- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Gwnaed
17 Rhagfyr 2020
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno(2).
Yn unol â pharagraff 4(a) o Atodlen 2 i’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol ynghylch y darpariaethau yn y Rheoliadau hyn sy’n dod i rym cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020.
(2) Deuant i rym fel a ganlyn—
(a)daw’r Rhan hon a Rhan 3 i rym yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;
(b)daw Rhan 2 i rym ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
2.—(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”, a hepgorer “UE” yn yr ail le y mae’n digwydd.
(3) Yn rheoliad 3—
(a)ym mharagraff (1), yn lle’r geiriau o “rhestrau” hyd at “yr UE”, rhodder “Rhan A o Atodiad 11, neu Atodiad 12, i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 sy’n sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau gwarchod rhag plâu planhigion”;
(b)ym mharagraff (3)—
(i)yn is-baragraff (a), yn lle’r diffiniad o “pla planhigion a reolir” rhodder—
“ystyr “pla planhigion a reolir” yw pla cwarantin Prydain Fawr, pla cwarantin Prydain Fawr dros dro, pla cwarantin PFA, neu bla Prydain Fawr a reoleiddir nad yw’n destun cwarantin;”;
(ii)hepgorer is-baragraff (aba).
(4) Yn rheoliad 4(6)(a), ar ôl “pasbortau planhigion” mewnosoder “y DU”.
(5) Yn rheoliad 5A(5), yn y diffiniad o “gwasanaeth cyn-allforio”—
(a)hepgorer “i drydedd wlad”;
(b)yn lle “gofynion ffytoiechydol y drydedd wlad” rhodder “gofynion mewnforio ffytoiechydol perthnasol o fewn ystyr Erthygl 99a o’r Rheoliad Iechyd Planhigion”.
(6) Yn rheoliad 6—
(a)ym mharagraff (1), hepgorer y geiriau o “, at” hyd at “Penderfyniad,”;
(b)hepgorer paragraff (2).
(7) Hepgorer rheoliad 6A.
(8) Yn Atodlen 2, yn y tabl, hepgorer y cofnodion yn y golofn gyntaf, yr ail golofn a’r drydedd golofn sy’n ymwneud â Citrus, Mangifera a Passiflora.
3. Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020(4) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 4 i 22.
4.—(1) Mae Rhan 1 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)Ym mharagraff (1)—
(i)yn y diffiniad o “llwyth a reolir”—
(aa)yn lle “diriogaeth yr Undeb”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “Brydain Fawr”;
(bb)ym mharagraff (a)(i), yn lle “o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Iechyd Planhigion”;
(cc)hepgorer paragraff (a)(ii);
(dd)ym mharagraff (a)(iii), yn lle “o reolau iechyd planhigion yr UE” rhodder “o’r rheolau iechyd planhigion”, ac yn lle “o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Iechyd Planhigion”;
(ii)yn y diffiniad o “pla planhigion a reolir”—
(aa)ym mharagraff (a), ar ôl “2,” mewnosoder “2A,”;
(bb)hepgorer paragraff (b);
(cc)ym mharagraff (c), yn lle “o reolau iechyd planhigion yr UE” rhodder “o’r rheolau iechyd planhigion”;
(iii)hepgorer y diffiniad o “penderfyniad brys gan yr UE”;
(iv)yn y diffiniad o “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE”, ar y diwedd mewnosoder “fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE”;
(v)hepgorer y diffiniad o “un o reolau iechyd planhigion yr UE”;
(vi)yn y diffiniad o “Rheoliad Rheolaethau Swyddogol”, yn lle “i reolau iechyd planhigion yr UE” rhodder “i’r rheolau iechyd planhigion”;
(vii)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “rheol iechyd planhigion” (“plant health rule”) yw rheol o’r fath a grybwyllir yn Erthygl 1(2)(g) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol;”;
“ystyr “Rheoliad Iechyd Planhigion” (“Plant Health Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fesurau gwarchod rhag plâu planhigion(5);”;
(viii)yn y diffiniad o “pla planhigion”, yn lle “o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Iechyd Planhigion”;
(ix)yn y diffiniad o “eitem a reoleiddir”, yn lle “o reolau iechyd planhigion yr UE” rhodder “o’r rheolau iechyd planhigion”;
(b)ym mharagraff (2), yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”.
(3) Hepgorer rheoliadau 3 a 4.
(4) Yn rheoliad 5—
(a)yn y pennawd, yn lle “o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Iechyd Planhigion”;
(b)ym mharagraffau (1) a (2), yn lle “o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “o’r Rheoliad Iechyd Planhigion”.
5.—(1) Mae Rhan 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6(2), yn y diffiniad o “gweithredwr proffesiynol coedwigaeth”—
(a)yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Iechyd Planhigion”;
(b)ym mharagraff (b), yn lle “diriogaeth yr Undeb”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Brydain Fawr neu un o Diriogaethau Dibynnol y Goron”;
(c)ar ôl paragraff (c) mewnosoder—
“(ca)cyflwyno deunydd coedwigaeth i Ogledd Iwerddon o Gymru;”.
6.—(1) Mae Rhan 3 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7—
(a)ym mharagraff (1), ar ôl “drwy’r awyr” mewnosoder “neu i borthladd RoRo yng Nghymru”;
(b)ym mharagraff (4)—
(i)yn y diffiniad o “gweithredwr cyfrifol”, yn lle “yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”;
(ii)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “porthladd RoRo” (“RoRo port”) yw lleoliad RoRo a restrir o fewn ystyr “RoRo listed location” yn rheoliad 130 o Reoliadau Tollau (Tollau Mewnforio) (Ymadael â’r UE) 2018(6);”.
(3) Yn rheoliad 8—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “o reolau iechyd planhigion yr UE” rhodder “o’r rheolau iechyd planhigion”;
(b)ym mharagraff (2)(b), yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”.
(4) Yn rheoliad 10(1)—
(a)yn is-baragraffau (a) a (b), yn lle “o reolau iechyd planhigion yr UE”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “o’r rheolau iechyd planhigion”;
(b)yn is-baragraff (c), yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”.
(5) Yn rheoliad 11(1)(c), yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”.
7.—(1) Mae Rhan 4 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 14(2), yn y diffiniad o “deunydd gwaharddedig”—
(a)ym mharagraff (b)—
(i)yn lle “diriogaeth yr Undeb neu i Gymru” rhodder “Brydain Fawr”;
(ii)yn lle “o reolau iechyd planhigion yr UE” rhodder “o’r rheolau iechyd planhigion”;
(b)ym mharagraff (c)—
(i)hepgorer “o fewn tiriogaeth yr Undeb, neu”;
(ii)yn lle “o reolau iechyd planhigion yr UE” rhodder “o’r rheolau iechyd planhigion”.
(3) Yn rheoliad 16(4), hepgorer “(gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd)”.
8. Hepgorer rheoliad 18.
9.—(1) Mae Rhan 6 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 19, yn lle “o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “o’r Rheoliad Iechyd Planhigion”.
(3) Yn rheoliad 20—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn is-baragraff (b), yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;
(ii)yn is-baragraff (c)—
(aa)yn lle’r coma rhodder “neu”;
(bb)hepgorer “neu dystysgrif cyn-allforio”;
(b)ym mharagraff (2), yn y diffiniad o “gweithgaredd perthnasol”—
(i)yn lle “Reoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;
(ii)hepgorer “, penderfyniad brys gan yr UE”;
(iii)yn lle “un arall o reolau iechyd planhigion yr UE” rhodder “reol iechyd planhigion arall”.
(4) Yn rheoliad 21—
(a)ym mharagraff (1)(c)—
(i)ar ôl “o dan” mewnosoder “, neu yn rhinwedd,”;
(ii)yn lle “Reoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;
(iii)ar ôl “Swyddogol” mewnosoder “, unrhyw reoliadau a wneir o dan y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol,”;
(b)ym mharagraff (3)—
(i)yn y diffiniad o “rhanddirymiad iechyd planhigion”—
(aa)ym mharagraff (a), yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”, ac yn lle “Reoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;
(bb)ym mharagraff (a), yn lle “mewn act weithredu neu act ddirprwyedig a fabwysiadwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd” rhodder “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir neu reoliadau a wneir”;
(cc)hepgorer paragraff (b), a’r “neu” o’i flaen;
(ii)yn y diffiniad o “pla planhigion cwarantin posibl”, yn lle’r geiriau o “yr Undeb” hyd at “yr UE”, rhodder “Prydain Fawr neu’n bla cwarantin Prydain Fawr dros dro”.
(5) Yn rheoliad 22(1)—
(a)yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;
(b)yn lle’r coma rhodder “neu”;
(c)yn lle “neu’r Rheoliadau hyn” rhodder “neu at ddibenion y Rheoliadau hyn, neu oddi tanynt,”.
10.—(1) Mae Rhan 8 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliadau 24 a 25.
(3) Yn rheoliad 26—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)hepgorer “unrhyw un neu ragor o’r planhigion neu’r cynhyrchion planhigion a ganlyn”;
(ii)ar ôl “sy’n dod ag” mewnosoder “unrhyw bren tanwydd solet o drydedd wlad nad yw Erthygl 47(1) o’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn gymwys iddo”;
(iii)hepgorer is-baragraffau (a) i (c);
(b)ym mharagraff (2)—
(i)yn is-baragraff (c), hepgorer “planhigion neu’r”;
(ii)yn is-baragraff (d)—
(aa)hepgorer “planhigion neu’r”;
(bb)yn y testun Saesneg, yn lle “have been, or are” rhodder “has been, or is”;
(iii)hepgorer is-baragraff (e);
(iv)yn lle is-baragraff (f) rhodder—
“(f)cyfeiriad y traddodwr, ac
(g)manylion unrhyw driniaethau ffytoiechydol a roddwyd i’r pren.”
11.—(1) Mae Rhan 9 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 27(1) a (2), yn lle “o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “o’r Rheoliad Iechyd Planhigion”.
(3) Yn rheoliad 28—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)yn is-baragraff (a)—
(aa)ym mharagraff (ii), yn lle “â Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “â’r Rheoliad Iechyd Planhigion”;
(bb)ym mharagraff (iv), yn lle’r geiriau o “o reolau iechyd” hyd at y diwedd rhodder “o’r rheolau iechyd planhigion yn cydymffurfio â’r rheol honno”;
(ii)yn is-baragraffau (b), (c) ac (e), yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;
(b)ym mharagraff (6), yn lle is-baragraff (a) rhodder—
“(a)dod ag unrhyw bersonau y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol; a”;
(c)hepgorer paragraff (7);
(d)ym mharagraff (8), yn y geiriau cyn is-baragraff (a), hepgorer “(ii)”.
(4) Yn rheoliad 31(4)—
(a)hepgorer “eraill”;
(b)hepgorer “(gan gynnwys cynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd)”.
(5) Yn rheoliad 34(1), yn lle “Reoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”.
(6) Yn rheoliad 35(1)—
(a)yn lle “mewn rhan arall o diriogaeth yr Undeb” rhodder “yn y Deyrnas Unedig neu i awdurdod Tiriogaeth Ddibynnol y Goron”;
(b)yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”.
12.—(1) Mae Rhan 11 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 38(1)—
(a)yn is-baragraff (a), hepgorer “24(1), 25(1) neu”;
(b)hepgorer is-baragraff (b);
(c)yn is-baragraff (d), yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;
(d)yn is-baragraff (e), yn lle “o reolau iechyd planhigion yr UE” rhodder “o’r rheolau iechyd planhigion”;
(e)yn is-baragraff (f), ar ôl “ddeddfwriaeth” mewnosoder “uniongyrchol” ac ar ôl “yr UE” mewnosoder “a ddargedwir”;
(f)hepgorer is-baragraff (g).
(3) Yn rheoliad 41, ar ôl “pasbort planhigion” mewnosoder “y DU”;
(4) Yn rheoliad 42—
(a)yn y pennawd, ar ôl “planhigion” mewnosoder “y DU”;
(b)ym mharagraff (1), yn is-baragraffau (a) i (c), ar ôl “pasbort planhigion”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “y DU”.
(5) Yn rheoliad 43—
(a)ym mharagraff (1)(a) ac (c), yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;
(b)yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Ym mharagraff (1)—
(a)ystyr “person awdurdodedig” yw person a awdurdodwyd gan awdurdod priodol;
(b)mae cyfeiriad at y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol yn cynnwys cyfraith yr UE a ddargedwir a fabwysiedir, neu reoliadau a wneir, o dan y Rheoliad Iechyd Planhigion neu’r Rheoliad Rheolaethau Swyddogol ac unrhyw gyfraith iechyd planhigion arall yr UE a ddargedwir.”
13. Hepgorer Atodlen 1.
14. Mae Atodlen 2 wedi ei diwygio yn unol â rheoliadau 15 i 20.
15.—(1) Mae Rhan 1 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1—
(a)hepgorer y diffiniadau o “Cyfarwyddeb 93/85/EEC”, “Cyfarwyddeb 98/57/EC” a “Cyfarwyddeb 2007/33/EC”;
(b)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “EPPO PM 7/21” (“EPPO PM 7/21”) yw’r safon sy’n disgrifio protocol diagnostig ar gyfer Ralstonia solanacearum, R. pseudosolanacearum ac R. syzygii a gymeradwyir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor(7);
ystyr “EPPO PM 7/40” (“EPPO PM 7/40”) yw’r safon sy’n disgrifio protocol diagnostig ar gyfer Globodera rostochiensis a Globodera pallida a gymeradwyir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor(8);
ystyr “EPPO PM 7/59” (“EPPO PM 7/59”) yw’r safon sy’n disgrifio protocol diagnostig ar gyfer Clavibacter michiganensis subsp. sepedonicus a gymeradwyir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor(9);
ystyr “EPPO PM 7/119” (“EPPO PM 7/119”) yw’r safon sy’n disgrifio’r gweithdrefnau ar gyfer echdynnu nematodau a gymeradwyir gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor(10);.”.
16.—(1) Mae Rhan 2 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 2—
(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “, heblaw’r Swistir” rhodder “y mae’r gwaharddiad yn Erthygl 40(1) o’r Rheoliad Iechyd Planhigion yn gymwys iddynt”;
(b)yn is-baragraff (2)—
(i)ym mharagraff (a), yn lle “raglen a gymeradwywyd yn swyddogol yn yr Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir” rhodder “raglen ar gyfer ardystio tatws a gymeradwywyd yn swyddogol gan awdurdod cymwys neu awdurdod Tiriogaeth Ddibynnol y Goron”;
(ii)ym mharagraff (b), yn lle “Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/21”;
(iii)ym mharagraff (c), yn lle “Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “EPPO PM 7/59”.
17.—(1) Mae Rhan 4 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 7—
(a)yn y diffiniad o “cae”, yn lle “Erthygl 3 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC” rhodder “y Rhan hon”;
(b)yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “mesurau penodedig” (“specified measures”) yw—
at ddibenion paragraff 9(2), ail-samplu swyddogol y cae a chynnal profion swyddogol ar y samplau, a gynhelir o leiaf bob tair blynedd ar ôl gweithredu mesurau rheoli priodol a gymeradwywyd yn swyddogol yn y cae neu, yn unrhyw achos arall, o leiaf bum mlynedd ar ôl y flwyddyn y canfuwyd Llyngyr tatws neu y tyfwyd tatws ddiwethaf yn y cae ynddi;
at ddibenion paragraffau 11(3) a 15—
dadheigio’r bylbiau neu’r planhigion drwy ddulliau priodol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Llyngyr tatws;
symud pridd oddi ar y bylbiau neu’r planhigion drwy eu golchi neu eu brwsio hyd nes eu bod yn rhydd rhag pridd i bob pwrpas, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Llyngyr tatws;”.
(3) Ar ôl paragraff 7 mewnosoder—
7A. Rhaid cynnal unrhyw brofion swyddogol ar samplau at ddibenion y Rhan hon yn unol ag EPPO PM 7/40 ac EPPO PM 7/119.”
(4) Ym mharagraff 8—
(a)yn is-baragraff (a), yn lle “ag Erthyglau 4 a 5 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC” rhodder “â’r Rhan hon”;
(b)yn is-baragraff (b), yn lle “ag Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2007/33/EC” rhodder “â’r Rhan hon”.
(5) Mae paragraff 8 yn dod yn baragraff 8(1) ac ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—
“(2) Rhaid i ymchwiliad swyddogol i gae at ddibenion paragraff 8(1)(a) gael ei gynnal—
(a)cyn y plannu neu storio arfaethedig, a
(b)oni bai bod tystiolaeth ddogfennol o ymchwiliad swyddogol blaenorol sy’n cadarnhau na chanfuwyd unrhyw Lyngyr tatws yn ystod yr ymchwiliad ac nad oedd tatws na phlanhigion cynhaliol yn bresennol ar adeg yr ymchwiliad hwnnw ac nad ydynt wedi eu tyfu yn y cae ers yr ymchwiliad hwnnw, rhwng cynaeafu’r cnwd diwethaf yn y cae a’r gwaith arfaethedig o blannu tatws hadyd neu ddeunydd arall sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.
(3) Yn achos cae lle y mae tatws hadyd neu blanhigion cynhaliol, y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, i’w plannu neu eu storio, rhaid i ymchwiliad swyddogol at ddibenion paragraff 8(1)(a) gynnwys samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu pridd briodol a chynnal profion swyddogol ar y samplau.
(4) Yn achos cae lle y mae bylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, i’w plannu neu eu storio, rhaid i ymchwiliad swyddogol at ddibenion paragraff 8(1)(a) gynnwys—
(a)samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu pridd briodol a chynnal profion swyddogol ar y samplau, neu
(b)gwirio, ar sail canlyniadau profion priodol a gymeradwywyd yn swyddogol, na fu Llyngyr tatws yn bresennol yn y cae yn ystod y 12 mlynedd flaenorol neu wirio, ar sail hanes cnydio hysbys y cae, na thyfwyd unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol yn y cae yn ystod y 12 mlynedd flaenorol.
(5) Rhaid i arolwg swyddogol at ddibenion paragraff 8(1)(b) gynnwys samplu pridd y cae ar y gyfradd samplu briodol ar o leiaf 0.5% o’r erwau a ddefnyddir i gynhyrchu tatws yn y flwyddyn berthnasol a chynnal profion swyddogol ar y samplau.
(6) Nid yw paragraff 8(1)(a) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi cadarnhau nad oes unrhyw risg o ledaenu Llyngyr tatws ac—
(a)bod unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir ei ddefnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu i’w ddefnyddio o fewn yr un man cynhyrchu sydd wedi ei leoli o fewn ardal sydd wedi ei diffinio yn swyddogol,
(b)bod tatws hadyd i’w defnyddio o fewn yr un man cynhyrchu sydd wedi ei leoli o fewn ardal sydd wedi ei diffinio yn swyddogol, neu
(c)yn achos unrhyw fylbiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu blanhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y bwriedir eu defnyddio i gynhyrchu planhigion ar gyfer eu plannu, bod y planhigion a gynaeafir i fod yn destun mesurau a gymeradwywyd yn swyddogol.
(7) At ddibenion is-baragraffau (3) i (5)—
(a)“y gyfradd samplu briodol”, mewn perthynas â chae, yw’r gyfradd samplu ofynnol a bennir yn y tabl a ganlyn—
Is-baragraff | Cae | Y Gyfradd | |
---|---|---|---|
(3) a (4) | Cae ≤ 8 hectar | 1,500 ml o bridd fesul hectar a gesglir o 100 craidd/hectar o leiaf | |
Cae > 8 hectar | Yr 8 hectar cyntaf | 1,500 ml o bridd fesul hectar | |
Pob hectar ychwanegol | 400 ml o bridd fesul hectar | ||
Cae ≤ 4 hectar sy’n bodloni un maen prawf o leiaf ym mharagraff (b) | 400 ml o bridd fesul hectar | ||
Cae > 4 hectar sy’n bodloni un maen prawf o leiaf ym mharagraff (b) | Y 4 hectar cyntaf | 400 ml o bridd fesul hectar | |
Pob hectar ychwanegol | 200 ml o bridd fesul hectar | ||
(5) | Cae ≤ 4 hectar | Unrhyw un neu ragor o’r cyfraddau a ganlyn: —400 ml o bridd fesul hectar —gwaith samplu wedi ei dargedu ar o leiaf 400 ml o bridd yn dilyn cynnal archwiliad gweledol o wreiddiau sydd â symptomau gweledol, neu —pan fo’n bosibl olrhain y tatws a gynaeafwyd i’r cae lle y’u tyfwyd, 400 ml o bridd sy’n gysylltiedig â’r tatws a gynaeafwyd. |
(b)y meini prawf yw—
(i)bod tystiolaeth ddogfennol yn bodoli i ddangos nad yw tatws na phlanhigion cynhaliol wedi eu tyfu yn y cae yn y chwe mlynedd cyn yr ymchwiliad swyddogol, neu nad oeddent yn bresennol yn y cae yn ystod y cyfnod hwnnw;
(ii)nad oes unrhyw Lyngyr tatws wedi eu canfod yn ystod y ddau ymchwiliad swyddogol olynol diweddaraf mewn samplau o 1,500 ml o bridd/hectar, ac nad oes unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol, ac eithrio’r rhai y mae’r ymchwiliad swyddogol yn ofynnol ar eu cyfer, wedi eu tyfu yn y cae ers y cyntaf o’r ddau ymchwiliad hynny;
(iii)nad oes unrhyw Lyngyr tatws na Llyngyr tatws heb gynnwys byw wedi eu canfod yn yr ymchwiliad swyddogol diweddaraf a oedd ar ffurf maint sampl o 1,500 ml o bridd/hectar o leiaf, ac nad oes unrhyw datws na phlanhigion cynhaliol, ac eithrio’r rhai y mae’r ymchwiliad swyddogol yn ofynnol ar eu cyfer, wedi eu tyfu yn y cae ers yr ymchwiliad swyddogol diweddaraf.”
(6) Ym mharagraff 9(2), yn lle’r geiriau o “a gymeradwywyd yn swyddogol” hyd at “2007/33/EC” rhodder “penodedig perthnasol”.
(7) Ym mharagraffau 11(3) a 15, yn lle “y mesurau a nodir yn Adran 3(A) o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2007/33/EC” rhodder “un o’r mesurau penodedig perthnasol”.
18.—(1) Mae Rhan 5 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 17—
(a)yn y diffiniadau o “blwyddyn dyfu gyntaf” a “halogedig”, yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(a) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “yn unol â pharagraff 19(1)(a)”;
(b)yn y diffiniad o “halogedig o bosibl”, yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(b) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “yn unol â pharagraff 19(1)(b)”.
(3) Ym mharagraff 18—
(a)yn is-baragraff (1), hepgorer “, yn unol ag Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb 93/85/EEC”;
(b)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Yn achos cloron Solanum tuberosum L., rhaid i’r arolygon hynny gynnwys cynnal profion swyddogol ar samplau o datws hadyd a thatws eraill yn unol ag EPPO PM 7/59.
(1B) Yn achos planhigion Solanum tuberosum L., rhaid cynnal yr arolygon hynny yn unol â dulliau priodol, a rhaid iddynt gynnwys cynnal profion swyddogol priodol ar samplau.
(1C) Rhaid i’r gwaith o gasglu samplau at ddibenion is-baragraffau (1A) ac (1B) fod yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol ac ystadegol cadarn a bioleg Pydredd cylch tatws, ac ystyried systemau cynhyrchu tatws perthnasol.”;
(c)yn is-baragraff (2)(a), yn lle’r geiriau o “Atodiad”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, hyd at “93/85/EEC”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “EPPO PM 7/59”.
(4) Ym mharagraff 19(1)—
(a)ym mharagraff (b), yn lle “ystyried y materion a nodir ym mhwynt 1 o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder—
“roi sylw i’r ffactorau a ganlyn—
(i)y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a dyfir yn y man cynhyrchu halogedig;
(ii)y mannau cynhyrchu sydd ag unrhyw gysylltiad cynhyrchu â’r deunydd hwnnw sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, gan gynnwys y rhai sy’n rhannu cyfarpar a chyfleusterau cynhyrchu yn uniongyrchol neu drwy gontractwr sy’n gyffredin rhyngddynt;
(iii)cynhyrchu deunydd arall sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn y man cynhyrchu halogedig, neu bresenoldeb deunydd o’r fath yn y man hwnnw;
(iv)y mangreoedd sy’n trafod tatws o’r man cynhyrchu halogedig a’r mannau cynhyrchu a grybwyllir yn is-baragraff (ii);
(v)unrhyw wrthrych a allai fod wedi dod i gysylltiad â’r deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;
(vi)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a gaiff ei storio mewn unrhyw wrthrych cyn iddo gael ei ddiheintio, neu ddeunydd o’r fath sydd wedi dod i gysylltiad ag unrhyw wrthrych o’r fath;
(vii)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n perthyn fel chwaer neu riant drwy glonio i’r deunydd halogedig sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a mannau cynhyrchu’r deunydd hwnnw;”;
(b)ym mharagraff (c), yn lle “y materion a nodir ym mhwynt 2 o Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “agosrwydd mannau cynhyrchu eraill sy’n tyfu tatws neu blanhigion cynhaliol eraill a chynhyrchu a defnyddio stociau tatws hadyd ar y cyd”;
(c)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Wrth wneud dynodiad neu benderfyniad o dan is-baragraff (1), rhaid i arolygydd roi sylw i egwyddorion gwyddonol cadarn, bioleg Pydredd cylch tatws a systemau cynhyrchu, marchnata a phrosesu perthnasol.”
(5) Ym mharagraff 20—
(a)yn is-baragraff (2)—
(i)ym mharagraff (a), yn lle “unrhyw fesur arall sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd cylch tatws”;
(ii)ym mharagraff (b), yn lle “yn unol â phwynt 2 o Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “mewn modd sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd cylch tatws”;
(b)yn is-baragraff (3), yn lle “Cyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “y Rhan hon”.
(6) Ym mharagraff 21—
(a)yn is-baragraffau (2)(c), (3)(c) a (4)(d), yn lle “Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/59”;
(b)yn is-baragraff (8), yn lle “Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/59”.
(7) Ym mharagraff 23(7)(b), yn lle “Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 93/85/EEC” rhodder “EPPO PM 7/59”.
19.—(1) Mae Rhan 6 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 24—
(a)yn y diffiniadau o “blwyddyn dyfu gyntaf” a “halogedig”, yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(ii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “yn unol â pharagraff 26(2)(c)”;
(b)yn y diffiniad o “halogedig o bosibl”, yn lle “at ddibenion Erthygl 5(1)(a)(iii) neu (c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EEC” rhodder “yn unol â pharagraff 26(2)(d)”.
(3) Ym mharagraff 25—
(a)yn is-baragraff (1), hepgorer “yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 98/57/EC”;
(b)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Rhaid i’r arolygon hynny fod yn seiliedig ar asesiad risg i nodi ffynonellau halogi posibl eraill sy’n peryglu cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a chynnwys arolygon swyddogol wedi eu targedu mewn ardaloedd cynhyrchu, yn seiliedig ar yr asesiad risg perthnasol, i nodi presenoldeb Pydredd coch tatws ar—
(a)deunydd perthnasol, ac eithrio deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau,
(b)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau neu chwistrellu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ac
(c)gollyngiadau gwastraff hylifol o fangre brosesu neu becynnu diwydiannol sy’n trafod deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.
(1B) Rhaid i’r arolygon hynny hefyd fod yn seiliedig ar fioleg Pydredd coch tatws a’r systemau cynhyrchu perthnasol, a rhaid iddynt gynnwys—
(a)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n cynnwys planhigion Solanum tuberosum L., cynnal arolygiadau gweledol o’r cnwd sy’n tyfu, ar adegau priodol, neu samplu tatws hadyd a thatws eraill yn ystod y tymor tyfu neu wrth eu storio, a rhaid i hynny gynnwys cynnal arolygiad gweledol swyddogol o gloron drwy eu torri;
(b)yn achos tatws hadyd a, phan fo’n briodol, thatws eraill, cynnal profion swyddogol ar samplau gan ddefnyddio’r dull a nodir yn EPPO PM 7/21;
(c)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n cynnwys planhigion Solanum lycopersicum L., cynnal arolygiadau gweledol, ar adegau priodol, o leiaf o’r cnwd o blanhigion sy’n tyfu y bwriedir eu defnyddio i’w hailblannu at ddefnydd proffesiynol;
(d)ar gyfer planhigion cynhaliol, ac eithrio deunyddiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ac ar gyfer dŵr gan gynnwys gwastraff hylifol, cynnal profion swyddogol.
(1C) Rhaid i’r gwaith o gasglu samplau at ddibenion is-baragraff (1B) fod yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol ac ystadegol cadarn a bioleg Pydredd coch tatws, ac ystyried systemau cynhyrchu tatws perthnasol o ran deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a phlanhigion cynhaliol eraill Pydredd coch tatws.”;
(c)yn is-baragraff (2)—
(i)ym mharagraff (a)(i), yn lle’r geiriau o “Atodiad”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, hyd at y diwedd rhodder “EPPO PM 7/21”;
(ii)ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “a bennir” hyd at “98/57/EC” rhodder “y cyfeirir atynt yn EPPO PM 7/21”.
(4) Ym mharagraff 26—
(a)yn is-baragraff (2)—
(i)ym mharagraff (a), yn lle “yn unol ag Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder—
“sy’n cynnwys cynnal ymchwiliad i’r pethau a ganlyn—
(i)tatws sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sy’n perthyn drwy glonio i unrhyw datws halogedig;
(ii)tomatos sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sydd o’r un ffynhonnell ag unrhyw domatos halogedig;
(iii)tatws neu domatos sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sydd o dan reolaeth swyddogol ac yr amheuir eu bod wedi eu halogi â Phydredd coch tatws;
(iv)tatws sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sy’n perthyn drwy glonio i unrhyw datws a dyfwyd yn y man cynhyrchu halogedig;
(v)tatws neu domatos sy’n tyfu gerllaw’r man cynhyrchu halogedig, gan gynnwys y rhai sy’n rhannu cyfarpar a chyfleusterau cynhyrchu yn uniongyrchol neu drwy gontractwr sy’n gyffredin rhyngddynt;
(vi)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau a chwistrellu o unrhyw ffynhonnell y cadarnheir neu yr amheuir ei bod wedi ei halogi a Phydredd coch tatws;
(vii)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau a chwistrellu o ffynhonnell a ddefnyddir ar y cyd â’r mannau cynhyrchu halogedig a’r mannau cynhyrchu sy’n halogedig o bosibl;
(viii)mannau cynhyrchu sydd wedi eu gorlifo, neu a oedd wedi eu gorlifo, â dŵr wyneb halogedig neu ddŵr wyneb sy’n halogedig o bosibl;
(ix)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau neu chwistrellu’r man cynhyrchu halogedig neu gaeau sydd wedi eu gorlifo yn y man cynhyrchu halogedig;”;
(ii)ym mharagraff (e), yn lle “yn unol â phwynt 2(i) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “gan ystyried y ffactorau perthnasol”;
(b)yn is-baragraff (3)—
(i)ym mharagraff (a), yn lle “yn unol ag Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “sy’n cynnwys cynnal ymchwiliad i’r pethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(a)(i) i (ix)”;
(ii)ym mharagraff (d), yn lle “yn unol â phwynt 2(i) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “gan ystyried y ffactorau perthnasol”;
(c)yn is-baragraff (4)(d), yn lle “yn unol â phwynt 2(ii) o Atodiad 5 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “gan ystyried y ffactorau perthnasol”;
(d)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—
“(5) Y “ffactorau perthnasol” yw—
(a)at ddibenion is-baragraffau (2)(e) a (3)(d)—
(i)agosrwydd mannau cynhyrchu eraill sy’n tyfu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;
(ii)cynhyrchu a defnyddio stociau tatws hadyd ar y cyd;
(iii)mannau cynhyrchu sy’n defnyddio dŵr wyneb i ddyfrhau neu chwistrellu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau pan fo risg o ddŵr wyneb ffo o’r man cynhyrchu halogedig;
(b)at ddibenion is-baragraff (4)(d)—
(i)mannau cynhyrchu sy’n cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n gyfagos i ddŵr wyneb halogedig, neu sy’n wynebu risg o orlifo gan ddŵr o’r fath;
(ii)unrhyw fasn dyfrhau ar wahân sy’n gysylltiedig â’r dŵr wyneb halogedig;
(iii)crynofeydd dŵr sy’n gysylltiedig â’r dŵr wyneb halogedig, gan roi sylw i gyfeiriad a chyfradd llif y dŵr wyneb halogedig a phresenoldeb planhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt.”
(5) Ym mharagraff 27—
(a)yn is-baragraff (2)—
(i)ym mharagraff (a), yn lle “fesur sy’n cydymffurfio â phwynt 1 o Atodiad 6 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws”;
(ii)ym mharagraff (b), yn lle “yn unol â phwynt 2 o Atodiad 6 i Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “drwy ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws”;
(b)yn is-baragraff (3), yn lle “Cyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “y Rhan hon”.
(6) Ym mharagraff 28, yn is-baragraffau (2)(c), (3)(c) a (4)(g), yn lle “Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 98/57/EC”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “EPPO PM 7/21”.
(7) Ym mharagraff 30—
(a)yn is-baragraff (7)—
(i)ym mharagraff (a), yn lle “Erthygl 5(1)(a)(iv) o Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “paragraff 26(3)(d)”;
(ii)ym mharagraff (b), yn lle “Erthygl 5(1)(c)(iii) o Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “paragraff 26(4)(d)”;
(b)yn is-baragraff (8)(b), yn lle “Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 98/57/EC” rhodder “EPPO PM 7/21”.
20. Ym mharagraff 31—
(a)yn lle’r pennawd rhodder “Mesurau ychwanegol ynglŷn â thatws o’r Aifft”;
(b)yn is-baragraff (1)—
(i)yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”;
(ii)yn lle “Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EC” rhodder “Erthygl 41(1) o’r Rheoliad Iechyd Planhigion”.
21.—(1) Mae Atodlen 3 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y pennawd, yn lle “Rheoliadau’r UE” rhodder “neddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir”.
(3) Yn Rhan 1—
(a)yn y pennawd, yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “Y Rheoliad Iechyd Planhigion”;
(b)yn y tabl—
(i)yn y pennawd i’r golofn gyntaf, yn lle “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” rhodder “y Rheoliad Iechyd Planhigion”;
(ii)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 5(1)—
(aa)yn lle “cwarantin Undeb”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “cwarantin Prydain Fawr”;
(bb)yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”, ac yn lle “tiriogaeth yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”;
(iii)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 9(3)—
(aa)yn lle “Undeb”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “Prydain Fawr”;
(bb)yn lle “bla sy’n destun mesurau a fabwysiadwyd yn unol ag Erthygl 30(1)” rhodder “bla cwarantin Prydain Fawr dros dro”;
(cc)yn lle “diriogaeth yr Undeb”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Brydain Fawr”;
(dd)yn lle “parth gwarchodedig” rhodder “PFA”;
(ee)yn lle “priod barth gwarchodedig” rhodder “ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw”;
(iv)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 14(1)—
(aa)yn lle’r geiriau o “Undeb” hyd at “Erthygl 30(1)” rhodder “Prydain Fawr neu bla cwarantin Prydain Fawr dros dro”;
(bb)yn lle “parth gwarchodedig” rhodder “PFA”;
(cc)yn lle “y priod barth gwarchodedig” rhodder “yr ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw”;
(v)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 14(3), yn lle “Undeb” rhodder “Prydain Fawr”;
(vi)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 15(1)—
(aa)yn lle “Undeb” rhodder “Prydain Fawr”;
(bb)yn lle “parth gwarchodedig” rhodder “PFA”;
(cc)yn lle “y priod barth gwarchodedig” rhodder “yr ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw”;
(vii)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 32(2)—
(aa)yn lle “parth gwarchodedig”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “PFA”;
(bb)yn lle “y priod barth gwarchodedig”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “yr ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw”, ac yn lle “i’r priod barth gwarchodedig” rhodder “i’r ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr a sefydlwyd mewn cysylltiad â’r pla hwnnw”;
(viii)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 37(1)—
(aa)yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”, ac yn lle “tiriogaeth yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”;
(bb)yn lle “Undeb”, yn yr ail le a’r trydydd lle y mae’n digwydd, rhodder “Prydain Fawr”;
(ix)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 40(1), yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”;
(x)yn lle’r cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 41(1) rhodder—
“Erthygl 41(1) (fel y’i darllenir gydag Erthyglau 47 a 48(1)) | Yn gwahardd cyflwyno i Brydain Fawr blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill o drydydd gwledydd oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni. |
Erthygl 41(1A) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 48(1)) | Yn gwahardd cyflwyno i Brydain Fawr blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill o diriogaethau Dibynnol y Goron oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni. |
Erthygl 41(1B) (fel y’i darllenir gydag Erthygl 48(1)) | Yn gwahardd symud o fewn Prydain Fawr blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill oni bai bod y gofynion arbennig mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny wedi eu cyflawni.”; |
(xi)yn y cofnodion sy’n ymwneud ag Erthyglau 42(2) a 43(1), yn lle “diriogaeth yr Undeb”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Brydain Fawr”;
(xii)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 53(1)—
(aa)yn lle “barthau gwarchodedig penodol”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”;
(bb)yn lle “fewn tiriogaeth yr Undeb i barthau gwarchodedig penodol” rhodder “Brydain Fawr neu diriogaeth Ddibynnol y Goron i ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”;
(xiii)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 54(1)—
(aa)yn lle “i barthau gwarchodedig penodol” rhodder “i ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”, ac yn lle “mewn parthau gwarchodedig penodol” rhodder “mewn ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”;
(bb)yn lle “parthau gwarchodedig hynny”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “ardaloedd hynny sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”;
(xiv)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 59—
(aa)yn lle “diriogaeth yr Undeb”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “Brydain Fawr”;
(bb)yn lle’r geiriau o “cwarantin Undeb” hyd at “Erthygl 30(1)” rhodder “cwarantin Prydain Fawr neu blâu cwarantin Prydain Fawr dros dro”;
(cc)yn lle “parthau gwarchodedig” rhodder “ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”;
(dd)yn lle “barthau gwarchodedig” rhodder “ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”;
(ee)yn lle “priod barth gwarchodedig” rhodder “PFA”;
(ff)ar y diwedd mewnosoder “sy’n ymwneud â’r ardaloedd hynny”;
(xv)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 62(1), yn lle’r geiriau o “Undeb” hyd at y diwedd, rhodder “Prydain Fawr a phlâu cwarantin Prydain Fawr dros dro”;
(xvi)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 62(2), yn lle’r geiriau o “Undeb” hyd at y diwedd rhodder “Prydain Fawr neu bla cwarantin Prydain Fawr dros dro”;
(xvii)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthyglau 72(1) a 73, yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”;
(xviii)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 74(1), yn lle “barthau gwarchodedig penodol” rhodder “ardaloedd penodol sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”;
(xix)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 79(1)—
(aa)yn y golofn gyntaf, yn lle “a 83” rhodder “, 83 a 92a”;
(bb)yn yr ail golofn, yn lle “tiriogaeth yr Undeb heb basbort planhigion” rhodder “Prydain Fawr neu gyflwyno planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau penodol eraill i Brydain Fawr o diriogaeth Ddibynnol y Goron heb basbort planhigion y DU”;
(xx)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 80(1)—
(aa)yn y golofn gyntaf, yn lle “a 83” rhodder “, 83 a 92a”;
(bb)yn yr ail golofn, yn lle “barthau gwarchodedig penodol” a “parthau gwarchodedig penodol” rhodder “ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”, ac ar y diwedd, mewnosoder “y DU”;
(xxi)yn y cofnodion sy’n ymwneud ag Erthygl 84(1) ac Erthygl 84(3), ar ôl “pasbortau planhigion”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “y DU”;
(xxii)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 85, ar ôl “pasbortau planhigion” mewnosoder “y DU”;
(xxiii)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 86(1)—
(aa)ar ôl “pasbortau planhigion” mewnosoder “y DU”;
(bb)yn lle “barth gwarchodedig” rhodder “ardal sy’n rhydd rhag plâu Prydain Fawr”;
(xxiv)ar ôl y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 86(1) mewnosoder—
“Erthygl 86a | Yn gwahardd gweithredwyr proffesiynol awdurdodedig rhag dyroddi pasbortau planhigion y DU ar gyfer planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill i’w cyflwyno i diriogaeth Ddibynnol y Goron, oni bai bod y gofynion penodol wedi eu cyflawni mewn cysylltiad â’r planhigion, y cynhyrchion planhigion neu’r gwrthrychau eraill hynny.”; |
(xxv)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 88, ar ôl “pasbortau planhigion” mewnosoder “y DU”;
(xxvi)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 90(1), ar ôl “pasbort planhigion” mewnosoder “y DU”;
(xxvii)yn y cofnodion sy’n ymwneud ag Erthygl 93(1) ac Erthygl 93(5), ar ôl “pasbortau planhigion” mewnosoder “y DU”;
(xxviii)yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 96(1), yn lle “tiriogaeth yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”.
(4) Yn Rhan 2, yn y cofnodion sy’n ymwneud ag Erthyglau 47(5) a 56(4), yn lle “i’r Undeb”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “i Brydain Fawr”, ac yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 56(4), yn lle “yr Undeb” rhodder “Prydain Fawr”.
(5) Yn Rhan 3, yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 22(4) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/2124, yn lle “diriogaeth yr Undeb” rhodder “Brydain Fawr”.
22. Hepgorer Atodlen 4.
23. Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019(11) wedi eu dirymu.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
17 Rhagfyr 2020
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16), er mwyn ymdrin ag unrhyw fethiant yng nghyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu’n effeithiol a diffygion eraill (yn enwedig y diffygion y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a), (d) ac (g) o adran 8(2)) sy’n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth ym maes iechyd planhigion. Mae Rhan 2 yn diwygio deddfwriaeth ddomestig sy’n ymwneud ag iechyd planhigion. Mae Rhan 3 yn cynnwys dirymiad.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2018 p. 16; gweler adran 20(1) o’r Ddeddf honno am y diffiniad o “devolved authority”. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), a pharagraff 53(2) o Atodlen 5 iddi.
Mae’r cyfeiriad yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 2018/1179 (Cy. 238), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/1378 (Cy. 244), O.S. 2020/44 (Cy. 5) ac O.S. 2020/69 (Cy. 10); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
O.S. 2020/206 (Cy. 48), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1134 (Cy. 259), mae offeryn diwygio arall ond nid yw’n berthnasol.
EUR 2016/2031.
O.S. 2018/1248, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Cymeradwywyd am y tro cyntaf gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor ym mis Medi 2003 ac mae ar gael oddi wrth ei Ysgrifenyddiaeth yn 21 Boulevard Richard Lenoir, 75011, Paris, Ffrainc ac arhttps://www.eppo.int/RESOURCES/eppo_standards/pm7_diagnostics
Cymeradwywyd am y tro cyntaf gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor ym mis Medi 2003 ac mae ar gael oddi wrth ei Ysgrifenyddiaeth yn 21 Boulevard Richard Lenoir, 75011, Paris, Ffrainc ac ar https://www.eppo.int/RESOURCES/eppo_standards/pm7_diagnostics.
Cymeradwywyd gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor ym mis Medi 2005 ac mae ar gael oddi wrth ei Ysgrifenyddiaeth yn 21 Boulevard Richard Lenoir, 75011, Paris, Ffrainc ac ar https://www.eppo.int/RESOURCES/eppo_standards/pm7_diagnostics.
Cymeradwywyd gan Sefydliad Diogelu Planhigion Ewrop a Glannau’r Canolfor ym mis Medi 2013 ac mae ar gael oddi wrth ei Ysgrifenyddiaeth yn 21 Boulevard Richard Lenoir, 75011, Paris, France and at https://www.eppo.int/RESOURCES/eppo_standards/pm7_diagnostics.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: