2021 Rhif 1121 (Cy. 272)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru (Diwygio) 2021

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 207(4) o Ddeddf Cydraddoldeb 20101 a pharagraff 6(2) o Atodlen 17 iddi.

Yn unol ag adran 209(6) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad2.

Enwi a chychwyn1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 8 Hydref 2021.

Diwygio Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 20212

Yn Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 20213, yn lle rheoliad 17(2) rhodder—

2

Cyfnod y datganiad achos ar gyfer hawlydd yw cyfnod o 8 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad yr ystyrir bod y gydnabyddiaeth, a roddir o dan reoliad 13(1)(b)(i), wedi ei chael yn unol â rheoliad 75(11). Mae’n cynnwys unrhyw estyniad i’r cyfnod hwnnw a orchmynnir gan y Llywydd o dan reoliad 65.

Jeremy MilesGweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021 (“Rheoliadau’r Tribiwnlys”).

Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn rhoi rheoliad 17(2) newydd yn lle’r un presennol yn Rheoliadau’r Tribiwnlys i ddarparu mai cyfnod y datganiad achos ar gyfer hawlydd sy’n gwneud hawliad o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yw 8 wythnos gan ddechrau ar y dyddiad y ceir y gydnabyddiaeth fod hawliad wedi ei gael.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.