
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Schedule
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), os achosir unrhyw ddifrod i unrhyw gyfarpar oherwydd neu o ganlyniad i adeiladu unrhyw weithfeydd y cyfeirir atynt ym mharagraff 5(2) (heblaw cyfarpar nad yw’n rhesymol angenrheidiol ei atgyweirio o ystyried y bwriad i’w waredu at ddibenion y gweithfeydd hynny) neu eiddo ymgymerwr cyfleustod, neu oes unrhyw darfu ar unrhyw wasanaeth a ddarperir gan yr ymgymerwr cyfleustod, rhaid i’r ymgymerwr—
(a)dwyn a thalu’r gost y mae’r ymgymerwr cyfleustod yn rhesymol yn mynd iddi wrth unioni’r cyfryw ddifrod neu wrth adfer y cyflenwad; a
(b)rhoi digollediad rhesymol i’r ymgymerwr cyfleustod am unrhyw dreuliau, colled, iawndal, cosb neu gostau eraill y mae’r ymgymerwr cyfleustod yn mynd iddynt, oherwydd neu o ganlyniad i unrhyw gyfryw ddifrod neu darfu.
(2) Nid oes dim yn is-baragraff (1) yn gosod unrhyw atebolrwydd ar yr ymgymerwr mewn cysylltiad ag unrhyw ddifrod neu darfu i’r graddau y gellir ei briodoli i weithred, esgeulustod neu ddiffyg ymgymerwr cyfleustod, ei swyddogion, ei weision, ei gontractwyr neu ei asiantau.
(3) Rhaid i ymgymerwr cyfleustod roi rhybudd rhesymol i’r ymgymerwr am unrhyw hawliad neu archeb am dâl ac ni chaniateir gwneud unrhyw setliad na chyfaddawd heb gydsyniad yr ymgymerwr y mae’n rhaid iddo, os yw’n atal y cyfryw gydsyniad, gynnal ar ei ben ei hun unrhyw setliad neu gyfaddawd neu unrhyw achos llys sy’n angenrheidiol i wrthsefyll yr hawliad neu’r archeb am dâl.
Back to top