Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1411 (Cy. 367)

Traffig Ffyrdd, Cymru

Rheoliadau Traffordd yr M48 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 2 (Cylchfan Newhouse), Cas-gwent) (Terfyn Cyflymder 40 mya) 2021

Gwnaed

10 Rhagfyr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

13 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

12 Ionawr 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 17(2), (3) a (3ZAA) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw sefydliadau cynrychioliadol y tybiwyd eu bod yn briodol yn unol ag adran 134(10) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Traffordd yr M48 (Ffyrdd Ymadael tua’r Dwyrain a thua’r Gorllewin wrth Gyffordd 2 (Cylchfan Newhouse), Cas-gwent) (Terfyn Cyflymder 40 mya) 2021 a deuant i rym ar 12 Ionawr 2022.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “traffordd yr M48” yw traffordd yr M48 De Swydd Gaerloyw i Dde Cymru.

Gosod terfyn cyflymder

2.  Ni chaiff neb yrru cerbyd modur yn gyflymach na 40 milltir yr awr ar y darnau o draffordd yr M48 a bennir yn yr Atodlen.

Lee Waters

Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, o dan awdurdod y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

10 Rhagfyr 2021

Rheoliad 2

YR ATODLENDARNAU O DRAFFORDD YR M48

Y darnau a ganlyn o draffordd yr M48 wrth Gyffordd 2 (Cylchfan Newhouse) yn Sir Fynwy—

(a)y ffordd ymadael tua’r gorllewin o bwynt 200 metr i’r dwyrain o’i chyffordd â Chylchfan Newhouse hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd gylchredol, a

(b)y ffordd ymadael tua’r dwyrain o bwynt 250 o fetrau i’r gorllewin o’i chyffordd â Chylchfan Newhouse hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd gylchredol.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn sy’n gosod terfyn cyflymder uchaf o 40 milltir yr awr (yn lle’r terfyn cyflymder cyffredinol o 70 milltir yr awr a osodir ar draffyrdd gan Reoliadau Traffig Traffyrdd (Terfyn Cyflymder) 1974 (O.S. 1974/502)) ar y darnau o ffyrdd ymadael traffordd yr M48 a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Y Gangen Orchmynion, Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu Trafnidiaeth.YGangenOrchmynion@llyw.cymru.

(1)

1984 p. 27. Diwygiwyd adran 17(2) gan baragraff 28(3) o Atodlen 8 i Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22), a pharagraff 25 o Atodlen 4 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 (p. 40), ac Atodlen 8 iddi. Mewnosodwyd adran 17(3ZAA) gan adran 26(2) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4).