Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Diwygio) (Cymru) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1365 (Cy. 360)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Diwygio) (Cymru) 2021

Gwnaed

1 Rhagfyr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

3 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983(1) ac adrannau 22(2)(a) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3) a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(4), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1ENWI A CYCHWYN

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Diwygio) (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2021.

RHAN 2DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (FFIOEDD A DYFARNIADAU) (CYMRU) 2007

PENNOD 1Cyflwyniad

2.  Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(5) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Hawliau dinasyddion a meini prawf preswyliad

Diwygiadau i’r Atodlen

3.  Yn yr Atodlen—

(a)ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—

(i)mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad hwnnw;

(ii)yn y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii) ac ar ôl is-baragraff (a)(iv) mewnosoder—

(v)sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu

(iii)ar ôl y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, mewnosoder—

(2) Ym mharagraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—

(a)Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

(b)Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020(6)); neu

(c)Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

(b)ym mharagraff 2A(1)(a) a (b), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” ym mhob achos rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;

(c)ym mharagraff 3(1)(a)(iv)—

(i)ym mharagraff (bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3)”;

(ii)ym mharagraff (cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (3)”;

(iii)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—

(a)Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

(b)Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu

(c)Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

PENNOD 3Cymhwystra dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir

Diwygiadau i reoliadau 4 i 8

4.  Yn rheoliad 4—

(a)ym mharagraff (1)(a), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”;

(b)ym mharagraff (1B), yn lle “paragraffau 8A a 9B” rhodder “paragraffau 8A, 9B a 9BA”.

5.  Yn rheoliad 5—

(a)ym mharagraffau (1)(b)(i) ac (c)(i), ym mhob achos ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”;

(b)ym mharagraff (4), yn lle “paragraffau 8A a 9B” rhodder “paragraffau 8A, 9B a 9BA”.

6.  Yn rheoliad 6 —

(a)ym mharagraffau (2)(a) a (3)(a), ym mhob achos ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”;

(b)ym mharagraff (5), yn lle “paragraffau 8A a 9B” rhodder “paragraffau 8A, 9B a 9BA”.

7.  Yn rheoliad 7—

(a)ym mharagraffau (2)(a) a (3)(a), ym mhob achos ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”;

(b)ym mharagraff (5), yn lle “paragraffau 8A a 9B” rhodder “paragraffau 8A, 9B a 9BA”.

8.  Yn rheoliad 8—

(a)ym mharagraffau (1)(a) a (2)(a), ym mhob achos ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”;

(b)ym mharagraff (4), yn lle “paragraffau 8A a 9B” rhodder “paragraffau 8A, 9B a 9BA”.

Diwygiadau i’r Atodlen

9.  Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 9B mewnosoder—

Dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir

9BA.(1) Person—

(a)sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs;

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE; neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswyliad arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sy’n dilyn y cwrs yn y Deyrnas Unedig;

(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) wedi bod yn llwyr neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (d) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth a ffurfir gan y Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn unol â rheoliad 2(4).

(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “tiriogaethau tramor yr UE” yw Aruba; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalaallit Nunaat (Greenland); Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten); St Barthélemy; St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; a Wallis a Futuna.

RHAN 3DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG UWCH (CYRSIAU CYMHWYSOL, PERSONAU CYMHWYSOL A DARPARIAETH ATODOL) (CYMRU) 2015

PENNOD 1Cyflwyniad

10.  Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015(7) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Hawliau dinasyddion a meini prawf preswyliad

Diwygiadau i’r Atodlen

11.  Yn yr Atodlen—

(a)ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—

(i)mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad hwnnw;

(ii)yn y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (a)(ii), ac ar ôl is-baragraff (a)(iii) mewnosoder—

(iv)sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu;

(iii)ar ôl y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, mewnosoder—

(2) Ym mharagraff (1)(iv) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—

(a)Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

(b)Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu

(c)Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

(b)ym mharagraff 2A(1)(a) a (b), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” ym mhob achos rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;

(c)ym mharagraff 3—

(i)yn is-baragraff (1)(a)(iii)(bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (3)”;

(ii)yn is-baragraff (1)(a)(iii)(cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (3)”;

(iii)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iii), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—

(a)Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

(b)Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu

(c)Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

PENNOD 3Cymhwystra dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir

Diwygiad i reoliad 4

12.  Yn rheoliad 4—

(a)ym mharagraff (3A), yn lle “paragraff 8A neu 9B” rhodder “paragraff 8A, 9B neu 9BA”;

(b)ym mharagraff (9)(a), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.

Diwygiad i’r Atodlen

13.  Yn yr Atodlen, ar ôl paragraff 9B mewnosoder—

Dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir

9BA.(1) Person—

(a)sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE, neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswyliad arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswyliad arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE;

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a thiriogaethau tramor yr UE drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sy’n ymgymryd â’r cwrs yn y Deyrnas Unedig;

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), nad yw ei breswyliad arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) wedi bod yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson a gaiff ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a’r tiriogaethau tramor yn unol â pharagraff 1(3).

(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “tiriogaethau tramor yr UE” yw Aruba; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig; Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalaallit Nunaat (Greenland); Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius, Sint Maarten); St Barthélemy; St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; a Wallis a Futuna.

RHAN 4DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2017

PENNOD 1Cyflwyniad

14.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(8) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Hawliau dinasyddion a meini prawf preswyliad

Diwygiadau i reoliadau 2, 4, 81 a 110

15.  Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—

(i)mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad;

(ii)yn y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii), ac ar ôl is-baragraff (a)(iv) mewnosoder—

(v)sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu;

(b)ar ôl y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, mewnosoder—

(2) Ym mharagraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—

(a)Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

(b)Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu

(c)Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

16.  Yn rheoliad 4(10E)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.

17.  Yn rheoliad 81(10E)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.

18.  Yn rheoliad 110(12E)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.

Diwygiad i Atodlen 1

19.  Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 2A—

(i)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;

(ii)yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “cwrs” mewnosoder “ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw”, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd yr is-baragraff hwnnw a mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (1)(d);

(iii)ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn y cwrs presennol.

(b)ym mharagraff 3—

(i)yn is-baragraff (1)(a)(iv)(bb) ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3)”;

(ii)yn is-baragraff (1)(a)(iv)(cc) ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3)”;

(iii)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—

(a)Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

(b)Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu

(c)Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

(c)ym mharagraff 9C(1), hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (c), mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (d), ac ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs presennol.

PENNOD 3Cymhwystra dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir

Diwygiadau i reoliadau 4, 23, 41, 81 a 110

20.  Yn rheoliad 4(2)(a), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.

21.  Yn rheoliad 23(2), ar ôl “9A,” mewnosoder “9BA,”.

22.  Yn rheoliad 41(3), ar ôl “9A,” mewnosoder “9BA,”.

23.  Yn rheoliad 81(2)(a), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.

24.  Yn rheoliad 110(3)(a)(i), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.

Diwygiadau i Atodlen 1

25.  Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 9B mewnosoder—

Dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir

9BA.(1) Person—

(a)sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio arferol hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio arferol yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd—

(i)yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru; neu

(ii)yn ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben derbyn addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel rhywun sy’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

Diwygiad i Atodlen 4

26.  Yn Atodlen 4 paragraff (3), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.

RHAN 5DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (BENTHYCIADAU AT RADD FEISTR ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2017

PENNOD 1Cyflwyniad

27.  Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017(9) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Hawliau dinasyddion a meini prawf preswyliad

Diwygiadau i reoliadau 2 a 3

28.  Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—

(a)mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad hwnnw;

(b)yn y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii), ac ar ôl is-baragraff (a)(iv) mewnosoder—

(v)sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu

(c)ar ôl y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, mewnosoder—

(2) Ym mharagraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—

(a)Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

(b)Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu

(c)Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

29.  Yn rheoliad 3(10)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.

Diwygiadau i Atodlen 1

30.  Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 2A—

(i)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;

(ii)yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “cwrs” mewnosoder “ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw”, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd yr is-baragraff hwnnw a mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (1)(d);

(iii)ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.

(b)ym mharagraff 3(1)(a)(iv)—

(i)ym mharagraff (bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3)”;

(ii)ym mharagraff (cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (3)”;

(iii)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—

(a)Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

(b)Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu

(c)Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.;

(c)ym mharagraff 9C(1), hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (c), mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (d), ac ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.

PENNOD 3Cymhwystra dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir

Diwygiad i reoliad 3

31.  Yn rheoliad 3(2)(a), ar ôl “9B,” mewnosoder “9BA,”.

Diwygiad i Atodlen 1

32.  Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 9B, mewnosoder—

Dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir

9BA.  Person—

(a)sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

RHAN 6DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018

PENNOD 1Cyflwyniad

33.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(10) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Hawliau dinasyddion a meini prawf preswyliad

Diwygiad i reoliad 23

34.  Yn rheoliad 23E(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.

Diwygiadau i Atodlen 1

35.  Yn Atodlen 1 paragraff 6(1), yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—

(a)mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1);

(b)yn y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii), ac ar ôl is-baragraff (a)(iv) mewnosoder—

(v)sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu;

(c)ar ôl y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, mewnosoder—

(2) Ym mharagraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—

(a)Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

(b)Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio yn ystod y cyfnod pontio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu

(c)Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

Diwygiadau i Atodlen 2

36.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1—

(a)yn is-baragraff (2)(a)(iv)—

(i)ym mharagraff (bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (5)”;

(ii)yn is-baragraff (cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (5)”;

(b)yn is-baragraff (3)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;

(ii)ym mharagraff (c), ar ôl “cwrs” mewnosoder “ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw”, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd y paragraff hwnnw a mewnosoder “ac” ar ddiwedd paragraff (d);

(iii)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn y cwrs presennol.

(c)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

(5) At ddibenion is-baragraff (2)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—

(a)Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE,

(b)Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020), neu

(c)Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

37.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6C hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (c), mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (d), ac ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.

Diwygiad i Atodlen 4

38.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 13E(a)(i) yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.

PENNOD 3Cymhwystra dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir

Diwygiadau i reoliadau 9 a 10

39.  Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “6B,” mewnosoder “6BA,”.

40.  Yn rheoliad 10(1), yn eithriad 8 ar ôl “6B” mewnosoder “, 6BA”.

Diwygiadau i Atodlen 2

41.  Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 6B mewnosoder—

Dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir

6BA.(1) Person—

(a)sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir, neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sydd—

(i)yn ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru, neu

(ii)yn ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru,

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 9(2).

Diwygiadau i Atodlen 4

42.  Yn Atodlen 4—

(a)ym mharagraff 4(1)(a)(i), ar ôl “6B,” mewnosoder “6BA,”;

(b)ym mharagraff 5(1), yn eithriad 7 yn lle “5A neu 6B” rhodder “5A, 6B neu 6BA”.

RHAN 7DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (BENTHYCIADAU AT RADD DDOETHUROL ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2018

PENNOD 1Cyflwyniad

43.  Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(11) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Hawliau dinasyddion a meini prawf preswyliad

Diwygiadau i reoliadau 2 a 3

44.  Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—

(a)mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad;

(b)yn y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii), ac ar ôl is-baragraff (a)(iv) mewnosoder—

(v)sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu

(c)ar ôl y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, mewnosoder—

(2) Ym mharagraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—

(a)Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

(b)Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu

(c)Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

45.  Yn rheoliad 3(11)(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.

Diwygiadau i Atodlen 1

46.  Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 2A—

(i)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;

(ii)yn is-baragraff (1)(c), ar ôl “cwrs” mewnosoder “ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw”, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd yr is-baragraff hwnnw a mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (1)(d);

(iii)ar ôl is-baragraff (1)(d) mewnosoder—

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.

(b)ym mharagraff 3(1)(a)(iv)—

(i)ym mharagraff (bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (3)”;

(ii)ym mharagraff (cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (3)”;

(iii)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—

(a)Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

(b)Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu

(c)Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.;

(c)ym mharagraff 10C(1), hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd paragraff (c), mewnosoder “ac” ar ddiwedd paragraff (d), ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.

PENNOD 3Cymhwystra dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir

Diwygiadau i reoliad 3

47.  Yn rheoliad 3—

(a)ym mharagraff (2)(a), ar ôl “10B,” mewnosoder “10BA,”;

(b)ym mharagraff (2B), yn lle “9A, 10B neu 10D” rhodder “9A, 10B, 10BA neu 10D”.

Diwygiadau i Atodlen 1

48.  Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 10B, mewnosoder—

Dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir

10BA.(1) Person—

(a)sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir; neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru;

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

RHAN 8DIWYGIADAU I REOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (GRADDAU MEISTR ÔL-RADDEDIG) (CYMRU) 2019

PENNOD 1Cyflwyniad

49.  Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019(12) wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.

PENNOD 2Hawliau dinasyddion a meini prawf preswyliad

Diwygiad i reoliad 12

50.  Yn rheoliad 12A(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.

Diwygiadau i Atodlen 1

51.  Yn Atodlen 1, paragraff 3(1), yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—

(a)mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1) o’r diffiniad hwnnw;

(b)yn y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd paragraff (a)(iii), ac ar ôl paragraff (a)(iv), mewnosoder—

(v)sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion, neu;

(c)ar ôl y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, mewnosoder—

(2) Yn is-baragraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—

(a)Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE,

(b)Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020), neu

(c)Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

Diwygiadau i Atodlen 2

52.  Yn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff 1—

(i)yn is-baragraff (2)(a)(iv)—

(aa)ym mharagraff (bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (5)”;

(bb)yn is-baragraff (cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir yn is-baragraff (5)”;

(ii)yn is-baragraff (3)—

(aa)ym mharagraff (a), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;

(bb)ym mharagraff (c), ar ôl “cwrs” mewnosoder “ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw”, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd y paragraff hwnnw a mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (1)(d);

(cc)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.

(iii)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

(5) At ddibenion is-baragraff (2)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—

(a)Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE,

(b)Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020), neu

(c)Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

53.  Ym mharagraff 8C, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (c), mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (d), ac ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.

PENNOD 3Cymhwystra dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir

Diwygiadau i reoliadau 9 a 10

54.  Yn rheoliad 9(1)(a)(i), ar ôl “8B,” mewnosoder “8BA,”.

55.  Yn rheoliad 10(1), yn eithriad 12 ar ôl “8B” mewnosoder “, 8BA”.

Diwygiadau i Atodlen 2

56.  Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 8B mewnosoder—

Dinasyddion Gwyddelig yn yr AEE a’r Swistir

8BA.(1) Person—

(a)sy’n ddinesydd Gwyddelig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—

(i)yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir, neu

(ii)yn y Deyrnas Unedig, pan ddechreuodd y preswylio fel arfer hwnnw ar ôl 31 Rhagfyr 2017 yn union ar ôl cyfnod o breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r AEE a’r Swistir,

ac sydd wedi parhau i breswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod sy’n dechrau ar ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu ac yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs,

(c)sy’n ymgymryd â chwrs dynodedig yng Nghymru,

(d)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, ac

(e)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn ystod unrhyw ran o’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (d) yn gyfan gwbl neu’n bennaf at ddiben cael addysg lawnamser.

(2) Nid yw paragraff (e) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n cael ei drin fel pe bai’n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy’n ffurfio’r Deyrnas Unedig, Gibraltar, yr AEE a’r Swistir yn unol â pharagraff 1(5).

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

1 Rhagfyr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”).

Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn sicrhau bod effaith lawn yn cael ei rhoi i’r cytundeb ymadael â’r UE fel y mae’n ymwneud â hawliau’r rheini sy’n gwneud ceisiadau hwyr i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE ac i aelodau o’r teulu a fydd yn ymuno â hwy yn y dyfodol ond nad ydynt eto wedi gwneud cais ac sy’n dal i fod o fewn y terfyn amser ar gyfer gwneud hynny.

Mae’r darpariaethau presennol sy’n ymwneud â chymhwystra myfyrwyr i gael cymorth i fyfyrwyr Cymreig wedi eu diwygio fel nad yw personau (ac eithrio dinasyddion Gwyddelig penodol) sy’n dod i Gymru o Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel at ddibenion astudio yn gymwys i gael cymorth at ffioedd dysgu.

Mae diwygiadau wedi eu gwneud hefyd i Reoliadau 2017 a Rheoliadau 2018 i wneud dinasyddion Gwyddelig sy’n byw yn yr AEE neu’r Swistir ar ddiwedd y cyfnod pontio yn gymwys i gael cymorth i fyfyrwyr os ydynt yn dechrau cyrsiau yng Nghymru ar neu cyn 31 Rhagfyr 2027.

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cyfatebol i’r Rheoliadau a ganlyn—

Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007;

Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015;

Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017;

Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018;

Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1983 p. 40; diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p. 56), Atodlen 37, paragraff 57; Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 21, paragraff 5 ac Atodlen 22; Deddf Addysg 2005 (p. 18), Atodlen 14, paragraff 9; O.S. 2010/1080, Atodlen 1, paragraff 12; O.S. 2010/1158, Atodlen 2, paragraff 1; Deddf Addysg 2011 (p. 21), Atodlen 5, paragraff 5 ac Atodlen 16, paragraff 5; a Deddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), Atodlen 14, paragraff 33. Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44 ac Atodlen 4.

(2)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22(2)(a) gan Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 86(3)(a). Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 2006/1458 gydag effaith o 8 Mehefin 2006. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 2 o’r Ddeddf honno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 1999/672. Darparodd adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 fod y swyddogaethau yn adran 22(2)(a) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 2004 i’w harfer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42(6), i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(4)

2015 dccc 1. Gweler adran 57(1) am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: