Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1059 (Cy. 247) (C. 59)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Henebion Hynafol, Cymru

Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2021

Gwnaed

16 Medi 2021

Enwi a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2) 2021.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Deddf 2016” yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 2022

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 i rym ar 1 Ionawr 2022 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym—

(a)adran 11;

(b)adran 28.

Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 1 Chwefror 2022

3.  Daw adran 18 o Ddeddf 2016 i rym ar 1 Chwefror 2022.

Dawn Bowden

Y Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip o dan awdurdod Gweinidog yr Economi, un o Weinidogion Cymru

16 Medi 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw’r ail orchymyn cychwyn a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 i rym ar 1 Ionawr 2022, i’r graddau nad yw’r darpariaethau hynny eisoes mewn grym—

(a)adran 11 (cytundebau partneriaeth dreftadaeth);

(b)adran 28 (cytundebau partneriaeth dreftadaeth).

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn adran 18 (cofrestr o barciau a gerddi hanesyddol) o Ddeddf 2016 i rym ar 1 Chwefror 2022.

NODYN AM Y GORCHMYNION CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”) wedi eu dwyn i rym drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 331 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 431 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 531 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 2431 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 2531 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 2631 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 30

(yn rhannol)

4 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 348 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 3531 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 3631 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Adran 3731 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Atodlen 131 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Atodlen 231 Mai 2017

O.S. 2017/633

(Cy. 143)

(C. 55)

Gweler adran 41(1) o Ddeddf 2016 ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar y diwrnod y cafodd Deddf 2016 y Cydsyniad Brenhinol. Gweler adran 41(2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym 2 fis ar ôl i Ddeddf 2016 gael y Cydsyniad Brenhinol. Cafodd Deddf 2016 y Cydsyniad Brenhinol ar 21 Mawrth 2016.