Rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru, a osodwyd gerbron Senedd Cymru o dan adran 45R o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (p. 22), i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Senedd Cymru o fewn wyth niwrnod ar hugain gan ddechrau â’r diwrnod y gwneir yr offeryn, yn ddarostyngedig i’w estyn dros gyfnodau o ddiddymu neu doriad am fwy na phedwar diwrnod.

2021 Rhif 1485 (Cy. 386)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 19841.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 6.00 a.m. ar 26 Rhagfyr 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202

1

Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 20202 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 16—

a

ym mharagraff (1)—

i

o flaen “Cam 3” mewnosoder—

Cam 3

Cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

a

y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau o dan do yn y fangre, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp a ganiateir;

b

pan fo’n ofynnol i bersonau aros o dan do i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp a ganiateir.

ii

daw’r cyfeiriad presennol at “Cam 3” yn “Cam 4”;

b

ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

1A

Wrth benderfynu i ba raddau y mae’n rhesymol cymryd mesur penodol o dan Gam 3, caniateir rhoi sylw i fesurau a gymerir o dan Gam 4 i liniaru’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws sy’n codi pan fo unrhyw berson o fewn pellter o 2 fetr i berson arall.

c

ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

4A

At ddibenion Cam 3, ystyr “grŵp a ganiateir” yw—

a

pan fo’r fangre mewn ardal Lefel Rhybudd 1 neu ardal Lefel Rhybudd 2, grŵp—

i

sy’n cynnwys dim mwy na 6 o bobl, heb gyfrif unrhyw bersonau o dan 11 oed nac unrhyw ofalwr i berson yn y grŵp, neu

ii

sy’n cynnwys aelodau o’r un aelwyd ac unrhyw ofalwr i aelod o’r aelwyd;

b

pan fo’r fangre mewn ardal Lefel Rhybudd 3 neu ardal Lefel Rhybudd 4, grŵp sy’n cynnwys aelodau o’r un aelwyd ac unrhyw ofalwr i aelod o’r aelwyd.

3

Ar ôl rheoliad 16 mewnosoder—

Mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd trwyddedig16ZA

1

Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre sydd wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre, rhaid i’r mesurau sydd i’w cymryd gan y person cyfrifol o dan Gam 4 o’r rheoliad hwnnw gynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—

a

cael person sy’n rheoli mynediad i’r fangre, ac eithrio mewn sinemâu a theatrau;

b

ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid fod yn eistedd yn y fangre yn unrhyw le ac eithrio wrth far—

i

pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod;

ii

pan weinir bwyd neu ddiod iddynt, a

iii

pan fyddant yn bwyta neu’n yfed.

2

Ond pan fo bwyd yn cael ei ddarparu yn y fangre ar sail bwffe, caiff cwsmeriaid ddewis bwyd o’r bwffe a dychwelyd i’r man lle y maent yn eistedd.

3

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i—

a

ffreuturau yn y gweithle, neu

b

mangreoedd mewn sefydliad addysgol.

4

Nid yw paragraff (1)(b) yn gymwys mewn perthynas ag—

a

cwsmeriaid mewn—

i

sinemâu, neu

ii

theatrau,

pan fo’r cwsmeriaid hynny yn eistedd fel arfer yn y fangre (ac eithrio pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod neu pan weinir bwyd neu ddiod iddynt) ar gyfer arddangosiad ffilm neu berfformiad theatraidd byw, neu

b

personau sy’n mynd i gynulliad neu ddigwyddiad rheoleiddiedig.

5

At ddiben paragraff (4), mae perfformiad theatraidd “byw” yn un y mae’r cwsmer yn dyst iddo ac eithrio drwy ddarllediad.

6

At ddibenion paragraff (1)—

a

nid yw bwyd neu ddiod a werthir mewn llety gwyliau neu lety teithio fel rhan o wasanaeth ystafell i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre;

b

mae bwyd neu ddiod a werthir i’w fwyta neu i’w hyfed mewn ardal sy’n gyfagos i’r fangre lle y mae seddi yn cael eu rhoi ar gael i gwsmeriaid i’w drin neu i’w thrin fel pe bai’n cael ei werthu i’w fwyta yn y fangre neu ei gwerthu i’w hyfed yn y fangre.

7

Pan fo mangre reoleiddiedig nad yw wedi ei hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre yn caniatáu i gwsmeriaid yfed eu halcohol eu hunain yn y fangre, mae paragraffau (1) i (3) yn gymwys i’r fangre honno fel y maent yn gymwys i fangreoedd sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwerthu neu gyflenwi alcohol i’w yfed yn y fangre.

Mesurau penodol sy’n gymwys i fangreoedd manwerthu16ZB

Pan fo rheoliad 16(1) yn gymwys i berson sy’n gyfrifol am fangre fanwerthu busnes sy’n cynnig nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu llogi yn y fangre honno (gan gynnwys busnesau sy’n gwerthu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w hyfed oddi ar y fangre), rhaid i’r mesurau sydd i’w cymryd gan y person cyfrifol o dan Gam 4 o’r rheoliad hwnnw gynnwys y canlynol (ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt)—

a

mesurau ar gyfer rheoli mynediad i’r fangre a chyfyngu ar nifer y cwsmeriaid sydd yn y fangre ar unrhyw adeg;

b

darparu cynhyrchion diheintio dwylo neu gyfleusterau golchi dwylo i’w defnyddio gan gwsmeriaid pan fyddant yn mynd i’r fangre ac yn ymadael â hi;

c

mesurau i ddiheintio unrhyw fasgedi, trolïau neu gynwysyddion tebyg a ddarperir i gwsmeriaid eu defnyddio yn y fangre;

d

er mwyn atgoffa cwsmeriaid i gynnal pellter o 2 fetr rhyngddynt ac i wisgo gorchudd wyneb—

i

arddangos arwyddion a chymhorthion gweledol eraill;

ii

gwneud cyhoeddiadau yn rheolaidd.

4

Yn rheoliad 20—

a

ym mharagraff (1), hepgorer “, ac eithrio mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y darperir bwyd neu ddiod fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre”;

b

ar ôl paragraff (3)(g) mewnosoder—

h

pan fo P yn eistedd mewn mangre lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y’i darperir fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre.

5

Yn rheoliad 26, ar ôl “16(1)” mewnosoder “, 16ZA(1), 16ZB”.

6

Yn rheoliad 28—

a

ym mharagraff (1), hepgorer is-baragraffau (a) a (b);

b

ym mharagraff (3)—

i

yn is-baragraff (a), hepgorer “neu (1A)”;

ii

yn is-baragraff (b), yn lle “(3)” rhodder “(2A)”.

7

Yn rheoliad 37—

a

ym mharagraff (1)—

i

yn is-baragraff (a), yn lle “1(1) neu 2(1) neu (1A)” rhodder “2(1)”;

ii

yn is-baragraff (b), yn lle “1(1) neu 2(1)” rhodder “2(1), (2A)”;

b

ym mharagraff (2)—

i

yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “sy’n” rhodder “sydd, heb esgus rhesymol, yn”;

ii

ym mharagraff (a), ar ôl “annedd breifat” mewnosoder “neu mewn llety gwyliau neu lety teithio”;

iii

ar ôl paragraff (a), mewnosoder “, a”;

iv

yn lle is-baragraffau (b) ac (c) rhodder—

b

lle y mae—

i

mwy na 30 o bobl yn bresennol, pan fo’r cynulliad yn cael ei gynnal i unrhyw raddau o dan do, neu

ii

mwy na 50 o bobl yn bresennol, pan fo’n cael ei gynnal yn yr awyr agored,

8

Yn rheoliad 39(3)(a)(i), yn lle “30” rhodder “50”.

9

Yn rheoliad 57—

a

ym mharagraff (1)(h), yn lle paragraffau (iii), (iv) a (v) rhodder—

iii

sy’n “mabolgampwr elît domestig” neu’n “mabolgampwr elît rhyngwladol” o fewn yr ystyr a roddir i “domestic elite sportsperson” ac “international elite sportsperson” gan—

aa

paragraff 44(2) o Atodlen 4 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Lloegr) 20213;

bb

paragraff 42(2) o Atodlen 4 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Teithio Rhyngwladol ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Yr Alban) 20214;

cc

paragraffau 58 a 59 o Atodlen 4 i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Gogledd Iwerddon) 20215;

b

ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

4A

At ddibenion y Rheoliadau hyn, pan fo digwyddiad yn cynnwys chwarae camp tîm, mae aelodau tîm sy’n chwarae yn y digwyddiad ac unrhyw berson sy’n darparu hyfforddiant neu gynhorthwy arall i’r tîm, i’w trin fel pe baent yn gweithio yn y digwyddiad.

10

Yn Atodlen 1—

a

hepgorer paragraff 1;

b

ym mharagraff 2—

i

yn is-baragraff (1), hepgorer “neu mewn llety gwyliau neu lety teithio”;

ii

hepgorer is-baragraff (1A);

iii

yn is-baragraff (2), yn lle “is-baragraffau (1) ac (1A)” rhodder “is-baragraff (1)”;

iv

yn is-baragraff (5)(i), hepgorer “ac eithrio mewn llety gwyliau neu lety teithio”;

v

hepgorer is-baragraff (5)(ka);

vi

ar ôl is-baragraff (5) mewnosoder—

5A

At ddibenion y paragraff hwn, mae cynulliad mewn llety gwyliau neu lety teithio i’w drin fel pe bai’n gynulliad mewn annedd breifat.

c

hepgorer paragraff 3;

d

ym mharagraff 4(2)—

i

ym mharagraff (a), yn lle “baragraff 1” rhodder “reoliad 37(2)”;

ii

ym mharagraff (g), hepgorer “, mewn mangre ac eithrio llety gwyliau neu lety teithio,”;

iii

ym mharagraff (h), hepgorer “(ac eithrio mewn llety gwyliau neu lety teithio)”;

iv

yn lle paragraff (i) rhodder—

i

digwyddiad a gynhelir yn yr awyr agored lle nad yw mwy na 50 o bobl yn bresennol;

v

hepgorer is-baragraffau (j) a (k);

e

ym mharagraff 5(4A), ar ôl “rheoliad 16” mewnosoder “, 16ZA neu 16ZB”;

f

ym mharagraff 7(1), hepgorer “neu 10”;

g

hepgorer paragraff 10.

11

Yn Atodlen 2—

a

hepgorer paragraff 1;

b

ym mharagraff 2—

i

yn lle is-baragraff (1)(a) rhodder—

a

sy’n digwydd o dan do, neu yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig, ac eithrio mewn annedd breifat, a

ii

yn lle is-baragraff (2) rhodder—

2

Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath os yw’r holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd.

2A

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad—

a

sy’n digwydd yn yr awyr agored ac eithrio—

i

mewn mangre reoleiddiedig, neu

ii

mewn annedd breifat, a

b

lle y mae mwy na 50 o bobl yn bresennol, heb gynnwys—

i

unrhyw blentyn o dan 11 oed,

ii

gofalwr person sy’n cymryd rhan yn y cynulliad, neu

iii

pan fo’r cynulliad yn gynulliad rheoleiddiedig (gweler rheoliad 57(7)), personau sy’n gweithio, neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol, mewn perthynas â chynnal y cynulliad.

iii

hepgorer is-baragraff (3);

iv

hepgorer is-baragraff (3A);

v

hepgorer is-baragraff (3B);

vi

yn is-baragraff (4), ar ôl “(1)” mewnosoder “, (2A)”;

vii

yn is-baragraff (6)(e)—

aa

yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), yn lle “cynulliad o dan do o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, neu gynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 50 o bobl mewn mangre o’r fath, heb gyfrif (yn y naill achos na’r llall) bersonau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre,” rhodder “cynulliad mewn mangre reoleiddiedig”;

bb

yn is-baragraff (i), yn lle “26 Mawrth 2020” rhodder “1 Rhagfyr 2021”;

cc

yn is-baragraff (ii), yn lle “26 Mawrth 2020” rhodder “1 Rhagfyr 2021”;

viii

yn is-baragraff (6)(k)—

aa

hepgorer “, mewn mangre ac eithrio llety gwyliau neu lety teithio,”;

bb

yn lle “personau a oedd o dan 18 oed ar 31 Awst 2020” rhodder “plant”;

ix

ar ôl is-baragraff (7) mewnosoder—

8

At ddibenion y paragraff hwn, mae cynulliad mewn llety gwyliau neu lety teithio i’w drin fel pe bai’n gynulliad mewn annedd breifat.

c

hepgorer paragraff 3;

d

ym mharagraff 4—

i

yn lle is-baragraff (1) rhodder—

1

Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu digwyddiad oni bai—

a

bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn yr awyr agored,

b

nad yw mwy na 50 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg, ac

c

os cynhelir y digwyddiad mewn mangre reoleiddiedig, nad yw alcohol yn cael ei yfed.

ii

yn is-baragraff (2)(a), yn lle “baragraff 1” rhodder “reoliad 37(2)”;

iii

yn is-baragraff (2)(e)—

aa

yn lle “cynulliad o dan do mewn mangre reoleiddiedig lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, neu gynulliad yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig lle nad yw mwy na 50 o bobl yn bresennol,” rhodder “cynulliad mewn mangre reoleiddiedig”;

bb

ym mharagraff (i), yn lle “26 Mawrth 2020” rhodder “1 Rhagfyr 2021”;

cc

ym mharagraff (ii), yn lle “26 Mawrth 2020” rhodder “1 Rhagfyr 2021”;

iv

yn lle is-baragraff (2)(g) rhodder—

g

cynulliad rheoleiddiedig sy’n digwydd yn yr awyr agored at ddibenion protestio, neu bicedu a gynhelir yn unol â Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992;

v

yn is-baragraff (2)(h), hepgorer “, mewn mangre ac eithrio llety gwyliau neu lety teithio,”;

vi

yn is-baragraff (2)(l), hepgorer “neu yn yr awyr agored mewn llety gwyliau neu lety teithio ac”;

vii

hepgorer is-baragraff (2)(m);

e

ym mharagraff 5(4A), ar ôl “rheoliad 16” mewnosoder “, 16ZA neu 16ZB”;

f

ym mharagraff 7(1), hepgorer “neu 10”;

g

hepgorer paragraffau 10 ac 11.

12

Yn Atodlen 5, yng ngholofn 3 o’r tabl ym mharagraff 1, yn lle “Dim lefel rhybudd” rhodder “Lefel Rhybudd 2”.

Mark DrakefordY Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”) er mwyn—

  • darparu bod Cymru gyfan yn symud o Lefel Rhybudd 0 i Lefel Rhybudd 2 ar 26 Rhagfyr 2021, gan olygu bod y cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlen 2 i’r prif Reoliadau yn cymryd effaith;

  • diwygio rheoliad 16 o’r prif Reoliadau i’w gwneud yn ofynnol i bersonau sy’n gyfrifol am weithleoedd, mangreoedd sydd ar agor i’r cyhoedd a cherbydau trafnidiaeth gyhoeddus (“mangreoedd rheoleiddiedig”) gymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp, sy’n cynnwys dim mwy na 6 pherson neu aelodau o’r un aelwyd ar Lefelau Rhybudd 1 a 2, neu ar Lefelau Rhybudd 3 a 4, sy’n cynnwys aelodau o’r un aelwyd;

  • darparu, wrth benderfynu i ba raddau y mae’n rhesymol cymryd mesur penodol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre, y caiff y person sy’n gyfrifol am y fangre roi sylw i fesurau eraill a gymerir i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws pan fo pobl yn ymgynnull yn y fangre;

  • mewnosod rheoliad newydd 16ZA yn y prif Reoliadau i wneud darpariaeth benodol ynghylch y mesurau y mae rhaid eu cymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangreoedd trwyddedig, gan gynnwys gofyniad i reoli mynediad i’r fangre ac i gwsmeriaid fod yn eistedd pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod (yn ddarostyngedig i eithriadau);

  • mewnosod rheoliad newydd 16ZB yn y prif Reoliadau i wneud darpariaeth benodol ynghylch y mesurau y mae rhaid eu cymryd i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangreoedd manwerthu, gan gynnwys gofyniad i reoli mynediad i’r fangre, i ddarparu cynhyrchion diheintio dwylo, i ddarparu mesurau ychwanegol i ddiheintio basgedi a throlïau etc., ac i arwyddion a chyhoeddiadau atgoffa pobl i gynnal pellter o 2 fetr ac i wisgo gorchudd wyneb;

  • adfer y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb mewn mangreoedd lle y gwerthir bwyd neu ddiod, neu lle y darperir bwyd neu ddiod fel arall, i’w fwyta neu i’w hyfed yn y fangre, ac eithrio wrth eistedd;

  • gwneud mân ddiwygiad sy’n ei gwneud yn glir bod y rheini sy’n chwarae mewn digwyddiad camp tîm (nad yw’n gamp broffesiynol) neu sy’n ymwneud â hyfforddi tîm mewn digwyddiad o’r fath i’w trin fel pe baent yn gweithio yn y digwyddiad ac felly nad ydynt yn cyfrif tuag at unrhyw derfyn ar niferoedd yn y digwyddiad (yn yr un ffordd ag y mae dyfarnwyr ac eraill sy’n ymwneud â chynnal y digwyddiad yn cael eu hystyried fel pe baent naill ai’n gweithio neu’n gwirfoddoli yn y digwyddiad ac felly nad ydynt yn cyfrif tuag at y terfyn ychwaith);

  • yn diwygio Atodlen 2 (Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 2) i’r prif Reoliadau er mwyn—

    • (o ystyried penderfyniad a gymerwyd i ddarparu cyngor ar leihau cysylltiad cymdeithasol yn hytrach na gosod cyfyngiadau cyfreithiol) dileu’r cyfyngiadau ar ymgynnull mewn anheddau preifat ac mewn llety gwyliau, ond mae hyn yn ddarostyngedig iddi fod yn drosedd cymryd rhan mewn cynulliad o fwy na 30 o bobl o dan do neu fwy na 50 o bobl yn yr awyr agored yn y lleoedd hyn;

    • newid yr esemptiad i’r cyfyngiad ar ddigwyddiadau i alluogi unrhyw nifer o bobl i fynd i ddathliad priodas neu ddathliad person a fu farw’n ddiweddar a gynhelir mewn mangre reoleiddiedig (ond mae hyn yn ddarostyngedig i’r uchafswm niferoedd a ganiateir yn y fangre yn unol â’r asesiad risg a mesurau rhesymol eraill a gymerir o dan reoliad 16 o’r prif Reoliadau, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol);

    • newid y rhestr o fusnesau y mae rhaid cau eu mangreoedd i hepgor lleoliadau adloniant i oedolion a rinciau sglefrio iâ;

  • gwneud diwygiadau sy’n cyfateb i’r rheini a wneir i Atodlen 2 i Atodlen 1 (Cyfyngiadau Lefel Rhybudd 1).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Yn unol â’r Cod, ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn, oherwydd bod angen eu rhoi yn eu lle ar frys i ymdrin â bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd.