2021 Rhif 1059 (Cy. 247) (C. 59)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru
Henebion Hynafol, Cymru

Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2021

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 41(3) a (4)(a) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 20161.

Enwi a dehongli1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2021.

2

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2016” yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 20222

Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 i rym ar 1 Ionawr 2022 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—

a

adran 11;

b

adran 28.

Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 1 Chwefror 20223

Daw adran 18 o Ddeddf 2016 i rym ar 1 Chwefror 2022.

Dawn BowdenY Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip o dan awdurdod Gweinidog yr Economi, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 i rym ar 1 Ionawr 2022, i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym—

a

adran 11 (cytundebau partneriaeth dreftadaeth);

b

adran 28 (cytundebau partneriaeth dreftadaeth).

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn adran 18 (cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol) o Ddeddf 2016 i rym ar 1 Chwefror 2022.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 3

31 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 4

31 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 5

31 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 24

31 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 25

31 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 26

31 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 30

(yn rhannol)

4 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 34

8 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 35

31 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 36

31 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 37

31 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Atodlen 1

31 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Atodlen 2

31 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Gweler adran 41(1) o Ddeddf 2016 ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod y cafodd Deddf 2016 y Cydsyniad Brenhinol. Gweler adran 41(2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i Ddeddf 2016 gael y Cydsyniad Brenhinol. Cafodd Deddf 2016 y Cydsyniad Brenhinol ar 21 Mawrth 2016.