2021 Rhif 221 (Cy. 55)

Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru

Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 124 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 20061.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Mawrth 2021.

Diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 19892

Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 19892 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

Mewnosod rheoliad 4E3

Ar ôl rheoliad 4D (personau sy’n gwneud ceisiadau hwyr o dan Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo) mewnosoder—

Overseas visitors with Trade and Cooperation Agreement Rights4E

1

No charge may be made or recovered in respect of any relevant services provided to an overseas visitor who has an entitlement to the provision of those services without charge by virtue of a right arising from the SSC Protocol provisions of the Trade and Cooperation Agreement.

2

In paragraph (1), “the SSC Protocol” has the same meaning as in section 26(5) of the European Union (Future Relationship) Act 20203 (“the 2020 Act”) and “the Trade and Cooperation Agreement” has the same meaning as in section 37(1) of the 2020 Act.

Diwygio Atodlen 24

Yn Atodlen 2 (gwledydd neu diriogaethau y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gytundeb cilyddol â hwy), yn y lleoedd priodol mewnosoder “Ireland” a “Norway”.

Vaughan GethingY Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (“y prif Reoliadau”), sy’n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am wasanaethau perthnasol a ddarperir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42) i bersonau penodol nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig.

Mae rheoliad 3 yn mewnosod rheoliad 4E yn y prif Reoliadau i ddarparu y gall personau sydd o fewn cwmpas darpariaethau Protocol Cyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol y Cytundeb Masnach a Chydweithredu gael gwasanaethau perthnasol yn ddi-dâl pan fo hawl yn codi o’r cytundeb.

Mae rheoliad 4 yn mewnosod Iwerddon a Norwy yn y rhestr o wledydd yn Atodlen 2 i’r prif Reoliadau, sy’n golygu na chaniateir codi nac adennill ffioedd mewn cysylltiad â gwasanaethau perthnasol a ddarperir i ymwelydd tramor pan fo darparu’r gwasanaethau hynny wedi ei gwmpasu gan y cytundeb cilyddol hwnnw.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.