2021 Rhif 1363 (Cy. 358)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 3 Rhagfyr 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202

1

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 5—

a

ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

1A

Yn y Rhan hon—

a

ystyr “person y mae’r coronafeirws arno sy’n amrywiolyn Omicron neu a all fod yn amrywiolyn Omicron” yw—

i

person sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ac y mae profi moleciwlaidd (gan gynnwys profion PCR, genoteipio neu ddilyniannu) wedi nodi bod yr amrywiolyn Omicron ar y person, neu

ii

person sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws ac y mae un o’r canlynol yn gymwys—

aa

mae profi moleciwlaidd (gan gynnwys profion PCR, genoteipio neu ddilyniannu) wedi nodi ei bod yn debygol bod yr amrywiolyn Omicron ar y person, neu

bb

mae’r amgylchiadau yn golygu ei bod yn rhesymol i swyddog olrhain cysylltiadau amau bod yr amrywiolyn Omicron ar y person;

b

ystyr “amrywiolyn Omicron” yw’r amrywiolyn SARS-CoV-2 sydd wedi ei ddynodi’n B.1.1.529 gan Sefydliad Iechyd y Byd.

b

ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

5

At ddibenion rheoliadau 6 a 7, mae “swyddog olrhain cysylltiadau” yn cynnwys—

a

Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru;

b

yr Ysgrifennydd Gwladol.

3

O flaen rheoliad 10 mewnosoder—

Gofyniad i ynysu ar ôl cysylltiad agos â pherson â’r amrywiolyn Omicron: plentyn9A

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau yn hysbysu oedolyn (“O”) fod plentyn (“P”) y mae O yn gyfrifol amdano wedi dod i gysylltiad agos â pherson (“C”) y mae’r coronafeirws arno sy’n amrywiolyn Omicron neu a all fod yn amrywiolyn Omicron.

2

Ni chaiff P ymadael â’r man lle y mae P yn byw, neu fod y tu allan i’r man hwnnw, cyn diwedd diwrnod olaf ynysiad P oni bai bod rheoliad 10 yn gymwys.

3

Os gofynnir iddo gan swyddog olrhain cysylltiadau, rhaid i O hysbysu’r swyddog am gyfeiriad y man lle y mae P yn byw.

4

Diwrnod olaf ynysiad P yw diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae swyddog olrhain cysylltiadau yn ei gofnodi fel y diwrnod olaf y daeth P i gysylltiad agos ag C cyn i O gael yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).

5

Ond pan fo P yn byw yn yr un man ag C, diwrnod olaf ynysiad P yw—

a

pan fo C, neu, pan fo C yn blentyn, oedolyn cyfrifol (“OC”) ar ran C, yn rhoi gwybod i swyddog olrhain cysylltiadau y diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae C, neu OC, yn rhoi gwybod mai dyna’r diwrnod y datblygodd C symptomau gyntaf, neu

b

pan na roddir gwybod am unrhyw symptomau, diwrnod olaf y cyfnod o 10 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod y prawf a arweiniodd at roi’r hysbysiad i C, neu OC, fod C wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

4

Yn rheoliad 10—

a

ym mharagraff (1), yn lle “neu 8(2)” rhodder “, 8(2) neu 9A(2)”;

b

ym mharagraff (3), yn lle “ac 8(2)” rhodder “, 8(2) a 9A(2)”;

c

ar ôl paragraff (6) mewnosoder—

6ZA

Ond nid yw paragraffau (5) a (6) yn gymwys pan fo’r swyddog olrhain cysylltiadau sy’n rhoi’r hysbysiad a ddisgrifir yn rheoliad 8(1) hefyd yn hysbysu’r person mai â pherson y mae’r coronafeirws arno sy’n amrywiolyn Omicron neu a all fod yn amrywiolyn Omicron yr oedd y cysylltiad agos.

5

Yn rheoliad 11, ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

1A

Ond nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r swyddog olrhain cysylltiadau sy’n rhoi’r hysbysiad a ddisgrifir yn rheoliad 8(1) hefyd yn hysbysu’r person mai â pherson y mae’r coronafeirws arno sy’n amrywiolyn Omicron neu a all fod yn amrywiolyn Omicron yr oedd y cysylltiad agos.

6

Yn rheoliad 12, ar ôl “reoliad 7(2)” mewnosoder “neu 9A(2)”.

7

Yn rheoliad 13(1)(a), yn lle “neu 8(1)” rhodder “, 8(1) neu 9A(1)”.

8

Ar ôl rheoliad 13 mewnosoder—

Tynnu’n ôl hysbysiad mai â pherson y mae’r amrywiolyn Omicron arno yr oedd y cysylltiad agos13A

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo swyddog olrhain cysylltiadau—

a

wedi rhoi hysbysiad o dan reoliad 10(6ZA) neu 11(1A) mai â pherson y mae’r coronafeirws arno sy’n amrywiolyn Omicron neu a all fod yn amrywiolyn Omicron yr oedd cysylltiad agos person (“yr hysbysiad gwreiddiol”), ond

b

yn hysbysu derbynnydd yr hysbysiad gwreiddiol wedi hynny fod yr hysbysiad wedi ei dynnu’n ôl.

2

Mae hysbysiad gwreiddiol i’w drin fel pe na bai wedi ei roi (a gall yr esemptiadau yn rheoliadau 10(5) a (6) ac 11 fod yn gymwys).

9

Yn rheoliad 14(2)(a)—

a

yn y geiriau o flaen paragraff (i), yn lle “neu 8(2)” rhodder “, 8(2) neu 9A(2)”;

b

ym mharagraff (ii), yn lle “neu 8(1)” rhodder “, 8(1) neu 9A(1)”;

c

ym mharagraff (iii), yn lle “neu 8” rhodder “, 8 neu 9A”.

10

Yn rheoliad 30, yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “neu 8(2)” rhodder “, 8(2) neu 9A(2)”.

11

Yn rheoliad 40—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn is-baragraff (a), ar ôl “8(2)” mewnosoder “, 9A(2)”;

ii

yn is-baragraff (b), yn lle “neu 8(3)” rhodder “, 8(3) neu 9A(3)”;

b

ym mharagraff (2)(a), yn lle “neu 8(3)” rhodder “, 8(3) neu 9A(3)”.

Mark DrakefordY Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn—

  • darparu, pan fo oedolyn wedi ei hysbysu ei fod wedi dod i gysylltiad agos â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws sy’n amrywiolyn Omicron, neu a all fod yn amrywiolyn Omicron, fod rhaid i’r oedolyn hunanynysu am nad yw’r esemptiadau yn y prif Reoliadau sy’n ymwneud â statws brechu, treialon clinigol a chynlluniau profi yn gymwys mwyach;

  • darparu (yn yr un modd), pan fo oedolyn wedi ei hysbysu bod plentyn y mae gan yr oedolyn gyfrifoldeb drosto wedi dod i gysylltiad agos â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws sy’n amrywiolyn Omicron, neu a all fod yn amrywiolyn Omicron, fod rhaid i’r plentyn hunanynysu;

  • egluro bod “swyddog olrhain cysylltiadau”, at ddibenion rheoliadau 6 a 7 o’r prif Reoliadau, yn cynnwys Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol fel y cânt hysbysu pobl am ganlyniadau profion positif.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi ar waith ar frys i ddelio â bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.