Dehongli
30.—(1) Yn y Rhan hon—
mae “copi” (“copy”), mewn perthynas ag unrhyw ddogfen, yn cynnwys copi a wneir o gopi;
ystyr “cyfarfod CBC” (“CJC meeting”) yw cyfarfod cyd-bwyllgor corfforedig (ond gweler rheoliad 22);
mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys mynegiant o farn, unrhyw argymhellion ac unrhyw benderfyniad a wneir;
mae i “gwybodaeth esempt” (“exempt information”) yr ystyr a roddir gan reoliad 26;
mae i “prif gyngor” (“principal council”) yr ystyr a roddir yn adran 171(1) o Ddeddf 2021;
ystyr “sefydliad cyfryngau newyddion” (“news media organisation”) yw—
(b)
unrhyw sefydliad sy’n ymwneud yn systematig ag adrodd newyddion drwy gyfrwng—
(i)
darllediadau sain neu deledu, neu
(ii)
cyhoeddiad electronig;
(c)
asiantaeth newyddion sy’n cynnal yn systematig y busnes o werthu a chyflenwi adroddiadau neu wybodaeth i bapurau newydd neu i sefydliadau cyfryngau newyddion eraill;
(d)
unrhyw sefydliad sy’n ymwneud yn systematig â chasglu newyddion—
(i)
ar gyfer darllediadau sain neu deledu;
(ii)
i’w cynnwys mewn rhaglenni sydd i’w cynnwys yn unrhyw wasanaeth rhaglenni (o fewn yr ystyr a roddir i “programme service” yn Neddf Darlledu 1990) heblaw gwasanaeth darlledu sain neu deledu;
(iii)
i’w cyhoeddi’n electronig.
(2) Mae cyfeiriadau yn unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon at “swyddog priodol” yn gyfeiriadau at aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig sydd wedi ei awdurdodi i gyflawni swyddogaeth y swyddog priodol a bennir yn y ddarpariaeth o dan sylw.
(3) Mae cyfeiriadau yn unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon at gyfarfod cyd-bwyllgor corfforedig a gynhelir drwy “ddulliau o bell” yn gyfeiriadau at gyfarfod a gynhelir drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd ac i gael eu gweld gan ei gilydd ai peidio).