Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 389 (Cy. 87)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020

Gwnaed

11 Mawrth 2020

Yn dod i rym

1 Ebrill 2020

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 6(1)(d), 9(9), 27(1) a 187(1)(b) o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”)(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori âʼr personau hynny y maent yn meddwl eu bod yn briodol, fel syʼn ofynnol gan adran 27(4)(a) oʼr Ddeddf ac wedi cyhoeddi datganiad ynghylch yr ymgynghoriad fel syʼn ofynnol gan adran 27(4)(b) oʼr Ddeddf honno. Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod copi oʼr datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel syʼn ofynnol gan adran 27(5) oʼr Ddeddf honno.

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 187(2)(d) ac (f) o’r Ddeddf ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Diwygiadau Amrywiol) 2020.

(2Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2020.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016,

ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017(2),

ystyr “y Rheoliadau Cofrestru” (“the Registration Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017(3),

ystyr “y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig” (“the Regulated Services Regulations”) yw—

(a)

Rheoliadau 2017,

(b)

Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(4),

(c)

Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(5),

(d)

Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(6),

(e)

Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019(7).

RHAN 2Diwygiad iʼr Ddeddf

Diwygiad iʼr Ddeddf

2.  Maeʼr Ddeddf wedi ei diwygio yn unol â rheoliad 3.

Person addas a phriodol: ystyriaethau perthnasol

3.  Yn adran 9(5)(a), ar ôl “is-adran (4)” mewnosoder “neu (6)”.

RHAN 3Diwygiadau iʼr Rheoliadau Cofrestru

Diwygiadau iʼr Rheoliadau Cofrestru

4.  Maeʼr Rheoliadau Cofrestru wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 5 a 6 ac mae rheoliad 7 yn cyflwyno darpariaeth drosiannol.

Yr wybodaeth sydd iʼw darparu gan ymgeisydd

5.  Ar ôl rheoliad 3 mewnosoder—

3A.(1) Maeʼr rheoliad hwn yn gymwys pan foʼr ymgeisydd, o fewn ystyr paragraff (a) oʼr diffiniad o “ymgeisydd” yn rheoliad 2, yn sefydliad.

(2) Rhaid i ymgeisydd y maeʼr rheoliad hwn yn gymwys iddo, yn ychwanegol at yr wybodaeth a bennir yn rheoliad 3, ddarparu i Weinidogion Cymru yr wybodaeth ym mharagraff (3).

(3) Rhaid iʼr ymgeisydd ddarparu, mewn perthynas âʼr personau a restrir ym mharagraff (4)—

(a)eu henw llawn, eu dyddiad geni, eu cyfeiriad cartref, eu cyfeiriad post electronig a’u rhif ffôn, a

(b)yr wybodaeth a restrir ym mharagraffau 13 i 22 o Atodlen 1.

(4) Y personau y mae rhaid darparuʼr wybodaeth ym mharagraff (3) mewn perthynas â hwy yw—

(a)pan foʼr sefydliad yn gorff corfforaethol ac eithrio awdurdod lleol neu Fwrdd Iechyd Lleol—

(i)pob person sydd wedi ei benodiʼn gyfarwyddwr oʼr corff corfforaethol,

(ii)pob person sydd wedi ei benodiʼn ymddiriedolwr oʼr corff corfforaethol,

(iii)pob aelod o bwyllgor rheoliʼr corff corfforaethol,

(b)pan foʼr sefydliad yn gorff anghorfforedig, pob person syʼn ymwneud â rheoli a rheolaeth y corff,

(c)pan foʼr sefydliad yn bartneriaeth, pob partner.

6.  Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 45—

(i)ar ddiwedd is-baragraff (b), yn lle “.” rhodder “;”,

(ii)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(c)unrhyw berson syʼn aelod o bwyllgor rheoliʼr corff corfforaethol., a

(b)yn nhestun Saesneg paragraff 48, yn lle “application” rhodder “declaration”.

Darpariaeth drosiannol

7.  Mae cais i gofrestru sydd wedi ei gyflwyno yn unol âʼr Rheoliadau Cofrestru cyn iʼr Rheoliadau hyn ddod i rym, iʼw benderfynu fel pe na baiʼr Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.

RHAN 4Diwygiadau iʼr Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig

Diwygiadau iʼr Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig

8.  Maeʼr Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig wedi eu diwygio yn unol â rheoliad 9.

9.  Yn Atodlen 3—

(a)yn lle paragraff 3 rhodder—

3.  Pan foʼr darparwr gwasanaeth, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020, yn gorff corfforaethol, unrhyw newid i—

(a)cyfarwyddwyr,

(b)ymddiriedolwyr, neu

(c)aelodau pwyllgor rheoli,

y corff corfforaethol.

3A.  Pan foʼr darparwr gwasanaeth, ar neu ar ôl 1 Ebrill 2020, yn gorff anghorfforedig, unrhyw newid iʼr personau syʼn ymwneud â rheoli a rheolaeth y corff.

(b)ym mharagraff 5 yn lle “cwmni” rhodder “corff corfforaethol”.

RHAN 5Diwygiadau i Reoliadau 2017

Diwygiadau i Reoliadau 2017

10.  Mae Rheoliadau 2017 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 11 a 12.

Dehongli

11.  Yn rheoliad 1(3), mewnosoder y canlynol yn y lle priodol—

“ystyr “nyrs” (“nurse”) yw nyrs gymwysedig neu fydwraig gymwysedig sydd wedi ei chofrestru âʼr Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(8);”;

“mae i “proffesiynolyn cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered professional” ym mharagraff 1 o Atodlen 3 i Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001(9);”.

Addasrwydd staff

12.  Yn rheoliad 35—

(a)yn lle paragraff (2)(f) rhodder—

(f)yn ddarostyngedig i baragraff (11) oʼr rheoliad hwn, pan fo’r person wedi ei gyflogi gan y darparwr gwasanaeth (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr) ac eithrio fel rheolwr er mwyn darparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—

(i)â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neuʼn bennaf i blant,

(ii)â gwasanaeth llety diogel, neu

(iii)â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf,

fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach naʼr dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8) am ystyr “y dyddiad perthnasol”).

(b)ar ôl is-baragraff (f) fel yʼi hamnewidir gan y Rheoliadau hyn mewnosoder—

(g)yn ddarostyngedig i baragraff (11) oʼr rheoliad hwn, pan fo’r person wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau ac eithrio fel rheolwr, i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad—

(i)â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neuʼn bennaf i blant,

(ii)â gwasanaeth llety diogel, neu

(iii)â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf,

fod y person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru heb fod yn hwyrach naʼr dyddiad perthnasol (gweler paragraff (8A) am ystyr “y dyddiad perthnasol”).

(c)ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

(8A) Ym mharagraff (2)(g) oʼr rheoliad hwn, “y dyddiad perthnasol” yw naill ai—

(a)6 mis oʼr dyddiad y cymerir person ymlaen gyntaf o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i ddarparu gofal a chymorth mewn cysylltiad—

(i)â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neuʼn bennaf i blant,

(ii)â gwasanaeth llety diogel,

(iii)â gwasanaeth cymorth cartref er mwyn darparu gofal a chymorth i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 8(1) o Atodlen 1 iʼr Ddeddf, neu

(b)unrhyw ddyddiad diweddarach y mae’r rheoleiddiwr gwasanaethau yn cytuno arno o dan amgylchiadau eithriadol.

(d)ar ôl paragraff (10) mewnosoder—

(11) Nid ywʼr gofyniad bod person wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru yn unol â pharagraff (2)(f) ac (g) yn gymwys pan foʼr person wedi ei gyflogi (pa un ai fel cyflogai neu fel gweithiwr) neu ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i weithio fel—

(a)nyrs, neu

(b)proffesiynolyn cofrestredig.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

11 Mawrth 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Maeʼr Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”).

Mae Rhan 2 yn cynnwys diwygiad i adran 9 oʼr Ddeddf. Mae adran 9 oʼr Ddeddf yn ymwneud ag unrhyw benderfyniad y mae Gweinidogion Cymru yn ei wneud ynghylch a yw darparwr gwasanaeth, person syʼn gwneud cais i fod yn ddarparwr gwasanaeth, unigolyn cyfrifol neu berson sydd iʼw ddynodiʼn unigolyn cyfrifol (y cyfeirir atynt ar y cyd o hyn ymlaen fel “person perthnasol”) yn berson addas a phriodol i fod yn ddarparwr gwasanaeth neu, yn ôl y digwydd, yn unigolyn cyfrifol.

Mae rheoliad 3 yn diwygio adran 9 i estyn cymhwysiad is-adran (6) i gynnwys unrhyw berson arall syʼn gysylltiedig â pherson perthnasol neu a oedd gynt yn gysylltiedig â pherson perthnasol.

Effaith y diwygiad hwn yw caniatáu i Weinidogion Cymru ystyried tystiolaeth bod unrhyw berson syʼn gysylltiedig â pherson perthnasol neu a oedd gynt yn gysylltiedig â pherson perthnasol wedi bod yn gyfrifol am gamymddwyn neu gamreoli, neu wedi cyfrannu ato neu wedi ei hwyluso, wrth ddarparu gwasanaeth rheoleiddiedig yng Nghymru neu wasanaeth cyfatebol y tu allan i Gymru.

Mae Rhan 3 yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 (“y Rheoliadau Cofrestru”). Maeʼr Rheoliadau Cofrestru wedi eu gwneud o dan adrannau 6 ac 11 oʼr Ddeddf.

Mae adran 6(1) oʼr Ddeddf yn nodiʼr wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys mewn cais i gofrestru fel darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig ac yn galluogi Gweinidogion Cymru i ragnodi gwybodaeth ychwanegol y mae rhaid ei chynnwys mewn cais i gofrestru.

Mae rheoliad 3 oʼr Rheoliadau Cofrestru yn pennuʼr wybodaeth ychwanegol sydd iʼw darparu gan ymgeisydd sy’n gwneud cais i gofrestru. Mae hyn yn cynnwys yr wybodaeth a restrir yn Atodlen 1 iʼr Rheoliadau Cofrestru.

Mae rheoliad 5 yn mewnosod rheoliad 3A yn y Rheoliadau Cofrestru.

Mae rheoliad 3A yn nodiʼr wybodaeth ychwanegol y mae rhaid ei darparu, yn achos corff corfforedig, gan bob cyfarwyddwr, ymddiriedolwr neu aelod o’r pwyllgor rheoli; yn achos partneriaeth, gan bob partner; ac yn achos corff anghorfforedig, gan bob person syʼn ymwneud â rheoli a rheolaeth y corff.

Mae rheoliad 7 yn cynnwys darpariaeth drosiannol syʼn berthnasol i’r rheoliad 3A a fewnosodir.

Mae Rhan 4 yn diwygio pob un oʼr setiau a ganlyn o Reoliadau (y cyfeirir atynt ar y cyd o hyn ymlaen fel “y Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig”) sydd wedi eu gwneud o dan adrannau 27 ac 28 oʼr Ddeddf:

(a)Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017,

(b)Rheoliadau Gwasanaethau Lleoli Oedolion (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019,

(c)Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019,

(d)Rheoliadau Gwasanaethau Maethu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019, ac

(e)Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019.

Maeʼr Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig yn nodiʼr gofynion rheoleiddiol syʼn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau a reoleiddir o dan y Ddeddf. Y gwasanaethau hyn yw gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd, gwasanaethau cymorth cartref, gwasanaethau lleoli oedolion, gwasanaethau eirioli, gwasanaethau maethu a gwasanaethau mabwysiadu.

Ym mhob set oʼr Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig, mae Atodlen 3 yn rhestruʼr digwyddiadau y mae rhaid iʼr darparwr gwasanaeth hysbysuʼr rheoleiddiwr gwasanaethau, sef Gweinidogion Cymru, amdanynt.

Mae rheoliad 9 yn rhoi paragraff 3 newydd a pharagraff newydd 3A yn lleʼr paragraff 3 presennol o Atodlen 3 i bob set oʼr Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig.

Y digwyddiad a restrir ym mharagraff 3 newydd yw unrhyw newid iʼr personau syʼn rhan oʼr corff a gyfansoddir (yn ffurfiol neuʼn anffurfiol) fel corff gwneud penderfyniadauʼr sefydliad, megis cyfarwyddwyr, ymddiriedolwyr neu aelodau pwyllgor rheoliʼr darparwr gwasanaeth pan foʼr darparwr gwasanaeth yn gorff corfforedig.

Y digwyddiad a restrir ym mharagraff newydd 3A yw unrhyw newid iʼr personau syʼn ymwneud â rheoli a rheolaeth corff y darparwr gwasanaeth pan foʼr darparwr gwasanaeth yn gorff anghorfforedig.

Mae Rhan 5 yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”).

Mae Rheoliadau 2017 yn nodiʼr gofynion rheoleiddiol syʼn gymwys i ddarparwyr gwasanaethau cartrefi gofal, gwasanaethau llety diogel, gwasanaethau canolfannau preswyl i deuluoedd a gwasanaethau cymorth cartref.

Mae Rhan 10 o Reoliadau 2017 yn cynnwys gofynion penodol o ran addasrwydd unigolion syʼn gweithio yn y gwasanaeth.

Mae rheoliad 12 yn diwygio rheoliad 35 o Reoliadau 2017.

Mae paragraff (a) yn amnewid paragraff 2(f) o reoliad 35 o Reoliadau 2017 syʼn darparu, pan fo darparwr gwasanaeth yn cyflogi person ac eithrio fel rheolwr i ddarparu gofal a chymorth mewn cysylltiad â chartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neuʼn bennaf i blant, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth cymorth cartref, fod rhaid iʼr person fod wedi ei gofrestru fel gweithiwr gofal cymdeithasol â Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn 6 mis i ddechrau ei gyflogaeth.

Mae paragraff (b) yn mewnosod paragraff newydd 2(g) o reoliad 35 o Reoliadau 2017 syʼn darparu, pan fo person wedi ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau (syʼn cynnwys gweithwyr asiantaeth) ac eithrio fel rheolwr, i ddarparu gofal a chymorth i unrhyw berson mewn cysylltiad â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neuʼn bennaf i blant, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth cymorth cartref, fod rhaid iʼr person hwnnw fod wedi ei gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn 6 mis iʼr dyddiad y cymerir y person ymlaen gyntaf o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i ddarparu gofal a chymorth oʼr fath.

Mae paragraff (d) yn mewnosod paragraff newydd 11 i ddarparu nad ywʼr gofyniad bod person wedi ei gofrestru â Gofal Cymdeithasol Cymru yn unol â rheoliad 35(2)(f) ac (g) yn gymwys pan foʼr person hwnnw wedi ei gyflogi neu ei gymryd ymlaen o dan gontract ar gyfer gwasanaethau i weithio fel nyrs, neu broffesiynolyn cofrestredig sydd wedi ei gofrestru âʼr Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

2016 dccc 2; gweler y diffiniad o “a ragnodir” a “rhagnodedig” yn adran 189. Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn syʼn gymwys iʼr offeryn hwn.

(3)

O.S. 2017/1098 (Cy. 278) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

O.S. 2019/165 (Cy. 41) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

O.S. 2002/253, a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/838 ac O.S. 2009/1182; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(9)

O.S. 2002/254, y mae offerynnau diwygio iddo.