Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
9 Rhagfyr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
13 Rhagfyr 2021
Yn dod i rym
5 Mai 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 30(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Cymuned Cymwys (Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol) (Cymwysterau Clercod) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Mai 2022.
2. At ddiben adran 30(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, rhaid i glerc cyngor cymuned ddal o leiaf un o’r cymwysterau a ganlyn er mwyn i’r cyngor cymuned fodloni’r ail amod cymhwystra—
(a)Tystysgrif mewn Gweinyddiaeth Cynghorau Lleol;
(b)Tystysgrif Addysg Uwch mewn Llywodraethu Cymunedol;
(c)Tystysgrif Addysg Uwch mewn Ymgysylltu a Llywodraethu Cymunedol;
(d)Tystysgrif Addysg Uwch mewn Polisi Lleol.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
9 Rhagfyr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae adran 30 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn nodi’r amodau cymhwystra y mae rhaid i gyngor cymuned eu bodloni cyn y caiff benderfynu dod yn gyngor cymuned cymwys.
Mae dod yn gyngor cymuned cymwys yn galluogi cyngor cymuned i arfer y pŵer cymhwysedd cyffredinol at ddiben Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf 2021.
Mae’r ail amod cymhwystra wedi ei nodi yn adran 30(3) o Ddeddf 2021 ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i glerc cyngor cymuned ddal cymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster o fath a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu’r cymwysterau y mae rhaid i’r clerc eu dal er mwyn i’r cyngor cymuned fodloni’r ail amod cymhwystra. Rhaid i’r clerc ddal o leiaf un o’r pedwar cymhwyster a nodir yn rheoliad 2.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.