Search Legislation

Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Asesu Cymesuredd Proffesiynau Rheoleiddiedig) (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 696 (Cy. 154)

Addysg, Cymru

Cymwysterau Proffesiynol, Cymru

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Asesu Cymesuredd Proffesiynau Rheoleiddiedig) (Cymru) 2020

Gwnaed

7 Gorffennaf 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

8 Gorffennaf 2020

Yn dod i rym

30 Gorffennaf 2020

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) ac adran 58B o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn, dod i ben a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Asesu Cymesuredd Proffesiynau Rheoleiddiedig) (Cymru) 2020.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Gorffennaf 2020.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu(3).

(4Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “asesiad cymesuredd” (“proportionality assessment”) yw asesiad o gymesuredd darpariaeth reoleiddiol broffesiynol, a gynhelir yn unol â rheoliad 4;

mae i “cymwysterau proffesiynol” yr ystyr a roddir i “professional qualifications” gan reoliad 9(1) o Reoliadau 2015;

ystyr “darpariaeth reoleiddiol broffesiynol” (“professional regulatory provision”) yw darpariaeth ddeddfwriaethol, reoleiddiol neu weinyddol newydd, neu ddiwygiad i ddarpariaeth ddeddfwriaethol, reoleiddiol neu weinyddol bresennol, sy’n cyfyngu ar fynediad i broffesiwn rheoleiddiedig neu ddilyn y proffesiwn hwnnw, neu un o’r dulliau o’i ddilyn, gan gynnwys defnyddio teitlau proffesiynol a’r gweithgareddau proffesiynol a ganiateir o dan deitl o’r fath;

mae i “diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” yr ystyr a roddir i “IP completion day” yn adran 39(1) i (5) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020(4);

mae i “proffesiwn rheoleiddiedig” yr ystyr a roddir i “regulated profession” gan reoliad 8(1) o Reoliadau 2015;

ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015(5).

Cwmpas

3.—(1Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r proffesiynau a ganlyn—

(a)athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig (o fewn yr ystyr a roddir i “qualified teacher” gan adran 132 o Ddeddf Addysg 2002(6)) mewn ysgol (fel y’i diffinnir yn adran 14(6) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014(7)) yng Nghymru;

(b)pennaeth (o fewn yr ystyr a roddir i “head teacher” gan adran 135 o Ddeddf Addysg 2002) mewn ysgol (fel y’i diffinnir yn adran 14(6) o Ddeddf Addysg (Cymru) 2014) yng Nghymru.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i broffesiwn athro neu athrawes mewn sefydliad addysg bellach (o fewn yr ystyr a roddir i “further education institution” gan adran 140 o Ddeddf Addysg 2002) yng Nghymru.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw broffesiwn a reoleiddir o dan Ran 4 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(8).

(4Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys i—

(a)unrhyw broffesiwn y mae trefniadau penodol sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chydnabod cymwysterau proffesiynol wedi eu gwneud mewn perthynas ag ef yn unrhyw Reoliad gan yr UE, unrhyw Gyfarwyddeb gan yr UE, unrhyw benderfyniad gan yr UE neu unrhyw ddeddfwriaeth drydyddol gan yr UE ac mae effaith y trefniadau hynny yn eithrio cymhwyso Cyfarwyddeb 2005/36/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 7 Medi 2005 ynghylch cydnabod cymwysterau proffesiynol(9);

(b)darpariaeth reoleiddiol broffesiynol i’r graddau y mae’n gweithredu deddfwriaeth yr UE ynghylch rheoleiddio proffesiwn, pan na fo dewis o ran yr union ffordd y mae’r gofynion hynny i’w trosi.

Gofyniad i gynnal asesiad cymesuredd

4.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal asesiad cymesuredd mewn cysylltiad â darpariaeth reoleiddiol broffesiynol cyn i’r ddarpariaeth gymryd effaith.

(2Wrth gynnal asesiad cymesuredd, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)bod y ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol yn cydymffurfio â phob un o’r gofynion a nodir yn rheoliadau 5 i 8,

(b)bod rhychwant yr asesiad yn gymesur â natur, cynnwys ac effaith y ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol,

(c)bod y rhesymau dros ystyried bod y ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol yn gyfiawn ac yn gymesur wedi eu cadarnhau gan elfennau ansoddol a, phan fo’n bosibl ac yn berthnasol, gan elfennau meintiol, a

(d)bod yr asesiad yn cael ei gynnal mewn modd gwrthrychol ac annibynnol.

Peidio â gwahaniaethu

5.  Ni chaiff darpariaeth reoleiddiol broffesiynol wahaniaethu’n uniongyrchol nac yn anuniongyrchol yn erbyn gwladolion un o Aelod-wladwriaethau’r UE(10) ar sail cenedligrwydd neu breswylfa.

Cyfiawnhad gan amcanion budd y cyhoedd

6.—(1Rhaid i ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol gael ei chyfiawnhau gan amcanion budd y cyhoedd.

(2Mae darpariaeth reoleiddiol broffesiynol wedi ei chyfiawnhau gan amcanion budd y cyhoedd os yw wedi ei chyfiawnhau’n wrthrychol ar sail polisi cyhoeddus, diogeledd y cyhoedd neu iechyd y cyhoedd, neu gan resymau tra phwysig er budd y cyhoedd.

(3Mae rhesymau tra phwysig er budd y cyhoedd yn cynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—

(a)cynnal cydbwysedd ariannol y system nawdd cymdeithasol;

(b)diogelu defnyddwyr, derbynyddion gwasanaethau a gweithwyr;

(c)diogelu bod cyfiawnder yn cael ei weinyddu’n briodol;

(d)sicrhau tegwch o ran trafodiadau masnach;

(e)brwydro yn erbyn twyll ac atal efadu trethi ac osgoi trethi, a diogelu effeithiolrwydd goruchwyliaeth gyllidol;

(f)diogelwch trafnidiaeth;

(g)diogelu’r amgylchedd a’r amgylchedd trefol;

(h)iechyd anifeiliaid;

(i)diogelu eiddo deallusol;

(j)amddiffyn y dreftadaeth hanesyddol a chelfyddydol genedlaethol a’i chadwraeth;

(k)amcanion polisi cymdeithasol;

(l)amcanion polisi diwylliannol.

(4Nid yw rhesymau tra phwysig er budd y cyhoedd yn cynnwys seiliau o natur economaidd yn unig neu resymau gweinyddol yn unig.

Cymesuredd

7.—(1Rhaid i ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol fod yn addas ar gyfer cyflawni’r amcan a geisir ac ni chaiff fynd y tu hwnt i’r hyn sy’n angenrheidiol i gyflawni’r amcan hwnnw.

(2Wrth gynnal asesiad cymesuredd, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried y canlynol—

(a)natur y risgiau sy’n ymwneud â’r amcanion budd y cyhoedd a geisir, yn benodol y risgiau i dderbynyddion y gwasanaeth (gan gynnwys defnyddwyr), proffesiynolion neu drydydd partïon;

(b)a yw’r rheolau presennol o natur benodol neu fwy cyffredinol, megis y rheini sydd wedi eu cynnwys yng nghyfraith diogelwch cynhyrchion neu gyfraith diogelu defnyddwyr, yn annigonol i gyflawni’r amcan a geisir;

(c)addasrwydd y ddarpariaeth o ran pa mor briodol ydyw i gyflawni’r amcan a geisir ac a yw’n adlewyrchu’n wirioneddol yr amcan hwnnw mewn modd cyson a systematig ac yn mynd i’r afael â’r risgiau a nodir mewn ffordd debyg i weithgareddau cymaradwy;

(d)effaith y ddarpariaeth ar—

(i)symudiad rhydd personau a gwasanaethau o fewn yr Undeb Ewropeaidd,

(ii)dewis defnyddwyr, a

(iii)ansawdd y gwasanaeth a ddarperir;

(e)y posibilrwydd o ddefnyddio dulliau llai cyfyngol i gyflawni’r amcan budd y cyhoedd, gan gynnwys, yn benodol, a ellir cyflawni’r amcan drwy ddulliau sy’n llai cyfyngol na neilltuo gweithgareddau—

(i)pan fo diogelu defnyddwyr yn unig yn cyfiawnhau’r darpariaethau;

(ii)pan fo’r risgiau a nodir yn gyfyngedig i’r berthynas rhwng y proffesiynolyn a’r defnyddiwr ac felly na fônt yn effeithio ar drydydd partïon yn negyddol;

(f)effaith y ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol, pan yw wedi ei chyfuno â darpariaethau eraill sy’n cyfyngu ar fynediad i’r proffesiwn neu ei ddilyn, ac yn benodol sut y mae’r ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol, ar y cyd â gofynion eraill, yn cyfrannu at gyflawni’r un amcan budd y cyhoedd ac a ydynt yn angenrheidiol er mwyn ei gyflawni.

(3Wrth roi sylw i’r ystyriaeth a nodir ym mharagraff (2)(f), rhaid i Weinidogion Cymru asesu effaith y ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol pan yw wedi ei chyfuno ag un neu ragor o ofynion, gan gynnwys yn benodol—

(a)gweithgareddau sydd wedi eu neilltuo, teitlau proffesiynol gwarchodedig neu unrhyw ffurf arall ar reoleiddio proffesiwn rheoleiddiedig;

(b)rhwymedigaethau i ymgymryd â datblygiad proffesiynol parhaus;

(c)rheolau sy’n ymwneud â threfniadaeth y proffesiwn, moeseg broffesiynol a goruchwyliaeth;

(d)aelodaeth orfodol o sefydliad neu gorff proffesiynol, cynlluniau cofrestru neu awdurdodi, yn benodol pan fo’r gofynion hynny yn awgrymu meddu ar gymhwyster proffesiynol penodol;

(e)cyfyngiadau meintiol, yn benodol gofynion sy’n cyfyngu ar nifer yr awdurdodiadau i ymarfer, neu sy’n pennu isafswm neu uchafswm nifer y cyflogeion, rheolwyr neu gynrychiolwyr sy’n dal cymwysterau proffesiynol penodol;

(f)gofynion penodol o ran ffurf gyfreithiol neu ofynion sy’n ymwneud â chyfranddalwyr neu reolwyr cwmni, i’r graddau y mae’r gofynion hynny yn gysylltiedig yn uniongyrchol ag arfer y proffesiwn rheoleiddiedig;

(g)cyfyngiadau tiriogaethol, gan gynnwys pan fo’r proffesiwn yn cael ei reoleiddio mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig mewn modd sy’n wahanol i’r ffordd y mae’n cael ei reoleiddio mewn rhannau eraill;

(h)gofynion sy’n cyfyngu ar arfer proffesiwn rheoleiddiedig ar y cyd neu mewn partneriaeth, yn ogystal â rheolau anghydnawsedd;

(i)gofynion ynghylch sicrwydd yswiriant neu ddulliau eraill o ddiogelu personol neu dorfol o ran atebolrwydd proffesiynol;

(j)gofynion o ran gwybodaeth o ieithoedd, i’r graddau y maent yn angenrheidiol i ymarfer y proffesiwn;

(k)gofynion o ran isafswm tariff penodedig a/neu uchafswm tariff penodedig;

(l)gofynion o ran hysbysebu.

(4Pan fo’n berthnasol i natur a chynnwys y ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd ystyried—

(a)y cysylltiad rhwng cwmpas y gweithgareddau y mae proffesiwn yn eu cynnwys neu sydd wedi eu neilltuo iddo a’r cymhwyster proffesiynol sy’n ofynnol,

(b)y cysylltiad rhwng cymhlethdod y tasgau o dan sylw a’r angen i’r rheini sy’n ymgymryd â hwy feddu ar gymwysterau proffesiynol penodol, yn arbennig o ran lefel, natur a hyd yr hyfforddiant neu’r profiad sy’n ofynnol,

(c)y posibilrwydd o gael y cymhwyster proffesiynol drwy lwybrau eraill,

(d)pa un a all y gweithgareddau sydd wedi eu neilltuo i broffesiynau penodol gael eu rhannu â phroffesiynau eraill ai peidio, a pham,

(e)graddau’r ymreolaeth wrth arfer proffesiwn rheoleiddiedig ac effaith trefniadau gweithdrefnol a goruchwyliaeth ar gyflawni’r amcan a geisir, yn benodol pan fo’r gweithgareddau sy’n ymwneud â phroffesiwn rheoleiddiedig yn cael eu dilyn o dan reolaeth a chyfrifoldeb proffesiynolyn sydd wedi ei gymhwyso’n briodol, ac

(f)y datblygiadau gwyddonol a technolegol a all leihau neu gynyddu’n effeithiol anghydffurfedd gwybodaeth rhwng proffesiynolion a defnyddwyr.

(5Pan fo darpariaeth reoleiddiol broffesiynol yn ymwneud â rheoleiddio proffesiynau gofal iechyd ac y mae iddi oblygiadau diogelwch i gleifion, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried yr amcan o sicrhau lefel uchel o ddiogelu iechyd dynol wrth gynnal asesiad cymesuredd o’r ddarpariaeth.

(6Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “teitl proffesiynol gwarchodedig” yw ffurf ar reoleiddio proffesiwn pan fo defnyddio’r teitl mewn gweithgaredd proffesiynol neu grŵp o weithgareddau proffesiynol yn ddarostyngedig, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn rhinwedd darpariaethau deddfwriaethol, rheoleiddiol neu weinyddol i feddu ar gymhwyster proffesiynol penodol, a phan fo defnyddio’r teitl hwnnw yn amhriodol yn ddarostyngedig i sancsiynau;

(b)ystyr “gweithgareddau sydd wedi eu neilltuo” yw ffurf ar reoleiddio proffesiwn pan fo’r mynediad i weithgaredd proffesiynol neu grŵp o weithgareddau proffesiynol wedi ei neilltuo, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn rhinwedd darpariaethau deddfwriaethol, rheoleiddiol neu weinyddol i aelodau o broffesiwn rheoleiddiedig sy’n dal cymhwyster proffesiynol penodol, gan gynnwys pan fo’r gweithgaredd yn cael ei rannu â phroffesiynau rheoleiddiedig eraill.

Darparu gwasanaethau dros dro ac yn achlysurol

8.—(1Cyn i ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol gymryd effaith, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau cydymffurfedd â’r egwyddor cymesuredd ar gyfer unrhyw ofyniad penodol yn y ddarpariaeth honno sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau dros dro ac yn achlysurol, a ddarperir o dan Ran 2 o Reoliadau 2015, gan gynnwys—

(a)cofrestru dros dro awtomatig â sefydliad neu gorff proffesiynol neu aelodaeth pro forma ohono, yn unol â rheoliad 14(2) o Reoliadau 2015;

(b)datganiad sydd i’w wneud ymlaen llaw yn unol â rheoliad 15 o Reoliadau 2015, dogfennau sydd i fod yn ofynnol yn unol â rheoliad 16 o Reoliadau 2015, neu unrhyw ofyniad cyfatebol arall;

(c)talu ffi, neu unrhyw daliadau, sy’n ofynnol am y gweithdrefnau gweinyddol, sy’n ymwneud â mynediad i broffesiynau rheoleiddiedig neu â dilyn y proffesiynau hynny, y mae’r darparwr gwasanaeth yn mynd iddynt.

(2Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fesurau sydd wedi eu cynllunio i sicrhau cydymffurfedd â thelerau ac amodau cyflogaeth cymwys a gymhwysir yn unol â chyfraith yr UE.

Gwybodaeth i’r cyhoedd ac ymgynghori

9.—(1Cyn i ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol arfaethedig gymryd effaith, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)drwy ddulliau priodol, roi gwybodaeth am ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol arfaethedig ar gael i’r cyhoedd, derbynyddion y gwasanaeth a rhanddeiliaid perthnasol eraill, gan gynnwys y rheini nad ydynt yn aelodau o’r proffesiwn o dan sylw;

(b)ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol ac unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(2Rhaid i ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol ddod gydag esboniad sy’n ddigon manwl i’w gwneud yn bosibl asesu cymesuredd y ddarpariaeth.

Adrodd

10.—(1Ar ôl cwblhau asesiad cymesuredd, rhaid i Weinidogion Cymru anfon yr wybodaeth a restrir ym mharagraff (2) i’r Comisiwn Ewropeaidd a’i chofnodi yn y gronfa ddata o broffesiynau rheoleiddiedig y cyfeirir ati yn Erthygl 59(1) o Gyfarwyddeb 2005/36/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 7 Medi 2005 ynghylch cydnabod cymwysterau proffesiynol(11).

(2Yr wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraff (1) yw—

(a)copi o’r ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol, a

(b)y rhesymau dros ystyried bod y ddarpariaeth yn gyfiawn ac yn gymesur.

Monitro darpariaethau rheoleiddiol proffesiynol

11.  Ar ôl i ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol gymryd effaith, rhaid i Weinidogion Cymru fonitro cydymffurfedd y ddarpariaeth â’r egwyddor cymesuredd, gan roi sylw dyledus i unrhyw ddatblygiadau sydd wedi digwydd ers iddi gymryd effaith.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o weinidogion Cymru

7 Gorffennaf 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r cytundeb rhwng y Deyrnas Unedig a’r UE o dan Erthygl 50(2) o’r Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd sy’n nodi’r trefniadau ar gyfer ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r UE yn ei gwneud yn ofynnol i’r DU gydymffurfio â’i rhwymedigaethau cyfreithiol o dan gyfraith yr UE tra pery’r cyfnod pontio. Mae hyn yn cynnwys rhwymedigaethau trosi.

O dan Gyfarwyddeb 2005/36/EU (a droswyd i gyfraith y DU gan Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 (O.S. 2015/2059)), mae’n ofynnol i Aelod-wladwriaethau gwblhau profion cymesuredd wrth reoleiddio proffesiynau.

Mae Cyfarwyddeb (EU) 2018/958 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 28 Mehefin 2018 (“Cyfarwyddeb 2018”) yn mynd ymhellach ac yn sefydlu fframwaith manwl ar gyfer cynnal profion cymesuredd cyn cyflwyno darpariaethau deddfwriaethol, rheoleiddiol neu weinyddol newydd, neu cyn diwygio darpariaethau deddfwriaethol, rheoleiddiol neu weinyddol presennol, sy’n cyfyngu ar fynediad i broffesiynau rheoleiddiedig neu ddilyn y proffesiynau hynny (“darpariaeth reoleiddiol broffesiynol”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb 2018 ac yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal yr asesiad cymesuredd hwn. Gan nad yw rhwymedigaethau’r DU i gydymffurfio â rhwymedigaethau trosi ond yn ymestyn hyd at ddiwedd y cyfnod gweithredu, mae’r Rheoliadau hyn yn gyfyngedig o ran amser a deuant i ben ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu (gweler y diffiniad yn rheoliad 2).

Er bod adran 5A o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (“Deddf 2018”) yn darparu nad yw’r ffaith bod unrhyw beth sy’n parhau i fod yn gyfraith ddomestig, neu sy’n ffurfio rhan ohoni, ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn rhinwedd adrannau 2 i 4 o Ddeddf 2018 yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu sy’n gyfyngedig o ran amser drwy gyfeirio at y cyfnod gweithredu yn ei atal rhag cael effaith amhenodol ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu yn rhinwedd adrannau 2 i 4, nid oes gofyniad i’r Rheoliadau hyn gael effaith amhenodol o’r fath, ac ni fyddant felly yn parhau i gael effaith ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

Mae rheoliad 3 yn nodi cwmpas y Rheoliadau hyn. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r proffesiynau rheoleiddiedig a restrir ym mharagraffau (1) i (3). Mae paragraff (4) yn nodi’r cyfyngiadau ar gwmpas y Rheoliadau hyn yn unol ag Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 2018.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gynnal asesiadau cymesuredd ac yn nodi’r amodau y mae rhaid eu bodloni wrth wneud hynny.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw darpariaethau rheoleiddiol proffesiynol yn gwahaniaethu’n uniongyrchol nac yn anuniongyrchol ar sail cenedligrwydd neu breswylfa.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol gael ei chyfiawnhau gan amcanion budd y cyhoedd. Mae’n nodi pryd y bydd darpariaeth yn cael ei chyfiawnhau gan amcanion budd y cyhoedd ac yn rhoi enghreifftiau o resymau a allai ffurfio rhesymau tra phwysig er budd y cyhoedd, fel y’u rhestrir yn Erthygl 6 o Gyfarwyddeb 2018.

Mae rheoliad 7 yn ymdrin â’r egwyddor cymesuredd ac yn nodi ystyriaethau y mae rhaid rhoi sylw iddynt wrth asesu cymesuredd darpariaeth reoleiddiol broffesiynol, yn ogystal â’r rheini y mae rhaid eu hystyried pan fyddant yn berthnasol i natur a chynnwys y ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau cydymffurfedd â’r egwyddor cymesuredd hefyd wrth osod gofynion penodol ar gyfer darparu gwasanaethau dros dro ac yn achlysurol.

Mae rheoliad 9 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi gwybodaeth ar gael i’r cyhoedd am ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol arfaethedig ac ymgynghori â rhanddeiliaid perthnasol.

Mae rheoliad 10 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru anfon copi o’r ddarpariaeth reoleiddiol broffesiynol a’r asesiad cymesuredd sydd wedi ei gwblhau i’r Comisiwn Ewropeaidd.

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru fonitro cymesuredd darpariaeth reoleiddiol broffesiynol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1972 p. 68. Diddymwyd Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) gydag effaith o’r diwrnod ymadael (a ddiffinnir yn adran 20 o’r Ddeddf honno fel 31 Ionawr 2020 am 11pm), ond wedi ei harbed gydag addasiadau tan ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu gan adran 1A o’r Ddeddf honno (fel y’i mewnosodwyd gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16)). Diwygiwyd adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 gan adran 27(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

(2)

2006 p. 32. Mewnosodwyd adran 58B gan adrannau 20(1) ac 71(4) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4), a pharagraffau 1 a 6 o Atodlen 7 iddi, ac mae’n darparu bod adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 yn gymwys i Weinidogion Cymru fel pe baent yn un o Weinidogion y Goron neu’n un o adrannau’r llywodraeth a ddynodwyd gan Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor o dan y ddarpariaeth honno.

(3)

Bydd y Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu er gwaethaf adran 5A o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1).

(5)

O.S. 2015/2059, a ddiwygiwyd gan baragraff 389 o Atodlen 19 i Ddeddf Diogelu Data 2018 (p. 12), O.S. 2016/696, 2016/1094, 2016/1030, 2018/166, 2018/838 a 2018/1101.

(9)

OJ Rhif L 255, 30.9.2005, t. 22, fel y’i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2013/55/EU (OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t. 132).

(10)

Nid yw Cyfarwyddeb (EU) 2018/958 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 28 Mehefin 2018 wedi ei mabwysiadu gan wladwriaethau Cymdeithas Masnach Rydd Ewrop (EFTA) yr AEE (Norwy, Liechtenstein a Gwlad yr Iâ) na’r Swistir.

(11)

OJ Rhif L 255, 30.9.2005, t. 22, a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2013/55/EU (OJ Rhif L 354, 28.12.2013, t. 132).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources