Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021
34.—(1) Mae Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021() wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), hepgorer y diffiniad o “cyfranogwr cyfetholedig” ac ar ôl y diffiniad o “aelod Bannau Brycheiniog” rhodder—
“mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1); ”.
(3) Yn rheoliad 6 (aelodaeth)—
(a)ym mharagraff (1)—
(i)ar ddiwedd is-baragraff (a) hepgorer “a”;
(ii)ar ddiwedd is-baragraff (b) mewnosoder “, ac”;
(iii)ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—
“(c)unrhyw aelod cyfetholedig.”;
(b)ym mharagraff (2), ar ôl “Canolbarth” mewnosoder “, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(2A) a 9(2)”;
(c)hepgorer paragraff (3);
(d)ym mharagraff (4), yn lle “i’r graddau a ddisgrifir ym mharagraff (3),” rhodder “ac unrhyw aelod cyfetholedig”.
(4) Yn rheoliad 7 (aelodau cyngor), ym mharagraff (2)—
(a)yn lle “gyflawni ei swyddogaethau” rhodder “weithredu fel aelod cyngor”;
(b)yn lle “gyflawni’r swyddogaethau hynny” rhodder “weithredu”.
(5) Yn rheoliad 8 (aelod Bannau Brycheiniog)—
(a)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(2A) Ni chaiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth o dan reoliad 13;
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.
(2B) Ond caiff aelod Bannau Brycheiniog hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y Canolbarth—
(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog yn cytuno, neu
(b)os caniateir i aelod Bannau Brycheiniog weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.
(2C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Bannau Brycheiniog i weithredu.”;
(b)ym mharagraff (3)—
(i)yn lle “gyflawni ei swyddogaethau” rhodder “weithredu fel aelod”;
(ii)yn lle “gyflawni’r swyddogaethau hynny” rhodder “weithredu”.
(6) Yn lle rheoliad 9 (cyfranogwyr cyfetholedig) rhodder—
“Aelodau cyfetholedig
9.—(1) Caiff CBC y Canolbarth gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y Canolbarth (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.
(2) Rhaid i’r telerau hynny—
(a)pennu—
(i)swyddogaethau CBC y Canolbarth y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a
(ii)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy;
(b)cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill, ac
(c)cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.
(3) Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—
(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth o dan reoliad 13, a
(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,
caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.
(4) Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—
(a)am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu
(b)hyd nes—
(i)y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y Canolbarth, neu
(ii)y bydd CBC y Canolbarth yn terfynu’r cyfetholiad.
(5) Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—
(a)caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;
(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y Canolbarth.”
(7) Yn lle rheoliad 15 (dirprwyo swyddogaethau) rhodder—
“Cyfyngiad ar gyflawni swyddogaethau gan bersonau eraill
15. Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—
(a)cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;
(b)y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—
(i)mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));
(ii)cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);
(iii)cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);
(iv)cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;
(v)tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;
(vi)mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;
(vii)cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;
(viii)cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;
(c)cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).”
(8) Yn rheoliad 17 (ariannu gofyniad cyllideb), ym mharagraff (2), yn lle “yr aelodau” rhodder “yr aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog”.
(9) Ym mharagraff 2 o’r Atodlen (penodi cadeirydd ac is-gadeirydd), yn is-baragraff (4)(b), yn lle “gyfranogwyr cyfetholedig” rhodder “aelodau eraill”.
(10) Ym mharagraff 6 o’r Atodlen (y weithdrefn bleidleisio), yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—
“(a)ni chaiff nifer yr aelodau cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau eraill sydd â hawl i bleidleisio,”.
(11) Ym mharagraff 7 o’r Atodlen (mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanol), yn lle is-baragraff (4) rhodder—
“(4) Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.”
(12) Ym mharagraff 9 o’r Atodlen (darpariaeth gyffredinol o ran staffio)—
(a)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);
(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—
“(2) Rhaid i CBC y Canolbarth sicrhau bod trefniadau a wneir o dan is-baragraff (1) yn rhai sy’n angenrheidiol er mwyn i CBC y Canolbarth gyflawni ei swyddogaethau’n briodol.”
(13) Ym mharagraff 10 o’r Atodlen (telerau ac amodau), yn lle is-baragraff (2) rhodder—
“(2) Ond o ran is-baragraff (1)—
(a)mae’n ddarostyngedig i adran 41 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, a
(b)nid yw’n atal CBC y Canolbarth rhag addasu telerau ac amodau staff y mae’n eu penodi os yw hynny’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.”
(14) Ym mharagraff 11 o’r Atodlen (staff o awdurdodau eraill), ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—
“(3) Ond, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad arall, at ddibenion blwydd-daliadau mae gwasanaeth a ddarperir gan aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi ei roi at ddefnydd CBC y Canolbarth yn rhinwedd cytundeb o’r fath yn wasanaeth a ddarperir i’r awdurdod.”
(15) Hepgorer paragraff 15 o’r Atodlen (is-bwyllgorau).
(16) Ym mharagraff 16 o’r Atodlen (is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio)—
(a)yn nhestun Saesneg is-baragraff (1)(g), ar ôl “Mid” mewnosoder “Wales”;
(b)yn is-baragraff (2)(b) yn lle “gan” rhodder “o”;
(c)yn lle is-baragraff (2)(c) rhodder—
“(c)nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—
(i)yn aelod cyngor,
(ii)yn aelod cyfetholedig,
(iii)yn aelod o is-bwyllgor arall i CBC y Canolbarth, neu
(iv)yn aelod o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol.”;
(d)hepgorer is-baragraff (3).