2021 Rhif 1403 (Cy. 365)
Rheoliadau Cynghorau Cymuned Cymwys (Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol) (Cymwysterau Clercod) (Cymru) 2021
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 30(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 20211.
Enwi a chychwyn1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Cymuned Cymwys (Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol) (Cymwysterau Clercod) (Cymru) 2021.
2
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mai 2022.
Cymwysterau penodedig clercod2
At ddiben adran 30(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, rhaid i glerc cyngor cymuned ddal o leiaf un o’r cymwysterau a ganlyn er mwyn i’r cyngor cymuned fodloni’r ail amod cymhwystra—
a
Tystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol;
b
Tystysgrif Addysg Uwch mewn Llywodraethu Cymunedol;
c
Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymgysylltu a Llywodraethu Cymunedol;
d
Tystysgrif Addysg Uwch mewn Polisi Lleol.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)