2020 Rhif 891 (Cy. 197)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer eu pwerau o dan baragraff 8(1) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 20201.

Enwi a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofynion y Cwricwlwm (Diwygio paragraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020) (Cymru) 2020.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Awst 2020.

Diwygio paragraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 20202

1

Mae’r tabl ym mharagraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Ar ôl y cofnod ar gyfer adrannau 512 i 512ZB o Ddeddf Addysg 19962, mewnosoder—

School Standards and Framework Act 1998

Section 69 (duty to secure due provision of religious education)

Any duty imposed on a person by section 69(1) is to be treated as discharged if the person has used reasonable endeavours to discharge the duty.

Education Act 1997

Section 43 (provision of careers education in schools in Wales)

Any duty imposed on a person by section 43(3) is to be treated as discharged if the person has used reasonable endeavours to discharge the duty.

3

Ar ôl y cofnod ar gyfer adran 140 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 20003, mewnosoder—

Education Act 2002

Section 101 (basic curriculum for every maintained school in Wales)

Any duty imposed on a person by virtue of section 101 is to be treated as discharged if the person has used reasonable endeavours to discharge the duty.

4

Ar ôl y cofnod ar gyfer adran 108 o Ddeddf Addysg 20024, mewnosoder—

Education Act 2002

Section 109 (implementation of the National Curriculum for Wales in schools)

Any duty imposed on a person by section 109 is to be treated as discharged if the person has used reasonable endeavours to discharge the duty.

Education Act 2002

Section 110 (implementation of the National Curriculum for Wales in respect of nursery schools etc)

Any duty imposed on a person by section 110 is to be treated as discharged if the person has used reasonable endeavours to discharge the duty.

Education Act 2002

Sections 116A to 116K (the local curricula)

Any duty imposed on a person by or under sections 116A to 116K is to be treated as discharged if the person has used reasonable endeavours to discharge the duty.

Kirsty WilliamsY Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r tabl ym mharagraff 7(6) o Atodlen 17 i Ddeddf y Coronafeirws 2020 (“Deddf 2020”) yn nodi’r deddfiadau y caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad o dan baragraff 7(1)(b) o’r Atodlen honno, eu haddasu am gyfnod a bennir yn yr hysbysiad, ac ym mha fodd y caniateir i’r deddfiadau hynny gael eu haddasu.

Mae rheoliad 2 yn diwygio’r tabl i ychwanegu cofnodion newydd ar gyfer—

  • adran 69 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (dyletswydd i sicrhau darpariaeth ddyladwy addysg grefyddol);

  • adran 43 o Ddeddf Addysg 1997 (darparu addysg gyrfaoedd mewn ysgolion yng Nghymru);

  • adran 101 o Ddeddf Addysg 2002 (cwricwlwm sylfaenol ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru);

  • adran 109 o Ddeddf Addysg 2002 (gweithredu Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru mewn ysgolion);

  • adran 110 o Ddeddf Addysg 2002 (gweithredu Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru mewn cysylltiad ag ysgolion meithrin etc); ac

  • adrannau 116A i 116K o Ddeddf Addysg 2002 (cwricwla lleol ar gyfer disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4).

Mae’r cofnodion newydd hyn yn nodi’r addasiadau y caniateir eu gwneud i’r deddfiadau hynny drwy hysbysiad o dan baragraff 7(1)(b) o Atodlen 17 i Ddeddf 2020.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a manteision y Rheoliadau hyn.