
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Schedule
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Cymhwyso Deddf 1965
4.—(1) Mae Deddf 1965 yn cael effaith gyda’r addasiadau sy’n angenrheidiol i wneud iddi fod yn gymwys i gaffael hawl yn orfodol o dan y Gorchymyn hwn drwy greu hawl newydd neu osod cyfamod cyfyngol fel y bo’n gymwys i gaffael tir yn orfodol o dan y Gorchymyn hwn, mewn cyd-destunau priodol, mae cyfeiriadau yn y Ddeddf honno at dir i’w darllen (yn unol â gofynion y cyd-destun penodol) fel pe baent yn gyfeiriadau at, neu fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at—
(a)yr hawl a gaffaelwyd neu sydd i’w chaffael, neu’r cyfamod cyfyngol a osodwyd neu sydd i’w osod; neu
(b)y tir y mae’r hawl yn arferadwy drosto neu sydd i’w harfer drosto, neu’r cyfyngiad sy’n orfodadwy drosto neu sydd i’w orfodi drosto.
(2) Heb ragfarnu cyffredinolrwydd is-baragraff (1), mae Rhan 1 o Ddeddf 1965 yn gymwys mewn perthynas â chaffael hawl yn orfodol o dan y Gorchymyn hwn drwy greu hawl newydd neu osod cyfamod cyfyngol gyda’r addasiadau a bennir yn narpariaethau canlynol yr Atodlen hon.
Back to top