Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Senedd Cymru o dan adran 45R o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22), i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru o fewn wyth niwrnod ar hugain gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu neu doriad am fwy na phedwar diwrnod.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1468 (Cy. 376)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021

Gwnaed

am 5.21 p.m. ar 17 Rhagfyr 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 8.00 p.m. ar 17 Rhagfyr 2021

Yn dod i rym

20 Rhagfyr 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45F(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 20 Rhagfyr 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 16(3), ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(ba)caniatáu neu ei gwneud yn ofynnol i bersonau sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre weithio gartref;.

(3Ar ôl Rhan 4A mewnosoder—

RHAN 4BGofyniad i weithio gartref pan fo’n ymarferol

Gofyniad i weithio gartref pan fo’n ymarferol

18B.(1) O dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), ni chaiff unrhyw berson ymadael â’r man lle y mae’n byw, neu aros i ffwrdd o’r man hwnnw, at ddibenion gwaith neu i ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol.

(2) Yr amgylchiadau yw ei bod yn rhesymol ymarferol i’r person weithio neu ddarparu gwasanaethau gwirfoddol neu elusennol o’r man lle y mae’n byw.

(3) At ddibenion y rheoliad hwn, mae’r man lle y mae person yn byw yn cynnwys y fangre lle y mae’n byw ynghyd ag unrhyw ardd, iard, tramwyfa, gris, garej, tŷ allan neu unrhyw atodyn i fangre o’r fath.

(4Ar ôl rheoliad 42 mewnosoder—

Trosedd o fethu â gweithio gartref pan fo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny

42A.  Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn torri’r gofyniad yn rheoliad 18B yn cyflawni trosedd.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 5.21 p.m. ar 17 Rhagfyr 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn mewnosod rheoliad newydd 18B yn y prif Reoliadau i ddarparu na chaiff unrhyw berson ymadael â’r man lle y mae’n byw at ddibenion gwaith pan fo’n rhesymol ymarferol i’r person weithio gartref. Mae rheoliad newydd 42A wedi ei fewnosod yn y prif Reoliadau i ddarparu ar gyfer trosedd o fethu â chydymffurfio â gofyniad rheoliad 18B.

Mae darpariaeth gysylltiedig wedi ei mewnosod yn rheoliad 16 o’r prif Reoliadau i ddarparu bod y mesurau rhesymol y gall person sy’n gyfrifol am fangre reoleiddiedig eu cymryd o dan y rheoliad hwnnw yn cynnwys caniatáu neu ei gwneud yn ofynnol i bersonau sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre weithio gartref.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i ymdrin â bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources