- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
2 Mawrth 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
3 Mawrth 2021
Yn dod i rym
26 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 124 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Mawrth 2021.
2. Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3. Ar ôl rheoliad 4D (personau sy’n gwneud ceisiadau hwyr o dan Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo) mewnosoder—
4E.—(1) No charge may be made or recovered in respect of any relevant services provided to an overseas visitor who has an entitlement to the provision of those services without charge by virtue of a right arising from the SSC Protocol provisions of the Trade and Cooperation Agreement.
(2) In paragraph (1), “the SSC Protocol” has the same meaning as in section 26(5) of the European Union (Future Relationship) Act 2020(3) (“the 2020 Act”) and “the Trade and Cooperation Agreement” has the same meaning as in section 37(1) of the 2020 Act.”
4. Yn Atodlen 2 (gwledydd neu diriogaethau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gytundeb cilyddol â hwy), yn y lleoedd priodol mewnosoder “Ireland” a “Norway”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
2 Mawrth 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (“y prif Reoliadau”), sy’n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am wasanaethau perthnasol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) i bersonau penodol nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig.
Mae rheoliad 3 yn mewnosod rheoliad 4E yn y prif Reoliadau i ddarparu y gall personau sydd o fewn cwmpas darpariaethau Protocol Cyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol y Cytundeb Masnach a Chydweithredu gael gwasanaethau perthnasol yn ddi-dâl pan fo hawl yn codi o’r cytundeb.
Mae rheoliad 4 yn mewnosod Iwerddon a Norwy yn y rhestr o wledydd yn Atodlen 2 i’r prif Reoliadau, sy’n golygu na chaniateir codi nac adennill ffioedd mewn cysylltiad â gwasanaethau perthnasol a ddarperir i ymwelydd tramor pan fo darparu’r gwasanaethau hynny wedi ei gwmpasu gan y cytundeb cilyddol hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2006 p. 42. Gweler adran 206(1) am y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.
O.S. 1989/306; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1991/438, 1994/1535, 2004/1433 (Cy. 146), 2009/1512 (Cy. 148) a 3005 (Cy. 264), 2010/927 (Cy. 94), 2011/2906 (Cy. 310) a 2020/1607 (Cy. 334).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: