Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1431 (Cy. 370)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

12 Rhagfyr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

15 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

4 Chwefror 2022

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) (Diwygio) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Chwefror 2022.

Diwygiadau i Reoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014

2.—(1Mae Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 15 (athro-lywodraethwyr), ym mharagraff (4)—

(a)daw’r geiriau o “unrhyw berson” hyd at y diwedd yn is-baragraff (a), a

(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

; neu

(b)ffederasiwn sy’n cynnwys dwy ysgol yn unig.

(3Yn rheoliad 16 (staff-lywodraethwyr), ym mharagraff (4)—

(a)daw’r geiriau o “unrhyw berson” hyd at y diwedd yn is-baragraff (a), a

(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

; neu

(b)ffederasiwn sy’n cynnwys dwy ysgol yn unig.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

12 Rhagfyr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ffedereiddio Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2014 (O.S. 2014/1132 (Cy. 111)).

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu, ar gyfer ffederasiynau sy’n cynnwys dwy ysgol yn unig, y caniateir i berson gael ei ethol yn athro-lywodraethwr neu’n staff-lywodraethwr er ei fod yn gweithio yn yr un ysgol ffederal ag athro-lywodraethwr neu staff-lywodraethwr blaenorol a wasanaethodd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2002 p. 32. Mewnosodwyd adran 19(9) gan adran 19(1) a (2)(b) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (mccc 7). Diwygiwyd adran 210(7) gan adran 21(1) a (3)(c) o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2). Gweler adran 212(1) am y diffiniad o “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(3)

O.S. 2014/1132 (Cy. 111), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.