2020 Rhif 389 (Cy. 87)
Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(1)(d), 9(9), 27(1) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”)1.
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori âʼr personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol, fel syʼn ofynnol gan adran 27(4)(a) oʼr Ddeddf ac wedi cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad fel syʼn ofynnol gan adran 27(4)(b) oʼr Ddeddf honno. Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod copi oʼr datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel syʼn ofynnol gan adran 27(5) oʼr Ddeddf honno.
Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(d) ac (f) o’r Ddeddf ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
RHAN 1Cyffredinol
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020.
2
Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2020.
3
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016,
ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 20172,
ystyr “y Rheoliadau Cofrestru” (“the Registration Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 20173,
ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig” (“the Regulated Services Regulations”) yw—
- a
Rheoliadau 2017,
- b
Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 20194,
- c
Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 20195,
- d
Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 20196,
- e
Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 20197.
- a
RHAN 2Diwygiad iʼr Ddeddf
Diwygiad iʼr Ddeddf2
Maeʼr Ddeddf wedi ei diwygio yn unol â rheoliad 3.
Person addas a phriodol: ystyriaethau perthnasol3
Yn adran 9(5)(a), ar ôl “is-adran (4)” mewnosoder “neu (6)”.
RHAN 3Diwygiadau iʼr Rheoliadau Cofrestru
Diwygiadau iʼr Rheoliadau Cofrestru4
Maeʼr Rheoliadau Cofrestru wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 5 a 6 ac mae rheoliad 7 yn cyflwyno darpariaeth drosiannol.
Yr wybodaeth sydd iʼw darparu gan ymgeisydd
5
Ar ôl rheoliad 3 mewnosoder—
3A
1
Maeʼr rheoliad hwn yn gymwys pan foʼr ymgeisydd, o fewn ystyr paragraff (a) oʼr diffiniad o “ymgeisydd” yn rheoliad 2, yn sefydliad.
2
Rhaid i ymgeisydd y maeʼr rheoliad hwn yn gymwys iddo, yn ychwanegol at yr wybodaeth a bennir yn rheoliad 3, ddarparu i Weinidogion Cymru yr wybodaeth ym mharagraff (3).
3
Rhaid iʼr ymgeisydd ddarparu, mewn perthynas âʼr personau a restrir ym mharagraff (4)—
a
eu henw llawn, eu dyddiad geni, eu cyfeiriad cartref, eu cyfeiriad post electronig a’u rhif ffôn, a
b
yr wybodaeth a restrir ym mharagraffau 13 i 22 o Atodlen 1.
4
Y personau y mae rhaid darparuʼr wybodaeth ym mharagraff (3) mewn perthynas â hwy yw—
a
pan foʼr sefydliad yn gorff corfforaethol ac eithrio awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol—
i
pob person sydd wedi ei benodiʼn gyfarwyddwr oʼr corff corfforaethol,
ii
pob person sydd wedi ei benodiʼn ymddiriedolwr oʼr corff corfforaethol,
iii
pob aelod o bwyllgor rheoliʼr corff corfforaethol,
b
pan foʼr sefydliad yn gorff anghorfforedig, pob person syʼn ymwneud â rheoli a rheolaeth y corff,
c
pan foʼr sefydliad yn bartneriaeth, pob partner.
6
Yn Atodlen 1—
a
ym mharagraff 45—
i
ar ddiwedd is-baragraff (b), yn lle “.” rhodder “;”,
ii
ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
c
unrhyw berson syʼn aelod o bwyllgor rheoliʼr corff corfforaethol.
b
yn nhestun Saesneg paragraff 48, yn lle “application” rhodder “declaration”.
Darpariaeth drosiannol7
Mae cais i gofrestru sydd wedi ei gyflwyno yn unol âʼr Rheoliadau Cofrestru cyn iʼr Rheoliadau hyn ddod i rym, iʼw benderfynu fel pe na baiʼr Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.
RHAN 4Diwygiadau iʼr Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig
Diwygiadau iʼr Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig
8
Maeʼr Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 9.
9
Yn Atodlen 3—
a
yn lle paragraff 3 rhodder—
3
Pan foʼr darparwr gwasanaeth, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020, yn gorff corfforaethol, unrhyw newid i—
a
cyfarwyddwyr,
b
ymddiriedolwyr, neu
c
aelodau pwyllgor rheoli,
y corff corfforaethol.
3A
Pan foʼr darparwr gwasanaeth, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020, yn gorff anghorfforedig, unrhyw newid iʼr personau syʼn ymwneud â rheoli a rheolaeth y corff.
b
ym mharagraff 5 yn lle “cwmni” rhodder “corff corfforaethol”.
RHAN 5Diwygiadau i Reoliadau 2017
Diwygiadau i Reoliadau 201710
Mae Rheoliadau 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 11 a 12.
Dehongli11
Yn rheoliad 1(3), mewnosoder y canlynol yn y lle priodol—
“ystyr “nyrs” (“nurse”) yw nyrs gymwysedig neu fydwraig gymwysedig sydd wedi ei chofrestru âʼr Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 20018;”;
“mae i “proffesiynolyn cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered professional” ym mharagraff 1 o Atodlen 3 i Orchymyn Proffesiynau Iechyd 20019;”.
Addasrwydd staff12
Yn rheoliad 35—
a
yn lle paragraff (2)(f) rhodder—
f
yn ddarostyngedig i baragraff (11) oʼr rheoliad hwn, pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr) ac eithrio fel rheolwr er mwyn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—
i
â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neuʼn bennaf i blant,
ii
â gwasanaeth llety diogel, neu
iii
â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf,
fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach naʼr dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8) am ystyr “y dyddiad perthnasol”).
b
ar ôl is-baragraff (f) fel yʼi hamnewidir gan y Rheoliadau hyn mewnosoder—
g
yn ddarostyngedig i baragraff (11) oʼr rheoliad hwn, pan fo’r person wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau ac eithrio fel rheolwr, i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—
i
â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neuʼn bennaf i blant,
ii
â gwasanaeth llety diogel, neu
iii
â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf,
fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach naʼr dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8A) am ystyr “y dyddiad perthnasol”)
c
ar ôl paragraff (8) mewnosoder—
8A
Ym mharagraff (2)(g) oʼr rheoliad hwn, “y dyddiad perthnasol” yw naill ai—
a
6 mis oʼr dyddiad y cymerir person ymlaen gyntaf o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i ddarparu gofal a chymorth mewn cysylltiad—
i
â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neuʼn bennaf i blant,
ii
â gwasanaeth llety diogel,
iii
â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf, neu
b
unrhyw ddyddiad diweddarach y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol.
d
ar ôl paragraff (10) mewnosoder—
11
Nid ywʼr gofyniad bod person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru yn unol â pharagraff (2)(f) ac (g) yn gymwys pan foʼr person wedi ei gyflogi (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr) neu ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i weithio fel—
a
nyrs, neu
b
proffesiynolyn cofrestredig.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)