Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020

Hysbysiadau cosb benodedigLL+C

21.—(1Caiff swyddog gorfodaeth ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw un y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol—

(a)ei fod wedi cyflawni trosedd dan y Rheoliadau hyn, a

(b)ei fod yn 18 oed neu drosodd.

(2Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—

(a)awdurdod lleol, neu

(b)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn,

fel y caiff yr hysbysiad ei bennu.

(3Caiff Gweinidogion Cymru eu dynodi hwy eu hunain o dan baragraff (2)(b).

(4Caiff person sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan reoliad 13 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(1) ei drin fel pe bai wedi ei ddynodi at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.

(5Pan fo awdurdod lleol wedi ei bennu yn yr hysbysiad rhaid iddo fod yn awdurdod (neu yn ôl y digwydd, unrhyw un o’r awdurdodau) yr ardal yr honnir bod y drosedd wedi ei chyflawni ynddi.

(6Pan ddyroddir hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir dwyn achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod 28 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad dyroddi’r hysbysiad;

(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(7Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)rhoi manylion rhesymol fanwl am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn creu’r drosedd;

(b)datgan y cyfnod pryd (oherwydd paragraff (6)(a)) na ddygir achos am y drosedd;

(c)pennu swm y gosb benodedig;

(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo;

(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(8Rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (7)(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (9) ac (10)).

(9Caiff hysbysiad cosb benodedig bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau yn dilyn dyddiad yr hysbysiad, mai dyna yw swm y gosb benodedig.

(10Os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig iddo eisoes wedi derbyn hysbysiad cosb benodedig o dan y Rheoliadau hyn—

(a)nid yw paragraff (9) yn gymwys, a

(b)rhaid i’r swm a bennir fel y gosb benodedig fod—

(i)yn £120 yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;

(ii)yn £240 yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;

(iii)yn £480 yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;

(iv)yn £960 yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir;

(v)yn £1920 yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a dderbynnir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig olynol.

(11Wrth gyfrifo nifer yr hysbysiadau cosb penodedig y mae person wedi eu cael, mae hysbysiadau cosb penodedig a ddyroddir i’r person hwnnw o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020(2) i’w cymryd i ystyriaeth.

(12Beth bynnag y bo unrhyw ddull arall a bennir o dan baragraff (7)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y nodir ei enw o dan baragraff (7)(d) i’r cyfeiriad a nodir.

(13Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel a grybwyllir ym mharagraff (12), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.

(14Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran y person sydd â chyfrifoldeb am faterion ariannol—

(i)yr awdurdod lleol, neu

(ii)y person a ddynodir o dan baragraff (2)(b),

a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig y mae’r achos yn ymwneud ag ef, a

(b)sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y tystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatgenir.

(15Pan ddyroddir cosb benodedig mewn perthynas â’r drosedd honedig o dorri’r gofyniad yn rheoliad 11(4), mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at “awdurdod lleol” i’w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 21 mewn grym ar 11.7.2020 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(3)(e)

I2Rhl. 21 mewn grym ar 13.7.2020 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(4)