim ond i’r graddau) y maent yn cael effaith, ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, mewn perthynas â hawlogaeth sy’n codi mewn perthynas â chymhwyster perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 15A o Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019);

iii

fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod yn y lle priodol—

  • mae i “gweithiwr cymdeithasol Swisaidd” (“Swiss social worker”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 16A(6) o Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019;

  • “mae i “rheolwr gofal cymdeithasol Swisaidd” (“Swiss social care manager”)yr ystyr a roddir yn rheoliad 16A(6) o Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019;

d

yn adran 105 (apelau eraill: penderfyniadau a wneir o dan y Rheoliadau Systemau Cyffredinol)—

i

yn is-adran (1), fel pe bai paragraffau (a), (c) a’r “neu” yn union o flaen paragraff (c) wedi eu hepgor;

ii

yn is-adran (5)(b), fel pe bai’r geiriau o “neu, yn achos” hyd at y diwedd wedi eu hepgor.

6

Yn y rheoliad hwn—

  • ystyr “cais cofrestru” (“registration application”) yw cais i dderbyn i gofrestr a gynhelir yn unol ag adran 80 o Ddeddf 2016;

  • ystyr “gweithiwr cymdeithasol Swisaidd” (“Swiss social worker”) yw ymgeisydd cymhwysol nad oedd, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi gwneud cais cofrestru (ac eithrio cais o dan adran 90 o Ddeddf 2016);

  • ystyr “rheolwr gofal cymdeithasol Swisaidd” (“Swiss social care manager”) yw ymgeisydd cymhwysol nad oedd, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, wedi gwneud cais cofrestru (ac eithrio cais o dan adran 90A o Ddeddf 2016).

Amnewid rheoliad 17 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad a rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad: arbed yr hen gyfraith)10

Yn lle rheoliad 17 o Reoliadau 2019 rhodder—

Gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad a rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad: arbed yr hen gyfraith17

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan—

a

yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

i

roedd gan berson fudd rheoliad 12 o Reoliadau 201515 mewn cysylltiad â darparu gwasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal cymdeithasol gan y person hwnnw, a

ii

roedd adran 90(3) neu 90A(3) o Ddeddf 2016 yn gymwys i’r person;

b

bo’r person, yn rhinwedd y rheoliad hwn, yn parhau i gael y budd hwnnw ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu; ac

c

na fo’r person yn ymgeisydd perthnasol.

2

Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan Ran 1, mae’r darpariaethau o Ddeddf 2016 a bennir ym mharagraff (4) yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â darparu’r gwasanaethau hynny gan berson y mae paragraff (1) yn gymwys iddo ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel yr oeddent yn gymwys cyn y diwrnod hwnnw, ond yn ddarostyngedig i’r addasiadau a bennir ym mharagraff (5).

3

Mae paragraff (2) yn cael effaith tan—

a

yn achos person sydd wedi ei gofrestru yn unol ag adran 90(3) neu 90A(3) o Ddeddf 2016, y diwrnod y caiff enw’r person ei ddileu o’r gofrestr o dan adran 90(6) neu 90A(6) o’r Ddeddf honno yn ôl y digwydd;

b

yn achos person sy’n cael ei drin fel pe bai wedi ei gofrestru o dan adran 90(4) neu 90A(4) o Ddeddf 2016, y diwrnod y mae hawlogaeth y person i gael ei gofrestru o dan adran 90(3) neu 90A(3) o Ddeddf 2016 yn peidio yn rhinwedd adran 90(5) neu 90A(5) o’r Ddeddf honno yn ôl y digwydd.

4

Y darpariaethau o Ddeddf 2016 y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

a

yn adran 66(1) (dehongli Rhannau 3 i 8), y diffiniadau o “gwladolyn”, “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol”, “person esempt”, “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad”, “rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” ac “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;

b

adran 74(3) (rheolau: ffioedd);

c

yn adran 80, is-adrannau (1)(c) a (d), (2)(c) a (d) a (3)(c) a (d) (y gofrestr);

d

adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol);

e

adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol);

f

adran 105 (apelau eraill: penderfyniadau a wneir o dan y Rheoliadau Systemau Cyffredinol);

g

adran 113(3) i (5) (datblygiad proffesiynol parhaus).

5

I’r graddau y mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys yn rhinwedd paragraff (2), maent yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

a

yn adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol)—

i

mae is-adran (1) i’w darllen fel pe bai “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” wedi ei hepgor;

ii

mae is-adran (8) i’w darllen—

aa

fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r diffiniadau o “person esempt” ac “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”—

  • ystyr “person esempt” (“exempt person”) yw—

    1. a

      person a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn wladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol,

    2. b

      person a oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn wladolyn o’r Deyrnas Unedig ac a oedd, ar yr adeg honno, yn ceisio mynediad at waith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol, neu’n dilyn y gwaith hwnnw, yn rhinwedd hawl UE orfodadwy, neu

    3. c

      person nad oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn wladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol, ond a oedd, ar yr adeg honno, yn rhinwedd hawl UE orfodadwy, â hawlogaeth i beidio â chael ei drin, at ddibenion mynediad at waith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol, a dilyn y gwaith hwnnw, yn llai ffafriol na gwladolyn o Wladwriaeth Ewropeaidd berthnasol, ac at ddibenion y diffiniad hwn, ystyr “hawl UE orfodadwy” (“enforceable EU right”) yw hawl a gydnabyddir ac sydd ar gael mewn cyfraith ddomestig, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn rhinwedd adran 2(1) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68);

  • ystyr “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol” (“the General Systems Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 (O.S. 2015/2059)—

    1. a

      mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel yr oeddent yn cael effaith ar yr adeg honno ond yn ddarostyngedig i’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad at “the Care Council for Wales” i’w ddarllen fel pe bai “Social Care Wales” wedi ei roi yn ei le,

    2. b

      fel arall (a dim ond i’r graddau) y maent yn cael effaith, ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, mewn perthynas â hawlogaeth a gododd cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu neu sy’n codi o ganlyniad i rywbeth a wneir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

bb

yn y diffiniad o “gwladolyn”, fel pe bai “nad oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” wedi ei roi yn lle “nad yw”;

b

yn adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol), mae is-adran (1) i’w darllen fel pe bai “ac eithrio’r Deyrnas Unedig” wedi ei hepgor.

6

At ddibenion y rheoliad hwn, mae Rheoliadau 2015 yn cael effaith fel pe bai “Social Care Wales” wedi ei roi yn lle unrhyw gyfeiriad at “the Care Council for Wales”.

Amnewid rheoliad 18 (dehongli darpariaethau sydd wedi eu harbed gan reoliad 17(2))11

Yn lle rheoliad 18 (dehongli darpariaethau sydd wedi eu harbed gan reoliad 17(2)) o Reoliadau 2019 rhodder—

Gweithwyr cymdeithasol Swisaidd sydd ar ymweliad a rheolwyr gofal cymdeithasol Swisaidd sydd ar ymweliad: arbed yr hen gyfraith18

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ymgeisydd perthnasol.

2

Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan Ran 1, mae’r darpariaethau o Ddeddf 2016 a bennir ym mharagraff (5) yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â darparu’r gwasanaethau hynny gan ymgeisydd perthnasol ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu fel yr oeddent yn gymwys yn union cyn y diwrnod hwnnw yn ddarostyngedig i’r cyfyngiad ym mharagraff (3) a’r addasiadau a bennir ym mharagraff (6).

3

Ni chaiff ymgeisydd perthnasol ond darparu gwasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol neu reolwr gofal cymdeithasol am gyfnod nad yw’n hwy na 90 o ddiwrnodau mewn unrhyw flwyddyn galendr.

4

Mae paragraff (2) yn cael effaith tan ddiwedd y cyfnod trosiannol ymarferwyr sydd ar ymweliad.

5

Y darpariaethau o Ddeddf 2016 y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

a

yn adran 66(1) (dehongli Rhannau 3 i 8), y diffiniadau o “gwladolyn”, “Gwladwriaeth Ewropeaidd berthnasol”, “rhan gweithwyr cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad”, “rhan rheolwyr gofal cymdeithasol Ewropeaidd sydd ar ymweliad” ac “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;

b

adran 74(3) (rheolau: ffioedd);

c

yn adran 80, is-adrannau (1)(c) a (d), (2)(c) a (d) a (3)(c) a (d) (y gofrestr);

d

adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol);

e

adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol);

f

adran 105 (apelau eraill: penderfyniadau a wneir o dan y Rheoliadau Systemau Cyffredinol);

g

adran 113(3) i (5) (datblygiad proffesiynol parhaus).

6

I’r graddau y mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys yn rhinwedd paragraff (2), maent yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—

a

yn adran 90 (gweithwyr cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol)—

i

mae is-adran (1) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn ei lle—

1

Mae’r adran hon yn gymwys i ymgeisydd perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 15A o Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019) (“V”) sydd wedi ei sefydlu’n gyfreithlon yn y Swistir fel gweithiwr cymdeithasol.

ii

mae is-adran (8) i’w darllen—

aa

fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”—

  • ystyr “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol” (“the General Systems Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 (O.S. 2015/2059)—

    1. a

      mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel yr oeddent yn cael effaith ar yr adeg honno ond yn ddarostyngedig i’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad at “the Care Council for Wales” i’w ddarllen fel pe bai “Social Care Wales” wedi ei roi yn ei le,

    2. b

      fel arall (a dim ond i’r graddau) y maent yn cael effaith, ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, mewn perthynas â hawlogaeth a gododd cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu neu sy’n codi o ganlyniad i rywbeth a wneir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;

bb

yn y diffiniad o “gwladolyn”, fel pe bai “nad oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” wedi ei roi yn lle “nad yw”;

b

mae adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—

1

Mae’r adran hon yn gymwys i ymgeisydd perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 15A o Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019) (“X”) sydd wedi ei sefydlu’n gyfreithlon yn y Swistir fel rheolwr gofal cymdeithasol.

c

mae adran 113 (datblygiad proffesiynol parhaus) i’w darllen fel pe bai yn is-adran (5) “yw’r Swistir” wedi ei roi yn lle “yw’r Wladwriaeth” hyd at y diwedd.

Mewnosod darpariaeth o ran triniaeth gyfartal a chydweithredu gweinyddol o dan y cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd12

Ar ôl rheoliad 18 (gweithwyr cymdeithasol Swisaidd sydd ar ymweliad a rheolwyr gofal cymdeithasol Swisaidd sydd ar ymweliad: arbed yr hen gyfraith) o Reoliadau 2019 (fel y’i hamnewidir gan reoliad 11), mewnosoder—

Triniaeth gyfartal a chydweithredu gweinyddol o dan y cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd18A

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ymgeisydd perthnasol.

2

Wrth ymdrin ag ymgeisydd perthnasol sy’n dilyn gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn unol â rheoliad 18 (gweithwyr cymdeithasol Swisaidd sydd ar ymweliad a rheolwyr gofal cymdeithasol Swisaidd sydd ar ymweliad: arbed yr hen gyfraith) mewn perthynas ag unrhyw fater, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru beidio â thrin y person hwnnw yn llai ffafriol nag y byddai’n trin ymgeisydd brodorol (o fewn ystyr “native applicant” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2007) sy’n darparu’n gyfreithlon wasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol neu fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru mewn perthynas â’r mater hwnnw.

3

Pan fo person yn darparu gwasanaethau a fyddai’n gyfystyr, pe baent yn cael eu darparu yng Nghymru, â gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol ar sail dros dro ac yn achlysurol yn y Swistir yn unol ag Erthygl 23 o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru gydweithredu â’r awdurdod cymwys priodol yn y Swistir a darparu iddo unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i gyfreithlondeb ymsefydliad ac ymddygiad da yr unigolyn, yn ogystal ag absenoldeb unrhyw sancsiynau disgyblu neu droseddol o natur broffesiynol, yn unol ag adran 159 o Ddeddf 2016 (datgelu gwybodaeth am addasrwydd i ymarfer).

4

Pan fo person wedi gwneud neu’n gwneud cais sy’n dod o fewn Erthygl 31(1) neu 32(1) neu (5) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd i awdurdod cymwys yn y Swistir i gymhwyster proffesiynol a ddyfernir neu a gydnabyddir gan Ofal Cymdeithasol Cymru gael ei gydnabod, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru—

a

cydweithredu â’r awdurdod cymwys yn y Swistir neu’r person (yn ôl y digwydd), yn unol â’r ddarpariaeth cydweithredu cyffredinol, a

b

darparu gwybodaeth i’r awdurdod cymwys yn y Swistir ynghylch camau disgyblu a gymerwyd neu sancsiynau troseddol a osodwyd, neu unrhyw amgylchiadau difrifol penodol sy’n debygol o gael effaith wrth i’r unigolyn hwnnw ddilyn gweithgareddau proffesiynol.

5

Rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru brosesu gwybodaeth at ddibenion paragraffau (3) a (4) yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data o fewn ystyr “the data protection legislation” yn adran 3(9) o Ddeddf Diogelu Data 201816.

6

Yn y rheoliad hwn—

  • mae i “awdurdod cymwys” yr ystyr a roddir i “competent authority” gan reoliad 4(1) i (3) o Reoliadau 2007, ac o ran y Swistir ei ystyr yw corff yn y Swistir sy’n awdurdod cymwys at ddibenion rheoliad 4(4) o Reoliadau 2007;

  • ystyr “y ddarpariaeth cydweithredu cyffredinol” (“the general cooperation provision”) yw rheoliad 5(2) i (7) o Reoliadau 2007 (swyddogaethau awdurdodau cymwys yn y Deyrnas Unedig), i’r graddau y mae’n gymwys mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol Cymru.

7

At ddibenion y rheoliad hwn, mae Rheoliadau 2007 yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn—

a

mae unrhyw gyfeiriad at “social worker in Wales” yn cael effaith fel pe bai “social worker or social care manager in Wales” wedi ei roi yn ei le,

b

mae unrhyw gyfeiriad at “the Care Council for Wales” yn cael effaith fel pe bai “Social Care Wales” wedi ei roi yn ei le.

Diwygio rheoliad 19 (rhybuddion system wybodaeth y farchnad fewnol (IMI))13

Yn rheoliad 19 (rhybuddion system wybodaeth y farchnad fewnol (IMI)) o Reoliadau 2019, yn lle “y diwrnod ymadael” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu”.

Julie MorganY Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/761 (Cy. 144) (“Rheoliadau 2019”) er mwyn cywiro mân wallau drafftio a rhoi cyfeiriadau at “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” yn lle cyfeiriadau at “y diwrnod ymadael”.

Maent hefyd wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir yn adrannau 12 a 14 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) a pharagraff 12 o Atodlen 4 iddi er mwyn gweithredu a gwneud darpariaeth drosiannol ychwanegol yn Rheoliadau 2019 sy’n ymwneud â’r canlynol—

  • cytundeb hawliau dinasyddion Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA) yr AEE a lofnodwyd yn Llundain ar 2 Ebrill 2019 rhwng Gwlad yr Iâ, Tywysogaeth Liechtenstein, Teyrnas Norwy a Theyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ar drefniadau ynghylch hawliau dinasyddion yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd a Chytundeb yr AEE, ac

  • y cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd a lofnodwyd yn Bern ar 25 Chwefror 2019 rhwng y Deyrnas Unedig a Chydffederasiwn y Swistir ar hawliau dinasyddion yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd a’r cytundeb ar symudiad rhydd personau,

i’r graddau y mae’r cytundebau hynny yn ymwneud â chydnabod cymwysterau proffesiynol yn gilyddol a darparu gwasanaethau proffesiynol dros dro ac yn achlysurol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.