Hysbysiadau cosb benodedigLL+C
21.—(1) Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw un y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol—
(a)ei fod wedi cyflawni trosedd dan y Rheoliadau hyn, a
(b)ei fod yn 18 oed neu drosodd.
(2) Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—
(a)awdurdod lleol, neu
(b)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn,
fel y caiff yr hysbysiad ei bennu.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).
(4) Caiff person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan reoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020() ei drin fel pe bai wedi ei ddynodi at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.
(5) Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo fod yn awdurdod (neu yn ôl y digwydd, unrhyw un o’r awdurdodau) yr ardal yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni ynddi.
(6) Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—
(a)ni chaniateir dwyn achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod 28 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad dyroddi’r hysbysiad;
(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.
(7) Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—
(a)rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn creu’r drosedd;
(b)datgan y cyfnod pryd (oherwydd paragraff (6)(a)) na ddygir achos am y drosedd;
(c)pennu swm y gosb benodedig;
(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;
(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.
(8) Rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (7)(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (9) ac (10)).
(9) Caiff hysbysiad cosb benodedig bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad, mai dyna yw swm y gosb benodedig.
(10) Os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig iddo eisoes wedi derbyn hysbysiad cosb benodedig o dan y Rheoliadau hyn—
(a)nid yw paragraff (9) yn gymwys, a
(b)rhaid i’r swm a bennir fel y gosb benodedig fod—
(i)yn £120 yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;
(ii)yn £240 yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;
(iii)yn £480 yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;
(iv)yn £960 yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;
(v)yn £1920 yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig olynol.
(11) Wrth gyfrifo nifer yr hysbysiadau cosb penodedig y mae person wedi eu cael, mae hysbysiadau cosb penodedig a ddyroddir i’r person hwnnw o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020() i’w cymryd i ystyriaeth.
(12) Beth bynnag y bo unrhyw ddull arall a bennir o dan baragraff (7)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (7)(d) i’r cyfeiriad a nodir.
(13) Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel a grybwyllir ym mharagraff (12), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.
(14) Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—
(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person sydd â chyfrifoldeb am faterion ariannol—
(i)yr awdurdod lleol, neu
(ii)y person a ddynodir o dan baragraff (2)(b),
a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a
(b)sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y tystysgrif,
yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.
(15) Pan ddyroddir cosb benodedig mewn perthynas â’r drosedd honedig o dorri’r gofyniad yn rheoliad 11(4), mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at “awdurdod lleol” i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru.