NODYN ESBONIADOL
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mehefin 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir y Fflint. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 57 i 42, a lleihau nifer y cynghorwyr o 70 i 66.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 1(4) o’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 2021.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir y Fflint ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir y Fflint.
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i wardiau cymunedol a threfniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau yn Sir y Fflint.
Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Pentrobin, Dwyrain Bistre a Mynydd yn nhref Bwcle. Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Mynydd a Phentrobin o dref Bwcle.
Mae erthygl 6 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Oakenholt, y Castell a Threlawny yn nhref y Fflint. Mae erthygl 7 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Oakenholt a Threlawny o dref y Fflint.
Mae erthygl 8 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol De Cei Connah, Canol Cei Connah a Golftyn yn nhref Cei Connah. Mae erthygl 9 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Canol Cei Connah a De Cei Connah yn nhref Cei Connah.
Mae erthygl 10 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Gorllewin yr Wyddgrug, Dwyrain yr Wyddgrug, Broncoed a De’r Wyddgrug yng nghymuned yr Wyddgrug.
Mae erthygl 11 yn diddymu ward gymunedol Penarlâg yng nghymuned Penarlâg ac yn trosglwyddo rhannau o’r ward honno i wardiau Mancot ac Aston o gymuned Penarlâg. Mae erthygl 12 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Aston a Mancot o gymuned Penarlâg.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “10” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Sir y Fflint. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Sir y Fflint yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.