xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 319 (Cy. 72)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020

Gwnaed

19 Mawrth 2020

Yn dod i rym

1 Ebrill 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 9 a 45(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1).

Gosodwyd drafft oʼr Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 140(3)(a) oʼr Ddeddf honno ac feʼi cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad(2).

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020.

(2Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2020 yn union ar ôl i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020(3) ddod i rym.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(4).

Diwygioʼr Prif Reoliadau

2.—(1Mae’r Prif Reoliadau wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 30 (adroddiad darpar fabwysiadydd), ym mharagraff (2)(d), ar ôl “plentyn” mewnosoder “, ac wrth benderfynu ar addasrwydd cwpl i fabwysiadu plentyn rhaid iʼr asiantaeth roi sylw priodol iʼr angen am sadrwydd a sefydlogrwydd yn eu perthynas”.

(3Yn Atodlen 4A (addasu Rhan 4), ym mharagraff 4(b), ym mharagraff (2)(ch) sydd wedi ei amnewid, ar ôl “plentyn” mewnosoder “, ac wrth benderfynu ar addasrwydd cwpl i fabwysiadu plentyn rhaid iʼr asiantaeth roi sylw priodol iʼr angen am sadrwydd a sefydlogrwydd yn eu perthynas”.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

19 Mawrth 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Maeʼr Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (“y Prif Reoliadau”), syʼn gwneud darpariaeth ynghylch arfer gan asiantaethau mabwysiadu (awdurdodau lleol a chymdeithasau mabwysiadu cofrestredig) eu swyddogaethau mewn perthynas â mabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002.

Mae diwygiadau pellach wedi eu gwneud iʼr Prif Reoliadau gan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020. Maeʼr Rheoliadau hynny, yn bennaf, yn rhoi Rhan 4 newydd yn lleʼr un bresennol yn y Prif Reoliadau er mwyn darparu ar gyfer proses gymeradwyo dau gam ar gyfer darpar fabwysiadwyr. Roedd y Rheoliadau hynny yn ddarostyngedig iʼr weithdrefn negyddol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Maeʼr diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gosod gofyniad ar asiantaethau mabwysiadu, wrth asesu addasrwydd cwpl i fabwysiadu plentyn, i roi sylw priodol iʼr angen am sadrwydd a sefydlogrwydd yn eu perthynas. Dylid darllen y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn ar y cyd âʼr diwygiadau a wneir gan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygio) 2020.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2002 p. 38; gweler y diffiniadau o “regulations”, “appropriate Minister” a “the Assembly” yn adran 144(1). Trosglwyddwyd y pŵer a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(2)

Mae adran 140(3)(a) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 yn darparu nad yw offeryn statudol syʼn cynnwys is-ddeddfwriaeth o dan adran 9 syʼn cynnwys darpariaeth a wneir yn rhinwedd adran 45(2) (hynny yw, darpariaeth at ddiben sicrhau, wrth benderfynu ar addasrwydd cwpl i fabwysiadu plentyn, fod sylw priodol yn cael ei roi iʼr angen am sadrwydd a sefydlogrwydd yn eu perthynas) iʼw wneud oni bai bod drafft oʼr offeryn wedi ei osod gerbron dau dŷ Senedd y Deyrnas Unedig aʼi gymeradwyo ganddynt drwy benderfyniad. Pan fo is-ddeddfwriaeth wedi ei gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mae adran 140(3) wedi ei datgymhwyso (gweler adran 140(4)). Yn rhinwedd paragraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae adran 140(3) yn gymwys i arfer gan Weinidogion Cymru y swyddogaeth o wneud offeryn statudol syʼn cynnwys is-ddeddfwriaeth oʼr fath fel pe baiʼr cyfeiriad at ddau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig yn gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn unol â hynny, yn rhinwedd paragraff 34(2) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, maeʼr Rheoliadau hyn yn ddarostyngedig iʼr weithdrefn gadarnhaol.

(4)

O.S. 2005/1313 (Cy. 95), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/163 (Cy. 31). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.