2021 Rhif 1407 (Cy. 366)
Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021
Cymeradwywyd gan Senedd Cymru
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.
Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
Enwi a dod i rym1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021.
2
Daw rheoliad 2(2) i rym ar 15 Rhagfyr 2021.
3
Daw gweddill y Rheoliadau hyn i rym ar 11 Rhagfyr 2021.
Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202
1
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 16A—
a
ym mharagraff (1)—
i
ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder “neu”;
ii
hepgorer “neu” ar ôl is-baragraff (c);
iii
hepgorer is-baragraff (d);
b
hepgorer paragraff (7).
3
Yn rheoliad 20, ar ôl paragraff (4) mewnosoder—
5
At ddibenion paragraff (1), nid yw—
a
awditoriwm theatr, sinema neu neuadd gyngerdd, na
b
ardal wylio arena neu stadiwm o dan do,
i’w trin fel mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y’i darperir fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre.
6
At ddibenion paragraff (1), mae cerbyd i’w drin fel ardal gyhoeddus o dan do mangre pan fydd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer—
a
hyfforddiant am dâl mewn gyrru car modur yn unol ag adran 123 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 19883, neu
b
prawf cymhwysedd gyrru fel y disgrifir “test of competence to drive” yn adran 89(1)(a)(i) o’r Ddeddf honno.
(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)