Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd, Cymru
Gwnaed
14 Medi 2021
Yn dod i rym
24 Medi 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 88(1) o Ddeddf y Coronafeirws 2020(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod yr amodau a bennir yn adran 88(9) o’r Ddeddf honno wedi eu bodloni mewn perthynas â’r darpariaethau a atelir dros dro gan y Rheoliadau hyn.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Atal Dros Dro: Cludo, Storio a Gwaredu Cyrff Meirw etc) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Medi 2021.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2020” yw Deddf y Coronafeirws 2020.
2. Mae gweithrediad y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2020 wedi ei atal dros dro—
(a)adran 58 (pwerau mewn perthynas â chludo, storio a gwaredu cyrff meirw etc) i’r graddau y mae’n ymwneud â Rhannau 2, 3 a 4 o Atodlen 28;
(b)Rhannau 2, 3 a 4 o Atodlen 28 (cludo, storio a gwaredu cyrff meirw etc).
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
14 Medi 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn atal dros dro ddarpariaethau penodol yn Neddf y Coronafeirws 2020 (“Deddf 2020”) sy’n rhoi pwerau i awdurdodau cenedlaethol priodol ynghylch cludo, storio a gwaredu cyrff meirw.
Mae rheoliad 2 yn darparu ar gyfer atal dros dro weithrediad adran 58 o Ddeddf 2020 ac Atodlen 28 iddi (pwerau mewn perthynas â chludo, storio a gwaredu cyrff meirw etc).
Mae atal dros dro weithrediad y darpariaethau hyn yn golygu nad ydynt yn cael effaith yng Nghymru mwyach ond bod modd eu hadfer ar ddyddiad diweddarach o dan adran 88(3) o Ddeddf 2020.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2020 p. 7 (“Deddf 2020”). Mae’r pwerau a roddir gan adran 88(1) o Ddeddf 2020 yn arferadwy o ran Cymru gan Weinidogion Cymru; gweler adran 88(7) a (9) am y diffiniad o “relevant national authority”. Gweler adran 88(6) o Ddeddf 2020 am ystyr “provisions”.