Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 69 (Cy. 10)

Iechyd Planhigion, Cymru

Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2020

Gwnaed

28 Ionawr 2020

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Ionawr 2020

Yn dod i rym

24 Chwefror 2020

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2020 a deuant i rym ar 24 Chwefror 2020.

Diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018

2.—(1Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar ôl rheoliad 6 mewnosoder—

Tatws sy’n tarddu o Libanus: ffi

6A.(1) Pan fo arolygydd yn cymryd sampl o datws sy’n tarddu o Libanus er mwyn canfod, at ddibenion Erthygl 4 o’r Penderfyniad, pa un a yw’r tatws hynny wedi eu heintio ag is-rywogaethau Clavibacter michiganensis (Spieckermann and Kotthoff) Davis et al., rhaid i’r mewnforiwr dalu ffi o £70.83 mewn cysylltiad â phob lot sy’n cael ei samplu.

(2) Ym mharagraff (1), ystyr “y Penderfyniad” yw Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1614 sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymiadau rhag darpariaethau penodol Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC mewn cysylltiad â thatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar a Bekaa, Libanus(4).

(3Yn lle Atodlen 2 rhodder—

Rheoliad 3(2) a (3)

ATODLEN 2Ffioedd arolygu mewnforio: cyfraddau gostyngol

GenwsGwlad TarddiadFfi (£)
(1)

Mae “drydedd wlad yn Ewrop” yn cynnwys Albania, Andorra, Armenia, Azerbaijan, Belarws, Bosnia-Herzegovina, Yr Ynysoedd Dedwydd, Ynysoedd Faröe, Georgia, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Moldofa, Monaco, Montenegro, Gogledd Macedonia, Norwy, Rwsia (dim ond y rhannau a ganlyn: Y Rhanbarth Ffederal Canolog (Tsentralny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal y Gogledd-orllewin (Severo-Zapadny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal y De (Yuzhny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws (Severo-Kavkazsky federalny okrug) a Rhanbarth Ffederal y Folga (Privolzhsky federalny okrug)), San Marino, Serbia, Twrci ac Ukrain.

Blodau wedi eu torri
AsterZimbabwe32.06
DianthusColombia1.28
Ecuador6.41
Kenya2.14
Twrci6.41
RosaColombia1.28
Ecuador0.43
Ethiopia2.14
Kenya4.28
Tanzania21.38
Zambia4.28
Canghennau gyda deiliant
PhoenixCosta Rica17.00
Ffrwythau
ActinidiaUnrhyw drydedd wlad2.66
Carica papayaUnrhyw drydedd wlad2.66
CitrusYr Aifft39.83
Mecsico26.55
Moroco1.59
Periw5.31
Twrci1.59
UDA13.28
CydoniaUnrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)2.66
FragariaUnrhyw drydedd wlad2.66
MalusYr Ariannin18.59
Brasil26.55
Chile2.66
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)2.66
Seland Newydd5.31
De Affrica2.66
MangiferaBrasil26.55
PassifloraColombia3.72
Kenya13.28
De Affrica26.55
Fiet-nam13.28
Zimbabwe39.83
Persea americanaUnrhyw drydedd wlad2.66
PrunusYr Ariannin39.83
Chile5.31
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)2.66
Moroco26.55
Twrci18.59
Prunus ac eithrio prunus persicaDe Affrica5.31
PyrusYr Ariannin7.97
Chile7.97
Tsieina26.55
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)2.66
De Affrica5.31
RibesUnrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)2.66
RubusUnrhyw drydedd wlad2.66
VacciniumYr Ariannin13.28
Chile5.31
Periw5.31
Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1)2.66
VitisUnrhyw drydedd wlad2.66
Llysiau
Solanum lycopersiconYr Ynysoedd Dedwydd2.66
Moroco2.66
Solanum melongenaTwrci7.97

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

28 Ionawr 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) sy’n pennu ffioedd sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â gwasanaethau iechyd planhigion ac ardystio tatws hadyd a phlanhigion ffrwythau a deunydd lluosogi planhigion ffrwythau.

Mae rheoliad 2(2) yn mewnosod rheoliad 6A yn Rheoliadau 2018 i ddarparu ar gyfer y ffi sy’n daladwy gan fewnforiwr tatws sy’n tarddu o Libanus pan fo arolygydd yn cymryd samplau o lot tatws at ddibenion Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/1614 sy’n awdurdodi Aelod-wladwriaethau i ddarparu ar gyfer rhanddirymiadau rhag darpariaethau penodol Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC mewn cysylltiad â thatws, ac eithrio tatws a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o ranbarthau Akkar a Bekaa, Libanus (OJ Rhif L 250, 30.9.2019, t. 85).

Mae rheoliad 2(3) yn amnewid Atodlen 2 i Reoliadau 2018, sy’n nodi ffioedd cyfradd gostyngol sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad ar gyfer gwiriadau iechyd planhigion mewn cysylltiad â phlanhigion penodol a chynhyrchion planhigion penodol sy’n ddarostyngedig i lefelau is o wiriadau y cytunwyd arnynt o dan y weithdrefn y darperir ar ei chyfer yn Erthyglau 13a(2) a 18(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC ynghylch mesurau diogelu rhag cyflwyno i’r Gymuned organebau sy’n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion planhigion a rhag eu lledaenu o fewn y Gymuned (OJ Rhif L 169, 10.7.2000, t. 1). Mae’r rheoliad hwn yn rhoi effaith i’r hysbysiad diweddaraf a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd am y lefelau is o wiriadau iechyd planhigion sy’n gymwys i blanhigion penodol ac i gynhyrchion planhigion penodol (a gyhoeddwyd ar 19 Tachwedd 2019).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1973 p. 51; diwygiwyd adran 56(1) gan O.S. 2011/1043, ac mae wedi ei diwygio yn rhagolygol gan baragraff 17 o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) o ddyddiad ac amser sydd i’w bennu.

(2)

Yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(4)

OJ Rhif L 250, 30.9.2019, t. 85.