Offerynnau Statudol Cymru
2021 Rhif 1109 (Cy. 265)
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) 2021
Gwnaed
am 1.35 p.m. ar 1 Hydref 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
am 4.00 p.m. ar 1 Hydref 2021
Yn dod i rym
am 4.00 a.m. ar 4 Hydref 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45B a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984().
RHAN 1Cyffredinol
Enwi a dod i rym
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 3) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 4 Hydref 2021.
RHAN 2Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020
2. Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020() wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 9.
Diwygiadau i reoliad 2
3. Yn rheoliad 2 (dehongli cyffredinol)—
(a)ym mharagraff (1), yn lle’r diffiniad o “gwlad neu diriogaeth esempt” rhodder—
“ystyr “gwlad neu diriogaeth esempt” (“exempt country or territory”) yw gwlad neu diriogaeth o fewn yr ardal deithio gyffredin, ac mae unrhyw gyfeiriad at “gwlad neu diriogaeth nad yw’n esempt” (“non-exempt country or territory”) i’w ddehongli yn unol â hynny;”;
(b)ym mharagraff (4), hepgorer “(o fewn ystyr rheoliad 9(1))”.
Diwygiadau i reoliad 2A
4.—(1) Mae rheoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (3)(c)—
(a)ar ôl paragraff (ii) hepgorer “neu”;
(b)ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—
“neu
(iv)tystysgrif brechlyn,”.
(3) Ym mharagraff (7), yn lle “paragraffau (3) a (6)” rhodder “paragraff (3)”.
(4) Ar ôl paragraff (7) mewnosoder—
“(7A) At ddibenion paragraff (3), pan fo P wedi cael dos o un brechlyn awdurdodedig a dos o frechlyn awdurdodedig gwahanol, bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig.
(7B) At ddibenion paragraff (6), mae P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn os yw P wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau o’r brechlyn fel y’i pennir yng nghanllawiau’r gweithgynhyrchydd ar gyfer y brechlyn hwnnw.”
(5) Ym mharagraff (8), yn lle “cael”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “cwblhau”.
(6) Ar ôl paragraff (8) mewnosoder—
“(8A) At ddibenion paragraff (6), pan fo P wedi cael dos o un brechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, a dos o frechlyn gwahanol o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor.”
(7) Ym mharagraff (10)—
(a)yn lle’r diffiniad o “brechlyn awdurdodedig” rhodder—
“ystyr “brechlyn awdurdodedig” (“authorised vaccine”) yw cynnyrch meddyginiaethol ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws a awdurdodwyd—
(a)
mewn perthynas â dosau a geir yn y Deyrnas Unedig—
(i)
i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig yn unol ag awdurdodiad marchnata, neu
(ii)
gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012();
(b)
mewn perthynas â dosau a geir mewn gwlad berthnasol a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (11), i’w gyflenwi yn y wlad honno yn dilyn gwerthusiad gan y rheoleiddiwr perthnasol ar gyfer y wlad;
(c)
mewn perthynas â dosau a geir mewn gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (12), yn unol â pharagraff (a);”;
(b)yn lle’r diffiniad o “awdurdodiad marchnata” rhodder—
“ystyr “awdurdodiad marchnata” (“marketing authorisation”)—
(a)
mewn perthynas â brechlyn a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth, yw’r ystyr a roddir i “marketing authorisation” yn rheoliad 8(1) (dehongli cyffredinol) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;
(b)
mewn perthynas â brechlyn a awdurdodwyd i’w gyflenwi mewn gwlad berthnasol a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (11) ac eithrio Aelod-wladwriaeth, yw awdurdodiad marchnata a roddwyd gan y rheoleiddiwr perthnasol ar gyfer y wlad;”;
(c)yn lle’r diffiniad o “gwlad berthnasol” rhodder—
“ystyr “gwlad berthnasol” (“relevant country”) yw gwlad neu diriogaeth a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (11) neu wlad neu diriogaeth a restrir ym mharagraff (12);”;
(d)yn y lle priodol, mewnosoder—
“ystyr “tystysgrif brechlyn” (“vaccine certificate”) yw tystysgrif mewn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg a ddyroddir gan awdurdod iechyd cymwys gwlad berthnasol sy’n cynnwys—
(c)
enw a gweithgynhyrchydd y brechlyn y mae P wedi ei gael;
(d)
y dyddiad y cafodd P bob dos o’r brechlyn;
(e)
manylion ynghylch naill ai pwy yw dyroddwr y dystysgrif neu’r wlad y rhoddwyd y brechlyn ynddi, neu’r ddau.”
(8) Yn y tabl ym mharagraff (11), yn y lle priodol—
(a)yn y golofn gyntaf (y wlad berthnasol), mewnosoder “Awstralia” ac yn yr ail golofn (y rheoleiddiwr perthnasol) ar yr un rhes, mewnosoder “Y Weinyddiaeth Nwyddau Therapiwtig”;
(b)yn y golofn gyntaf (y wlad berthnasol), mewnosoder “Canada” ac yn yr ail golofn (y rheoleiddiwr perthnasol), mewnosoder “Iechyd Canada”.
(9) Ar ôl paragraff (11) mewnosoder—
“(12) Y gwledydd a’r tiriogaethau y cyfeirir atynt yn y diffiniad o “gwlad berthnasol” yw—
Diwygiadau i reoliad 6A
5. Yn rheoliad 6A (gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol)—
(a)ym mharagraff (4)(d), yn lle “.” rhodder “;”;
(b)ar ôl paragraff (4)(d) mewnosoder—
“(e)person sy’n deithiwr rheoliad 2A.”
Diwygiad i reoliad 6AB
6. Yn lle rheoliad 6AB(2)(d)(ii) rhodder—
“(ii)mewn cysylltiad â theithiwr rheoliad 2A, archeb ar gyfer prawf diwrnod 2.”
Diwygiadau i Atodlen 1C
7. Yn Atodlen 1C (profi mandadol ar ôl cyrraedd Cymru)—
(a)ym mharagraff 1ZA(1) (profion diwrnod 2: gofynion o ran darparwr prawf preifat), ar ôl paragraff (l) mewnosoder—
“(la)pan—
(i)bo sampl i’w dilyniannu yn unol â pharagraff (l), a
(ii)bo’r dilyniannu i ddigwydd mewn labordy (“y labordy dilyniannu”) ac eithrio’r labordy y proseswyd y sampl ynddo yn y lle cyntaf (“y labordy diagnostig”),
pan fo’n sicrhau bod y labordy dilyniannu yn cael y sampl heb fod yn hwyrach na 24 awr ar ôl i’r labordy diagnostig ddod i wybod am ganlyniad y prosesu cychwynnol;”;
(b)ym mharagraff 2ZA(1) (profion diwrnod 8: gofynion o ran darparwr prawf preifat), ar ôl paragraff (h) mewnosoder—
“(ha)pan—
(i)bo sampl i’w dilyniannu yn unol â pharagraff (h), a
(ii)bo’r dilyniannu i ddigwydd mewn labordy (“y labordy dilyniannu”) ac eithrio’r labordy y proseswyd y sampl ynddo yn y lle cyntaf (“y labordy diagnostig”),
pan fo’n sicrhau bod y labordy dilyniannu yn cael y sampl heb fod yn hwyrach na 24 awr ar ôl i’r labordy diagnostig ddod i wybod am ganlyniad y prosesu cychwynnol;”.
Hepgor Atodlen 3
8. Hepgorer Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin).
Diwygiad i Atodlen 4
9. Yn Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig), ar y diwedd mewnosoder—
“Saethu Targedau: Pencampwriaethau Agored Dryll Aer Cymru
Badminton: Pencampwriaethau Badminton Rhyngwladol Cymru VICTOR
Gymnasteg: Pencampwriaethau Gogledd Ewrop”.
RHAN 3Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021
10. Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion Cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021() wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 11 a 12.
Diwygiad i reoliad 4
11. Yn rheoliad 4 (dehongli), yn y lle priodol mewnosoder—
“mae i “teithiwr rheoliad 2A” (“regulation 2A traveller”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2A o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol;”.
Diwygiadau i reoliad 5C
12. Yn rheoliad 5C (gofyniad i wirio statws brechu)—
(a)ym mharagraff (1), ar ôl “teithiwr Atodlen 3A” mewnosoder “neu deithiwr rheoliad 2A sydd wedi ei wirhau”;
(b)ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(4) Yn y rheoliad hwn, ystyr “teithiwr rheoliad 2A sydd wedi ei wirhau” yw teithiwr rheoliad 2A y dangosir ei statws brechu ar gyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel “Vaccine Status: Verified Full/Exempt”.”
RHAN 4Diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020
13. Yn lle’r Atodlen i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020() rhodder—
Rheoliadau 3, 3A a 4
“YR ATODLEN
Rhan 1
Yr wybodaeth sydd i’w darparu at ddibenion rheoliadau 3(2)(a)(i), 3(2)(b)(i), 3(2)(c)(i), 3A(4)(b)(i) a 3A(4)(c) yw—
“Essential information to enter Wales from overseas
Fill in your Passenger Locator Form before arrival. You must declare all countries you have visited or transited through in the 10 days prior to your arrival on your Passenger Locator Form.
Before departure, check the list of red list of countries, as the list can change regularly.
Red list passengers (including passengers who are fully vaccinated)
1. Provide proof of a negative COVID-19 test taken within 3 days of departure to Wales
2. Book a managed quarantine package
3. Complete a Passenger Locator Form
You can only enter if you are a British or Irish National, or you have residency rights in the UK. You must enter through a designated port and quarantine in a government approved hotel for 10 days.
Unvaccinated passengers or passengers vaccinated with unauthorised vaccines who are not red list passengers
1. Provide proof of a negative COVID-19 test taken within 3 days of departure to Wales
2. Book tests for day 2 and 8
3. Complete a Passenger Locator Form
4. Make plans to self-quarantine in private accommodation for 10 full days after arrival (or full duration of stay if less than 10 days)
Fully vaccinated passengers who are not red list passengers
1. Book a test for day 2
2. Complete a Passenger Locator Form
3. Have evidence of your vaccination status with you during travel
These measures apply to all persons (including UK nationals and residents) arriving in Wales from outside the common travel area comprising the United Kingdom, Ireland, the Isle of Man, and the Channel Islands. The British Overseas Territories are not in the common travel area. Public health requirements may vary depending upon in which nation of the UK you are staying.
England: https://www.gov.uk/uk-border-control
Northern Ireland: https://www.nidirect.gov.uk/articles/coronavirus-covid-19-international-travel-advice
Scotland: https://www.gov.scot/publications/coronavirus-covid-19-international-travel-quarantine/pages/overview/
Wales: https://gov.wales/travelrules
Failure to comply with these measures is a criminal offence and you could be fined. There are a limited set of exemptions from these measures. Check the list of exemptions carefully. You may be fined if you fraudulently claim an exemption.
Rhan 2
Y datganiad sydd i’w ddarparu at ddibenion rheoliad 4 yw—
(a)y fersiwn Gymraeg—
“Dyma neges iechyd y cyhoedd ar ran asiantaethau iechyd y cyhoeddus y Deyrnas Unedig.
Oni bai eich bod wedi eich esemptio, pa mor hir bynnag yr ydych yn bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig, rhaid i bawb gymryd prawf COVID-19 a archebwyd ymlaen llaw o fewn y ddau ddiwrnod cyntaf ar ôl ichi gyrraedd, hyd yn oed os ydych wedi eich brechu’n llawn. Rhaid i deithwyr nad ydynt wedi eu brechu gymryd prawf pellach ar ddiwrnod 8 ar ôl iddynt gyrraedd a hunanynysu.
Os ydych wedi bod mewn unrhyw wledydd ar y rhestr goch, neu wedi tramwyo drwy unrhyw wledydd o’r fath, o fewn y 10 niwrnod blaenorol, rhaid ichi fynd i gwarantin mewn cyfleuster cwarantin a reolir am y 10 niwrnod cyntaf ar ôl ichi gyrraedd a hefyd gymryd prawf arall 8 niwrnod ar ôl ichi gyrraedd.
Symptomau’r coronafeirws yw peswch cyson newydd, tymheredd uchel neu golli eich synnwyr blasu neu arogli arferol, neu newid yn eich synnwyr blasu neu arogli arferol. Os ydych yn profi unrhyw un o’r symptomau hyn, ni waeth pa mor ysgafn ydynt, fe’ch cynghorir i wneud eich hunan yn hysbys i’r criw.
Dilynwch y canllawiau Iechyd y Cyhoedd ar gyfer yr ardal yr ydych yn byw ynddi neu’n teithio ynddi.
Ewch i gov.uk/coronavirus i gael rhagor o gyngor.”;
(b)y fersiwn Saesneg—
“The following is a public health message on behalf of the UK’s public health agencies.
Unless exempt, however long you intend to stay in the UK, everyone must take a pre-booked COVID-19 test within the first two days after you arrive, even if you have been fully vaccinated. Unvaccinated passengers must take a further test on day 8 after they arrive and self-quarantine.
If you have been in or transited through any countries on the red list within the previous 10 days, you must quarantine in a managed quarantine facility for the first 10 days after arrival and also take another test 8 days after arrival.
The symptoms of coronavirus are a new continuous cough, a high temperature or a loss of, or change in, normal sense of taste or smell. If you experience any of these symptoms, however mild, you are advised to make yourself known to the crew.
Please follow the Public Health guidance for the area you are living or travelling in.
Visit gov.uk/coronavirus for more advice.”;
(c)y datganiad sydd ym mharagraff (a) neu (b) wedi ei gyfieithu i iaith a gydnabyddir yn swyddogol yn y wlad yr ymadawyd â hi.”
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 1:35 p.m. ar 1 Hydref 2021
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Teithio Rhyngwladol”), Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/40 (Cy. 11)) (“y Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr”) a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020 (O.S. 2020/574 (Cy. 132)) (“y Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd”).
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol. Mae’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol yn gosod gofynion ar bersonau sy’n dod i Gymru ar ôl bod dramor.
Mae rheoliadau 3, 6 ac 8 yn gwneud darpariaeth i ddileu Atodlen 3 (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), sy’n cynnwys gwledydd y cyfeirir atynt yn gyffredin fel gwledydd ‘rhestr werdd’, a chyfeiriadau at yr Atodlen honno, o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.
Mae rheoliad 4 yn gwneud diwygiadau i reoliad 2A (esemptiadau ar gyfer teithwyr sydd wedi eu brechu ac eraill) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, gan gynnwys ychwanegu at y rhestr o wledydd perthnasol ym mharagraff (11) a chyflwyno gwledydd a thiriogaethau perthnasol pellach ym mharagraff newydd (12).
Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 6A (gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol er mwyn esemptio teithiwr rheoliad 2A o ofynion y rheoliad hwnnw.
Mae rheoliad 7 yn gwneud diwygiadau i’r gofynion sy’n gymwys i ddarparwyr profion preifat ym mharagraffau 1ZA a 2ZA o Atodlen 1C.
Mae rheoliad 9 yn diwygio Atodlen 4 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol i ddiweddaru’r rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon penodedig. Caiff unigolyn adael ynysiad er mwyn cystadlu neu hyfforddi, neu ddarparu hyfforddiant neu gymorth arall i berson sy’n cystadlu, mewn digwyddiad chwaraeon a bennir yn Atodlen 4.
Mae’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr yn gosod gofynion ar bersonau sy’n gweithredu gwasanaethau teithwyr rhyngwladol (“gweithredwyr”) sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin. O ganlyniad i’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol gan y Rheoliadau hyn, mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i’r Rheoliadau Atebolrwydd Gweithredwyr er mwyn adlewyrchu’r newidiadau i’r cyfyngiadau ar deithio rhyngwladol.
Mae’r Rheoliadau Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd yn gosod gofynion ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy’n dod o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin i faes awyr, maes hofrenyddion neu borthladd môr yng Nghymru i ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig i deithwyr. O ganlyniad i’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol gan y Rheoliadau hyn, mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r wybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig y mae rhaid i weithredwyr ei darparu i deithwyr cyn iddynt deithio i Gymru ac wrth iddynt deithio i Gymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.