Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020

Newidiadau dros amser i: RHAN 6

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion ac Organeddau a Addaswyd yn Enetig) (Cymru) 2020, RHAN 6. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 6LL+CMesurau i reoli Pydredd coch tatws

24.  Yn y Rhan hon—LL+C

ystyr “blwyddyn dyfu gyntaf” (“first growing year”), yn achos mesurau sydd i’w cymryd mewn perthynas â man cynhyrchu halogedig, yw’r flwyddyn dyfu gyntaf yn dilyn y flwyddyn dyfu pryd y dynodir y man cynhyrchu halogedig yn halogedig [F1yn unol â pharagraff 26(2)(c)];

ystyr “deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau” (“susceptible material”) yw planhigion (gan gynnwys cloron) heblaw gwir hadau Solanum tuberosum L. neu blanhigion, heblaw ffrwythau neu hadau Solanum lycopersicum L.;

ystyr “gofynion PRHG perthnasol” (“relevant RNQP requirements”), mewn perthynas â phlanhigion at blannu Solanum lycopersicum L., yw—

(a)

yn achos planhigion i’w plannu a gynhyrchwyd cyn 14 Rhagfyr 2019, y gofynion a oedd yn gymwys i’r planhigion i’w plannu hynny o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC neu yn rhinwedd y Gyfarwyddeb honno;

(b)

yn achos planhigion i’w plannu a gynhyrchwyd ar neu ar ôl 14 Rhagfyr 2019, y gofynion sy’n gymwys i’r planhigion i’w plannu hynny o dan y Rheoliad Amodau Ffytoiechydol neu yn rhinwedd y Rheoliad hwnnw;

ystyr “gwrthrych” (“object”) yw unrhyw beiriant, cerbyd, llestr, storfa neu wrthrych arall, gan gynnwys deunydd pecynnu;

ystyr “halogedig” (“contaminated”) yw wedi ei ddynodi’n halogedig gan arolygydd iechyd planhigion [F1yn unol â pharagraff 26(2)(c)];

ystyr “halogedig o bosibl” (“possibly contaminated”) yw wedi ei bennu’n halogedig o bosibl gan arolygydd iechyd planhigion [F2yn unol â pharagraff 26(2)(d)];

ystyr “hysbysiad” (“notice”), mewn perthynas â hysbysiad sydd i’w roi gan arolygydd iechyd planhigion, yw hysbysiad o dan reoliad 15(1);

ystyr “parth” (“zone”) yw unrhyw ardal, gan gynnwys unrhyw fangre unigol;

ystyr “tatws hadyd ardystiedig” (“certified seed potatoes”) yw tatws hadyd cyn-sylfaenol, tatws hadyd sylfaenol neu datws hadyd ardystiedig o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Tatws Hadyd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 24 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Arolygon a phrofion swyddogolLL+C

25.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cynhelir arolygon swyddogol systemataidd blynyddol yng Nghymru er mwyn nodi presenoldeb Pydredd coch tatws ar ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau F3....

[F4(1A) Rhaid i’r arolygon hynny fod yn seiliedig ar asesiad risg i nodi ffynonellau halogi posibl eraill sy’n peryglu cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a chynnwys arolygon swyddogol wedi eu targedu mewn ardaloedd cynhyrchu, yn seiliedig ar yr asesiad risg perthnasol, i nodi presenoldeb Pydredd coch tatws ar—

(a)deunydd perthnasol, ac eithrio deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau,

(b)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau neu chwistrellu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ac

(c)gollyngiadau gwastraff hylifol o fangre brosesu neu becynnu diwydiannol sy’n trafod deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau.

(1B) Rhaid i’r arolygon hynny hefyd fod yn seiliedig ar fioleg Pydredd coch tatws a’r systemau cynhyrchu perthnasol, a rhaid iddynt gynnwys—

(a)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n cynnwys planhigion Solanum tuberosum L., cynnal arolygiadau gweledol o’r cnwd sy’n tyfu, ar adegau priodol, neu samplu tatws hadyd a thatws eraill yn ystod y tymor tyfu neu wrth eu storio, a rhaid i hynny gynnwys cynnal arolygiad gweledol swyddogol o gloron drwy eu torri;

(b)yn achos tatws hadyd a, phan fo’n briodol, thatws eraill, cynnal profion swyddogol ar samplau gan ddefnyddio’r dull a nodir yn EPPO PM 7/21;

(c)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n cynnwys planhigion Solanum lycopersicum L., cynnal arolygiadau gweledol, ar adegau priodol, o leiaf o’r cnwd o blanhigion sy’n tyfu y bwriedir eu defnyddio i’w hailblannu at ddefnydd proffesiynol;

(d)ar gyfer planhigion cynhaliol, ac eithrio deunyddiau sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ac ar gyfer dŵr gan gynnwys gwastraff hylifol, cynnal profion swyddogol.

(1C) Rhaid i’r gwaith o gasglu samplau at ddibenion is-baragraff (1B) fod yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol ac ystadegol cadarn a bioleg Pydredd coch tatws, ac ystyried systemau cynhyrchu tatws perthnasol o ran deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a phlanhigion cynhaliol eraill Pydredd coch tatws.]

(2Pan amheuir bod Pydredd coch tatws yn bresennol, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod profion swyddogol yn cael eu cynnal i gadarnhau a yw’n bresennol—

(i)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F5EPPO PM 7/21];

(ii)mewn unrhyw achos arall, gan ddefnyddio unrhyw ddull a gymeradwyir yn swyddogol;

(b)hyd nes y cadarnheir ei fod yn bresennol neu y gwrthbrofir yr amheuaeth ei fod yn bresennol, pan fo symptomau gweledol diagnostig sy’n peri amheuaeth ynghylch presenoldeb Pydredd coch tatws wedi eu gweld, ac y cafwyd canlyniad cadarnhaol mewn prawf sgrinio cyflym, neu y cafwyd canlyniad cadarnhaol yn y profion sgrinio [F6y cyfeirir atynt yn EPPO PM 7/21]

(i)bod symud yr holl blanhigion a’r holl gloron o’r holl gnydau, yr holl lotiau neu’r holl lwythi y cymerwyd y samplau ohonynt, heblaw’r rhai sydd o dan reolaeth swyddogol, yn cael ei wahardd, ac eithrio pan gadarnhawyd nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd coch tatws yn lledaenu,

(ii)bod camau’n cael eu cymryd i olrhain tarddiad yr achos a amheuir, a

(iii)bod mesurau rhagofalus priodol ychwanegol sy’n seiliedig ar lefel y risg a amcangyfrifir yn cael eu cymryd er mwyn atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

(3Caiff hysbysiad gynnwys mesurau at ddibenion is-baragraff (2)(b)(i) i (iii).

Mesurau i’w cymryd yn dilyn cadarnhau presenoldeb Pydredd coch tatwsLL+C

26.—(1Os bydd presenoldeb Pydredd coch tatws yn cael ei gadarnhau yn dilyn profion swyddogol a gynhelir yn unol â pharagraff 25(2)(a), rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cymerir y camau a bennir yn is-baragraffau (2) i (4) yn unol ag egwyddorion gwyddonol cadarn, bioleg Pydredd coch tatws a systemau cynhyrchu, marchnata a phrosesu perthnasol planhigion sy’n cynnal Pydredd coch tatws.

(2Yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, y camau yw—

(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad a phrif ffynonellau’r halogiad [F7sy’n cynnwys cynnal ymchwiliad i’r pethau a ganlyn— ;

(i)tatws sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sy’n perthyn drwy glonio i unrhyw datws halogedig;

(ii)tomatos sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sydd o’r un ffynhonnell ag unrhyw domatos halogedig;

(iii)tatws neu domatos sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sydd o dan reolaeth swyddogol ac yr amheuir eu bod wedi eu halogi â Phydredd coch tatws;

(iv)tatws sy’n tyfu neu a gynaeafwyd sy’n perthyn drwy glonio i unrhyw datws a dyfwyd yn y man cynhyrchu halogedig;

(v)tatws neu domatos sy’n tyfu gerllaw’r man cynhyrchu halogedig, gan gynnwys y rhai sy’n rhannu cyfarpar a chyfleusterau cynhyrchu yn uniongyrchol neu drwy gontractwr sy’n gyffredin rhyngddynt;

(vi)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau a chwistrellu o unrhyw ffynhonnell y cadarnheir neu yr amheuir ei bod wedi ei halogi a Phydredd coch tatws;

(vii)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau a chwistrellu o ffynhonnell a ddefnyddir ar y cyd â’r mannau cynhyrchu halogedig a’r mannau cynhyrchu sy’n halogedig o bosibl;

(viii)mannau cynhyrchu sydd wedi eu gorlifo, neu a oedd wedi eu gorlifo, â dŵr wyneb halogedig neu ddŵr wyneb sy’n halogedig o bosibl;

(ix)dŵr wyneb a ddefnyddir ar gyfer dyfrhau neu chwistrellu’r man cynhyrchu halogedig neu gaeau sydd wedi eu gorlifo yn y man cynhyrchu halogedig;]

(b)profion swyddogol pellach, gan gynnwys profion ar yr holl stociau tatws hadyd sy’n perthyn drwy glonio;

(c)dynodi gan arolygydd iechyd planhigion bod y pethau a ganlyn yn halogedig—

(i)y deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau a’r llwyth neu’r lot y cymerwyd y sampl ohono neu ohoni;

(ii)unrhyw wrthrychau sydd wedi dod i gysylltiad â’r sampl honno;

(iii)unrhyw uned cynhyrchu cnwd dan orchudd neu gae cynhyrchu cnwd dan orchudd ac unrhyw fan cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau y cymerwyd y sampl ohoni neu ohono;

(d)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion ynghylch graddau’r halogiad tebygol drwy ddod i gysylltiad cyn neu ar ôl cynaeafu, drwy gysylltau cynhyrchu, dyfrhau neu chwistrellu neu drwy berthynas drwy glonio;

(e)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (c), y penderfyniad a wneir o dan baragraff (d) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws [F8gan ystyried y ffactorau perthnasol].

(3Yn achos planhigion cynhaliol, heblaw deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, pan fo arolygydd iechyd planhigion yn nodi bod cynhyrchu deunydd o’r fath yn wynebu risg, y camau yw—

(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad a phrif ffynonellau’r halogiad [F9sy’n cynnwys cynnal ymchwiliad i’r pethau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2)(a)(i) i (ix)];

(b)dynodi gan arolygydd iechyd planhigion fod planhigion cynhaliol y cymerwyd y sampl ohonynt yn halogedig;

(c)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion o ran yr halogiad tebygol;

(d)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (b), y penderfyniad a wnaed o dan baragraff (c) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws [F10gan ystyried y ffactorau perthnasol].

(4Yn achos dŵr wyneb a phlanhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt cysylltiedig, pan fo arolygydd iechyd planhigion yn nodi bod cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau yn wynebu risg oherwydd dyfrhau, chwistrellu neu lifogydd dŵr wyneb, y camau yw—

(a)ymchwiliad gan arolygydd iechyd planhigion i ganfod graddau’r halogiad, sy’n cynnwys cynnal arolwg swyddogol, ar adegau priodol, ar samplau o ddŵr wyneb ac, os ydynt yn bresennol, planhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt;

(b)dynodi dŵr wyneb y cymerwyd y sampl ohono gan arolygydd iechyd planhigion, i’r graddau sy’n briodol ac ar sail yr ymchwiliad o dan baragraff (a);

(c)penderfyniad gan arolygydd iechyd planhigion o ran yr halogiad tebygol ar sail y dynodiad a wnaed o dan baragraff (b);

(d)darnodi parth gan arolygydd iechyd planhigion ar sail y dynodiad o dan baragraff (b), y penderfyniad a wnaed o dan baragraff (c) a lledaeniad posibl Pydredd coch tatws [F11gan ystyried y ffactorau perthnasol].

[F12(5) Y “ffactorau perthnasol” yw—

(a)at ddibenion is-baragraffau (2)(e) a (3)(d)—

(i)agosrwydd mannau cynhyrchu eraill sy’n tyfu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau;

(ii)cynhyrchu a defnyddio stociau tatws hadyd ar y cyd;

(iii)mannau cynhyrchu sy’n defnyddio dŵr wyneb i ddyfrhau neu chwistrellu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau pan fo risg o ddŵr wyneb ffo o’r man cynhyrchu halogedig;

(b)at ddibenion is-baragraff (4)(d)—

(i)mannau cynhyrchu sy’n cynhyrchu deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau sy’n gyfagos i ddŵr wyneb halogedig, neu sy’n wynebu risg o orlifo gan ddŵr o’r fath;

(ii)unrhyw fasn dyfrhau ar wahân sy’n gysylltiedig â’r dŵr wyneb halogedig;

(iii)crynofeydd dŵr sy’n gysylltiedig â’r dŵr wyneb halogedig, gan roi sylw i gyfeiriad a chyfradd llif y dŵr wyneb halogedig a phresenoldeb planhigion cynhaliol mochlysaidd gwyllt.]

Cyfyngiadau mewn perthynas â deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrychau sy’n halogedig neu sy’n halogedig o bosibl â Phydredd coch tatwsLL+C

27.—(1Ni chaiff unrhyw berson fynd ati’n fwriadol i blannu’r canlynol, nac achosi na chaniatáu’n fwriadol iddynt gael eu plannu—

(a)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, neu

(b)unrhyw ddeunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl.

(2Pan fo deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau neu wrthrych wedi eu dynodi’n halogedig neu’n halogedig o bosibl o dan baragraff 26(2), rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol—

(a)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig, i’r deunydd fod yn destun unrhyw [F13ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws];

(b)yn achos deunydd sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau ac sy’n halogedig o bosibl, i’r deunydd gael ei ddefnyddio neu ei waredu [F14drwy ddull gwaredu a gymeradwywyd yn swyddogol sy’n sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy o ledaenu Pydredd coch tatws];

(c)yn achos gwrthrych sy’n halogedig neu wrthrych sy’n halogedig o bosibl, i’r gwrthrych—

(i)cael ei waredu drwy ei ddinistrio, neu

(ii)cael ei lanhau a’i ddiheintio fel nad oes risg adnabyddadwy y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.

(3Ni chaniateir i ddim byd a lanhawyd ac a ddiheintiwyd yn unol ag is-baragraff (2) gael ei drin mwyach fel pe bai’n halogedig at ddibenion [F15y Rhan hon].

Mesurau y caniateir eu gwneud yn ofynnol mewn perthynas â man cynhyrchu halogedigLL+C

28.—(1Rhaid i arolygydd iechyd planhigion gyflwyno’r hysbysiadau a ganlyn i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am fan cynhyrchu halogedig sydd mewn parth a ddarnodir gan arolygydd iechyd planhigion o dan baragraff 26(2)(e)—

(a)mewn perthynas â chae halogedig neu uned cynhyrchu cnwd dan orchudd halogedig sy’n rhan o’r man cynhyrchu, hysbysiad yn cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu neu hysbysiad yn cynnwys yr ail set o fesurau dileu;

(b)mewn perthynas â chae sy’n rhan o’r man cynhyrchu ond nad yw’n halogedig a, pan fo’r arolygydd wedi ei fodloni bod y risg o blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws wedi ei dileu, hysbysiad yn cynnwys y drydedd set o fesurau dileu.

(2Y set gyntaf o fesurau dileu yw—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am o leiaf bedair blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf, er mwyn dileu unrhyw blanhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol ac unrhyw blanhigion eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws,

(b)gwaharddiad ar blannu unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn y cae neu’r uned yn ystod y cyfnod hwnnw—

(i)cloron, planhigion neu wir hadau tatws;

(ii)planhigion tomatos neu hadau tomatos;

(iii)gan ystyried bioleg Pydredd coch tatws, planhigion cynhaliol eraill neu blanhigion o’r rhywogaeth Brassica lle ceir risg mewn cysylltiad â hwy bod Pydredd coch tatws yn goroesi;

(iv)cnydau lle ceir risg mewn cysylltiad â hwy y bydd Pydredd coch tatws yn lledaenu,

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned yn ystod y tymor cnydio tatws neu domatos cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae neu’r uned yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomato gwirfoddol a phlanhigion cynhaliol eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, yn ystod arolygiadau swyddogol ar gyfer Pydredd coch tatws, am o leiaf y ddwy flwyddyn dyfu olynol cyn plannu, a bod y cloron neu’r planhigion tomatos a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F16EPPO PM 7/21], a

(d)gofyniad bod rhaid cymhwyso cylch cylchdroi priodol yn y tymhorau cnydio tatws neu domatos dilynol, a rhaid i’r cylch hwnnw fod yn ddwy flynedd o leiaf pan fo tatws i’w plannu i gynhyrchu tatws hadyd.

(3Yr ail set o fesurau dileu yw—

(a)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae neu’r uned o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am bum blwyddyn dyfu o ddechrau’r flwyddyn dyfu gyntaf er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion eraill sy’n tyfu’n naturiol, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, sy’n cynnal Pydredd coch tatws,

(b)gofyniad—

(i)yn ystod tair blwyddyn gyntaf y blynyddoedd tyfu hynny, fod y cae neu’r uned yn cael ei gadw neu ei chadw—

(aa)yn fraenar,

(bb)gyda chnydau grawnfwyd, os yw’r arolygydd wedi ei fodloni nad oes risg y bydd Pydredd coch tatws yn lledaenu,

(cc)yn dir pori parhaus gan dorri’r borfa yn fyr neu bori’r tir yn ddwys yn fynych, neu

(dd)fel glaswellt ar gyfer cynhyrchu hadau;

(ii)yn ystod y bedwaredd a’r bumed flwyddyn dyfu, mai dim ond planhigion nad ydynt yn cynnal Pydredd coch tatws ac nad oes unrhyw risg mewn cysylltiad â hwy y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu y caniateir eu plannu yn y cae neu’r uned, ac

(c)gofyniad mai dim ond tatws ar gyfer cynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta y caniateir eu plannu yn ystod y tymor cnydio tatws neu domatos cyntaf yn dilyn y cyfnod hwnnw, a bod y tatws dim ond yn cael eu plannu os canfuwyd bod y cae neu’r uned yn rhydd rhag planhigion tatws gwirfoddol a phlanhigion tomatos gwirfoddol a phlanhigion cynhaliol eraill, gan gynnwys chwyn mochlysaidd, yn ystod arolygiadau swyddogol ar gyfer Pydredd coch tatws, am o leiaf ddwy flwyddyn dyfu yn olynol cyn plannu, a bod y cloron neu’r planhigion tomatos a gynaeafwyd yn destun profion swyddogol gan ddefnyddio’r dull a nodir yn [F17EPPO PM 7/21].

(4Y drydedd set o fesurau dileu yw—

(a)gofyniad na phlennir planhigion sy’n cynnal Pydredd coch tatws neu mai dim ond y planhigion tatws a’r planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad ac am y flwyddyn dyfu gyntaf—

(i)tatws hadyd ardystiedig ar gyfer cynhyrchu tatws bwyta;

(ii)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ar gyfer cynhyrchu ffrwythau,

(b)gofyniad mai dim ond y tatws a ganlyn y caniateir eu plannu i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf, os oes tatws i’w plannu yn y flwyddyn honno—

(i)tatws hadyd ardystiedig;

(ii)tatws hadyd a brofwyd yn swyddogol ar gyfer absenoldeb Pydredd coch tatws ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig,

(c)gofyniad mai dim ond y planhigion tomatos a ganlyn y caniateir eu plannu i gynhyrchu planhigion neu ffrwythau yn y flwyddyn dyfu ddilynol gyntaf, os oes planhigion tomatos i’w plannu yn y flwyddyn honno—

(i)planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol;

(ii)os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol mewn man cynhyrchu nad yw’n halogedig,

(d)gofyniad, yn achos tatws, mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol o datws hadyd ardystiedig y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol arall i gynhyrchu tatws hadyd neu datws bwyta yn y cae,

(e)gofyniad, yn achos tomatos, mai dim ond planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol neu, os ydynt wedi eu lluosogi yn llystyfol, planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn y cae yn ystod yr ail flwyddyn dyfu ddilynol ac unrhyw flwyddyn dyfu ddilynol arall i gynhyrchu planhigion neu ffrwythau yn y cae,

(f)y mesurau sydd i’w cymryd yn y cae o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad hyd at ddiwedd y flwyddyn dyfu a bennir yn yr hysbysiad er mwyn dileu planhigion tatws gwirfoddol, a phlanhigion sy’n tyfu’n naturiol sy’n cynnal Pydredd coch tatws, ac

(g)arolygiadau swyddogol o gnydau sy’n tyfu ar adegau priodol a phrofion swyddogol ar datws a gynaeafwyd yn unol â’r dull a nodir yn [F18EPPO PM 7/21].

(5Rhaid hefyd i hysbysiad a gyflwynir gan arolygydd iechyd planhigion o dan is-baragraff (1)(a) sy’n cynnwys y set gyntaf o fesurau dileu—

(a)cynnwys gofyniad bod rhaid i’r holl beiriannau a chyfleusterau storio yn y man cynhyrchu a ddefnyddir i gynhyrchu tatws gael eu glanhau a’u diheintio ar unwaith ac yn dilyn y flwyddyn dyfu gyntaf,

(b)pennu’r dulliau priodol ar gyfer glanhau a diheintio’r peiriannau a’r cyfleusterau storio, ac

(c)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu neu bennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu, at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

(6Caniateir i’r mesurau y caiff eu pennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (5) gael eu cynnwys mewn hysbysiad gyda mesurau priodol eraill.

(7Rhaid i’r person y cyflwynir hysbysiad iddo yn unol ag is-baragraff (1) sicrhau bod y mesurau a bennir yn yr hysbysiad yn cael eu cymryd yn y modd gofynnol.

Mesurau ychwanegol mewn perthynas ag unedau cynhyrchu cnwd dan orchuddLL+C

29.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys i blannu unrhyw gloron, planhigion neu wir hadau tatws mewn uned cynhyrchu cnydau o dan orchudd sy’n halogedig lle mae’n bosibl amnewid yr holl gyfrwng tyfu yn yr uned.

(2Ni chaiff unrhyw berson blannu unrhyw gloron, planhigion na gwir hadau tatws, planhigion tomatos neu hadau tomatos neu blanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws yn yr uned heb awdurdodiad ysgrifenedig arolygydd iechyd planhigion.

(3Ni chaiff arolygydd iechyd planhigion roi awdurdodiad o dan is-baragraff (2) oni bai—

(a)y cydymffurfiwyd â’r holl fesurau i ddileu Pydredd coch tatws ac i symud yr holl blanhigion sy’n cynnal Pydredd coch tatws ymaith a bennir mewn hysbysiad mewn perthynas â’r man cynhyrchu lle y mae’r uned wedi ei lleoli,

(b)bod y cyfrwng tyfu yn yr uned wedi ei newid yn llwyr, ac

(c)bod yr uned a’r holl offer a ddefnyddiwyd yn yr uned wedi eu glanhau ac wedi eu diheintio i ddileu Pydredd coch tatws ac i symud yr holl ddeunydd planhigion cynhaliol ymaith.

(4Caiff awdurdodiad o dan is-baragraff (2)—

(a)mewn perthynas â chynhyrchu tatws, bennu mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu gloron bychain neu ficro-blanhigion sy’n deillio o ffynonellau a brofwyd yn swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu;

(b)mewn perthynas â chynhyrchu tomatos, bennu mai dim ond hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu defnyddio yn y broses gynhyrchu;

(c)gwahardd unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu;

(d)pennu sut y mae’n rhaid cynnal unrhyw raglen ddyfrhau neu chwistrellu yn y man cynhyrchu at ddiben atal Pydredd coch tatws rhag lledaenu.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 27.3.2020, gweler rhl. 1

Mesurau i’w cymryd mewn parthau a ddarnodwyd i reoli Pydredd coch tatwsLL+C

30.—(1Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo arolygydd iechyd planhigion wedi darnodi parth mewn perthynas â chadarnhad bod Pydredd coch tatws wedi ei ganfod o dan baragraff 26(3)(d) neu (4)(d).

(2Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad, bennu rhagor o waharddiadau, cyfyngiadau a mesurau eraill a fydd yn gymwys yn y parth a ddarnodir i atal y risg y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu.

(3Caiff Gweinidogion Cymru, yn benodol, bennu mewn hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)bod rhaid glanhau a, pan fo’n briodol, ddiheintio unrhyw beiriannau neu gyfleusterau storio mewn mangre o fewn y parth a ddarnodir a ddefnyddir i dyfu, i storio neu i drin cloron tatws neu domatos o fewn y parth, neu unrhyw fangre o fewn y parth y gweithredir peiriannau o dan gontract ar gyfer cynhyrchu tatws neu domatos ohoni, er mwyn sicrhau nad oes unrhyw risg adnabyddadwy y bydd Pydredd coch tatws yn goroesi neu’n lledaenu;

(b)yn achos cnydau tatws, mai dim ond tatws hadyd ardystiedig neu datws hadyd a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn ystod y cyfnod penodedig;

(c)bod rhaid i datws a fwriedir i’w plannu gael eu trin ar wahân i’r holl datws eraill mewn mangre o fewn y parth neu fod rhaid gweithredu system lanhau a, pan fo’n briodol, ddiheintio rhwng trin tatws hadyd a thrin tatws bwyta yn ystod y cyfnod penodedig;

(d)yn achos cnydau tomatos, mai dim ond planhigion tomatos a dyfwyd o hadau sy’n bodloni’r gofynion PRHG perthnasol neu, os cânt eu lluosogi yn llystyfol, blanhigion tomatos a gynhyrchir o hadau o’r fath ac a dyfwyd o dan reolaeth swyddogol y caniateir eu plannu yn ystod y cyfnod penodedig;

(e)na chaniateir defnyddio dŵr wyneb halogedig ar gyfer dyfrhau na chwistrellu deunydd planhigion penodedig a, pan fo’n briodol, blanhigion eraill sy’n cynnal Pydredd coch tatws, heb awdurdodiad ysgrifenedig ymlaen llaw gan arolygydd iechyd planhigion;

(f)os oes gollyngiadau gwastraff hylifol wedi eu halogi, fod rhaid gwaredu unrhyw wastraff o fangre brosesu neu becynnu ddiwydiannol yn y parth sy’n trin deunydd planhigion penodedig o dan oruchwyliaeth arolygydd iechyd planhigion.

(4O ran hysbysiad o dan is-baragraff (2)—

(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen,

(b)rhaid iddo ddisgrifio hyd a lled y parth a ddarnodir,

(c)rhaid iddo bennu mewn perthynas â phob mesur a yw’n gymwys yn gyffredinol ynteu i ardal o ddŵr wyneb yn y parth a ddarnodwyd,

(d)rhaid iddo bennu ar ba ddyddiad y bydd pob mesur yn cael effaith ac am ba hyd,

(e)rhaid iddo gael ei gyhoeddi mewn modd sy’n briodol i ddod ag ef i sylw’r cyhoedd, ac

(f)caniateir iddo gael ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, drwy hysbysiad arall.

(5Rhaid trin unrhyw fangre sy’n rhannol o fewn parth a ddarnodir ac yn rhannol y tu allan iddo fel pe bai o fewn y parth hwnnw at ddibenion y paragraff hwn, ac eithrio pan nad yw’r rhan sydd y tu allan i’r parth a ddarnodir yng Nghymru.

(6Rhaid trin hysbysiad a gyhoeddir yn unol ag is-baragraff (4) fel pe bai wedi ei gyflwyno—

(a)i unrhyw feddiannydd neu berson arall sydd â gofal am unrhyw fangre o fewn y parth a ddarnodir;

(b)i unrhyw berson—

(i)sydd â hawl i ddefnyddio unrhyw ddŵr wyneb halogedig,

(ii)sydd ag unrhyw ddŵr wyneb halogedig ar fangre o fewn y parth a ddarnodir y mae’r person yn ei meddiannu neu y mae ganddo ofal amdani, a

(iii)sy’n gweithredu peiriannau neu sy’n cyflawni unrhyw weithgaredd arall mewn perthynas â chynhyrchu tatws neu domatos o fewn y parth a ddarnodir.

(7Ni chaiff Gweinidogion Cymru bennu’r mesurau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) ond pan fo’r parth wedi ei darnodi—

(a)mewn perthynas â’r mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (d) o’r is-baragraff hwnnw at ddibenion [F19paragraff 26(3)(d)];

(b)mewn perthynas â’r mesurau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (e) ac (f) o’r is-baragraff hwnnw at ddibenion [F20paragraff 26(4)(d)].

(8Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod mangreoedd sy’n tyfu, yn storio neu’n trin cloron tatws a mangreoedd sy’n gweithredu peiriannau tatws o dan gontract yn cael eu goruchwylio gan arolygwyr iechyd planhigion yn ystod y cyfnod penodedig;

(b)bod arolwg swyddogol yn cael ei gynnal yn unol ag [F21EPPO PM 7/21] yn ystod y cyfnod penodedig;

(c)bod rhaglen yn cael ei sefydlu, pan fo’n briodol, i amnewid yr holl stociau tatws hadyd dros gyfnod priodol o amser.

(9At ddibenion is-baragraffau (3) ac (8), rhaid i’r “cyfnod penodedig”, mewn perthynas â pharth a ddarnodir yn unol â pharagraff 26(3)(d) neu (4)(d) fod o leiaf dri thymor tyfu ar ôl y flwyddyn y darnodwyd y parth.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources