xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 231 (Cy. 57) (C. 6)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2021

Gwnaed

3 Mawrth 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 175(7) ac (8) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1).

Enw a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2021.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000(2);

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Y darpariaethau sy’n dod i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn—

(a)adran 28;

(b)adran 30(3);

(c)adran 35;

(d)adran 46(1)(b), (c) a (2)(b) i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(e)adran 46(3), (4) ac (8) i (10);

(f)adran 47(8);

(g)adran 59;

(h)adran 161(1).

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2021

3.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2021—

(a)adran 163;

(b)adran 164.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Tachwedd 2021

4.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Tachwedd 2021—

(a)adrannau 24 i 27;

(b)adran 29;

(c)Rhan 1 o Atodlen 3.

Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2022

5.  Daw adran 52 o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2022.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Mai 2022

6.    Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 5 Mai 2022—

(a)adran 30 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(b)adrannau 31 i 34;

(c)adrannau 36 a 37;

(d)Pennod 2 o Ran 3;

(e)adran 45;

(f)adran 46 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(g)adran 48;

(h)adran 54;

(i)adran 56;

(j)adran 57;

(k)adran 58;

(l)adran 62;

(m)adran 63;

(n)adrannau 65 a 66;

(o)adran 67;

(p)adran 161 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(q)adran 162;

(r)Rhan 2 o Atodlen 3;

(s)Atodlen 5;

(t)Atodlen 6, ac eithrio paragraff 6(5);

(u)Atodlen 7;

(v)Atodlen 13.

Darpariaeth arbed sy’n ymwneud â’r pŵer i hybu llesiant

7.  Er bod erthygl 6 yn dod â Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Ddeddf i rym, mae adrannau 2 a 3 o Ddeddf 2000 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir gan gyngor cymuned cyn 5 Mai 2022 yn unol â’i bŵer yn adran 2 o Ddeddf 2000, hyd nes y bo—

(a)y peth hwnnw wedi ei gwblhau; neu

(b)y cyngor cymuned wedi penderfynu dod yn gyngor cymuned cymwys o dan adran 30(1) o’r Ddeddf.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

3 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn—

(a)adran 28 (pŵer cymhwysedd cyffredinol: pwerau i wneud darpariaeth atodol);

(b)adran 30(3) (amod cymhwystra mewn perthynas â’r pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer cynghorau cymuned a phŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â’r amod hwnnw);

(c)adran 35 (pŵer i ddiwygio neu addasu Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf);

(d)adran 46(1)(b), (c) a (2)(b) (pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodol) i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;

(e)adran 46(3), (4) ac (8) i (10) (pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodol);

(f)adran 47(8) (pŵer Gweinidogion Cymru i ddiwygio adran 47 o’r Ddeddf mewn perthynas â mynychu cyfarfodydd awdurdod lleol);

(g)adran 59 (cynnwys canllawiau o dan adran 38 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”), a dyletswydd i roi sylw iddynt);

(h)adran 161(1) (pennaeth gwasanaethau democrataidd: diwygiadau i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“Mesur 2011”)).

Mae erthygl 3 yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2021—

(a)adran 163 (y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol yn penodi ei brif weithredwr);

(b)adran 164 (cyfarwyddydau o dan adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013).

Mae erthygl 4 yn dwyn i rym ddarpariaethau sy’n ymwneud â’r pŵer cymhwysedd cyffredinol ar 1 Tachwedd 2021.

Mae erthygl 5 yn dwyn adran 52 (adroddiadau blynyddol gan gynghorau cymuned) o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2022.

Mae erthygl 6 yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 5 Mai 2022—

(a)adrannau 30 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym), 31 i 34, a 36 a 37 (pŵer cymhwysedd cyffredinol: cynghorau cymuned cymwys);

(b)Pennod 2 o Ran 3 (cyfranogiad y cyhoedd pan fo prif gynghorau yn gwneud penderfyniadau);

(c)adran 45 (dyletswydd ar brif gynghorau i gyhoeddi cyfansoddiad ac arweiniad i’r cyfansoddiad);

(d)adran 46 (darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(e)adran 48 (cyfranogi yng nghyfarfodydd cynghorau cymuned);

(f)adran 54 (prif weithredwyr);

(g)adran 56 (diwygiadau i Fesur 2011 yn ymwneud ag ailystyried cydnabyddiaeth ariannol yn dilyn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru);

(h)adran 57 (penodi cynorthwywyr gweithrediaeth);

(i)adran 58 (rhannu swydd: arweinyddion gweithrediaeth ac aelodau gweithrediaeth);

(j)adran 62 (dyletswyddau ar arweinyddion grwpiau gwleidyddol mewn perthynas â safonau ymddygiad);

(k)adran 63 (dyletswydd ar bwyllgor safonau i wneud adroddiad blynyddol);

(l)adrannau 65 a 66 (pwyllgorau trosolwg a chraffu);

(m)adran 67 (cynlluniau hyfforddi cynghorau cymuned);

(n)adran 161 (pennaeth gwasanaethau democrataidd: diwygiadau pellach i Fesur 2011 a diwygiadau i Ddeddf Lleoliaeth 2011) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;

(o)adran 162 (diddymu’r pŵer i gynnal pleidleisiau o ganlyniad i gyfarfod cymunedol);

(p)Rhan 2 o Atodlen 3 (diwygiadau mewn perthynas â’r pŵer cymhwysedd cyffredinol: cynghorau cymuned cymwys);

(q)Atodlen 5 (diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â phrif weithredwyr);

(r)Atodlen 6 (diwygiadau canlyniadol etc. mewn perthynas â chynorthwywyr gweithrediaethau awdurdodau lleol) ac eithrio paragraff 6(5);

(s)Atodlen 7 (rhannu swyddi gan arweinyddion gweithrediaeth ac aelodau gweithrediaeth);

(t)Atodlen 13 (diddymu’r pŵer i gynnal pleidleisiau o ganlyniad i gyfarfodydd cymunedol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972).

Mae erthygl 7 yn arbed adrannau 2 a 3 o Ddeddf 2000 mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir gan gyngor cymuned cyn 5 Mai 2022 yn unol â’i bŵer yn adran 2 o’r Ddeddf honno hyd nes y bo’r peth hwnnw wedi ei gwblhau neu’r cyngor cymuned wedi penderfynu dod yn gyngor cymuned cymwys o dan adran 30(1) o’r Ddeddf.